Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYTROL n. RHIF 7. Y FORD GRON GWASG Y DYWYNOGAETH, WRECSAM. London Manager: Mr. E. Greenwood, 231-2 Strand. Mis Ewyllys Da. MIS Mai ydyw Mis Ewyllys Da, ac ar dudalen arall fe welir y neges a anfonir, dros ieuenctid Cymru, at ieu- enctid y byd. Fe'i traddodir ar y radio, ac fe â i gyrrau'r ddaear. Ond ar ddechrau'r mis Mai hwn, pa arwyddion sydd bod y byd yn cerdded ffordd tangnefedd ac ewyllys da? Pan ddywedodd Rwsia yng Nghynghrair y Cenhedloedd ei bod o blaid i bob gwlad fwrw ei harfau rhyfel dros y dibyn i'r môr, der- byniad cwta iawn a gafodd. Y mae Japan wedi rhoddi clec ar ei bawd yn wyneb y Gynghrair, a'n Hysgrifennydd Tramor ninnau, Syr John Simon, bron wedi rhoddi ei fendith ar ei hanfadwaith. A hyd yn oed os tawelir yr helynt rhyngddi hi a China dros dro, fe erys yno wreichion a all yn ddi- symwth dorri'n frwydro gwenfflam. Dyna Rwsia hefyd. O'i rhan hi ei hun, nid ydyw Rwsia mewn un modd yn peryglu heddwch y byd: y mae-hi'n rhy brysur wrthi'n ei hadeiladu ei hun o newydd ac yn cychwyn ar yr ail Blan Pum Mlynedd. Ond a oddefir i wlad sy'n gwadu popeth sy'n gysegredig yng ngolwg gwledydd ceid- wadol y Gorllewin lwyddo heb i gweryl godi yn fuan neu'n hwyr? Y mae perygl mawr i ffieidd-dra Japan yn China a Manchuria droi'n foddion i ymosod ar Rwsia megis trwy ddrws cefn. Of nau. V MAE gwyr blaenllaw ym mhob gwlad mor hygoelus â chredu bod sicrwydd it diogelwch mewn arfau. Credwn mai ofn ydyw'r gwreiddyn. Ac ofn rhyfel ydyw un ffurf ar yr ofn. Dyna sail y dyb mai wrth fod yn barod i ymladd y mae osgoi rhyfel. Ffurf arall ar yr ofn yw ofn colledion ac ofn colli awdurdod. Dyma'r rhwystr pen- naf i ddadrys problem y dyledion a'r ben- thycion rhwng y gwledydd. Fe addefir bod dadrys y broblem hon yn hollol anhepgor i les gorau gwledydd y byd heddiw. Ond y mae pob plan a awgrymir yn golygu bod rhyw wlad (neu'n hytrach gyfoethogion gwlad) yn debyg o fod ar ei cholled o'i chymharu ag un arall. Ai elw ydyw Uwyddiant ? Y MAE'R meddwl masnachol, y meddwl sy'n barnu a phwyso popeth yn nhermau elw, yn llawer rhy amlwg ymhob cylch. Y ffaith amlwg y dylem ei chydnabod ar ddechrau mis ewyllys da ydyw bod y drefn sy'n ei seilio'i hun ar elw yn torri i lawr, wedi torri i lawr, a bod yn rhaid i wledydd beidio ag elwa ar draul gwledydd eraill. Nid wrth yr hyn a ddwg i mewn a'r hyn a enfyn allan y mae mesur ffyniant gwlad, ond wrth ei llwyddiant i ddigoni gofynion ei deiliaid. Nid ei masnachwyr sy'n dyrchafu gwlad o dlodi, ond ei chynhyrchwyr; nid ei banciau, ond ei diwydiant a'i hamaeth- yddiaeth. Mwyaf oll y sylweddola'r Llywodraeth hyn, mwyaf oll y cyfreith- lona'r enw a roes arni ei hun-Llywodraeth genedlaethol. Llw Iwerddon. DICHON y bydd llẃ Iwerddon wedi ei ddileu o ddeddf y wlad cyn y cyhoeddir Y Ford GRON hon. Nid yw Uŵ swyddogol fel hwn, i lawer ohonom, ond rhywbeth ffurfiol iawn, ac anodd gennym ddeall paham y trafferthir cymaint yn ei gylch. Ond i Babydd cydwy- bodol y mae'n fater difrif. Sut bynnag, y Gwyddyl eu hunain biau'r hawl i bender- fynu peth fel hyn, ac os eu hewyllys hwy yn awr ydyw lladd y 11w, ofer sôn bod cytun- debau deuddengmlwydd oed yn rheswm dros ei gadw yn fyw. Y Gwyddyl a ninnau. GWYDDEL oedd yn cynnig iechyd da Canada yng nghinio'r Cymry yn Hamilton, Canada, nos Wyl Ddewi. a dywed gohebydd Y FoRD GRON yn y rhifyn hwn fod y gŵr hwnnw, Col. McCulloch, wedi ennill ei ffordd ar unwaith i galonnau'r Cymry. Traddododd anerchiad goleuedig," meddai, ar gysylltiad y Gwyddyl a'r Cymry, gan apelio am glosiach cyfathrach rhyngddynt." A oes rhaid i'r Gwyddyl a'r Cymry fynd oddi cartref, i bellfaoedd eu hymerodraeth cyn medru gweld mor afresymol ydyw bod mor ddieithr i'w gilydd? Taith teirawr sydd rhwng Iwerddon a Chymru, ond yr ydym yn gymaint dieithriaid â phetai taith mis rhyngom, a phrin y gallwn roddi barn am faterion Iwerddon ond y farn a ddodir ger ein bron yn y papurau Saesneg. Ein hangen. BETH yw'r rheswm am y gagendor sydd wedi bod rhwng y ddwy wlad ers tua mil o flynyddoedd? Fe fuom un- waith yn cyfnewid saint a dysgodron, a chyfrif ein gilydd yn fath o gefndryd. Bu ymlyniad Iwerddon wrth y Babaeth yn un o achosion yr ymbellhâd, yn ddiau, ond, er cryfed hwnnw, y mae ei gryfach heddiw yn nylanwad anuniongyrchol y wasg. Byth er pan ddechreuwyd lledaenu papurau dyddiol Lerpwl, Manceinion, a Llundain yng Nghymru, y mae'r rhan fwyaf ohonom ni Gymry wedi troi wysg ein cefnau ac edrych ar Iwerddon a'i helyntion trwy wydrau Seisnig. Dengys hyn unwaith eto mor fawr yw ein hangen am bapur newydd Cymraeg byw, effeithiol. Gormod o athrawon. Y MAE gormod o Gymry ieuainc yn mynd yn athrawon. Dyna oedd cwyn ffederasiwn awdurdodau addysg Cymru yng Nghaerdydd yn ystod y mis. Dywedwyd bod y colegau hyfforddi yng Nghymru yn troi allan fwy o athrawon nag sydd â lIe iddynt yn ysgolion Cymru, a'u bod felly'n gorfod mynd i Loegr. Ar ddiwedd chwe mis wedi gadael y coleg, yr oedd nifer mawr o efrydwyr heb gael gwaith. Fe geisir o hyn ymlaen dderbyn llai o efrydwyr i'r colegau hyn. Tra bônt wrthi fel hyn ar y colegau hyfforddi. fe dalai i awdurdodou addysg Cymru fynnu ymchwil manwl i'r modd y rhedir hwy. Y mae lle mawr i ddiwygio arnynt. Nid yw'r addysg a gyfrennir mewn rhai ohonynt yn deilwng o'r enw. Y mae gormod o lawer o allu yn nwylo'r prif- athrawon, a'r byrddau llywodraethu yn ddigon di-sut i ganiatau iddynt gael eu ffordd eu hunain bron ymhob dim. Y mae'n fater o bwys, gan mai dyma'r colegau sy'n gyfrifol am droi allan ddynion a merched i ddysgu plant ieuengaf yr holl wlad.