Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron ESGUSION Y B.B.C. At Olygydd Y FORD GRoN. DARLLENAIS resymau y B.B.C. yn erbyn gorsaf radio i Gymru, yn ysgrif Dalen Rydd yn Y FoRD GRoN. Y cyntaf oedd anawsterau peiriannol." Onid yw'n bosib gweithredu ar awgrym Mr. Eames, a'ch gohebydd arall, sef lledaenu rhaglenni Cymreig o orsaf Iwerddon. Fe'i clywid yn well, yn arbennig yn y Gogledd, mi gredaf, nag y clywir gorsafoedd Caer- dydd ac Abertawe ar hyn o bryd. Yr ail esgus yw anhawster yr iaith." Dywedant y byddai lledaenu gormod o Gymraeg yn "annerbyniol ac anheg." Ond credwn y byddai'r iaith Gymraeg yn ddeall- adwy gan y mwyafrif pan ledaenid hi ar y radio. Dywedir, yn drydydd, fod rhaid ystyr- ied y Saeson yn ein plith." A ystyrir hwy gan awdurdodau radio'r cyfandir? Yn bedwerydd, awgrymir nad oes gwir alw am orsaf o'r fath." Pe ceid pleidlais gyffredinol yng Nghymru ar y mater hwn. fe welid wedyn a oes gwir alw ai peidio. T. W. EVANS. Tatwrn, Sir Fôn. Geirda o'r Pulpud. At Olygydd Y FORD GRON. MEWN capel yn Nhregaron, Sir Aberteifi. neithiwr, yn ystod ei bregeth, gwnaeth y Parch. Dan Jones, y gweinidog, y sylwad- au canlynol: Papur ardderchog ydyw'r Ford Gron. 'Wn i ddim faint ohonoch chwi sydd yn ei ddarllen. Mae'n dda a diddorol dros ben. Nid yw yn honni bod yn bapur crefyddol, ac nid yw yn perthyn i un enwad crefyddol. Ond dyma'r geiriau cyntaf ynddo y tro di- weddaf" (vna dvfvnnodd eich sylwadau ar v Pasg). Teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnaf roi gwybod hyn i chwi am ddau reswm: 1. Peth newydd braidd ydyw cael pregeth- wyr yn gwneud sylw o gyfnodolyn o'r fath yma. 2. Dengys-ac yr oedd hynny yn beth newydd i mi-fod Y Ford Gron yn apelio at ddosbarth uwchraddol sydd wedi byw, hwyrach, ar fwyd cryf mewn cyfnodolion. Os ydyw pregethwyr a'r dyn yn y cae yn darllen Y Ford Gron yr ydych wedi gwneud camp na wnaed er dyddiau Tomos Gee a Thomas Levi. UN OEDD YNO. Mr. Timothy Lewis. At Olygydd Y FORD GRON. G WELAF fod tipyn o gynnwrf mewn rhai cylchoedd oherwydd llyfr newydd Mr. Timothy Lewis, Aberystwyth, ar y Mabin- ogion. Darllenais sylwadau'r Athro W. J. Gruffydd arno yn Y Llenor, Ue y cyhuddir Mr. Lewis o lawer o drwstanwaith. Mwynheais bob gair o'r adolygiad, ond rywfodd, a heb fod gennyf fymryn o hawl i feddwl y peth o gwbl, ni byddaf yn hollol sicr nad ydyw Mr. Lewis (er ei holl drwstan- eiddwch, efallai, ar brydiau, a'i fyrbwylledd ar brydiau eraill) wedi cael gafael ar drywydd y bydd i ysgolheigion y dyfodol gerdded yn hyderus ar ei ôl. Dal y mae Dr. Lewis mai ôl dylanwad y Vikings ar Gymru a welir yn y Mabinogion. Wedi ymgydnabyddu â'r Norwywyr am flyn- yddoedd lawer, ac wedi sylwi'n fanwl ar lawer o deithi'r genedl honno, sy'n ym- debygu mor gywrain i deithi ein cenedl ni, tri allaf lai na chredu bod sail weddol gadarn o dan ddamcaniaeth Mr. Lewis. Hwyrach na chyfrifir hyn yn ddim gan ysgolorion, ond, oni cham-gofiaf, fe sylwodd Syr Owen M. Edwards yn rhywle ar y cyfatebion hyn. CYMRO SIR GAER. Miss Elizabeth Davis. At Olygydd V FORD GRON. DIDDOROL iawn oedd ysgrif Mrs. K. Olwen Rees ar Hanes Hynod Miss Elizabeth Davis yn Y FoRD GRON ddi- wethaf. Yr oedd Mrs. Rees yn sôn am ddiwyd- rwydd hen drigolion y Bala. Rhagorol-ond heddiw pobl ydyw ei thrigolion sydd yn byw ar yr "lien draddodiadau" gan mor wych oeddynt. Diolch am yr hen. hen hanes. Y Bala. J. H. LLOYD. Y Merched a Mr. de Valera. .lí Olygydd Y FORD Gron. DIOLCH am eiriau caredig Y Ford Grox am Mr. de Valera. Ni chymerais erioed gymaint o ddiddordeb mewn unrhyw berson- oîiaeth ag a gymeraf yn y dyn gwych hwn. Y mae'n anodd iawn cael tatws v ffordd yma'r dyddiau hyn. A phrynhawn'heddiw búm yn gwrando ar ferched y pentref yn rhegi Mr. de Valera am ei fod, meddent hwy, yn gwrthod gadael i'r un daten ddod drosodd i'r wlad yma HYWEL D. ROBERTS. Talysarn Nofel Tegla. At Olygydd Y FoRD GRON. DYWAID Mr. G. O. Williams am fy stori Gŵr Pen y Bryn,—" Onid trwy adael iddi wynebu ei thynged yn ei nerth ei hun y bydd i'w hawdur brofi ei rhagoriaeth, yn hytrach na thrwy ei lapio mewn gwlanen, megis, a mynnu ei hamddiffyn yn bersonol rhag pob beirniadaeth anffafriol? A gaf i ei atgoffa o beth sy'n amlwg i bawb arall, nad wyf eto wedi sgrifennu gair i amddiffyn y stori na'i chynllun? Y cwbl a wneuthum oedd gofyn iddo brofi ei haeriad mai Paid â chael dy ddal yw'r unig wers a geir ynddi. Nid yw gwingo i bob cyfeir- iad, ac ail adrodd yr haeriad, ac ychwanegu haeriadau eraill ato-megis yr uchod, a bod gwers yn dibynnu ar gynllun, a'u cyffelyb- yn ateb o gwbl. Gofynnais iddo'n syml am braw o ffaith honedig a chefais opiniynau, ac y mae i Mr. Williams groeso o'i opiniynau. A chan na welaf lawer o obaith am ddim arall dyna derfyn ar y drafodaeth cyn belled ag y mae a wnelwyf i â hi. E. TEGLA DAVIES. [Dyma ddiwedd y drafodaeth hon.-Golygydd Y Ford Gron. Ysgol Haf. At Olygydd Y FORD GRON. CYNHELIR ysgol haf flynyddol Cym- deithas yr Iaith Gymraeg yn yr Ysgol Sir, Llandudno, Awst 6-20, 1932. Trefnwyd Rhaglen ddiddorol, yn cynnwys darlithiau ar yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth a hanes Cymru, gan Mr. W. I. Jones, Caer- dydd; Mr. Stephen J. Williams, Abertawe, a Mr. R. T. Jenkins, Bangor. Ceir hefyd ddarlithiau ar y dulliau diweddar o ddysgu 'r Gymraeg, gyda chynllun wersi, o dan gyfar- wyddyd Miss Margaret Rosser, Penarth, a Mr. David O. Roberts, Ysgol Ganolog. Aberdâr. Cynhelir dosbarth elfennol o dan ofal Miss Huldah Bassett, Barn Danfoner ceisiadau am y rhaglen at y Trefnydd, neu at Mr. E. D. Rowland, Ty Clyd. Deganwy. J. ELLIS WILLIAMS, 14. Mackintosh-rd, (Trefnydd). Pontypridd. AIRCRAFT ENGINEERS WANTED ALSO EMPLOYMENT IS WAITING for Skilled DRAUGHTSMEN Eng., Elect., Blg., Motor, also ENGINEERS all branches. Let ùs tell you where the appoint- ments are and how to qualify for same. There are examinations which are open and suitable to you and others which are not. Articled pupilage is required for nearly all Institute Exam- inations. We never accept students for unsuitable courses. We teach by post. GET OUR ADVICE BEFORE DECIDING OUR'ADVICE ON ALL CAREERS FREE THE BENNETT COLLEGE Ltd. DEPT. 99 SHEFFIELD