Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E. D. ROWLANDS, Croesffordd Llandudno, yn dangos fel y mae Cymru'n Ddarnau Mân l CYlVIRU'N UN Dyna'r waedd a glybuwyd droeon, tua chwarter canrif yn ôl, ar adeg etholiad cyffredinol. Dyna oedd gwaedd y gwleidyddwr, a dyna oedd breuddwyd y bardd. Dechreuasom freuddwydio breuddwydion, a disgwyl pethau gwych i ddyfod. Edrychem ymlaen at gael gweled Cymru'n Gymreig ac yn ymdaith yn amlder ei grym. Yn ein diniweidrwydd plentynnaidd medd- yliem y pryd hwnnw nad oedd ond ambell sgweier o Sais, ac ambell i Ddic Siôn Dafydd, nad ymunent yn y fonllef fendi- gedig, Cymru'n Un." Pawb a'i gwch. Ond heddiw ni a'i gwelwn yn ddarnau mân. Gwir ein bod wedi ennill tir gryn lawer er hynny. yn enwedig gyda'r iaith. Mae'r llanw cenedlaethol hefyd yn dal hyd yn hyn heb droi'n ddistyll. Ond y rhwystr mwyaf i ffyniant ein cen- edlaetholdeb yw diffyg undeb. Mae'n cenedl mor fechani­o ran rhif. beth bynnag, fel nad oes modd iddi ennill unrhyw fuddugoliaeth o bwys heb dynnu gyda'i gilydd i gael ei holl nerth yn y frwydr. Ond, ysywaeth, nid felly y mae. Trown ein hwynebau i'r cyfeiriad a fynnom a gwelwn ymrannu a phleidio. Y papurau. Cawn chwech o enwadau crefyddol,' a phob un yn rhwyfo'i gwch ei hun ac yn fynych yn annuwiol o eiddigus at enwadau eraill. Gwastreffir eu llafur a'u nerth i tAtgofion Cynan am Hedd Wyn VN 1914 y deuthum i adnabod Hedd Wyn, pan euthum i Drawsfynydd i bregethu yn stiwdent ar fy mlwyddyn braw mewn dygn ofn a chwýs (meddai Cynan wrth ysgrifennu am Gerddi'r Bugail" yn Y Traethodydd). Yr oedd Trawsfynydd yn gyhoeddiad pell iawn yn fy ngolwg y pryd hynny-siwrnai oer, anghysurus yn y gaeaf, a chryn filltir i gerdded wedyn o'r trên i'r llety trwy wynt a glaw. Allan â mi o'r stesion i'r tywyllwch eithaf, yn teimlo'n bur ddigalon na buasai rhywun yno i'm cyfarfod. Safwn y tu allan yn y ty- wyllwch a'r glaw, ar gyfyng gyngor pa beth a wnawn, ai mentro i gyfeiriad y pentref ai holi'n fanwl pa Ie yn union yr oedd y llety. Yn sydyn dyma law gadarn yn cydio yn fy mraich, a dyma lais o'r tywyllwch: Mi af i â chi i'r llety. Mi wn i lle 'r ydech chi i aros," — ac i ffwrdd â mi yng nghwmni yr arweinydd, a ddaethai ataf mor ddisymwth o'rgwyU. wneuthur casgliadau i'r gwahanol drysor- feydd. Yna daw pob enwad a'i bapur wythnosol allan, a hefyd ei gylchgrawn misol, a rhai ohonynt ar newynu, oherwydd diffyg cylch- rediad. Rhai hefyd yn lastwraidd eu cyn- nwys, a hanner llawn o hanes marwol- aethau. Pe ceid un papur crefyddol yr wythnos yn Gymraeg, gallai fod yn deilwng o Gymru. Yr un modd hefyd gyda'r mis- olion. Sonnir weithiau am uno'r enwadau Ond clust-ymwrandewch mewn Cyf- arfod Chwarter a Chyfarfod Henadur- iaeth. Uno'r enwadau, wir! Bu adeg pan roddid pwys ar ddogma. Ond heddiw nid oes gwahaniaeth rhwng yr enwadau ond mewn enw. Ac, o'u huno, gellid cael grym cenedlaethol a roddai fywyd newydd i genedl. Y genedl, nid plaid. Dewch i'r byd gwleidyddol eto. Cenedl fechan wedi ymrannu yn bleidiau! Gwyn fyd na chaem ryw gymdeithas o Gymry a lyncai y pleidiau i gyd, ac a roddai ei holl fryd ar gadw'r genedl a'r iaith yn fyw. Gallem wahaniaethu ar fân bynciau gwleidyddol, ond fe fyddai gennym un Gymdeithas o Gymry, yn cyd-symud ac yn cyd-weithio mewn materion cenedlaethol. yn cynrychioli'r genedl ac nid plaid. Nid rhyfedd bod y gelyn yn crechwen wrth ben ein hanawsterau. Gwyr mai cenedl fechan ydym ac wrth ein gweled yn bleidiau mân gwyr hefyd na raid iddo ein hofni. Ar y siwrnai dyma fo yn dechrau siarad ar ei union am farddoniaeth. Digwyddaswn ennill mewn dwy eisteddfod fach yr wythnos cynt--cadair Nefyn dan feirniadaeth Llew Tegid, a chadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor dan feirniadaeth Syr John Morris- Jones. Erbyn deall, nid ar ddamwain y daethai fy nghydymaith i'r stesion, ond bardd ifanc oedd yntau yn awyddus i gyfar- fod â chymrawd er mwyn cyfnewid prof- iadau. Cymerais ato ar unwaith. Yr oedd rhyw- beth mor hoffus yn ei ffordd. Yr oedd yn hollol ddiymhongar ac eto yn sicr ohono'i hun fel bardd. Anghofiwyd y ddrycin gan felysed yr ymgom, ac yn fuan iawn yr oeddem wrth ddrws y llety. Adrodd ei farddoniaeth. Er crefu a chrefu, ni ddeuai i mewn; ond gwelwn yng ngolau'r ffenestr wyneb gŵr ifanc tua saith ar hugain oed, wyneb cryf a garw braidd, ond yn yr wyneb tywynnai'r Y dydd o'r blaen gofynnai Aelod Seneddol am gael Ffurflen Treth yr Incwm yn Gym- raeg. Pe bai Cymru'n ddigon unol i ben- derfynu, bawb gyda'i gilydd, na lanwent y ffurflenni nes eu cael yn Gymraeg, fe'u ceid. Ond rhaid cael undeb cyn y ceir hyn. Swyddogion di-Gymraeg. Eto fyth, gwelir rhai cynghorau cyhoeddus yn gwrthdystio yn awr ac yn y man yn erbyn penodi swyddog cyhoeddus gan y Llywodraeth heb y cymhwyster angen- rheidiol o fod yn deall yr iaith Gymraeg. Ond gwan a di-asgwrn-cefn yw'r gwrth- dystiad, gan na ddaw ond oddi wrth ychydig o'r cynghorau. Felly y bu yn ddiweddar gyda phenodiad Archwiliwr Cyfrifon. Pan geir digon o undeb rhwng y cynghorau i benderfynu gyda'i gilydd na ddangosant y cyfrifon nes cael archwiliwr yn deall yr iaith, yna fe wrandewir arnynt. Gallai'r Llywodraeth, wrth gwrs, atal y grant, ond. yn ddiamau, diwedd y ffrwgwd fyddai cael swyddogion yn deall Cymraeg. Grym cenedl. Rhyfyg. meddir. Ie, ond y mae'n rhaid wrth ryfyg i ennill brwydrau fel hyn. Ac yn anad dim y mae'n rhaid wrth undeb. Nid trwy blaid y ceir yr iawnderau hyn. ond trwy rym cenedl gyfan. Pa bryd y gwawria'r dydd y daw'r Genedl Gymreig yn ddigon unol a brawdol i gyd-symud yn yr ymgyrch am ei hiawn- derau. ac i roi diwedd ar yr ysmaldod yn Nhÿ'r Cyffredin, pan sonnir am bethau Cymreig ? llygaid mwynaf ac eto mwyaf treiddgar a welais i fawr erioed. Gan ei fod yn rhy swil i ddyfod i mewn, a chan fod ei gymdeithas yn llawer rhy ddi- ddorol i mi ei cholli ar hynny, nid oedd dim i 'w wneud ond gadael y bag yn y tŷ a myned allan gydag ef i'r nos eilwaith. Clywaf ei lais y funud yma yn adrodd ei farddoniaeth wrthyf, a minnau, laslanc pedair ar bymtheg, yn rhyfeddu at y fath ddawn: Mae'r hen delynau genid gynt Yng nghrog ar gangau'r helyg draw, A gwaedd y bechgyn lond y gwynt A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw. Hedd." Dywedodd wrthyf mai EUis Evans oedd ei enw, ond mai Hedd ydoedd i'w ffrindiau, a Hedd a fu i minnau o'r nos honno ymlaen. Daeth drosodd o'r Ysgwrn drannoeth i'm gweled, a daeth wedyn yn 1915 pan oeddwn eilchwyl yn y Traws. [I dudalen 170.