Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HWYL EISTEDDFODOL YN OL BRAIN A DEFAID GORSEDD SIOP LEWIS 'ROEDD mynd ar y bysus a mynd ar y trên, A mynd ar bob tafod a mynd ar bob gên 'Roedd mynd yn y galon a mynd yn y gwaed, A mynd ar bob gewyn o'r pen i'r traed 'Roedd mynd ar y busnes a mynd ar y gwaith, A mynd ar yr arian cyn diwedd y daith Ha mae'r Wawr yn sgleinio'n wyn dros Gymru Fu'n byw cyhyd ar sican, uwd a llymru Hen Gymru dlawd fu drwy'r blynyddoedd meithion Yn byw ar sŵn ei thraddodiadau meirwon, Afallon bell a chrandrwydd Arthur Frenin, Yr hen Ddraig Goch a'r 'nionyn elwir cenin Hen Gymru ffeind-paradwys eisteddfodau, Ac etholedig wlad y mân bwyllgorau Prif goleg siaradusion gwynt ac awyr, "Gorffwysfa dawel deg yr estron prysur Hen Gymru ddwys, hiraethus, fu drwy'r oesau Yn canu am loywach nen a'i theg gynteddau, Ac yn rhyw ddirgel ddisgwyl o'i thylodi Y caffai bres o rywle i'w sylweddoli Hen Gymru fach fu'n byw mewn hen rigolau Am nad oedd ynddi nerth i groesi'r ffiniau Lle mae gwinllannoedd teg yn erwau r Saeson, A gwin mewn hen gostrelau i hybu'r galon. Hawddamor it', Hen Ferch Drycinoedd gerwin Mae gennyt un a'th ddug di ar ei ddeulin Cusana ef gan roi ffar-wel i'th gyni, A heddiw cred fod yn dy byrth broffwydi Ba wyrth a wnaethpwyd erot, Ferch ? Ar bwy yn awr y mae dy serch ? Gwn iti garu llawer eilun, A chael dy wrthod fel cardotyn Am nad oedd gennyt style i'w denu, Na iaith, na hanes i'w diddanu. Ond heddiw ar dy ffyrdd mae suon Hiraethgan fwyn gan lu llateion, A delw smala ar eu llewis, Rhyw garwr craff o'r enw Lewis 0 Ferch," ebr Lewis, erglyw fy nghri, 'Rwyf beunydd yn meddw! am danat ti,— 'Rwyf yma mewn siop yn nwndwr y dref, A thithau, gariadferch, tan lesni'r nef, Yn byw yn hen ffasiwn heb weled y byd Fel y dylet ei weled ar gongl fy stryd. Pa beth a Wnaf iti i'th ennill, fy mun? Cei rywbeth gan Lewts o'th ddewis dy hun Ond gwrando,— Y bandman, beth am y banjo !— Di gei grys o'r holand meina, Di gei own o sidan siopa Di géi'r ffasiwn y dymunech, Di gei Lewis fel y mynnech' Arferol i bob merch a. welis Am à breichiau wisgo llewis; I'r gwrthwyneb dyro dirhau, Am dy Lewis gwisg dy freichiau.' Lyf—li," ebr ý Ferch; A gloywodd, ei llygaid gan dân ei serch. Yr Wyl Wen Gan SBARDYN Fy mreichiau a roddaf am danat, fy Lewis, Os rhoddi im unpeth, a dyma fy newis, Rho im un o wleddoedd fy nghenedl yng Nghymru, "Ei chadair, ei gorsedd, a'i chân i'm diddanu, A 'wir, 'tawn i'n marw, tra byddaf i byw, Moliannaf fy Lewis, fy arglwydd a'm duw." Rhagorol," ebr Lewis, A galwodd ar ei fflwncis. Daethant, a moesymgrymu yn ddi-oed Fel cynhron coed cwsberis. Clust-ymwrandewch, fy llatai i, Rhaid imi gael Istethffod, A honno yn Istethffod hardd, A chadair bardd a defod Ac ewch i gyd i'r caeau glas, I'r priffyrdd, bwthyn ac i'r plas Lle mae fy Nghariad i yn byw Fel Hen Ferch wrthodedig, wyw. "Ewch yn hy, dywedwch wrthi 'Mod i'n rhoi Istethffod iddi GYDA'M STAMP FY HUNAN ARNI." Ciliasant yn ôl, a thrachefn moesymgrymu, Fel y bydd pobl mewn pasiant yng Nghymru (Ar ôl iddynt fwyta gormod o lymru.) Ac aethant i'r wlad a Llechweddau'r grug," Lle, meddir, mae Bywyd ac nid Ffug." A phregethu y buont am fisoedd maith, A heddiw, Hen Ferch, wele goron y gwaith Eisteddfod Fawreddog. Gadeiriol, Gymreig, gyda'i rhaglen odidog, Heb Vinsent na Gorsedd a'u Uu mân-bwyllgorau I ddrysu cocosfyd ei chymhleth beiriannau Heb wifrau i'w tynnu, nac undyn yn pwdu, Na neb yn ymgecru mewn na phwyllgor na chlyb, Na chapel, na choleg, nac ysgol na phyb. Heb anferth bafiliwn, na byddin meichiafon, Na begio gan sgweiars am fymryn o roddion (A'u gosod fel wacswyrcs, er boddio cwrteisi, Mewn cadair i siarad, a tshiars am dewi), Heb nosau anesmwyth wrth weled y costau Yn dringo i'r entrych gan ddymchwel y gwobrau Heb bryder a fydd y pafiliwn yn barod, A ddeil ef gorwyntoedd ac ambell i gawod. Ond Steddfod Gadeiriol Fawreddog dip-top- Eisteddfod Gadeiriol o Gymru mewn Siop Eisteddfod mewn SlOP Eisteddfod mewn SlOP Pwy glywodd erioed am Eisteddfod mewn SlOP Yr Englyn a'r Delyn yng nghanol y doliau, A Phryddest a Thraethawd yn gymysg â thronsau Unawdau a chorau yn nadwrdd mân lestri. A gwrando beimiadaeth yn nhincian sosbenni Adrodd dramatig, a hithau Y Dyrfa Yn chwilio am fargen o gwmpas y byrdda'. Ac yna rhyw egwyl pan ddelo dydd Mercher, A seibiant i'r Steddfod am bnawn ar ei hanner, Er mwyn i'r holl Feirniaid a phawb fynd i'r pictiwrs Rhag blino ohonynt mewn siop fel Steddfodwrs. Hen Ferch y Drycinoedd, cei ŵyl i'w chofio Cei weld pwysigolion dy genedl yno Ond Ust, beth yw'r cynnwrf ? mae'r siop yn Henwi, Mae'r bardd cadeiriol ar fin ei goroni Clywch dabyrddau y jazz-band yn curo, Y ffidlau yn suo a'r utgyrn yn bloeddio- Mae'r Orsedd yn martsio ar gyfer y Ddefod, Clywch, clywch, sŵn traed y fintai yn dyfod- Botymlu y drysau, rhiannod y lifftiau, Cerddorion a Beirdd yr amryw gownterau Dacw hwy'n dyfod—odidog osgorddlu- Gorsedd SlOP LEWIS! -a'r Dyrfa yn rhythu. PENCERDD PYJAMAS, AP SANAU a THRONSFAB, TENORYDD Y DRWS a'r gwengar FARGEINFAB, ALLTUD Y Nosau, y pêr Eos RUBAN, Ap TEI, LLINOS STAES ac OFYDD Y GOBAN, PENCERDDES SEBONSENT a'r tenor SOSBANDDU, EHEDYDD Y CWILTIAU ac amryw o Gymry. Dacw hwy'n cyrraedd fel byddin i'r llwyfan, A'r jazz-band yn canu a rhywun yn tisian. Halt," gwaeddai llais fel ergyd drwy'r siop (Yn union fel corcyn o ben potel bop.) Llonyddodd y troedio, distawodd y tiwnio, A phawb eisiau gweled y Ddefod Gadeirio. (Dim ots pwy yw'r bardd, y Ddefod sy'n cyfri, Mae Steddfod mewn SlOP mor dryfrith o flresni.) Yn araf o'r sblander daw'r Beirniad yn wylaidd, Mae wedi ymddiosg o'i wenwisg seraffaidd. Gesyd un llaw yn ei frest fel Napoleon, A'r Dyrfa yn dal ei gwynt a'i bargeinion. (0 waelod ei wasgod hyd at ei ysgwyddau Mae stribed ar stribed o euraid fotymau, A chôt gynffon fain a thrywsus melynllwyd A'i resen goch lydan o'i figwrn i'w forddwyd Ar ei ben yn lle coron, gwisg gap a phig gloyw.) Yna'n hamddenol, parabla yn groyw Feistrolgar feirniadaeth ar feirdd Yr Hwyl Wen." (Pwy na fedrai ymollwng i ganu'i orawen I desturi fel un o'r cynfasau bargeinbris A geffid wrth ddyfod i Steddfod Siop Lewis.) Tawelodd y Dyrfa Dan swyn cyfaredd beirniadol y geiria' Cyhoeddwyd yr enw, a dyna beth rhyfedd, 'Roedd pawb i sefyll a'r bardd i eistedd. Daeth lifft o rywle, a sefyll yn sydyn, Agorwyd y drws ac wele'r ffodusyn. Ar hytraws y siop daeth Ap Tei a Thronsfab Yn sŵn y saxo. i gyrchu'r awenfab. Dacw fe'n eistedd ar fin ei gadeirio, A thrwy yr holl siop daranllais yn bloeddio- Gwaedd uwch Adwaedd, a oes yma Heddwch ?" Atebodd y Dyrfa yn unllais He ddwch." A chanodd caneri a brynwyd gan rywun Gân y cadeirio, ac wele'n rhy sydyn, 0 ganol rhyw drymgwsg gogleisiol mi ddeffris 'Rôl mynd drwy'r cadeirio'n ôl Defod Siop Lewis Da chwi; ragorolion Eisteddfod Port Talbot Rhowch gynnig ar gynnal eich Steddfod mewn TEBO! 'Gwel Rhaglen td 10.