Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dweud "Wele Ni" wth y bjd Cyfle ardaloedd teg Cymru i dynnu'r byd at eu drws Gan J. C. Griffith Jones PAM y rhaid i Gymru ofni dweud wrth y byd am ei rhagoriaethau hi ei hun. Nid ydym mor swil wrth sôn wrth ein gilydd am "ein tref ni" ac am brydferthwch hyn a'r llall a berthyn i blwy neu bentref. Ni flina Caerdydd ar sôn-wrth Aber- tawe-am ei rhyfeddodau. Etyb Aber- tawe yn ei balchder mai datblygiad yw ei nod hi, ac, os gosodir dinas ar fryn, a ellir ei chuddio ? Argyhoeddi'r byd. Y gwir yw ei bod yn llawn bryd i ni fel Cymry feistroli'r grefft hysbysebu. Rhaid dysgu'r gwahan- iaeth rhwng bôst a boost. Ac yn Ue colli anadl yn clodfori cymoedd, dylem gyd-weithredu i argyhoeddi r byd tu allan, fod Cymru fel gwlad yn teilyngu sylw y teithydd, boed ef efrydydd neu ddyn ar ei wyliau, arlunydd, pysgotwr, hanesyddwr. chwilotwr am orffwystra neu ysbrydoliaeth neu fwyniant. Treth ddimai. Daeth cyfle i wynebu'r broblem. Erbyn hyn, y mae gan awdurdodau lleol hawl i drefnu treth, os dymunant, ar gyfer gwaith hysbysebu eu hardaloedd ac atynnu ymwel- wyr. Ni chaniata'r gyfraith ychwaneg o dreth na dimai'r pen, a rhaid gwario'r arian trwy Gymdeithas Ganolog Genedlaethol. Hwyliwyd y mesur diddorol hwn gan gyf- undrefn a elwir y Travel Association (Prydain ac Iwerddon). Mewn tair blynedd llwyddodd y Gymdeithas i ddeffro diddordeb gwledydd tramor yn rhagoriaethau Prydain fel canolfan i ymwelwyr. Deuai ymwelwyr yma cyn hynny, ond trwy gynllunio cyhoeddusrwydd eang, cyrhaeddodd yr apêl i gonglau pellaf y byd. Er enghraifft, y llynedd bu cynnydd o dros dair mil yn nifer ymwelwyr o'r Taleith- iau Unedig i'r wlad hon. er gwaethed y safle fasnachol. Dwy filiwn. Agorwyd swyddfa yn Efrog Newydd ac un arall ym Mharis. Bob blwyddyn cyhoeddir calendr destlus yn dangos beth sy'n digwydd yn yr ynysoedd hyn yn gymanfaoedd a seremoniau, chwaraeon ac arddangosfeydd, yn ystod y deuddeng mis ar droed. Argreffir miliwn o gopïau o'r llyfryn yn Saesneg a miliwn arall mewn gwahanol ieithoedd, a lledaenir hwynt i gyrrau'r ddaear. Cornel fach o Gymru, paradwys y bardd." Gerllaw Llangollen. Yna, trwy erthyglau deniadol mewn can- oedd o newyddiaduron tramor, trwy ffilmau yn dangos tegwch ein gwlad a rhamant ein bywyd, trwy anerchiadau bywiog o orsaf- oedd radio yr America a Ffrainc a'r Almaen, a phob dyfais o hysbysebu, pwys- leisir yn ddi-ddiwedd gystal gwlad yw hon i'r ymwelydd. Cymru. Ni anwybyddwyd Cymru yn y cynllun. Eisoes y mae amryw drefydd wedi ymaelodi â'r Travel Association. Eithr y mae hyn yn bwysig, gan mai ysbryd cenedlaethol sy'n ysgogi'r mudiad. y mae adnoddau'r Gymdeithas at wasanaeth unrhyw dref neu adran, pa un bynnag a ymaelodasant ai peidio. Y mae tipyn o weledigaeth mewn hyn o beth; gwlad gyfan sy'n bwysig. meddir, ond y mae arferion a bywyd a golyg- feydd lleol yn rhan anhepgor o'r neges y dylid ei rhoi i'r byd. Darlunio'r Eisteddfod. Yr haf diwethaf lledaenwyd anerchiad o brif orsaf radio Efrog Newydd yn ymdrin â Chymru a'r Cymry. Clywyd y neges trwy 700 0 orsafoedd eraill ar led y Taleithiau Unedig. Disgrifiad syml o ystyr a hudoliaeth yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yr anerchiad y tro hwn. Ymgeisiwyd dangos fel y gallai ymwelydd wrth wrando canu Cymru. a dilyn seremoni'r Orsedd, a theimlo try- daniaeth y dorf, ddeall rhywbeth o gyfrinach enaid cenedl. Awgrymid y byddai profiad o'r Wyl Genedlaethol yn help i ddeall yn well ysbryd a thraddodiad Cymru, ac adnabod pryd- ferthwch ysgubol Natur sy'n tawelu pob annealltwriaeth ac yn esmwytho pob ofn. Ym mis Rhagfyr drachefn, Uedaenwyd araith yn disgrifio rhamant castelli Cymru. nid yn unig o orsafoedd y Taleithiau Unedig, ond o Dde Affrig, Batavia, Ffrainc a gwledydd tramor eraill, pob gorsaf. wrth gwrs, yn siarad ei iaith ei hun. Ar bwys y neges, cafwyd amryw lythyrau oddi wrth Gymry ar wasgar yn hiraethu am ddod adref, yn ogystal ag ymholiadau oddi wrth dramorwyr ynghylch gwyliau yng Nghymru. Gyda deffroad dyfais a datblygiad traf- nidiaeth pontiwyd y gagendor rhwng y cen- hedloedd. Yr unig bellter sy'n rhoi arswyd yng nghalon dyn erbyn hyn yw pellter anwybodaeth. Agor drysau. Fe garwn i weld Cymru yn cymryd lle blaenllaw yn y mudiad hwn i ddwyn y gwledydd yn nes at ei gilydd. Agorer y drysau. Cyhoedder i'r byd fod gan Gymru ei gogoniant sydd yn etifedd- iaeth i bob dyn a ddelo o fewn ein pyrth. Anghofier ein "tref ni" yn eangder ein "gwlad ni." Dyrchafer llygaid tu draw i'r mynyddoedd. Mae sŵn symud. Cyfarfu awdurdodau lleol yng Nghaerdydd yn ddiweddar i ystyr- ied cyd-weithio er mwyn atynnu diwyd- iannau newydd i Dde Cymru. Ddechrau Mawrth hefyd fe fu cynhadledd fywiog yn Aberystwyth. Yno fe gynrych- iolwyd gwahanol drefydd a holl awdurdodau Canolbarth Cymru. Os eir ati o ddifrif. dylid gweld gwell llewych ar amgylchiadau ardaloedd môr a mynydd, hyd yn oed yr haf nesaf hwn.