Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ein Temlyn OgofLladron Gan JOHN RHYS ONI wneir rhywbeth ar fyrder dirywiad hollol a welir yn disgyn fel malltod ar bopeth cain yng Nghymru. Bu adeg pan oedd synnwyr da y Cymro yn gwahardd pob dirywiad felly; codwyd muriau rhag i'r di-wybod a'r di-enaid fathru seiliau diwylliant y genedl; heddiw fe welir coleg y werin yn nwylo'r marsiandwyr; cymdeithasau dyngarol a chrefyddol yn defnyddio'r eisteddfod a'r ddrama, nid er mwyn eu diwylliant a'u celfyddyd, ond er mwyn hel y geiniog y bu eu haelodau hwythau yn rhy grintach i'w dalu gynt. Onid yw'n syndod bod rhai o'n prifeirdd a'n harweimwr yn rhoi ysgwydd i waith felly! Na fernwch." UN o bethau gwrthunaf newyddiaduron Lloegr heddiw yw'r barnu cyhoeddus ar glerigwr. Nid oes a fynnom ni â'r pwnc ai euog yw'r gẃr ai peidio, ond gwyddom mai beirniadaeth lem ydyw'r cyfan ar grefydd gyfundrefnol. Oni fyddai'n gymhwysach i wŷr crefydd farnu materion felly gydrhyngddynt â'u hunain ? Teflir anfri ar grefydd ei hun mewn helynt o'r fath, ac ni bydd yr eglwys ar ei hennill os cyll ei hanrhydedd yng ngolwg y cyhoedd. Cymylu barn. MOR debyg i hyn yw arfer rhai ysgrifen- wyr y dydd, yn enwedig wrth adolygu Uyfrau. Os mater o ysgolheictod yn bennaf a fydd y llyfr, a'i apêl felly i ddosbarth o ddarllen- wyr yn unig, onid gweddusach fyddai trin y pwnc (a 'r person o ran hynny) yn eu cyf- yng-gyngor eu hunain (os oes peth felly yng Nghymru) yn hytrach na chymylu barn y werin ar bwnc na allant ei bwyso'n iawn o ddiffyg ysgolheictod? Onid yw hyn yn bosibl, yna cofier cyngor yr apostol wrth ymdrin â'r mater. Ymadrodd iachus, yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrth- wyneb gywilyddio, hcb ganddo ddim drwg i'ir ddywedyd am danoch chwi." Pregethu ar y Radio. MAE'R neb a ddilyno'r cwrs areithiau a roddir gan Mr. S. B. Mais ar y radio. sy'n ymdrin â'r "Ynys Anhysbys lion," yn sicr o gael goleuni amheuthun ar lawer dam o'r wlad oedd gynt yn ddieithr iddo. Ond dewisach gennyf i fyddai Cymro i drin ein gwlad fach ni. er cystal yw Mais wrth ei thrin hi a'i phethau. Mae gwasgar pregethau a gwasanaethau Cymraeg yn parhau yn fisol. Ysgwn-i ar b:\ dir y dewisir gan wyr y radio yng Nghaer- dydd. Argyhoeddir fi mai'r canu yw'r safon. nid y pregethwr o gwbl. O ran hynny, nid yw'r pregethwyr fel rheol yn eu haddasu eu hunain i'r gwaith; hwyrach mai am nad ydynt yn wrandawyr y gair a bregethwyd oddi ar lwyfan Y Ford Gron dro'n ôl, y par- hânt yn eu pechodau ger bron y microffôn. Yr eithriad melys. DIOLCH o galon am yr eithriad melys; y gŵr hwnnw a'i lais yn ymdebygu i godiad haul, ac yn gwresogi wrth fynd ym- laen, ac yn suddo mewn urddas, gan adael ei wrandawyr yn drist am fod y dydd yn darfod, ac yntau á chymaint baich o waith ysbrydol heb ei wneuthur. Am y lleill, gwaeddant, a mygu eu heffeithioldeb mewn gorymdrech. Gwaith rhyfedd iawn yw addoli ger bron allor y radio; rywfodd, rywsut, y mae'r gynneddf sy ar waith yn deimladwy iawn; y mae pob trawsgyweiriad yn effeithio. Traws- gyweiriad anhapus iawn oedd hwnnw, y nos Sul o'r blaen, o awyrgylch y ty lluniau, a gafwyd pan ganwyd üetelbey 'ar yr organ, i'r "immensities ofnadwy" y bloeddiai'r pre- gethwr am danynt ychydig eiliadau wedyn. A pheidier eto â hysbysebu enw yr un "brawd annwyl" a ddigwydd offrymu ei dalent yng ngwasanaeth ei Grêwr. Y mae'r act ei hun yn wobr iddo. Y Gynhadledd Gymraeg. CONIAI cyfaill wrthyf yn ddiweddar am y cyfle sydd heddiw am Gynhadledd Gymraeg; cynhadledd lle y gellid trin pynciau Cymru yn wyneb-agored heb ofni gŵg na gwên yr un Gymdeithas, yr un enwad, na'r un blaid. Mi fyddai Cynhadledd felly yn gyfle ardderchog i fwtresu bywyd Cymru yn y dyddiau cyfyng hyn; yn gyfle i wyntyllu llawer o'n pethau cudd, ac yn ysbrydiaeth i lu o egnïon a wastreffir yma ac acw ym mywyd y genedl. Pwy a ddaw iddi? gREUDDWYDIA'R cyfaill am Gynhad- ledd Gymraeg i'w chynnal unwaith y flwyddyn yn un o drefi glan y môr; am wythnos gyfan. Cynadledda'r dydd; adloniant gwir Gym- reig yn y nos. Ohoni hi fe wêl esgor ar ddydd gwell ar lén. cerdd a chrefydd Cymru. Fe hawlia ef Ie arbennig i awdurdod Prif- ysgol yn y gweithrediadau fe fynn ef. ddilyn esiampl ein cefndryd, sef sefydlu Academi y Celfyddydau i Gymru, un a hawl ganddi ar dŵf y celfau cain yn ein mysg, un a reolo'r eisteddfod, y ddrama, a cherddoriaeth y genedl. Onid yw'n syniad a gyflyma'r galon Gymreig? Wythnos gron. OS oes unrhyw werth yn syniad fy nghyf- aill, os oes y cyffro lleiaf yn dy galon di. Gymro annwyl, oherwydd iddo sôn am y peth. na fydd ddistaw, ond dywed dy farn ur fyr ac yn gryno yng nghlust Y Ford Gron. Pwy a ddaw? Fe ddaw yn eithaf sicr, y gwyr y soniasom am danynt gynnau; gwýr ein cymdeithasau; gwyr ein henwadau; gwýr y pleidiau, ac yn eu sgil fe ddaw hefyd laweroedd o ddynion cenedlgarol na welir eu henwau ar roliau cynefin ein gwlad. Ac fe fyddant hwy yn gyfnerthiad i'n ffydd fel cenedl. Bore o Fai. YLLWYNI cyll yn y coed Ymwinga 'ngrym ieuengoed; Adar cerdd a mwynder cân, Ry lwyth i'r awel weithian; A thrwy y berth îr heb wall, Cyniweiria cân arall. Ar ddail a brig rhuddliw bren, Sibrwd haul asbri deilen. Ac ar hedd gysegr y wig Gwëa wrid mor garedig- Deffry wndwn dyffryndir, A dyd i'r allt eurwallt hir. Ag eofndra ysgafndroed, Fe rwyga cerdd frig y coed, Neidia'r dail yn nwndwr dydd, Wrth lon egnion newydd. A hyglyw dwed ar glyw dyn, Eiriau mawl i'r ha' melyn. Gwaun a dôl sydd yn goleg I weld Duw yn y dail teg. Dwyfol wawd i ofal Iôn Addola gwyrddail gwerddon. 0 oludoedd dail Eden, Y llawenheir llwyni hên. A gwir rwysg o orau rin Sy i aur lywethau'r eithin. Mwy haeddol wyrth, meddwl Iôn Ddillada'r gwrychoedd llwydion. Clir dwed twmpathau rhedyn Ei fawrwaith dwyf wrth y dyn; Ieuanc a sionc yw awel, A cha' gwyrdd bob cilfach gêL Mor berffaith yw brodwaith bri, A Mai'n llon ym môn llwyni Dawn a ery'n dân eirias, Yng nghanol hoen cangen las; Am roi mêl mieri ym mhant Y gwenyn suo-ganant. Ar fan uchelgaer fynydd Y dawns aur wreichion y dydd. I freuddwydio, rhodio'n rhydd, Mwyna fan-min afonydd, Yn wallgof â f'angof i, Ym mud reswm y drysi. I fri llawn, y dwfr llonydd A sigla ddawns gloyw ddydd, Cyson darmerth y perthi I'r haf, yn ôl deddf eu Rhi. A phob main sy'n darstain Duw, Beunydd yn wyneb Annuw. GLYN MYFYR. A SPARE PAIR 59 FOR HARD WEAR Postage 9d. Many men are now finding that it is tru< economy to purchase strong but smartly cut trousers for wear in the garden, garage etc., and for the many odd Jobs for which one's best clothes are most unsuitable The trousers weoffer are made from stroni' dark grey material and we guarantee then to flt perfectly if you send your waist and inside leg measures. Stocked up to 48' waist, but for 40* waist and over kindl: send 9d. extra. Nearly 2,000 pairs already sold. Terms, cash with order or C.O.r Money returned if not absolutely satisfied Men's Grey Flannels offered at same price- SQUARE TRADING CO. (Dept. 6 3. FINSBURY SOUARE. LONDON. Е.С?