Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Perfformiad Cyntaf I Gan rhys puw "Hywel Harris" Cwmni'r Ddraig Goch yn eu Gwisgoedd. Y MAE Caernarfon yn dref ddiddorol bob amser. Fe rydd yr hen gastell iddi ryw urddas na wyr llawer tref mwy ei maint ddim am dano. Disgwylia'r ymwelydd hefyd glywed yr iaith Gymraeg ar yr heolydd-ac nis siomir. Ar nosweithiau Sadwrn ac ar amser gwyliau fe fydd tyrfaoedd lawer yn ym- dywallt i Gaernarfon, a bydd y strydoedd yn llawn o bobl. Felly yr oedd hi nos Lun y Pasg diwetha, pan berfformid drama newydd nodedig Cynan, Hywel Harris," gan Gwmni'r Ddraig Goch. Yr oedd cymaint o siarad wedi bod am y ddrama, nes bod cannoedd lawer yn awyddus iawn am weld y per- fformiad cyntaf ohoni. Dim ond rhyw chwech wythnos ynghynt y cyhoeddwyd y ddrama gan Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, ond yr oedd hynny yn ddigon i roi cyfle i bobl ei darllen. Teimlai pawb fod cyfle ardderchog yng Nghaernar- fon i weld actio drama dda gan gwmni da. Bu Cwmni'r Ddraig Goch yn chwarae am flynyddoedd a chanmol fu iddo bob amser. Fe lanwodd y Pafiliwn yn gynnar, ac yr oedd y cynulliad yn llawn o wŷr llengar yn awyddus am weld a chlywed perfformiad gwych. Gwelid fod y llwyfan mawr wedi ei gwtogi ar gyfer y ddrama. Yn brydlon am saith, dyma'r llen i fyny. Llais hen wr. 'Roedd pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y llwyfan wedi gwneud ei waith yn ganmol- adwy dros ben. Syllem ar y ffenestr fach yn olau yn y tywyUwch, a Hywel Harris yn sefyll o flaen y Uidiart. Gan fod ei gefn atom ni ellid dweud sut un oedd, ond pan ddechreuodd siarad fe'n synnwyd ni'n fawr gan ei bed- ian. Teimlem fel pe baem yn gwrando ar hen wr. Pan glywodd sŵn traed y "Press Gang," symudodd yn or-ofalus a mynd trwy'r glwyd yn llawer rhy araf i ŵr oedd a'r Gang bron ar ei sodlau. Sut yn y byd yr oedd hwn i ddringo'r rhaff a dod a Nansi o'i hystafell oedd ddir- gelwch rhy fawr i ni! Carwr sal. Felly y teimlem ar hyd y ddrama. Yr oedd y cast yn hollol anghymarus. Y mae Gwynfor yn actiwr penigamp, ond yn bendi- faddau 'doedd ef ddim yn siwtio Hywel Harris ar hyd y daith. Ni allodd gyfleu'r cymeriad "rhamantus" y soniai Williams Pantycelyn amdano 0 gwbl. Carwr sal dros ben oedd. Cafwyd y bregeth o flaen Penlan, Pwll- heli, yn dda, ond fe amharwyd yn anfadd- euol ar y cwbl pan ddaeth gŵr Sidney Gruffydd i mewn yn feddw gyda'r Person a chwarae taro Hywel. Dyna'r taro mwyaf llipa welodd neb erioed. Ac 'roedd hwn yn jun o'r munudau mwyaf dramatig yn y chwarae. Aeth pethau dipyn yn flêr gyda'r mellt hefyd. i Jimmy. Actiodd Williams Pantycelyn gydag urddas. Gwnaeth Jimmy, gwas Hywel, ei waith ar ei hyd yn ardderchog. Dyma'r actiwr gorau o ddigon. Gwyddai hwn beth i'w wneud a sut i'w wneud hefyd. Yr oedd y llwyfannu yn dda dros ben. Gellid disgwyl hyn, wrth gwrs, gan gwmni fel y Ddraig Goch. Yr oedd y golygfeydd yn ardderchog, a'r golau, ond am ychydig frychau, yn ganmoladwy. Ond rhaid cyfaddef i'r chwarae fethu dar- lunio Hywel Harris fel y dylid, ac er bod hwyrach, ormod o bregethu yn y ddrama ei hun nid oedd galw am i'r actorion fod yn bregethwrol. Coed y Glyn COED y Glyn, caëedig le — i'r eos O'r awyr yn oedle; Pau'r adar, yn eu prydie, Cantre'r gôg, eneiniog Ne'. Ne' sy yno, nos annwyl-yn dyfod, A difyr yr egwyl, Dynesu gwedi noswyl, Oedi gwaith a chadw gwyl. Cadw gwyl mewn coedwig werdd-a gwan- Yn ei gynnes angerdd, [wyn Yn dod i'w gylch, dad y gerdd: Mwynhau congol mewn cyngerdd. Cyngerdd a thinc ieuengoed-yn ei sain; Hosanna'n y glasgoed; Telynnau yn llaw cangau coed, Offerengerdd dyffryngoed. Dyffryngoed Deffry hen-gu-arwriaeth Yr oror o'u deutu, A chynnes hoen a chanu Hen amser, fel gosber gu. Gosber gu, swper y gân,-a myneich Mwynion yn mynd allan, Ac orielau goreulan Yn datgloi morwyndod glân. Glân, lân erddygan dduwgwaith, — noswyl- Iselgu y fronfraith [gainc Yn dadeffro i gyffro gwaith Ysbrydion oesau brudwaith. Oesau brudwaith a sibrydant-yng ngwyll, Yng nghallawr y gornant; Ac wrth adar, daear dant, Praff awdyl, clywch. proffwydant. Proffwydant. hoywdant ydyw-eu llafar Wrth gynllyfan distryw "O'n cleddir, lioeddir heddiw Fyth mae'r henwlad fad i fyw. "Cymru i fyw! Cymer o fodd-y duwiau Bob dewis gymunrodd. A dilys, lle'r ardalodd Ei hiaith, pery'n faith yr un fodd." Un fodd â rhyw wen fyddin­i· sereiff Yn siarad yn ddiflin Yw bregliach deiliach dilin, A ffreudeg iaith ffrydiau gwin. Ffrydiau cydwiwffrae'r dyffrYIl-ac ednaint Y goednen a'u hemyn, A minnau, wedi'm hennyn, Yn cadw gwledd Coed y Glyn! WILLIAM EVANS. Pentraeth, Môn. Edrych ymlaen. Cafwyd actio da hefyd gan Nansi a Sidney, a gwnaeth y cymeriadau eraill eu rhan yn eithaf. Ond siomedig iawn i lawer yno oedd y chwarae ar y cyfan, a'r rheswm am hynny oedd fod y castio yn hollol ang- hymwys. Edrychaf ymlaen at weled perfformiad teilwng o Hywel Hairis gan gwmni Port Talbot yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.