Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barddoniaeth Dau Dramp Dau ffansiwr, dau ddyfalwr, dau Gyrnro. Traddodwyd y sgwrs hon ar y radio, ac y maer "Ford Gron" yn ei chyhoeddi trwy ganiatad y B.B.C. GAN R. WILLIAMS PARRY GAN aaai o Gaerdydd y trefnwyd imi siarad, credaf mai purion peth fydd imi sôn am ddau fardd go hynod a godwyd yn Neheudir Cymru, y naill yn canu yn Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a'r llall yn Saesneg yn yr ugeinfed ganrif. Nid amgen, Dafydd ap Gwilym a William Davies; neu, os mynnir, Dafydd ap Gwilym a Gwilym ap Dafydd! Nid yw William Henry Davies, er Cym- reicied ei enw, yn adnabyddus i gorff mawr cenedl j Cymry. Yn wir, hyd o fewn blwyddyn neu ddwy yn ôl, gallasai gerdded i lawr stryd fawr Casnewydd, y dref y'i ganed, heb i neb adnabod ei dinesydd enwocaf. Ond rhoed iddo le anrhydeddus yn Pwy yw Pwy ein cymdogion ers llawer blwyddyn bellach. Dyma'r hyn a ddywed Mr. Davies amdano'i hun yn y geiriadur bywgraffyddol hwnnw: — DAvrB8, William HENRY, bardd ac awdwr. Ganed yn Ebrill, 1870, yng Nghasnewydd, Mynwy, o rieni Cymreig. Addysg: Crafu ynghyd ychydig wybodaeth ymysg crwydriaid America; ar gychod gwartheg ac yn slymiau trefydd mawr Lloegr. Prentisiwyd i'r grefft o fframio lluniau. Gadael Lloegr pan ddaeth y brentisiaeth i ben, a mynd ar dramp drwy'r Amerig. Yn ystod y trampio hwn, casglu ffrwythau ar brydiau, a mordwyo seithwaith neu wyth gyda gwartheg i Loegr. Yna mynd ar hynt trwy Loegr i werthu pinnau, nodwyddau, a chareiau; ambell dro canu hymnau ar y stryd. Ar ôl wyth mlynedd o hyn, cyhoeddi'r gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Dyfod yn fardd yn bedair ar ddeg ar hugain oed; yn para'n fardd o hyd. Ad&oniant: Cerdded, fynychaf yn unig. Aderyn dieithr. Y mae beirniaid llenyddol Lloegr yn methu'n lân â gwybod sut i roi cyfrif am y Cymro hwn. Nofiodd i'w ffurfafen lenyddol tua'r un adeg a Masefield, ugain mlynedd neu well yn ôl, ac y mae erbyn hyn yn un o'r sêr sefydlog ynddi. Gall y beirniaid olrhain llinach farddol Masefield ond y mae Davies yn dianc rhag- ddynt: ni fedrant yn eu byw ddyfalu i ba frid o'u poetau hwy eu hunain y perthyn ef. Gall Mr. Davies ganu fel na all neb arall," meddant. Un o feirdd oes Elizabeth wedi colli ei ffordd ydyw," meddant eilwaith. A meddant drachefn Y disgrifiad cymhwysaf o'i ganeuon fvddai mai'r cerddi a adawodd Herrick a Blake a Wordsworth heb eu hysgrifennu ydynt." Ni wyr y beirniaid Seisnig y dim lleiaf am farddoniaeth Cymru; ped amgen, hwy welent fod awen Davies yn chwaer unfam undad i awen Dafydd ap Gwilym. Mr. W. H. Davies. Yn wir, y mae ambell dric a thro ym- adrodd a ddengys Davies, ambell gip a chast meddyliol, bron yn ddigon i beri i ddyn gredu yn athrawiaeth trawsfudiad eneidiau; a darfod i Ddafydd, a aned bid sicr yng Ngheredigion. ond a oedd â'i gartref ysbryd- ol ym Mynwy cyn ac wedi ei farw, lwyddo i ymgnawdoli eilwaith, a hynny yng Nghas- newydd yn 1870! Er enghraifft. Yn ei gywydd Y Ceiliog Coed, y mae Dafydd yn anfon yr aderyn yn negesydd at un o'i gariadon, gan beri iddo hedeg i gyfeiriad y dwyrain oni ddêl i ddyffryn coediog hyfryd. A phrif afon fferf fwyfwy A ran y ddôl wair yn ddwy. Ceir gwelediad go anghyffredin yn y llinell olaf. Gellid rhydd-gyfieithu'r cwpled cyfan fe1 hyn A mighty river flowing through Divides the hayfield into two. P'run oedd vr afon ddwyreiniol hon, tybed? Afon Wysg ? AfonWy? Hafren? Atebed Davies: When from the hills of Gwent I saw the earth Burnt into two by Severn's silver flood. Aeth y ddôl wair yn ddaear gyfan, a'r rhannu llythrennol yn llosgi ffigurol. Tyfodd y darlun pin ac inc yn bictiwr lliw. Ond yr un yw'r syniad. Tyfodd Dafydd ei hun hefyd yn braffach a phurach bardd. Pa ryfedd, ar ôl pum can mlynedd yn y purdan ? Eto. Yn ei gywydd Cyngor y Biogen, gwêl Dafydd yr ehedydd Yn myned mewn lludded llwyr A chywydd i entrych awyr. Ni cheir yr ymdeimlad hwn â lludded yr aderyn yng ngherddi beirdd eraill iddo,- Shakespeare, Shelley, Wordsworth, Ceiriog, Meredith. Ond gwyr Davies gydymdeimlo, fel y gwna Dafydd, â'r cantor hapus-luddedig. Yn wir, y mae fel petai'n ymhelaethu ar a ddywed Dafydd amdano:- And when I see him at this daring task, Peace, little bird," I say, and take some rest." Nid ceisio mesur dylanwad un bardd ar fardd arall a wneir, sylwer: yn hytrach rhyfeddu bod dau fardd cwbl annibynnol ar ei gilydd (oherwydd ni wyr Mr. Davies Gymraeg, ac y mae corff mawr y cyfieithiad- au Saesneg o Ddafydd yn rhy farddonllyd i lygad-dynnu bardd mor ddi-wast ag ef), gyda phellter canrifoedd rhyngddynt, yn caru ac yn canu natur yn hynod o debyg i'w gilydd, ac yn hynod o annhebyg i bawb ond efelychwyr. Canu natur a ddywedais; oherwydd ni cheir gan Ddafydd gerddi'r môr a cherddi'r ddinas. Ni ddaeth i'w feddwl ef ffoi o Fynwy. Cafodd rodio ynddi cyn i'w chym- oedd hardd droi'n uffernau iaswyn tân y ffwrneisiau. Os oes neb a fyn wybod beth arall fuasai testun ei gân pes ganesid yn ein hoes ni, troed i hanner olaf awdl Mr. Emrys James iddo. Beirdd rhyfeddod. Mae'r diffiniadau adnabyddus o farddon- iaeth yn rhy aeluchel pan ystyriom y ddau fardd o Fynwy. Nid ydynt yn taro'r hoel: ânt heibio iddynt, gan amlaf uwchlaw iddynt. Ond fe drawodd un beirniad Seisnig diweddar ar ddiffiniad sydd yn gweddu i'r dim i'r ddau. Hyn yw anhepgor bardd, medd ef:- Y mae'n rhaid iddo, drwy gydol ei oes, ymdeimlo i'r byw â rhyw ddiffyg profiad aruthrol o'r byd sydd o'i gwmpas: â rhyw ddieithrwch ac anghynefindra mawr nad yw'n darfod wrth ei wisgo. Gan hynny, ni all y bardd ddyfod i wybod dim oll am y byd ond trwy ryfeddu a dyfalu. (Robert Lynd). Mewn geiriau eraill, creadur twp, hanner pan, ydyw bardd; dyn mewn oed gydag ymennydd plentyn. Fe wyr pawb call nad oes neb ond mochyn yn gallu gweld y gwynt: ond fe gredodd William Davies yn siwr iddo ef ei weld drwy'r ffenestr un tro, nes iddo fynd allan a chanfod mai cawod o wlithlaw ydoedd. Fe wyr pawb profiadol beth yw eira hefyd: ond ni wyr Dafydd. Y mae'n agor drws ei dŷ un bore, a chael bod y ddaear wedi diflannu i rywle yn ystod y nos. (Rhoir cywydd Yr Eira i fardd arall mewn un llaw ysgrif, a dim ond un, petai fater). Lle'r oedd glasgoed a maes a llwybrau ddoe, nid oes ond lle buont heddiw: Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw, Na lle rhydd, na llawr heddiw. Beth yw'r elfen ddisgleirwen olau hon sydd wedi gyrru'r byd ar ffo? Ni wyr