Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Heicio hyd y Bryniau Meibion a merched, a' u hedrychiad yn agored, a'r hen swil- dod ffol wedi mynd." GAN MARGARET DAVIES TOWYN, MEIRIONNYDD ENETHOD a bechgyn Cymru, b'le bynnag yr ydych-chi Llundain, Birmingham, Lerpwl, yn y Rhondda brysur neu Ogledd Cymru yr wyf yn hoffi'r heicio yma. Yr oedd eich tadau a'ch mamau yn hiraethu am yr un peth. A siorts hefyd? meddwch. Wel, — ie, mae'n debyg y buascnt wedi dod i hynny, ond-bobol annwyl, nid oedd wiw 8ôn! Am eu bod hwy wedi dyheu o'ch blaen, dyna pam yr ydych chwi yn mwynhau y rhyddid hwn. Heiciwch yn cich rhyddid bendigedig-yn ól at natur, yn ô1 at Dduw, yng nghwmpeini eich gilydd, yn cofn, yn iach. Cipar a Sipsiwn. Bûm innau yn heicio ddoe, yn Sir Feir- ionnydd, hen sir dawel, ddistaw (rhy dawel, medd rhai, ond,-pawb a'i ffansi). Nid fy sir i ydyw hon, ond cof gennyf yn blentyn am dani fel rhyw Ie anghysbell iawn. Heddiw, dyma fi yn y sir, a ddoe bûm yn crwydro fel llawer un arall, ar hyd rhan ohoni. Nid ar fy mhen fy hun — ond tri ohonom, yn ddifyr iawn fel sipsi fach y fro, Romani, a Ruth a mi." Ac yn wir i chwi nid aetlrom fawr ar ein taith na chlywn leisiau go arw yn torri ar ddistawrwydd y fro lle troesom i fewn. Cipar a sipsiwn yn ymrafaelio mewn coed, a'r sipsiwn yn bygwth y cipar â'i ffon, am fod yn rhaid iddo ddiffodd y tân oedd wedi ei wneud, a symud oddi yno. Wedi nesau at y lle, clywn lais menyw yn gweiddi: Come on, Bill — don't touch him, Bill. — We're going, mister-we are going now." Druan ohonynt-teulu Ismael 0 hyd ar hyd yr oesoedd. Move on. Te yn y Bwlch. Ond symud oedd ein tynged ninnau hefyd. Yr oedd y gwynt yn rhy oer i sefyll, ac ni ddangosodd yr hen haul ei wyneb o gwbl. Yr ydych ar ei hôl hi," meddai un oedd yn trwsio clawdd, "maen' hw' wedi mynd ers meityn." 'D ydym-ni ddim yn mynd i'r Bwlch heddiw," meddwn, yr ydym am droi ar y chwith." Y Bwlch, dyna rendezvous bechgyn a genethod yr ardal hon ar ddydd Gwener y Rhydyronnen a Chadair Idris. Groglith, ugeiniau ohonynt, a'r drêt fwyaf- cael tê yno ar ôl dringo. A fu erioed y fath dê a chrempog, tybed? Llawer stori. Yn ymyl y Bwlch mae'r Llyn Barfog. Llawer stori sydd wedi bod ar goel am Afanc y Llyn a'r Ychen Bannawg," am Wragedd Annwn oedd yn dyfod i fyny o'r tan-ddaearolion leoedd i gael awyr iach wrth rodio gyda'u hychen o dro i dro 0 gwmpas y Llyn. Y Fuwch Gyfeiliorn hefyd, a ddaeth a'r fath lwc i'r ffarmwr hwnnw nes iddo fyned yn gyfoethog y tu hwnt i neb yn y fro honno. Ond collodd y cwbl pan gododd gyllell i'w lladd. Galwyd y Fuwch Gyfeil- iorn a'i hiliogaeth oll yn ôl i waelod y llyn. Ar ddarn o graig rhwng y Bwlch a'r Llyn Barfog gwelir hoel carn march, a gelwir ef yn Garn March Arthur. Y bechgyn a'r merched. Dyma ni yn y dyffryn erbyn hyn, a chrib y Panorama Walk uwch ben ar y dde. "Dacw nhw ar y top, welwch!" meddai'r fechan. Finger post 'rwyt ti'n weld," meddwn. Ond 'd ydy' hwnnw ddim yn symud," meddai hithau, a dyna un arall, ac un arall fan acw. Ac mi welwn ffurfiau bach yn symud ar grib y mynydd. Mae'n ddigon tebyg fod dwsinau ohonynt yn mwynhau natur, ac ehangder y mynyddoedd hyn. Pwy ddywed fod pobl ifanc yr oes hon yn waeth na rhai deugain mlynedd yn ôl? Nid ydynt ddim. Mae eu hedrychiad yn agored, yr hen swildod gwirion wedi mynd, y gymdeithas rhwng mab a merch yn iach a rhydd. A beth ydyw'r dynfa fawr at yr awyr agored a natur? Dyhead am y prydferth. (Felly y rouge a'r lipstich hefyd, ond pell y bônt.) Mae'r cwbl yn arwydd fod yr oes yn chwilio am ryw dlysni a pherffeithrwydd. Yn Nyffryn Maethlon. Yr oeddym ni erbyn hyn ar bont Rhyd y Meirch. Aethom ymlaen at y capel bach yn Nyffryn Maethlon. Y mae hanes am ryfeloedd wedi bod yn y dyffryn hwn, mae yno Faes Ymryson ac enwau tebyg ar gaeau. Fe droesom i fyny ar y chwith a chanu'n iach i'r Bwlch y tro hwn. Dyffryn Maethlon. Ar ôl dringo, dyna ni ar godiad o rai can- noedd o droedfeddi uwchlaw y môr, yn ymyl y Gorlan Fraith 1,334 o droedfeddi o uchder, gyda'i Charnedd ar ei phen; ond gormod gorchwyl ei ddringo y diwrnod hwnnw. Ymlaen â ni ar draws water sheds dwr ein tref, at y ffynhonnell lle mae'r naill glogwyn yn ymddangos mor agos ag nad oedd ryfedd i Gerallt Gymro gynt ddweud, am fynydd- oedd Meirionnydd, fod pobl yn medru siarad â'i gilydd o'r naill glogwyn i'r llall. Cewri, mae'n debyg, oedd yn yr oesoedd pell hynny, a'u lleisiau fel utgyrn, nes nad oedd angen am un microffôn arnynt. Yr oeddym erbyn hyn ar godiad digon uchel i weled Pumlumon a mynyddoedd siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Thre- faldwyn. Hafan Bugail. Gadael yr olygfa yma fu raid, a throi ein hwynebau i'r gogledd tua mynyddoedd Sir Gaernarfon, ond cyn myned i lawr y nant fawr a Braich-y-rhiw i Ryd-yr-onnen, dyna gwt bugail ar ein cyfer, hen gwt cerrig, cadarn, ffenestr heb wydr, a drws gydag un styllen o leiaf yn fyr. Rhaid oedd edrych i mewn. Gwelwn fwrdd a thebot a chwpan arno, mainc hefyd, ac ychydig sachau. Dim byd yn temtio un i fynd i mewn, ond ar storom- wel, dyna hafan ydyw i'r bugail! Heb fod ymhell yr oedd twmpath o fwsog amryliw, tlws, yn ymagor yn ymyl ffrwd. Tybed a wisgwyd Cadair Solomon mor bryd- ferth â hwn? I lawr y Nant. Fe aethom i lawr y nant yn fwy cyfforddus o dipyn nag yr aethom i fyny yr ochr arall. Yr oedd y gwynt i'n cefn. Gadawsom y mynyddoedd. Mynd oedd raid i ni, — ond Aros mae'r mynyddau mawr, Rhuo trostynt mae y gwynt; Clywir eto gyda'r wawr Gân bugeiliaid, megis cynt. Eto tyfa'r llygad dydd, Ogylch traed y graig a'r bryn; Ond bugeiliaid newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn. Aethom ninnau ymlaen tuag adref, a'i fechan yn hel briallu ar hyd ochr y ffordd.