Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER CERDDAI crwydryn i fyny'r ffordd gul tua Thy'n-y-ceunant. Golwg ddi-raen oedd arno, ei wisg yn llwm a charpiog, a'i draed yn ymwthio allan o drwynau ei esgidiau gwallt brith aflêr yn ymwthio o dan gantel hen het liain fudr, a barf wythnos gyfan ar ei fochgernau llygaid duon lladradaidd a gwefusau llawn, ac wyneb ofnus a chyfrwysgall. Disgynnai llenni'r nos, a diwrnod blin anffodus o'i ôl. Ni chawsai nemawr o gardod. Treiodd y naill ystryw ar ôl y llall er pan adawsai dloty'r dref am naw yn y bore. Bu yn hen filwr yn nhŷ'r cyrnol. Yn llhy'r gweinidog plediodd wraig orweddiog a thyaid o blant bach ar fin newynu. Cyn- igiodd dorri coed neu drin yr ardd yn y plas. Ond nid oedd dim yn tycio. Begiodd ddwy geiniog gan ryw hen wraig dyner galon, gan feddwl cael glasiad o gwrw, ond yn Ue hynny cafodd gwpanaid o dê a thafell o fara a chaws, a dyna'r cwbl. Ac yr oedd ei wddw erbyn hyn cyn syched â'r garthen. Am y degfed tro chwiliodd bob llogell yn ofalus pob un nad oedd twll ynddi a chafodd stwmp sigarét a godasai yn rhywle ar y ffordd, a thamaid o linyn, ond dim dimai o bres-dim dimai goch y delyn. Byrlymai ffrwd lafar yn y Ceunant, ychydig yn is i lawr na'r llwybr. a chwar- aeai'r gwynt yn ddolefus ym mrigau'r ynn a gysgodai'r bwthyn. Disgynnai dafnau trymion o law yn awr ac eilwaith, a llithro'n oer i lawr ei wddf. ERBYN iddo gyrraedd at lidiart yr ardd yr oedd bron yn ddu dywyll. Cerddai'n ochelgar rhag ofn fod ci yn rhydd yn rhywle, ond nid oedd yr un creadur byw o gwmpas y ty yn unman. 0 rywle yn y coed cododd ysgrech dylluan, ar ei hynt yu y gwyll, ac arswydodd yntau am foment wrth y swn. Broh nad oedd yn edifar ganddo adael y ffordd fawr a'i phobl ddihidio, i geisio cardod a chysgod mewn annedd mor anghysbell. Ond wedi anlwc y dydd ni fynnai droi yn ei ôl. Curodd wrth y drws, yn ysgafn i ddechrau, ac yna'n drymach, ond ni ddaeth neb i ateb. Trodd ymaith, ar fedr cychwyn yn ei flaen eilwaith, ond newidiodd ei feddwl a churo drachefn yn drwm. Ond ni thyciai hynny ychwaith. Tybiodd fod y preswylwyr oddi cartref, ond cymhellodd rhywbeth ef i gynnig y drws. Cododd y glicied yn araf. I'w syndod, nid oedd y drws wedi ei gloi. Gwthiodd ef yn gilagored, i roi ei ben i mewn. Yr oedd popeth yn dywyll yno. Teimlai'r crwydryn yn anesmwyth, ac meddai o'r diwedd, Y' Tramp Oes yma bobl ? Dim ateb. Yna gwaeddodd yn uchel nes ei ddychryn ei hun bron: "Heii" Ac wedi gweiddi, teimlai'r distawrwydd yn fwy nag o'r blaen. Yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd neb o fewn cyrraedd. Hwyrach eu bod yn y pentref, neu wedi mynd i'r capel. Am ennyd bu'n petruso ar y rhiniog. Yna mentrodd gamu i mewn i'r ystafell. Rhyw syniad annelwig oedd ganddo beth a wnai. Cadwai fel rheol o fewn terfynau'r gyfraith, nid o barch iddi, ond o ofn y gallu wrth ei chefn. AC am unwaith wedi diwrnod blin, wele ffawd yn garedig wrtho tý gwag a'r drws yn agored. Siawns na chai damaid o fwyd, pe na bai dim ond hynny. Ni feddyl- iodd am olau matsien. Yn wir, nid oedd ganddo un. Ymbalfalodd yn y twllwch i ganol yr ystafell. Tarawodd yn erbyn y bwrdd a rhugno hwnnw beth ar hyd y llawr. Syrthiodd rhywbeth, a malu'n deilchion, a chododd arogl olew i'w ffroenau. Safodd yntau a'i galon yn ei wddf, a'i ofn yn dyblu a threblu'r sŵn. Ond ni thorrai dim ar y distawrwydd, dim ond ei anadlu cynhyrfus ef ei hun, a chwiban y gwynt rhwng yr adeiladau. Dechreuodd chwilio beth oedd ar y bwrdd. cafodd weddillion pryd o fwyd àrno, a stwffiodd ddarn torth a thelpyn o ymenyn i'w logell. Yna symudodd yn ofalus ar draws yr ystafell a chydio yn y bwrdd i'w arwain ei huni Dychmygai bob eiliad glywed rhywun yn cerdded at y tŷ, ac yna ei regi ei hun am fod mor ofnus. Tarawodd ei law rywbeth ar ymyl y bwrdd a'i daflu i'r llawr. Daliodd ei anadl. Gan ALUN LEWIS Tinc arian! Plygodd ar ei ddeulin yn gyn- hyrfus ac ymbalfalu wrth droed y bwrdd. Daeth ar draws coes cadair, a theimlodd gwd arian oddi tani. Yn ei gyffro llusgodd y gadair o'r neilltu. Yna cododd y gwallt ar ei goryn, a rhyw ias oer yn rhedeg i lawr ei feingefn. Yr oedd llaw oer wedi disgyn ar ei war! Gwyrai yntau yn ei ddwbl felly am beth amser, wedi ei syfrdanu, gan ddisgwyl clywed rhywun yn ei gyhuddo. Ond daliai ei afael yn y cŵd arian a meddwl am wneud rhuthr am y drws os cai y cyfle. Ond pam na ddwedai'r dyn rywbeth? A oedd ganddo ryw arf at ei law? Yr oedd y distawrwydd mor llethol ag erioed. Dech- reuodd y chwys redeg i lawr ei ruddiau, a'r llaw oerwlyb ar ei war o hyd. O'r diwedd mentrodd ymsythu'n araf ac ymbalfalu am y llaw oedd ar ei war. Gafael- odd ynddi, ac yr oedd yn oer fel talp o rew. Neidiodd ar ei draed, a dyma'r llaw yn syrthio a tharo'n ddiymadferth ym mraich y gadair. Estynnodd yntau ei law drachefn a theimlo ysgwydd, a barf, ac wyneb, a hwnnw mor oer â'r iâ. A phobman yn ddistaw, yn annaearol o ddistaw. Yn sydyn gwawriodd y cyfan ar ei feddwl. Gorchfygwyd ef gan genllif o ofn. Rhoddodd waedd dros y lle, a gollwng y cwd arian i'r hawr a rhuthro am y drws. Ni ddychmygodd am aros i'w gau, ac ni pheidiodd â rhedeg nes cyrraedd y ffordd fawr ymhell o Dy'n-y-ceunant. Erbyn cyrraedd yno yr oedd ei draed yn gwaedu, a draenen yn un o'i fodiau. Yno, wedi cael ei anadl ato, y cofiodd gyn- taf am y cwd arian, a melltithiodd ei ddiofalwch a'i lwfrdra. Ond nid aeth hanner cam yn ei ôl. CAFWYD Rhisiart Pritsiad, yr hen gyb fel y'i gelwid yn yr ardal, wedi marw yn y gadair freichiau o flaen grât oer. Yr oedd ei ên wedi syrthio, a'i fraich yn ymestyn yn annaturiol dros ymyl y gadair. Ar lawr, yn ymyl, yr oedd cwd, a hwnnw wedi torri, a'r arian wedi rhedeg i bob cyf- eiriad. Y dyb gyffredin yn yr ardal oedd fod yr hen gyb wedi marw wrth gyfrif ei bres. A dyna ddyfarniad y rheithwyr ddydd y cwest. A hwn a'r llall wrth drin yr hanes yn dweud: 'Chafodd yr hen grintach ddim mynd â nhw gydag e, beth bynnag. Pe bai wedi gwario peth ohonyn' hw' i gael rhywun i edrych ar ei ôl, ac ymgeleddu tipyn arno fo— Ond methai pawb a dyfalu sut y bu'r hen lanc mor ddiofal â gadael y drws yn llydan agored. Yr oedd ci neu rhyw greadur wedi crwydro i mewn, a thaflu'r lamp oddi ar y bwrdd.