Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AMERICA'N GWRANDO AR GYMRU PRYNHAWN YN NHY'R CYFFREDIN. wyf newydd gael llythyr odlii wrth gyfaill o'r America. Ddoe, Gŵyl Ddewi," meddai. "bu cannoedd o filoedd ar y cyfandir yma gwrando côr Orpheus ('aerdydd ar y radio. Yr oeddym yn eu clywed yn blaen. Ond pam yr holl Saesneg? Y peth cynta' glywais i pan droais gnopyn v radio oedd Bryn Calfaria,' yn Saesneg*! O, am glywed Gwaed y Groes a 'Pen Calfaria,' a hynny o Gymru, ar Wyl Ddewi. Gorffen efo Harlech,' yn Saesneg 0, am glywed unwaith eto Wele goelcerth wen yn fflamio. '` Siomedigaeth fawr i gannoedd o filoedd. Ffei ohonynt! Dwbwl wfft i Gaerdydd a'i Orpheus! Gwrando ar Saesneg am 365 dydd o'r flwyddyn yma. Gwrando ar gôr o Gymru ar Wyl Ddewi yn canu Saesneg ar alawon wedi ymbriodi yn dragwyddol â geiriau Cymraeg, yn cael eu hysgaru gan dwr o Gymry. Canu sal. hler hefyd. ambell dro." Mr. Robert Lorraine. MI soniais gryn lawer yn y nodiadau hyn am y Cymry sy'n llwyddo mor ddisglair ar lwyfannau chwaraedai Llundain. Y mae enw Mr. Robert Lorraine yn adna- byddus fel un sydd yn rheng flaenaf oll 0 actorion Prydain. Bwriadaf ysgrifennu rhagor amdano yn ystod y misoedd nesaf. Y tro hwn ni ddywedaf ddim ond ei fod yn fab i'r diweddar Barch. Dr. Nathaniel Cyn- hafal Jones fu'n weinidog yn Sir Ddinbych, ac a olygodd "Weithiau Pantycelyn" mewn dwy gyfrol fawr. Yn Nhy'r Cyffredin. Tlyf"! ddigwyddais gyrraedd i Dy'r Cyffredin, ddeuddydd wedi araith y i Budget," pan oedd Mr. Winston Churchill ar ganol ei araith gyntaf yn y senedd ers pan ddaeth yn ôl o America. Lle di-eneiniad iawn ydyw Ty'r Cyffredin y dyddiau hyn, ac yr oedd yn amlwg fod yr aelodau wrth eu bodd o gael Mr. Churchill a'i ddisgleirdeb i dorri tipyn ar y moelni maith. Yr oedd yn llawn direidi, a'r Tŷ yn chwerthin yn galonnog am ben ei ergydion, yn enwedig ei ddisgrifiad o Syr Herbert Samuel-y "quacking decoy duck." Fe siaradodd am awr, gan orffen yn gyf- leus erbyn amser te, 4.30. Aeth yn syth i lawr i gael te (heb aros i glywed Mr. Morgan Jones, Caerffili, oedd yn siarad ar ei ôl, a chydag ef wrth y bwrdd yr oedd ei fab, Mr. Randolph Churchill, ac amryw ffrindiau. Bu'n siarad am funud neu ddau gyda'r Countess of Oxford and Asquith. Mr. Robert Lorraine. Wrth fwrdd arall. A R fwrdd arall agos ataf gwelwn Dame Margaret Lloyd George, Miss Megan Lloyd George, Lady Carey Evans a'i dwy ferch, a Major Gwilyrn Lloyd George, yn un teulu wrth fwrdd crwn. Llathen neu ddwy draw, yr oedd Dr. Morris Jones, yr aelod dros orllewin Sir Ddinbych, wrth ei de. Mi ofynnais i Major Gwilym Lloyd George beth a feddyliai am araith Mr. Churchill. O meddai, 'roedd o'n glyfar ac yn frathog, fel arfer, ond ddeudodd o ddim byd newydd. Miss Ffrangcon-Davies. YR un noson yr oeddwn yn St. Martin's Theatre, yn gweld Miss Gwen Ffrangcon-Davies yn actio yn y ddrama Precious Bane." Ychydig seddau o'm blaen yr oedd Mr. W. Llewelyn Davies, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac yntau, yr oedd yn amlwg, yn mwynhau pob munud o'r ddrama. Un o storïau Mary Webb wedi ei throi'n ddrama ydyw Precious Bane," ac o'r olygfa gyntaf ryfedd yn yr hen fynwent, hyd y diwedd pan yw Gideon Sarn yn dilyn llais ei gariad a'i blentyn i ganol y llyn ac i'w angau, y mae'n gafael. Mewn fferm yn Sir Amwythig y mae'r helyntion ofnadwy i gyd yn digwydd, ac, ar wahân i'r ddrama ei hun, nid anghofir yn fuan fanylion fel y nyddu, dawns y cyn- haeaf, a'r Saesneg hyfryd, a'r dafodiaith bert. Actiai Miss Ffrangcon-Davies a Mr. Robert Donat yn odidog. Darluniau Cymro. TPH aeth Mr. Cecil Williams â mi i adeilad Cymdeithas Cymru Ieuanc (Llundain) i weld arddangosfa darluniau Mr. Rhys Griffiths. Dyn ieuanc o Gorseinon, Morgannwg, ydyw Mr. Rhys Griffiths, ac yn Llundain y niae'n byw'n awr. Enillodd wobr am ddar- lunio yn Eisteddfod Genedlaethol 1922. Yna cafodd ysgoloriaeth gan Gyngor Addysg Morgannwg, a bu yn y Royal College of Art. Mr. a Mrs. D. Owen Evans oedd noddwyr yr arddangosfa, ac ar eu gwahoddiad hwy fe ddaeth tyrfa dda o Gymry Llundain ynghyd y prynhawn hwnnw. Darluniau o fywyd glowyr oedd y rhan fwyaf o'i ddarluniau, ac y mae ynddynt arddull a chymeriad. Hoffais ambell un, megis Dychwelyd o'r Gwaith," ac "Oedfa yn y Lofa," ac mewn rhai o'r darluniau natur a golygfeydd yr oedd y Uiwiau'n ar- bennig o effeithiol. Y Noddwyr. TEIMLWN yn ddiolchgar iawn i Mr. a Mrs. D. Owen Evans a Chym- deithas Sir Forgannwg am gefnogi gwaith artist o Gymro fel hyn. Mewn rhagair i'r rhestr ddarluniau, dywedai T.J." (a chasglaf mai Dr. Tom Jones ydyw hwn): Prin ydyw noddwyr talent yng Nghymru a gwan ydyw'r galw am gelfyddyd gyhoeddus. Gan hynny daw ein hartistiaid ieuainc i Lundain, a cheisio gwerthfawrogiad a chefnogaeth gan Gymry goleuedig y brif-ddinas.