Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Myfanwy Eames." T>WY fuasai'n disgwyl mai gwraig a fu am ran helaeth o'i hoes ymysg pobl y papurau newyddion Seisnig a byd arian a masnach ym Manceinion a Llundain, fyddai'r gyntaf i weld yr angen am lyfr coginio yn Gymraeg, ac i fynd ati i'w wneud ? Gwraig Mr. W. Eames, golygydd y Manchester Guardian Commercial gynt, ydyw Myfanwy Eames," awdur y Llyfr Prydiau Bwyd newydd sydd â chymaint; o fynd arno ymhlith y merched. Yn ei thŷ yrri Manceinion y cwrddais i â Mrs. Eames gyntaf, ac mi gefais bryd o fwyd yno oedd yn profi bod llaw gelfydd wedi bod wrth y gwaith. Ac nid ar wneud bwyd yn unig y mae Mrs. Eames yn feistres. Gall wneud pethau gwych hefyd â phaent a phensil. "Eu trio ar fy 'ngwr." P Mhrestatyn y mae hi a Mr. Eames 1 yn byw yn awr, a phan welais hi yno ddiwethaf fe soniodd wrthyf am y "Llyfr Prydiau Bwyd" yr oedd hi newydd ei orffen. Yr wyf wedi trio pob un o'r bwydydd 'yraa ar Wil, fy ngŵr, ers blynyddoedd," meddai. Gofynnwch iddo fo beth mae o'n feddwl ohonyn'-hw' Dyma finnau'n edrych ar Mr. Eames. Di-guro," meddai yntau. 'Does dim gwell cŵc yng Nghymru," a rhyw olwg tra boddhaus arno. Ac yn wir, yr oedd ei gorff iach a graenus yn siarad drosto'i hun. Y Parch. H. H. Hughes. Y MAE Mrs. Eames yn chwaer i'r Parch. Howel Harris Hughes, prif- athro coleg diwinyddol Aberystwyth. Brawd arall ydyw Mr. J. R. Lloyd Hughes, arlunydd, ac awdur storiau difyr am Fôn, megis Dialydd Plwyf Rhoslydan. Y mae'n awr ar staff yr Yorhshire Post yn Leeds. 0 Fôn y daw'r teulu. Y mae cefnder iddynt yn ŵr mawr yn America, sef y Barnwr Charles E. Hughes, ac y mae gan Mrs. Eames gof amdano'n fachgen yn treulio ei wyliau ym Môn. Ar ochr ei mam, drachefn (ac yr oedd honno'n fêreh i Richard Llẁÿd/ Dôl-wen, Sir Ddinbych) y mae hi'n nshinii. o deulu Morgan i.Llwyd p Wynedd. Pa syndod, felly, ei bod yn medru mynegiei meddwl yn glir! Y mae ganddi atgofion melys am yr hen Ddôl-wen, lle treuliodd hi lawer haf, ac fe wnaeth yr hen ddull syml, bonheddig, cwbl Gymreig o fyw a chadw t5- argraff ddofn arni. Y Wraig Lawen. GARTREF, ym Mrynteg, Môn, fe gafodd sylfaen dda i adeiladu ei dawn gadw ty arni. Mrs. Eames. Bu wedyn yn byw ac yn darpar bwyd ymysg Saeson a thramorwyr. Mae gan- ddynt hwy, yn ei barn hi, gryn dipyn i'w ddysgu inni am drefnu ty, ac y mae'r Ffrancwyr, yn enwedig, wedi deall sut i gymryd trafferth heb fod yn drafferthus. Fe wyr pawb fu'n cael pryd o fwyd yn nhy Mrs. Eames fod y gyfrinach ganddi hithau-a mwy na hynny, sef y ddawn i fyw'n siriol. Fe wnai Y Wraig Lawen yn ei Thy" eithaf teitl i'r llyfr arall y dylai hi ei ysgrif- ennu, er mwyn rhoddi gwragedd priod ifainc Cymru ar ben y ffordd i ddedwyddyd a sirioldeb! Mr. de Valera eto. MI soniais y mis diwethaf am Mr. de Valera, Llywydd newydd Deheudir Iwerddon. Cofiais wedyn i Mr. de Valera fod yn garcharor am ychydig o nosweithiau yn Ynys Môn. AWDURES Y "LLYFR PRYDIAU ÈWYD" HELYNTION DAU "ESTRON." Adeg helynt y Sinn Fein oedd hi. Daeth escort milwrol ag ef dros y sianel i Gaergybi, lle y cafodd ei drosglwyddo i'r gwersyll milwrol yn Turkey Shore. Y Rest Camp oedd yr enw ar y gwersyll hwn, ac 'rwy'n credu mai'r diwedd- ar Gadfridog Syr Owen Thomas, A.S., un o feibion Môn, oedd yn gyfrifol am ei ffurfio. Stori am ddau "estron." UN bore Sadwrn braf fe aeth dau ym- welydd i Gaergybi. Wrth iddynt gerdded tua'r dref fe safai llawer i edrych ac i wrando arnynt, canys siaradent iaith estron. Aeth y stori ar led mai dau Sbaenwr oedd- ynt, yr oedd pobl yn ceisio dod o hyd i ryw esgus i gael mwynhau eu cymdeithas. Fe grwydrodd yr estroniaid drwy'r strydoedd. Aethant i'r farchnad, ac yno bu cryn helynt i gael merch ifanc oedd yn gwerthu ffrwythaú i ddeall beth oedd ar y Sbaenwyr ei eisiau. Aethant ymlaen i'r Newry Beach. Ar y ffordd galwasant mewn cinema, ac yr oedd gwên ar wyneb yr eneth yn y bwth talu wrth i un o'r Sbaenwyr ofyn am docyn-yn y Sbaeneg, fe dybiai hi. Cwestiynau siop barbwr. YN hwyrach yn y dydd fe alwodd y ddau yn siop barbwr o Wyddel yn Market Street. Dyma un ohonynt yn gofyn i'r barbwr, mewn Saesneg go fratiog: B'le cawsoch-chi'ch geni? Yn Inniskellen," meddai hwnnw. Daeth tro'r barbwr wedyn i ofyn yr un peth i'r estroniaid, a chafodd ateb nad oedd yn ei ddisgwyl. Gwyddelod oedd y ddau Sbaenwr," a'r Wyddeleg a siaradent a'i gilydd. Pwy oeddynt. ENW'R naill oedd Daibhidh MacEoin, a'r llall Giolla Chriost O'Broin, y naill yn athro Gwyddeleg yn Dublin a'r llall yn ysgrifennydd cangen Dublin o An Fainne." Dau o gewri'r iaith Wyddeleg Wedi dod trosodd i fwrw Sul i Gaergybi er mwyn cael clywed tipyn o Gymraeg yr oeddynt, ac fe gawsant eu gwala. Fe aeth Telynor Trefor (Mr. Evan Evans) â'r ddau i'w gartref, a chawsant wledd wrth wrando.arno'n tynnu'r tannau.