Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DULL.—Piho a chwarteru'r afalau a'n berwi'n ysgafn gyda chyn lleied ag sy'n bosibl o ddwfr, a digon o siwgr i'w melysu, yna eu hidlo a gadael iddynt oeri. Golchi'r cyrains a'r resins a'u sychu. Torri'r peel yn ddarnau. Meddalu'r menyn a'r siwgr, a gollwng y blawd i mewn yn araf gyda'r carbonate of soda, a'r ffrwythau a'r speis; gratio'r croen lemon a malu'r cnau yn fân, f&n, a chymysgu'r cwbl yn dda gyda'i gilydd. Curo'r wyau a'u rhoi i mewn ac yna'r afalau wedi eu curo'n denau. WYAU A THOMATO (POETH). DEFNYDDIAU- 2 Tomato. Hanner owns о fenyn. 2 wy. Pupur a halen. Tôst. DULL.—Golchi'r ddwy domato a'u torri a'u rhoi mewn diferyn o ddwfr, i ferwi am funud neu ddau. Gwneud y tôst a rhoi menyn arno a'i gadw'n boeth. Curo'r wyau, yna cymryd llwy a thynnu'r croen oddi wrth y tomatos, a'u curo; tywallt yr wyau atynt, gydag ychydig bupur a haleu, a'u cymysgu'n grêm tew, ond gofalu peidio â berwi. Taener hwy ar y tôst. MOLD COFFI. DEFNYDDIAU- Peint o laeth. Llond llwy fwrdd o siwgr. 2 owns o "corn flour." #ILL E#llond llwy fwrdd o Owns o fenyn. "coffee essence." DULL.—Cymysgu'r corn flour gyda diferyn o laeth oer, a berwi'r gweddill a'i dywallt a chymysgu'r ddau a'i gilydd; yna berwi eilwaith nes bydd wedi tewychu. Ychwauegu'r siwgr a'r essence coffi a'r menyn, a'u cymysgu'n dda. Dipio mHd mewn dwfr oer, a thywallt y llefrith iddi. BARA BRITH. DEFNYDDIAU- 2 bwys o flawd. Cwpanaid o gyrains. Wy. Cwpanaid o rcsins. Owns o furum. Pinsiad o halen. Chwarter pwys o lard. Hanner peint o laeth Cwpanaid fawr o siwgr. (Uefrith). DULL.—Cymysgu'r blawd a'r siwgr a'r halen a rhwbio'r lard i mewn gyda'r dwylo, yna'r ffrwythau. Gwneud pant yn y blawd a rhoi'r bnrum ynddo a'r llefrith yn gynnes a'r wy wedi ei guro. Ei roi o flaen tån nes bydd croen tenau ar y burum. Yna tylino'n dda, gydag ychwaneg o lefrith cynnes (neu lefrith a dwfr) os bydd eisiau. Ei roi i godi am hanner awr. Iro tuniau, rhannu'r toes yn dorthau, a'u rhoi i godi am hanner awr arall. Crasn am 40 i 50 munud. STIWIO AFALAU. Plicio a chwarteru afalau a'u rhoi mewn dysgl â digon o ddwfr oer i'w gorchuddio, yna dodi'r ddysgl mewn popty cymhedrol i wneud yn araf. Troi'r afalau â fforc yn ofalus er mwyn i'r darnau wneud trwyddynt. Pan fyddant yn dryloyw, tywallt y dwfr bron i gyd a thaenu siwgr mân castor drostynt, a'u rhoi yn 61 yn y popty i'r siwgr doddi. Wedi oeri ychydig, eu codi ar ddysgl wydr. CREM TOMATO. DEFNYDDIAU—­ 1 tun bychan o tomatoes. Llond llwy de o halen. Hanner peint o ddwfr. Llond llwy de o siwgr. 1 owns ymenyn. Pupur. 1 owns o 'corn flour.' Cwpanaid o lefrith. DULL.—Tywallt y tomatoes drwy hidl a'u gwasgu i'r dwfr. Toddi'r ymenyn mewn sospan, rhoi y corn flour ato yn ofalus, a'u cymyegu'n llyfn. Tywallt atynt yn araf y dwfr a r sudd tomatoes, a dal i droi nes y bydd yn berwi. Ei adael ar dân isel i ferwi'n araf am ychydig o funudau. Yna symud y sospan oddi ar y tân a chymysgu ynddo y llefrith, siwgr a halen, ac ychydig o bupur. Rhoi'r sospan yn ôl ar y tân nes poethi y crêm drwodd, ond gofalu iddo beidio berwi. MOLD SAMON. DEFNYDDIAU- Tun samon. Croen a sudd lemon. Wy. Llond llwy fwrdd o laeth Briwsion. (llefrith). Pupur. DULL.—Tynnu'r croen a'r esgyrn a malu'r cig. Cymryd yr un bwysau o friwsion ag sydd o samon, a'u cymysgu â'i gilydd. Gwasgu sudd y lemon a gratio'r croen i mewn, gydag ychydig o bupur. Curo'r melyn wy a rhoi'r Hefrith ato a'u cymysgu gyda'r samon ac yn olaf, chwipio'r gwyn wy'n dew a'i roi i mewn yn ysgafn. Iro mold â menyn a rhoi'r cyfan i mewn a'i stemio am tuag awr. Wedi iddo oeri, ei roi ar ddysgl, gyda salad letis a bitrwt ac wy wedi ei ferwi'n galed, a saws mayonnaise. CYFRINACH GREFI BLASUS. Pe baech yn myned i gegin y plas neu dŷ bwyta mawr yn Llundain, efallai y buasai'r chef neu'r cwc yn dweud wrthych y gyfrinach paham y mae eu grefi a'u soups mor flasus ac mor faethlon bob amser. Y gwir yw y gall pawb ohonom wneud yr un fath, gan nad yw yn costio Uawer oddieithr mewn amynedd ac amser. Dirgelwch y cwbl yw cael esgyrn gan y cigydd: yn gyntaf eu golchi'n lân, ac yna'u gorchuddio â dWr, a'u berwi am bum neu chwe awr. Wedi iddynt oeri, tynnu'r esgyrn i ffwrdd a hel yr haen braster oddi ar yr wyneb. Oddi tanodd y mae jeli tew maethlon. Dyna'r stoc. Gellir ei gadw a'i ddefnyddio'n helaeth i gyfoethogi grefi, saws, a phob math o soup. Pan fydd y cig yn barod, ei godi ar ddysgl gynnes a'i gadw'n boeth. Tywallt yr irad o'r tun bron i gyd, ond gadael y sudd sydd yn y gwaelod taenu llwyaid bach o ftawd yn ysgafn arno a'i gymysgu. Yna toddi llond cwpan o'r stoc a'i gymysgu ynddo. Os na fydd stoc wrth law, rhoi hanner cwpanaid o ddwr berwedig o'r tegell. Rhoi ychydig o halen a diferyn o frowning at y grefi a'i ferwi am ychydig funudau. Yna codi llwyaid ar y ddysgl o gwmpas y cig, a thywallt y gweddill i jwg grefi neu sauce boat. JUMPER HWYLIOG: Sidan coch a gwyn (smotiau bras), gyda botymau coch a belt lledr gwyn. CHORAL MUSIC Published by the Oxford University Press and the University of Wales Press Board. Two new works chosen for the 1932 Royal National Eisteddfod of Wales, Port Talbot. PSALM to THE EARTH. T. Hopkin Evans. Poem by S. T. Coleridge. Welsh trans- lation by the Composer; edited by Ivor Williams. Set for Tenor (or Soprano) Solo, Chorus, & Orchestra Vocal Score, 2s. 6d.; Sol-fa edition of the choruses, Is. 6d. Orchestra score & parts on hire. J. Morgan Lloyd. SING THE SONGS OF CAMBRIA. 5d. For female voices of (3 part) & piano. Both music and words (given in Welsh and English) combine in a fine expres- sion of noble sentiment. The piece should prove a popular National Song throughout Wales. Staff and sol-fa included. J. S. Bach. A SHORT PASSION. (From St. Mathew's Passion.) Arranged and edited by W. Gillies Whit- taker. English Text by C. Stanford Terry. Welsh Text by E. T. Davies and Gwilym Williams. Price, 3s. 6d. (Dual Notation in the choruses). Choruses only, 1s. (Dual Notation). LIBRETTO, with chorale melodies, 3d. (Dual Notation). A great masterpiece here made atailable for all Choirs. MALE VOICES Choral Songs for Male Voices. Compiled under the supervision of Sir Walford Davies, Is. A splendid collection of songs, old and new, well arranged for male voices, and produced at a particularly low price for use in Mining Areas. Arranged by Elfed I. Morgan. Brethyn CARTREF, Tradition Melody, Welsh words by Crwys. Price, 4d. Arranged by David Evans. ALL THROUGH THE NIGHT and ASH GROVE. Price, 3d. Robert Jones. FAREWELL, DEAR LOVE. Welsh translation by T. Gwynn Jones. Price, 2d. MIXED VOICES D. Vaughan Thomas. How SWEET THE MOONLIGHT SLEEPS. English words from Shakespeare's Merchant of Venice. Welsh translation by the Composer. Price: Staff, 8d. Sol-fa, 6d. T. Hopkin Evans. SONG OF THE SPHERES. English words by Cuthbert Samuel; Welsh by Wil Ifan. 6d. J. Morgan Lloyd. WALKING BY a RIVERSIDE (S.S.A.A.T.B.), 9d. LLYFR CANU NEWYDD (New Song Book) Part III now ready. Piano Edition, 3s. 6d. Words and Melody Edition, 6d. FULL CATALOGUE (bilingual) OF WELSH MUSIC ON APPLICATION. OXFORD UNIVERSITY PRESS Æolian Hall, New Bond Street London, W.l UNIVERSITY OF WALES PRESS BOARD Cathay's Park, Cardiff.