Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENRY RICHARD I'R OES HON What About Your Future? 1 Cynlluniau Cymdeithas Newydd Coleg Aberystwyth Gan HYWEL D. ROBERTS Talysarn YR un dydd ag y bu farw M. Briand yn Ffrainc fe aned cymdeithas yng ngholeg Aberystwyth yn enw'r apostol heddwch enwog a roddodd Cymru i'r byd, —Henry Richard. Amcan y gymdeithas hon fydd gweithio dros ddelfryd y gŵr y cymerodd hi ei henw oddi wrtho, a cheisio ennyn yng nghalon Cymru fflam o gariad at heddwch a gwell cyd-ddeall rhwng pobl y byd. Gwna pob aelod o Gymdeithas Henry Richard addewid i sefydlu cymdeithas felly ym mhob tref a phentref a fedrant yng iNghymru, gyda'r un egwyddor sylfaenol â'r Gymdeithas Heddwch y bu ef yn ysgrifen- nydd iddi—" fod rhyfel yn anghyson ag ysbryd Cristnogaeth, ac yn niweidiol i ddedwyddwch dyn." Manteision Cymru. Fe ddysgodd Yr Urdd i ieuenctid Cymru sylweddoli bod gan Gymru neges i'r byd, a'i bod, trwy ei thraddodiadau rhagorol, mewn gwell safle i roddi delfrydau heddwch ar waith nag unrhyw genedl arall, ac mai delfryd Henry Richard a ddylai fod yn ddelfryd i'r genedl. Yn ystod y 400 mlynedd diwethaf, tra'r bedd Prydain yn ffurfio'i Hymerodraeth, tyfodd gwerin Cymru dan ddylanwad dynion fel yr Esgob Morgan, a gyfieithodd y Beibl, Gruffydd Jones a Thomas Charles a'u hysgolion, ac, yn y 19 ganrif, ddynion fel Gwilym Hiraethog, Ieuan Gwynedd, ac S.R., a amddiffynnai'r bobl rhag gorthrwm. A chanlyniad hyn-canlyniad traddodiadau a hanes Cymru-ydoedd Henry Richard, yr .apostol heddwch. Yr ysgolion. Y mae'r Dydd Ewyllys Da yn agos, pan anfonir allan neges plant Cymru i'r byd- yn ddiamau peth ardderchog i greu cariad rhwng ein ieuenctid ni a ieuenctid yr holl wledydd. (Wrth gwrs, ni chredodd y B.B.C. erioed bod hwn o ddigon o werth i'w ddarllen o'u prif orsaf, er cymaint fu'r apêl atynt). Gwych o beth fuasai i bob ysgol yng Nghymru roi'r diwrnod hwn heibio i ddysgu'r plant am waith Cynghrair y Cen- hedloedd ac arweinwyr heddwch y byd, ac yn arbennig Henry Richard. Ni roddir y sylw a ddylid i faterion heddwch a gwaith Seiat y Cenhedloedd yn y rhan fwyaf o'n hysgolion; yn wir, gwyddom am lawer man lle ni roddir dim sylw i hyn. A geUid disgwyl mwy o gymorth mewn hyn o beth gan weinidog- ion ein capeli a'n heglwysi hefyd. Canys heb hyn, pa fodd y disgwylir plannu ym mhlant Cymru gariad at heddwch a bywyd gwell? Bu rhywbeth o'i le yn addysg Cymru. Gwyddom fwy am hanes rhyfeloedd Marl- borough a Nelson nag am waith S.R. a Henry Richard dros heddwch. Haedda Henry Richard fywgraffiad a gwerthfawr- ogiad llawer gwell na'r hyn a gafodd hyd yn hyn. Gwnaeth Mr. Victor Evans (sefydlydd y gymdeithas newydd) ymchwil fanwl i'w fywyd a'i waith, a gallwn edrych ymlaen at yr amser y cyhoedda ef yn Uyfr. Ganed ef Ebrill 3, 1812, mewn bwthyn yn Nhre- garon, Sir Aberteifi. Aeth yn brentis mewn siop ddillad yng Nghaerfyrddin. Ond daeth awydd pregethu arno, ac yn 1830 aeth i Goleg Highbury, Llundain, lle'r arhosodd bum mlynedd cyn derbyn galwad yn weinidog capel Old Kent-road. Dyma'r cyfnod y disgynnodd i'w ran amddiffyn ei gyd-genedl (yn y Daily News a'r Star a chyfarfodydd'cyhoedd- us) ar ôl y Rebecca Riots a Blue Books 1840; a dyma'r cyfnod hefyd y dechreuodd weithio dros addysg Cymru. "A'N HOLL GALON." Neges pobl ieuainc Cymru at bobl ieuainc y byd. Fe deflir hon ar y radio ar y 18 o'r mis hwn, sef Diwrnod Ewyllys Da. A'N holl galon, yr ydym ni, fechgyn a merched Cymru, yn eich cyfarch chwi, fechgyn a merched pob gwlad. Y mae'r byd yn awr megis un pentref mawr gan ein bod wedi ein dwyn o fewn clyw i'n gilydd. Heddiw. Ddydd Ewyllys Da, medd- yliwn am yr arloeswyr, o bob cenedl. a wnaeth wyrth mor fawr, am y rhai a wnaeth yn bosib yrru negesau dros wastadeddau, dros fynyddoedd a than y moroedd. ac am y rhai a roddodd adenydd i eiriau ehedeg o gyfandir i gyfandir. Hwynt-hwy oedd arwyr ffydd a gweledigaeth a gynorthwyodd i wneuthur ein byd yn gymdogaeth. Yn awr, fe gluda'r awyr fiwsig o lawer gwlad a lleisiau ym mhob iaith, a thrwy wasanaeth ein radio daw'r cenhedloedd yn agosaeh cyfeillion. Bydded i ni, felly, fechgyn a merched, mewn meddwl, gair a gweith- red, ymdrechu â'n holl egni fod y negesau a anfonir o'n gwledydd ein hunain. bob amser, yn negesau cyfeill- garwch a thangnefedd. Ei gam pwysig fel Apostol Heddwch oedd hwnnw pan apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch, ar y 23 o Fai, 1848, ac o bynny ymlaen rhoddodd ei holl alluoedd i ysgrifennu a phregethu dros heddwch cvd-wladol. Yn Brussels y bu'r gynhadledd gyntaf, yn 1848, a Henry Richard yn gwneuthur argraff ddofn ar y cynrychiolwyr o wledydd eraill Ewrdp, gan ennill parch a phoblogrwydd mawr. Yn Frankfurt y bu'r drydedd gynhadledd yn 1850, a chafodd S.R. gymorth ariannol ei, gyd-Gymry i fyned i hon hefyd (Llyfrau'r Ford Gron, 7. Tudalen 15), a bu'r bedwaredd yn Llundain yn fuan wedyn. Yn 1868 cynrychiolai Ferthyr Tydfil yn Nhŷ'r Cyffredin, ac, er methu unwaith, pasiwyd ei gynnig ef ar gyflafareddiad (arbitration) yn 1873 a dilynwyd hyn gan lywodraethau eraill Ewrop yn fuan. Ar ôl hyn, ymwelodd Richard â phrif drefi'r cyfándir ar ei bererindod heddwch, yn un o ffigurau enwocaf Ewrop. Bu farw yn Awst, 1888, yn Nhreborth, wedi bron ddeugain mlynedd o lafur diflino fel ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch, ac wedi oes weithgar o drefna a phregethu gwell deall rhwng y gwledydd, a gosod sylfaen Cynghrair y Cenhedloedd erbyn ein cyfnod ni. Are you content with the position you occupy now-with the money you are earning — or do you wish for some- thing better and some- thing more? Ask yourself these questions then ser- iously consider what you ought to do. The one thing more than any other that enaoies a man to nse above his fellows and win a way into the better-paid jobs is a sound and practical technical training. He cannot possibly get such a training in the course of his everyday work. One hour a day spent the I.C.8. spare-time way will give you the best training of its kind in the world. During the last 40 years, tens of thousands of I.C.S. Students have won remarkable success. Why not you also? Let us tell you how you can improve yourself in your calling. Our 400 Courses include the following Accountancy & Book-k'pg Insuranee Advertlsing Professional Exams. Architeeture & Building Salesmanship Commerelal Art Seientifle Management Commercial Training Shorthand-Typewriting Draughtsmanship Textiles Engineerlng, all branches Window Dressing French and Spanish Wireless Engineering General Education Woodworking Write to-day for Booklet containing full inform- ation regarding the Courses in which you are most interested. It will be sent gratis and post free, and will place you under no obligation. International Correspondence Schools, Ltd., OEPT. 163, Internatìonal Buildings, Eingsway, London, W.C.2 DO YOU WISHO TO FACE FACTS An Announcement of Interest to Thinlring People. Would you learn the truth about yourself, your prospects, and the possibilities of your life? The ancient science of Astrology has been consulted by thinking men and women throughout the world, who have derived untold beneflt from its aid, and so would a knowledge of the hidden forces which sway your destiny enabie you to escape the perils and pitfalls which perhapg lie in your path, to make the most of your opportunities, and probably avoid endless diffi- culties and misunderstandings. Unlike many present- day astroiogers, I apply my knowledge to defmltely useful purpóses. TO PROVE IS TO CONVINCE. Let me CONVINCE you by PROVING that this science may be made one of real utility and help. I have made Astrology my life's work and offer a most interesting interpretation of the Zodiac sign under which you were born. Were you born under a Lucky Star Will your future be bappy? Prosperous? Do you know what your Star of Destiny decrees for you and tbose bom under your particular sign in love marriage, or business? To introduce my work to readers of this paper I will send a most interestlng informative reading for only 1/ If you wish to accept my offer send exact name (Mr., Mrs., or Miss), address and DATE OF BIRTH, and I will send your Astrological interpretntion in a plain sealed envelope. In this reading certain FACTS about yourself will appear before you as plalnly as if you were looldng into a mirror it may contain a word of warning, or a prophecy of happiness —perhaps a few "home truths "—but it wilf be as you ARE, your life as it IS, without flattery or pretence. Write now; A GEEAT SURPRISE AWAITS YOU. Enctose 1/- P.O. to defray partial cost of this announcement, etc. Address Mr. Elroy personally. Please enclose stamped addressed envelope. ELROY STUDIOS (Dept. 405), 37, Albemarle Street, London, W.1. Testimoniais reoeived from all parts of the world.