Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

|§f| Ponterwyd a'i Bwyllgor a'i Drydan Gan JAMES D. JAMES YNG nghesail Pumlumon y mae Pont- erwyd yn llechu. Ym misoedd yr haf y mae'n un o'r pentrefi mwyaf byw a chynhyrfus, gan y cannoedd moduron a wibia trwyddo ar hyd y briffordd sy'n cysylltu canoldir Lloegr wrth Fae Ceredigion. Pe cychwynech o Aberystwyth trwy Ben- llwyn, ymlaen i Goginan, a thros fwlch Nant yr Arian, yna fe ddisgynnech yn raddol trwy Lly'wemog i Bonterwyd, wedi taith o ddeuddeg milltir. Dipyn yn annibynnol. Ystyrir cymdogaeth Ponterwyd yn un o'r lleoedd íachaf, nodedig am awyr bur adfyw- iol, a chyrcha lliaws o ymwelwyr yma bob hâf. Rhyw ddeugain yw nifer y tai, a'r rheini ar wasgar-yn hoffi bod dipyn yn annibyn- nol. Pump yw'r nifer fwya' sy'n credu mewn cydio ym mreichiau'i gilydd. Pedair siop. Ceir yma ysgol eang, gyfleus; llythyrdy; dwy garage, a phedair siop. Yn y siopau gellwch gael bron unrhyw beth fydd arnoch eisiau-o facyn poced hyd at facintosh, o binnau bach hyd at hoelion wyth, ac o bynn geiniog i fyny at sach o fflwr. Hefyd y mae yma hotel helaeth a chyn- hwysfawr. Yr enw lleol arni yw Pen Talwr. Bu George Borrow yn cysgu un noson ynddi ar ei daith trwy Gymru. Go anffafriol oedd argraff gẃr y tý arno, ac ymadawodd dipyn yn swta bore trannoeth. Un capel sydd yma, a hwnnw'n perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd. Rhaid i bob ymneillduwr a ddaw i'r pentref ddygymod â bod yn Fethodus tra bydd yma. Y mae Ysbyty Cynfyn, sef eglwys y plwy, tua milltir y tu allan, i gyfeiriad Pont-ar- Fynach. Ddwy flynedd yn ôl codwyd math ar Neuadd Eglwys ar gwr y pentre, a chedwir y gwasanaeth yn honno'r prynhawn a'r nos. Yr hen bont fwa. Beth bynnag ydyw ystyr Erwyd y mae yma dair pont gref a chadarn o fewn llai na 150 0 latheni i'w gilydd: dwy dros afon Rheidol ac un dros afon Castell. Y mae'r hen bont fwa yn addurn i'r pentre, yn ddarn o gelfyddyd. Fel y dywedodd y prydydd lleol am dani: Cadr uwch ton yw hon o hyd I uno tir Ponterwyd. Clywais ddywedyd mai ei chynllunydd a'i hadedµ «id oedd William Edwards, o blwy Eglwys Llan, Morgannwg-y pregethwr, yr amaethwr, a'r adeiladydd pontydd enwog, a gafodd y teitl o "adeiladydd i'r ddau fyd." Os gall rhywun roi golau pendant ar hyn, ni fydd brin o'n diolch. Y mae trigolion y lle yn bobl dawel, ddar- bodus, ymdrechgar. Y gwyr a'r bechgyn yn Ponterwyd, Sir Aberteifi, IIe ganed Syr John Rhys. gallu troi eu llaw at bob gwaith gwlad. cneifio, lladd gwair. dryllio'r graig a symud daear, fel bo'r angen. Pan oedd y gweithfeydd mwyn yn mynd. yno yr oeddynt; a byw iawn oedd popeth yr adeg honno. Deuai llawer o'r capteiniaid i'r gweithfeydd o Gernyw a mannau eraill. Dysgent Gymraeg, ac ymdoddi i fywyd y lle yn gymdeithasol a chrefyddol. Tyddynnod gwag. Adroddir am un oedd yn galfin cryf yn cael dadleuon brwd ag un o'r trigolion a gredai mewn Arminiaeth. Ar ôl i'r gwres godi'n uchel o'r ddeutu, ciliai'r calfin i ffwrdd yn raddol, gan gloi'r ddadl trwy weiddi pennill o'i waith ei hun, Hen Armin, hen Armin, Ar frigyn y pren, Just a fall, just a fall; Ond Methodus Calfin, Cydio'n ffast yn y stoncyn, Never fall at all. Ond erbyn hyn nid oes yr un gnoc yn cael ei rhoi yn yr un gwaith mwyn, a llawer o dyddynnod drwy'r gymdogaeth wedi mynd yn wag a chwympo o'r herwydd. Mynd 'i'r farchnad. I fynd yn ôl a blaen i'r farchnad i Aber- ystwyth ar ddydd Llun, y mae'r cyfleus- terau cludiant yn wahanol iawn heddiw i'r hen amser. Flynyddoedd yn ôl yr oedd yn rhaid cerdded, ambell un efallai'n marchogaeth ac ystrodur bwn i gario paciau. Wedyn daeth ambell gert i fynd, a hwn a'r llall yn cael lifft ynddi ran o'r ffordd. Bob yn dipyn daeth cerbydau, yr hen gerbydau pedair olwyn. Bu tri neu bedwar o'r rhain yn sefydlog am flynyddoedd yn y lle, ac yn hwylustod a chaffaeliad mawr; ond yr oedd yn rhaid disgyn i gerdded i fyny i fwlch Nant yr Arian wrth ddod adref. Gofynnodd hen ffrind oedd adre am dro i berchen un o'r hen geir yma: A ydych-chi'n g'neud tipyn wrth gario pobol i'r dref? Nagw' wir, fawr iawn," eb efe, pe bai dau ddydd Llun yn yr wythnos fe'i g'nawn hi'n go*lew. Ymhen ysbaid wedi i'r ceir modur ddyfod i fri, daeth y siarabangau, mawr eu swyn a'u grym, ac un peth da ynddynt hwy, nad oedd eisiau tosturio wrth eu gwynt na disgyn i gerdded. Ond gorfod iddynt hwythau gilio pan ddaeth y bwsau presen- nol, nid yn unig i redeg ar y Llun, ond bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd. Fel pob lle arall, gwelir ô1 llaw ysbryd yr oes ar lawer peth yma y mae wedi troi efail y gôf yn lle i werthu tyres, a'r felin flawd i gynyrchu trydan. Ychydig o flyn- yddoedd yn ôl, prynodd gŵr bonheddig o Gaerloyw y Felin a darn o dir. Cododd fynglo yma iddo'i hun, a gosod peiriant i gael trydan i oleuo'r pentre. O'r herwydd Mwy golau llawn, dim gwawl llwyd, Bentyrra swyn Bonterwyd. Bu'n symbyliad hefyd i ffurfio pwyllgor, sef Pwyllgor Gwelliannau, i ddatblygu adnoddau'r pentre ac amddiffyn ei harddwch. Syr John Rhys. Y mae bechgyn a merched galluog wedi eu geni a'u magu yma ac yn llanw safleoedd pwysig mewn byd ac eglwys ar hyd a lled y byd. Yr un a gyfrifir fwyaf ohonynt i gyd yw'r diweddar Syr John Rhys, a gafodd ei eni a'i fagu mewn bwthyn bychan o'r enw Aber- ceiro, tua milltir tu allan i'r pentre, tua'r gogledd. Daeth yn Brifathro Coleg Iesu, Rhydychen. Ystyrir ei fod yn un o'r ysgol- heigion Celtaidd enwocaf, ac mai ef a osododd sylfaen ysgolheictod Gymraeg heddiw. Y prif symudiad ar hyn o bryd ydyw codi Neuadd Goffa deilwng ohono yn y pentre, i fod yn symbyliad a meithrinfa i'r oesoedd a ddaw.