Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MODURO 7/yd y #oelydd 17nig GAN T. I. ELLIS MEDDYLIAIS ysgrifennu'r tro hwn am daith trwy Fro Morgannwg a hanes y tri phennaeth yn canu emynau uwch ben beddau John Williams yn Sant Athan a Thomas Williams ym Methesda'r Fro, heb sôn am y bracso (chwedl pobl Sir Aberteifi) drwy'r caeau a thros y cloddiau i Gastell Beaupré. Ond darllenais yn ddiweddar lyfr a ysgrif- ennwyd gan un o'm cyd-deithwyr yn sôn am yr ardaloedd hynny, a gwell imi ydyw tewi am y tro. Ond bûm unwaith ar daith o Abertawe, ar hyd y ffyrdd newydd a wnaed yng nghyffiniau'r ardal honno, a dengys y daith hon y gellir cael, hyd yn oed ym Morgannwg, olygfeydd a theimladau a gynhyrchir gan unigeddau'r mynyddoedd. Y lle hacraf yng Nghymru." Y peth gwaethaf am Abertawe ydyw ei chyffiniau, ar un ochr beth bynnag. Credaf imi weld unwaith gyfeiriad at Landŵr fel y lle hacraf yng Nghymru. Fe ddywedodd rhywun credaf mai un o'r Cyfandir ydoedd, ac yntau'n feirniad craff ym myd ceinder — y gellir canfod rhyw urddas neu rywbeth tebyg hyd yn oed mewn amgylch- oedd felly. Ni wn i a oes llawer iawn o bethau diddorol ar y ffordd o Abertawe i gyfeiriad Castell Nedd—hynny yw, o ran harddwch natur. Glandŵr, Treforris, Llansamlet, Sciwen-y mae'r ffordd yn dda ar y cyfan o ran wyneb, a digon o gerbydau yn mynd a dyfod ar hyd- ddi i'ch cadw'n effro; ac weithiau fe ddaw peraroglau Llandarog i'ch croesawu ar y ffordd. Heibio i Dregatwg. Peidiwch a throi i mewn i dref Castell Nedd, ond dal ymlaen yn syth i fyny'r Cwm, heibio i eglwys Tregatwg a'r ysgol newydd ar y llaw chwith, ymlaen i Aber- dulais. Fe dry'r hen ffordd i Gwm Dulais yn gul ac yn gâs i fyny ar y chwith; ond gwnaethpwyd ffordd newydd, lydan, well o lawer, sy'n gadael y ffordd fawr ryw hanner milltir neu lai ymhellach ymlaen. Dilyn hon, a dringo heibio i'r Creunant i fyny i gyfeiriad y Seven (Blaendulais yw'r enw Cymraeg; pob parch i berchen y lIe gynt a'i saith chwaer, ond paham na ellid cadw Blaendulais persain yn enw ar y lIe ?). Banwen, Onllwyn, a Maesmarchog. Y mae'r wlad yn wahanol erbyn hyn; yr ydym wedi gadael y gwastadeddau ac yn dringo i fyny i ganol eangder y bryniau. A dringwn o hyd i'r Banwen ac Onllwyn a Maesmarchog ar ben y mynydd. Pan oeddwn i'n y parthau hyn y tro diwethaf nid oedd y ffordd yn eglur iawn; yr oedd yn rhaid troi a throsi dros reilffyrdd a phethau tebyg cyn dyfod allan i'r ffordd fawr newydd. Ond efallai bod pethau wedi gwella erbyn hyn; ac wedi cyrraedd y ffordd fawr, cewch siwrne hwylus wrth ddisgyn o'r uchelderau trwy'r coedydd i lawr i'r cwm ac i bentref Glyn Nedd. Ei throedio hi. Ar y gwaelod, trowch ar y chwith ac ymhen tipyn croeswch yr afon a dringo'r rhiw serth gan adael yr afon ar y chwith. (Purion, pe bai gennych amser, fyddai gadael y cerbyd yng Nglyn Nedd a'i throedio hi i fyny hyd at Bont- neddfechan a'r ddwy afon a'r rhaeadrau; ac y mae ffordd i fyny i Ystradfellte ac yn ôl heibio i Benderyn a Hirwaun, ond prin y byddwn i'n ei chymeradwyo i'ch cerbyd). Dilynwch y ffordd ar ochr dde'r cwm am ryw filltiroedd, nes cyrraedd focs yr A.A. â'r enw Rhigos Gate arno. Troi a throsi. Yno fe welwch ffordd gymharol newydd yn troi tua'r dde, ac ewch ar hyd-ddi. Y mae hi'n dechrau esgyn yn ara' deg, ac esgyn y bydd hi am filltiroedd, gan droi a throsi ar hyd moelni'r mynydd a than y creigiau serth. Wrth gyrraedd i'r pen, sefwch am ennyd ac edrychwch i gyfeiriad y Bannau yn syth o'ch blaen, a mynyddoedd Sir Gaerfyrddin ym mhellter y gorllewin. Nid oes ond unigedd a llwydni a thawelwch o'ch cwmpas ar bob ochr. Pen Cwm Rhondda. Yna, dal ymlaen.a chyn hir ymegyr pen Cwm Rhondda o'ch blaen, â'r ffordd yn dis- gyn gan ymguddio yng nghysgod y creigiau. Am a wn i, y mae'r daith yn fwy rhamantus os trafaelir pan fydd hi wedi nosi, a'r goleu- adau yma a thraw yn pefrio allan o'r tywyllwch; ond eto os ewch â hi'n olau dydd, cewch weld y Rhondda fel y mae, heb gelu dim o'r noethni. Disgyn i'r Cwm yn Nhreherbert, ac ymlaen am Dreorci. Wedi cyrraedd y Steg yn Nhreorci, trowch ar y dde, tros y bont, ac ymhen tipyn bach ar y chwith ac yna'n ôl eto ar y dde, lle daw'r ffordd o'r Ton i'ch cyfarfod. Cip ar y mor. Yn awr y mae'n rhaid dringo eto am filltiroedd, yn union bron fel yr oedd hi i fyny o'r Rhigos; ac yma hefyd, wrth gyr- raedd pen y Bwlch, fe welwch y cwm yn ymagor i lawr o'ch blaen a mynydd Pen Rhys yn y pellter ar y dde. Ar ben Bwlch y Clawdd, deil ffordd ymlaen am Nantymoel a Chwm Ogwr a Phenybont; ond trown ninnau ar y dde, rhwng y creigiau, ac i fyny unwaith eto i Afon Rhondda tua dechrau ei thaith. unigeddau'r mynydd. Ymhen rhyw filltir. dyma ni ar ei ben, a chipolwg o'r môr tua Phorthcawl ar y chwith; yna dechreuwn ddisgyn, â'r ffordd yn ymdroelli'n urddasol ar lethrau'r mynydd moel; a gwelwn weith- feydd Blaengwynfi yn y gwaelod o'n blaen. Erchyllter Disgyn o'r diwedd i ganol yr hyn na ellir ei alw'n brydferth iawn; a dal ymlaen ar hyd ffordd eithaf dymunol, am filltiroedd trwy Ddyffryn Afan, heibio i'r Cymmer (gwyliwch y ffordd yma-fe dry'n sydyn ac yn gâs) i lawr i Bontrhydyfen. Yma y mae gennych ddewis rhwng dwy ffordf1. Gellwch droi ar y dde; dyma'r ffordd fyrrach i Gastell Nedd; ond yna gorfydd arnoch rodio un o'r erchyllterau mwyaf ofn- adwy a elwir yn ffordd, a welais i erioed. Bum ar hyd-ddi yn y car unwaith neu ddwy, a dianc yn ddi-anaf; ond prin y carwn ei chymeradwyo i neb. Golygfa wych. Credaf mai gwell 0 lawer fydd cadw yn eich blaen, gadael Cwmafon ar y dde is-law, a chyrraedd cyn hir i Bort Talbot, ac yna i'r ffordd fawr o Gaerdydd i Abertawe. O'r fan yma ymlaen ni chewch ddim i'ch tram- gwyddo. Dringwch allan o Aberafan a chewch olygfa wych o'ch blaen, y gwastad- edd yn ymyl a Bae Abertawe a'r dref a'i chyffiniau ar y bryniau gyferbyn. Da hefyd fyddai oedi wrth Eglwys Baglan a throi i mewn i'w gweld. Oddi yno nid oes ond rhyw dair milltir neu bedair i Gastell Nedd, a dyma ail- gyfarfod â'r ffordd y cychwynasom ar hyd- ddi. Yna, os mynnwch, gellwch droi ar y chwith ymhen milltir arall a chyrraedd Tennant, a chewch ddigon i'ch diddori ar y ffordd honno, er gwaethaf y troi a'r trosi a'r rheilffyrdd yn croesi'r ffordd a'r lleoedd cul yma ac aow. Ac yna dyma chwi'n ôl yng nghanol mfri Abertawe.