Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR DAFYDD HUWS EBRILL. GWENER, 1: Gŵyl y ffyliaid. Fy mhen blwydd. SADWRN, 2 Galw heibio Mr. Dragout y dentist. Dodi rhywbeth gwyn yn fy ngheg. Gan mai Sais dwl ydyw, ffaelu deall ei fwriad. Llyncu'r cyfan. SUL, 3: Seion y bore. Stiwdant. Testun mawr fel arfer, a phregeth fach, lled felys, meddan' hw' i mi. LLUN, 4: Helpu Catrin i spring-clinio. Methu cael y papur i sefyll ar y mur. Bwydo'r moch hanner dydd a chanfod eu pennau yn sownd yn y cafn. Y forwyn wedi rhoddi'r pâst i'r moch, a blawd y moch ar y papur. MAWRTH 5: Gwerthu'r moch, a phrynu buwch. Dim profiad o odro. Holi gwr y Bull. Popeth yn syml. Dodi'r piser dan bwrs y fuwch a symud ei •chynffon ôl a blaen fel ag a wneir â handl pwmp. MERCHER, 6: Isaac yn gofyn am fenthyg lamp. Holi beth oedd ganddo mewn golwg. "I fyned i garu," meddai. Egluro iddo fod pethan wedi newid yn arw er yr amser pan oeddwn i yn caru. Neb yn yr hen amser yn meddwl am lamp, y nos- weithiau yn llawer mwy tywyll yr adeg honno. Mi'ch coelia i chwi," meddai. Gwelwch beth gawsoch chwi." Iau, 7: Cael hwyl dda ar odro'r fuwch. Hanner galwyn bob tro, a gwerthu galwyn. GwENER, 8: Cwynion fod y llefrith yn denau. Egluro bod y fuwch wedi bod allan trwy'r nos yn y glaw, ac iddi wlychu drwodd. SADWRN, 9: Derbyn llythyr oddi wrth yr ymwel- wyr fu yma yr haf diwethaf. Dweud y deuent eto ar yr amod nad oedd y moch yn cael tramwy o' gwmpas y ty. Anfon gair i ddweud na fu yma ddim inoch er yr amser y buont hwy yma. Rhoddi pob croeso iddynt. Telerau arferol. SnL, 10: Seion. Cwrdd gweddi. Cymryd rhan. Allan i de. Gwledd dywysogaidd. Gwraig y tŷ yn. pwyso arnaf i gymryd un deisen arall. Diolch iddi, ac egluro fy mod yn llawn. Gofyn imi roddi un neu ddwy yn fy mhoced. Dweud wrthi eu bod hwythau yn llawn hefyd. Llun, 11: Trafaeliwr elastic yn galw. Cwyno wrtho fod yr elastic yn frau iawn, ac yn trori wrth ei fesur. MAWRTH, 12: Allan yn y motor. Gŵr y dillad glas yn fy stopio. Gor-yrru," meddai. Bygwth endorsio fy nhrwydded. Amhosibl," atebais, 'Does gen i'r un." MERCHER, 13: Scriwmatics enbyd. Cyfaill yn fy annog i gysgu a'm traed tua'r dwyrain. Troi'r gwely rownd. Malu dau bictiwr yn gandryll, rhwygo'r oilcloth, torri'r ffenestr. Troed ôl y gwalch yn disgyn ar gorn Catrin, a dwrn Catrin yn disgyn yn sydyn ar gopa fy nhrwyn. Y forwyn yn ym- ddangos gan ofyn, Paham na fuasech wedi symud y gobennydd o'r naill ben i'r llall?" Iau, 14: Cardotyn yn galw. Dweud ei fod unwaith yn organydd. Holi sut y bu iddo golli ei swydd. "Y mwnci wedi marw," meddai. GWENER, 15: Cwsmer yn cwyno bod y coat-hanger yn boenus iawn i'w wisgo. SADWRN, 16: Plentyn yn gofyn am bwys o soda. Isaac yn dweud nad oedd gennym soda. Rhoi siars i Isaac, os byddwn heb rywbeth unrhyw amser, am iddo ddangos afal coch neu orange i'r plentyn. 'Wna hynny byth fethu. Cael ei geiniog sy'n bwysig. Sul, 17: Seion, bore a nawn. Sul dweud y cyf- rifon. Aros gartre yr hwyr. LLUN, 18: Cael Hythyr oddi wrth Huw o Affrica bell. Wedi colli ei eiddo i gyd, ac yn dlawd iawn. Erfyn arnaf anfon esgidiau ac arian iddo. Dewis pâr oedd yn rhy fychan i mi. SIOP NEWYDD, LLANARFON MAWRTH, 19: Swper Cymdeithas y Bobl Ieuanc. Cael tocyn yn anrheg. Clywed bod amryw ddarnau chwech a thair ceiniog yn y treiff!. Cael pump "helping," ond dim lwc. MERCHER, 20: Cyfarfod o drethdalwyr Llanarfon, er mwyn pwrcasu cadwyn i'r Maer. Cynnig ein bod yn gadael iddo rodio o gwmpas yn rhydd, gan fod yr oes yn fwy goleuedig. Iau, 21: Cychwyn am Lerpwl gyda'r trên. Cael lle cymfforddus dros ben, a "compartment i ni ein hunain. Gŵr dymunol a dwsinau o fotymau arian ar ei ddillad yn holi a oeddwn yn "first class." Dweud wrtho fy mod, ac ystyried fy oed. GWENER, 22: Lerpwl yn lle drud. Gofidio am na fuaswn wedi myned i Fanceinion. Buasai yn llawer rhatach, gan fod llawer o deulu Catrin yn Belle Vue. SADWRN, 23: Cael cinio a the yn Woolworths. Catrin yn flin am fy mod yn yfed te o'r soser. Egluro iddi fod y llwy yn myned i fy llygad wrth yfed o'r gwpan. Gofyn imi fwyta yn dawelach, ei bod yn methu clywed y band. Sul, 24: Troi yn ôl am Lanarfon. Canmol yr Eisteddfod wrth bawb yn y trên. Dweud wrthynt fod bron i mi gael y Gadair. Pan oeddat yn America maen' debyg," meddai un ohonynt. Methu dirnad ei feddwl. LLoN, 25: Dechrau dileu costau taith Lerpwl. Rhoi siars i Isaac ynglŷn â phwyso. Egluro diben y Bod Mawr yn rhoddi bawd i bob groser. MAWRTH, 26 Teimlo fy mod yn myned yn hen, a'r meddwl yn gymysglyd. Rhoi mis o notis i'r wraig. a phres y siop i'r forwyn. MERCHER 27, Catrin yn bobio'i gwallt. Golwg enbyd ami. Tebyg i ddraenog nerfus. Talu'n ôl iddi trwy dorri fy mwstas a'r locsyn coleg. Edifar- hau pan glywais fod y barbwr yn gofyn chwe- cheiniog am bob shave. Iau, 28: Yn y Betws. Cael shate ragorol, ond bron llewygu pan ofynnodd y barbwr am naw ceiniog. Sylwi bod tyllau llygod yn llawr y salŵn. Cynnig meddyginiaeth i'r llygod, am hanner coron. Pocedu'r cyfryw. Dyna'r feddyginiaeth," meddwn wrth y barbwr. Daliwch lygoden fawr. Dodwch hi yn y gadair, ei laddro a'i siafio, codi naw ceiniog arni, yna gollwng at ei theulu i ddwedyd yr hanes." Sicrhau iddo na ddeuai yr un lygoden yn agos yno wedyn. GWENER, 29: Prynu taclau siafio am bedwar swllt. Aredig fy wyneb yn arw. Rhagor o gostio. Chwech am sticking plaster, swllt am "iodine," a naw ceiniog am "bandages." Share ddrud ofnadwy, 6s 3c. SADWRN, 30: Y fuwch yn hesb. Mewn penbleth. Chwilio'r pentrefi am ddau fwch gafr, a byw mewn gobaith. Wyt ti,n Cofio ? WRTH weld y lloer yn bêl o swyn, Dros dwyn Llandidwg fry, Ac fel pe'n ceisio ymryddhau 0 gangau'r deri du, Daeth cof am Wyt ti'n cofio'r bardd. 0 ardd y dyddiau fu; Ac i gynhesu'r darlun oer, Yn gwmni i'r lloer a'r coed, Fe frysiodd rhywun heibio im Ac adain chwim i'w throed- Brysio yn bennoeth dros y rhiw, Yn driw i gadw'r oed. WIL IFAN. FOR SALE. Latin-Welsh and Welsh-Latin Dictionary, 1632. Well preserved. What offers? Write, Box No. 400, FORD GRON, Principality Press, Wrexham. 7s. 64. 0 WOBR. A welsoch chwi ys bryd ? Neu a gawsoch chwi unrhyw brofiad o'r goruwchnaturiol erioed? Rhoddir 7s. 6c. am y stori orau. a 2s. 6c. am bob stori arall a gyhoeddir. Dywedwch yr hanes yn fyr, fel yn y stori isod, a'i anfon i Olygydd Y FoRD GRoN, Swyddfa Hughes a'i Fab, Wrecsam, erbyn dydd Sadwrn, Mai 14. GWELD YSBRYD YN FFRAINC. PAN oeddwn yn filwr yn Ffrainc, fe ddodwyd nifer ohonom i letya mewn hen blasty barwnig (chateau) oedd wedi bod yn wâg am flynyddoedd lawer. Dywedai pobl yr ardal fod ysbryd yn y ty, ac i'w weld weithiau'n cerdded o ystafell i ystafell. Os gwela' i e," meddai Wil, fy nghyfaill, wrthyf, mi dania' i'r pistol yma arno." Yn hwyr y nos honno yr oeddwn yn eistedd ar ymyl bwrdd, yn edrych i fyny'r hen risiau mawrion, a Ẅil yn f'ymyl. Ar y landin ar ben y grisiau yr oedd dau filwr o'n cwmni yn cysgu. Yn sydyn mi welwn ddyn, mewn gwisg llyswr neu farchog o'r amser gynt, yn dyfod allan o ystafell ac yn croesi'r landin heibio i'r ddau gysgadur. Gwelodd Wil ef hefyd. a thanio ddwywaith, ond ymlaen yn urddas- ol ar draws y landin yr aeth y dyn," ac o'r golwg trwy ddrws arall. (Cafwyd ôl bwledi Wil yn union uwchben y ddau filwr oedd yn cysgu. Lwc na chodasant!) Drannoeth fe ddangoswyd inni hen lun. Llun yr ysbryd," heb os nac onibai. Dywedwyd wrthym mai llun gŵr a laddwyd yn y castell yn y dyddiau gynt vdoedd. J.P. A New Method You Can Use to Increase Your Income and Expand Your Sales A certain easy-to-apply method for increasing one's income or expanding safes of a business, described in this FREE booklet, shows you how to start a spare-time business that quick- ly brings a full-time income, or a Mail Order Dept. for your firm that will bring new custom and increased Send To-day profits. Few pounds capital only (or thisFftEE needed, no samples, no Outfits to Bcoklet to — buv; no rent, rates or canvassing. Business Service Institute, Dept. 739, 6 Carmelita St., E.C.4