Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth oedd Safonau Syr John Morris-Jones? Gan yr Athro J. VENDRYES, Prifysgol Paris "WELSH SYNTAX: an unfinished draft," by SIR JOHN Morris-Jones. Uni- versity of Wales Press Board, 7s. 6d.) Y MAE cyhoeddi'l' gwaith anorffenedig hwn ar ôl marw yr awdur yn gwneud inni deimlo yn fwy y golled fawr a gafwyd gan efrydwyr Celtaidd ar ôl Syr John MorrÌB-Jones. Nid oedd y Welsh Grammar, Historical and Comparative, a gyhoeddwyd ganddo yn 1913 yn cynnwys ond y rhan gyntaf, sef y Seineg a Threigl Geiriau. Bwriadwyd i ail ran ddilyn, sef y Gystrawen, a hysbys- wyd ei chyhoeddi sawl gwaith gan yr awdur, oedd yn gweithio ar y cynllun ers llawer blwyddyn. Ond pan fu farw ni chafwyd o hyd i'r gwaith y disgwylid mor daer am dano. Oddieithr rhyw ddwsin o dudalen- nau, yr unig draethawd ar gystrawen a adawodd Syr John ar ei ôl oedd llawysgrif 25 mlynedd oed, a honno yn delio yn unig â hanner ei phwnc. Disgybl diwyd. Cynllun oedd y llawysgrif hon, yn ddi- amau, a fu ym meddwl yr awdur cyn ysgrif- ennu'r Welsh Grammar ac a gadwyd o'r neilltu gyda'r bwriad o ddod yn ôl at y pwnc pan geffid mwy o hamdden. Barnodd y teulu'n iawn y byddai cyhoeddi'r gwaith, er ei anghyflawnder, o fudd i efrydwyr. Ymddiriedwyd y gorchwyl i'r Athro Ifor Williams a chyflawnwyd ef gyda holl barch disgybl oedd yn ffyddlon i gof ei feistr. Fe ystyriodd yr athro yn ofalus feddwl Syr John, a'i gyfyngu ei hun i drwsio yma a thraw er mwyn dileu ambell anghytgord amlwg. Y mae efrydwyr Celtaidd yn diolch iddo am ei ddiwydrwydd. Dim athrawiaeth. Fel yr ymddengys yn y teitl nid yw'r gwaith hwn ond braslun. Ni ddylid felly ddisgwyl am ymdriniaeth lawn ar bwnc cys- trawen Gymreig. Yn wir, ceir yn aml wrth ei ddarllen yr argraff o benodau heb na threfn na chynllun rhai meddyliau wedi eu datblygu yn llawer mwy nag eraill, a rhai ond prin wedi eu crybwyll. Achos hynny ydyw y ffordd y paratowyd y gwaith. Gyda golwg ar y cynllun eang oedd yn ei feddwl, fe gasglodd yr awdur lu o sylwadau a rhoddi ffurf iddynt dros dro. Nid yw crynhoi'r sylwadau hyn at ei gilydd, er holl gywreindeb Sir John wrth eu hysgrif- ennu, yn gwneuthur llyfr ar gystrawen. Eu diffyg yw eu bod heb eu cyfaddasu at un- rhyw athrawiaeth gyffredinol am y frawddeg (doctrinc générale de la phrase). Y peth lleiaf amlwg yn y braslun hwn ydyw damcaniaeth. Yr unig beth a geir, bron, ydvw sylwadau ar fanylion. Y m-.ie gan y Gymraeg gystrawen gyn- tetig. Dyma'i thair nodwedd -(i) lle geiriau mewn brawddeg; (ii) y treiglad dechreuol; (i'i) arfer geiriau cynorthwyol, yn arbennig yr arddodiad, prepoaition (a ddefnyddir o flaen berf-enw i gyfleu ystyr a gyfleir mewn ieithoedd eraill drwy ffurfiau personol y ferf). Wrth gwrs, fe ddangosir y tair nodwedd uchod yn y llyfr, ond mewn ffordd ofnus ac anuniongyrchol, wrth ymdrin â manylion a hyd yn oed â geiriau unigol. Rhaid dyfod at ddiwedd y gwaith cyn cael pennod ar y frawddeg.. Y bennod hon a ddylai fod yn flaenaf, yn crynhoi o'i ham- gylch yr egwyddorion a wasgerir ar hyd y llyfr. Bydd absenoldeb y llinyn cysylltiol liwnnw yn niweidiol i ddefnyddioldeb y llvfr. Ceir gormod o ffeithiau na ellir braidd eu cysylltu â chystrawen. Er enghraifft, y mae'r hyn a ddywedir ynghylch arfer rhai enwau neu adferfau rhagenwol yn ymwneud yn hytrach â geirfa'r iaith. Beth yw'r safon? Fe deimla'r darllenydd yn anesmwyth hefyd ynghylch bwriad yr awdur am y fath iaith ag a astudir yn y gwaith. Y mae cystrawen yr iaith Gymraeg yn newid ar hyd yr oesoedd. Ai disgrifio hanes datblygiad cystrawen felly a wna Syr John, ai ynteu arferiad yr iaith heddiw? Ac wrth ystyried hynny pa un ai arfer ysgrif- enwyr gorau rhyddiaith ai arfer prydydd- ion hynafol a gymerir yn safon? Ni cheir gair yn unman ar y mater, a saif yr argraff ar y meddwl fod yr awdur ei hun heb setlo'r broblem. Anghysondebau. Cymerir amryw o'r enghreifftiau o iaith y Beibl Cymraeg, ond ceir hefyd rai allan o ryddiaith y canol oesoedd, ac amryw o farddoniaeth hen. Yn awr y mae hen farddoniaeth yn dilyn rheolau mor neilltuol fel y gellir dweud ei bod yn iaith wahanol i iaith rhyddiaith. Ar wahân i'r eirfa. ceir y gwahaniaethau anilyciii yng nghystrawen y ddwy iaith. Bwriad Sir John, yn ddiamau, oedd cyfun- drefnu arfer orau yr iaith glasurol Gymraeg, ii wyddai ef ei hun mor dda ac a ysgrifen- nwyd mor feistrolgar ganddo. Digwyddodd iddo hefyd ddodi yn ei Jyfr sylwadau o nodwedd hanesyddol, yn cy.fwrdd hen farddoniaeth Gymraeg a hyd yn oed arfer y Wyddeleg a'r Llydaweg. Bu i hvnny greu anghysondebau sy'n niweidio undod y gwaith. Tra defnyddiol. Serch hynny, fe fyddai'n anweddus aros gyda diffygion llyfr nas cyhoeddwyd gan yr awdur ei hun ac nas gadawyd ganddo mewn ffurf derfynol. Er ei ddiffygion, bydd y Welsh Syntax yn llyfr tra defnyddiol. Rhaid ei brisio am ei werth priodol fel casgliad o sylwadau craff a threiddgar, o reol lu yn tarddu o wybodaeth gyfarwydd o'r iaith, o cnghreifftiau a ddewiswyd vn ofalus ac a ddosbarthwyd yn gywir. Bydd y llyfr o fudd i bob hanesydd Cymreig yn ogystal ag i sgrifenwyr yr iaith honno. Oes Aur y Gymraeg Gan J. D. POWELL Y CYWYDDWYR. Llyfrau'r Ford Oron, Rhif 12. Pris 6d. Cywyddau, twf cywiwddoeth, Cofl hardd, amdwf cathlfardd coeth; Ni bu ag hwynt, pwynt apel, Un organ mor annirgel. OES aur y cywydd, fel y dywaid y golygydd yn ei ragair i'r llyfr hwn, oedd cyfnod 1400-1600, a'r iaith Gym- raeg yn llawnach a mwy goludog o lawer y pryd hwnnw nag ydyw heddiw. Nid oes yr un ddadl ei bod yn haws i Sais ddarllen Shakespeare neu Spenser nag ydyw i Gymro ddarllen cywyddau a ysgrifennwyd yr un pryd. Newidiodd ffurfiau a dulliau. a chollwyd llawer o eiriau. Ond collwyd mwy na hynny, collwyd y traddodiad, y gwareiddiad y perthyn y cywyddau iddo, a bu Cymro'n dlawd o'i eisiau. Dyma, i mi un o'r pethau pwysicaf yng ngwaith beirdd fel Mr. T. Gwynn Jones a Mr. Williams Parry; yn eu gwaith hwy etifeddwn eto y traddodiad a'r gwareiddiad hwnnw. Ond wele gyfle, i'r neb a fyn gymryd mantais ohono, i ddarllen a mwynhau rhai o gywyddau gorau Cymru, a'r ffordd wedi'i chlirio'n dyner iawn gan yr eirfa ar y diwedd. Y mae'r casgliad yn un hynod o dda, yn dangos yn glir iawn beth a fedr y cywydd yn ei wahanol foddau. Yma gwelir un gwr bonheddig o fardd yn talu clod i arall; yma clywn y bardd yn canu'n iach i'r un a garodd ar y naill law, ac i'r byd a'i holl wagedd ar y llaw arall; yma clywn Lewis Glyn Cothi yn rhuo at Saeson Fflint un funud, ac yn torri ei galon ar ôl colli ei fab bach pum mlwydd oed, funud arall; wele yma Lywelyn Goch yn dangos sut y dylid ysgrifennu marwnad; yma hefyd-a diolch i chwi, Mr. Golygydd am hyn — wele'r anghymarol Tudur Aled, fy nghariad cyntaf ymhlith y cywyddwyr, yn ysgrifennu fel gŵr bonheddig o ddysg a dawn, wedi meistroli uwchlaw pob holi y grefft o farddoni ac yn ei throi i gyrraedd ei feddyliau am fyd a bywyd, un funud yn disgrifio march mor fyw nes bo'r dwfr oer yn rhedeg i lawr y cefn,- be, dywedwch, a wnaeth Masefield yn well na hwn?—dro arall yn gwylio cwrs y byd ac yn symio'r cwbl i fyny mewn hanner dwsin o eiriau, dro arall yn gwawdio'r holl farwnadau am ferched a ysgrifennai pob rhyw dipyn bach o fardd o'i gwmpas. Gwawdio, meddais? Ie efallai Ac eto beth am Mae'r adar, ai meirw ydynt? Mae Gwen, a fu yma, gynt? Os marw bun. oes mwy o'r byd? Mae'r haf wedi marw hefyd. Y delyneg a'r cywydd wedi cyfarfod. Mi obeithiaf y bydd llawer o ddarllen y llyfryn hwn ymhlith y beirdd yn ogystal â'r werin.' Y peth a'm tarawodd i fwyaf wrth ddarllen barddoniaeth Cymru yn y pum mlynedd diwethaf yw bod llawer iawn o eisiau disgyblu arni. Hwn, am a wn i, yw gwendid mwyaf Pryddest y Goron am 1930 a 1931. Canu'n rhy hawdd, a rhy rydd n rhy denau. Ni wn i am well disgyblaeth ni darllen ac astudio'r cywyddau hyn.