Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymru, XIII. BEIRDD CANRIF FAWR Gan mlynedd i eleni y ganed Ceiriog ac Islwyn. Yma fe drinir gwaith y ddau, a gwaith prifeirdd eraill y ganrìf NID anodd yw rhannu a dosbarthu mud- iadau llenyddol y ddeunawfed ganrif. fel y gwelwyd yn yr ysgrifau o'r blaen, ond pan ddown at y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae'r rhaniadau clir yn diflannu, a rhaid i'r myfyriwr drwy fawr drafferth geisio darllen Ilawer o waith di-awen i geisio cael darlun neu syniad am symudiadau llenyddol y blynydd- oedd hyn, ac wedi'r holl ddarllen rhyw lun niwlog a bratiog a gaiff. Wedi darllen gwaith prif feirdd y ddeunaw- fed ganrif, medr gwr ddychmygu beth oedd bywyd y ganrif honno, beth oedd moddau meddwl ei gwyr a'i gwragedd, ond wedi darllen beirdd y 19 ganrif ni ellir teimlo ein bod yn cyffwrdd yn agos â meddwl ac ysbryd ei beirdd. Er hynriy i gyd, er yr holl ddilorni a fu ar y ganrif ddiwethaf, efallai mai hi oedd canrif fawr Cymrti wedi'r cwbl. Yr oedd ei mawredd nid yng ngwaith ei beirdd ond ym mywyd ei phobl dechreuodd mewn tlodi a-chyni na ellir ond ei ddychmygu trwy ddarllen cofiannau megis Ap Vychan, gwelodd frwydro llym a chaled am hawliau gwlad ac eglwys. Ond er ei holl helyntion a'i buddugoliaethau ni cheir ond ychydig wybodaeth am y pethau hyn yng ngherddi ei beirdd; canent hwy ar bynciau athronyddol neu academig fel pe na bai ganddynt gysylltiad â bywyd pob dydd y wlad; ao eto meibion y werin oeddent oll, yn gwybod am ei thrafferthion a'i thlodi a'i brwydrau. Y mae fel petaent wedi dianc oddi wrth ffeithiau i fyd dychymyg (er mai dychymyg llwyd oedd) a chau eu llygaid rhag gweled dim o'u hamgylch. Ac am hynny anaml iawn (ac ystyried rhif y cyfansoddiadau barddonol ar gael) y cawn ddim sydd yn byw ac yn haeddu cael ei alw yn farddoniaeth dda. IEUAN GLAN GEIRIONYDD. GELLIR rhannu beirdd y ganrif ddi- wethaf, fel mater o gyfleustra, yn dri dosbarth (a) Beirdd a anwyd yn y ddeunawfed ganrif ac i raddau a berthynent i'w thraddodiad; (b) Beirdd Eisteddfodol; (c) Beirdd telynegol diwedd y ganrif ond rhaid cofio bod perthynas beirdd pob dosbarth â'r eisteddfod yn gryf; yr oedd hi' yn rhyw fath o ganolfan iddynt oil, a'i chysgod arnynt, yn rhy aml er drwg. 0 feirdd dechrau'r ganrif y pwysicaf ar lawer cyfrif oedd Teuan Glan Geirionydd a aned yn 1795 yn Nhrefriw. ac a fu farw yn 1855 yn gurad ýn Rhyl. Emynau dwys. Ef yw awdur Cyflafan Morfa Rhudd- lan a nifer o emynau dwys megis Enaid cu, mae dyfroedd oerion," Ar fôr tym- hestlog teithio'r wyf," Ar lan Iorddonen ddofn," At un a wrendy weddi'r gwan." Y mae'r gweithiau hyn i gyd yn rhoi darlun inni o ŵr yri meddwl a myfyrio'n ddwfn ar faterion a ysgogodd lawer o feirdd eraill­ marwolaeth, colli cyfeilliotl, tawelwch ,y bedd a thragwyddol orffwysfa'r saint. Mae ei ddewis o eiriau yn yr emynau hyn yn' gatholig a choeth, weithiau defnyddia hen air gydag effaith, ac fe ŵyr werth an- Ceiriog yn ei ardd yn Llanidloes yn 1867. soddair da neu gyffyrddiad o gynghanedd. Tôn yr holl emynau yw tawelwch a disgwyl- iad. Mae'r bardd yn derbyn y ffawd a ddaw iddo heb rwgnach, agwedd a eilw Mr. Saunders Lewis yn Stoiciaeth. Nodau barddoniaeth. Heblaw ei fod yn fardd o bwys yn hanes llenyddiaeth Gymraeg y mae Ieuan Glan Geirionydd yn feirniad da, a diddorol a phwysig yn hanes beirniadaeth Gymreig yw ei draethawd ar Awenyddion Gwent a Dyfed" lle trinia â phwrpas barddoniaeth, a dyry inni yr hyn a eilw yn dri nôd bardd- oniaeth, (a) Dylai gyffwrdd â'r teimladau» (b) Rhaid iddi fod yn gywir a rheolaidd yn ei darluniadau; (c) Rhaid i'r iaith fod yn ddichlyn yn briodol a dethol. Y mae ardderchowgrwydd a rhagoriaeth barddoniaeth yn fynych yn ymddibynnu mwy ar y modd yr adroddir y meddylddrych nag ar odidowgrwydd y meddylrych ynddo ei hunan, "-damcaniaeth y buasai'n dda pe pregethasai hi yn uwch wrth ei gyd-oeswyr. Nid oes yma le i sôn am ei draethodau ar Wladgarwch a Chymreigio Saesneg ond dangosant feddwl craff a gallu i ymres- ymu'n athronyddol a gofalus. ALUN. Perthyn Alun (1797-1840) i'r un cyfnod ac y mae tebygrwydd mawr rhyngddo ac Ieuan Glan Geirionydd. Yr oedd yntau yn offeiriad, canai yn y mesurau caeth a rhydd, traddodiad y ddeunawied ganrif oedd ei dra- ddodiad, ond yr oedd arno yntau dipyn o Gan EDWARD FRANCIS. ddylanwad yr eisteddfod. Ei waith enwocaf yw "Marwnad Heber," gyda'i phennill cyn- taf a fu'n batrwm i nifer o feirdd Cymreig. Lie treigla'r Caveri yn donnau tryloewon Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin, Lle tyfa perlysiau yn IIwyni teleidion, Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwîn. ­}llinellau darluniol. bywiog, a phetai'r bardd wedi canu'r holl farwnad ar y lefel hon buasai'r gerdd ymhlith rhai gorau'r ganrif. Llawen a syml. Ond y mae cerddi byr y bardd yn well na'i rai hir; yr oedd y ddawn delynegol yn gryf ganddo fel y dengys Cân Gwraig y Pysgotwr," Gorffwys don, dylifa'n llonydd, Paid â digio wrth y creigydd, Y mae anian yn noswylio Pam y byddi di yn effro? Dwndwr daear sydd yn darfod Cysga dithau ar dy dywod. neu ei gerdd fechan i'r Eos-" Cathl i'r Eos fel y galwodd hi: Pan guddio nos ein daear gu O dan ei du adenydd Y clywir dy delori mwyn A chor y llwyn yn llonydd, Ac os bydd pigyn dan dy fron Yn peri i'th galon guro, Ni wnei, nes torro'r wawrddydd hael Ond canu a gadael iddo. Y mae pob un o gerddi Alun yn dangos yr un ysgafnder a gallu i sgrifennu'n llawen a syml. ac efe yw'r telynegwr gorau yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bu raid aros am Ceiriog i gael un cystal ag ef. EBEN FARDD. Perthyn Eben Fardd i draddodiad ychydig yn wahanol i Ieuan Glan Geirionydd ac Alun. Yn wahanol iddynt hwy nid oedd yn ŵr eglwysig, ac nid oedd dylanwad y ddeu- nawfed ganrif mor gryf arno; er hynny, y ganrif honno oedd ei gartref ysbrydol wedi'r cwbl. Ganed ef ym mhlwyf Llangybi. Eifion- ydd, yn 1802, ardal lIe yr oedd llawer o feirdd yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ar bymtheg, megis Owen Gruffudd, Llanystumdwy, Dewi Wyn o Arfon, Robert ap Gwilym Ddu a Nicander. Yno y bu fyw drwy ei oes, yn cadw ysgol yng Nghlynnog am nifer o flynyddoedd ac yn cadw siop yn y pentref ar yr un pryd. Dinistr Jerusalem. Y dyddiad pwysig yn ei hanes fel bardd oedd 1824 pan enillodd gadair Eisteddfod Powys am awdl ar "Ddinistr Jerusalem"- awdl sydd hyd heddiw yn dal i afael yn nychymyg y darllennydd, peth na ellir ei ddweud am fwyafrif awdláu'r cyfnod. [Trosodd.