Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O dipyn i beth daeth yn enwog fel beirniad ac âi o gwmpas i'r gwahanol eis- teddfodau i arfer ei ddawn. Ond bywyd tawel oedd bywyd Eben Fardd, fel y dywed yn ei ddyddiadur-yr ysgol, y siop a rhwymo llyfrau oedd ei brif ddiddordebau, a gallwn ddarlunio'i fywyd yng Nghlynnog yng nghanol y wlad, yn myned weithiau i dref Caernarfon pan fyddai galw am ryw farchnata arbennig. Gwaith galluog. Ond os tawel oedd ei fywyd allanol mae lle i gredu nad felly oedd ei fywyd meddyl- iol ac ysbrydol yr oedd y Diwygiad Methodistaidd yn ei gynhyrfu yntau fel llawer eraill o'i oes, a chwestiynau cym- deithasol y diwygiad hwnnw yn rhoddi llawer o bryder iddo. Heblaw awdl 'Dinistr Jerusalem' canodd awdlau ar Job, ar Faes Bosworth, ar y Flwyddyn, ac yn 1841 cyhoeddodd gasgliad o'i ganiadau. Y mae ei holl waith yn y mesurau caeth yn alluog, yn ddisgrifiadol heb fod yn rheithegol, yr oedd yn ddigon agos i oes fawr Morrisiaid Môn a'u cyd- oeswyr i allu canu'n gain a threfnus ar yr un pryd. (Gweler Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 14). Afaon. Heblaw ei waith yn y mesurau caeth canodd nifer o ddarnau yn y mesurau rhydd, yn eu plith bryddest ar Afaon neu Y Bardd Ieuanc." Brithir y bryddest gydag englyn neu ddau yma ac acw, ac y mae ymhlith un o weithiau mwyaf diddorol y cyfnod. Y mae'r dull yn ddramatig ond heb yr ergyd honno a'i gwnai yn waith mawr. 0 ran ysbryd gellir ei gymharu â pheth o waith beirdd rhamantus y cyfnod yn Lloegr. Pa un ai eu dylanwad hwy oedd y gerdd hon ni wn, ond y mae un gerdd yn y darn a haedda'i chofio am ryw dristwch a theimlad tuagat y gorffennol sydd ynddi, sef Cân Olwen i Afaon "l Afaon bach, mor fwyn y bu Dy wen a'th garu gynt, Ond diffodd wnaeth fel cannwyll frwyn Y gwanwyn yn y gwynt. Ti a anghofiaist fam a thad I'w cael yn gariad gynt, Ond chwythwyd pob adduned dda Fel manus gyda'r gwynt. Meddyliais innau'n ddigon gwir Dy fod yn gywir gynt, Ond beth yn ddrych o'th serch a gawn? Edafedd gwawn mewn gwynt. Mi gredaf bellach er fy lles Hen gyngor ges i gynt, Na rown ar fab a'i haeriad moel Ddim mwy o goel na'r gwynt. Y mae cymeriad a bywyd Eben Fardd a diddordeb arbennig iddo anodd gwybod beth oedd yn ei symbylu. Weithiau teimlir ei fod yn ŵr a gafodd siomiant mawr mewn bywyd. Ni ellir peidio â thybio bod ganddo lawer o gwestiynau crefyddol a'i poenai. Cawn ddarlun, yn gywir neu anghywir, o M- gofidus yn tueddu at felancoli ond yn cael ar adegau lawenydd a sicrwydd profiad oedd yn sail i'w farddoniaeth. Bu farw yn 1863, a chydag ef daeth dylanwad clasurol y ddeu- nawfed ganrif i ben i bob pwrpas. Ef oedd y ffigur olaf cyn cyfnod y diluw eisteddfodol pan oedd pob gŵr yn fardd ond heb awen, yn llenor heb wybod beth oedd llenyddiaeth. CEIRIOG. Bardd telynegol hollol yw Ceiriog, yn der- byn bywyd fel yr oedd, heb y grym angen- rheidiol i ymladd yn erbyn yr hyn na hoffai nac i fod yn arweinydd y mudiadau yr oedd yn byw yn eu plith. Nid oes yma ofod i sylwi ar ei dŵf barddonol nac ar effaith yr oes ar ei waith. Yma nid oes ond sylwi ar natur bardd- oniaeth Ceiriog. Ei brif ddawn oedd dawn canu, y gallu i roddi geiriau ynghyd yn gel- fydd a llithrig, ysgafnder soniarus fel y galwodd ef ei hun y peth. Ac ar ôl trymder dilewych gwaith ei gyfoeswyr, nid dawn fechan oedd hon-y mae fel fflach o heulwen gynnes ar ddiwedd dydd cymylog a du. Bywyd gwlad. Ei ganu am fywyd gwlad, am natur, yw ei waith gorau, ac yno y mae ei atgof am y bywyd hwnnw a'i hiraeth am dano yn rhoi Eisteddfod y Dylluan BU'R Dylluan yn ctsgu'n hir у mis F) hwn, a Thaid gadael hyd y mía nesaf ei feirniadaeth ar y ddadl rhwng y Ddraig Goch a'r Union Jack ar Gastell Caernarfon. Ond cafwyd gair i ddweud mai "John Jones o Gymru" ydyw'r buddugol. Anfoned ei enw iawn. tân ac ysbryd i'w gerddi. Yn Alun Mabon, er enghraifft, ceir rhai o'r darluniau gwychaf yn llên Cymru er mor fychan ydynt y maent yn berffaith: Ni wn i fawr am fyw Mewn rhwysg a gwychder byd Ond diolch, gwn beth yw Gogoniant bwthyn clyd, Ac eistedd hanner awr Tan goeden ger fy nôr Pan â yr haul i lawr Mewn cwmwl tân i'r môr. neu 'r llinellau hyn: Pan rydd yr Ionawr oer Ei gaenen ar yr ardd Y coed a drônt yn wyn Tan flodau barrug hardd; Daw bargod dan y tô Fel rhes o berlau pur, A'r eiddew ddengys liw Yr eiddew ar y mur. Dwy delyneg berffaith. Yn yr un gerdd, Alun Mabon," cawn hefyd ddwy delyneg berffeithiaf Ceiriog, llinellau heb wall ymadrodd na theimlad- peth anodd iawn i'w gael yn y rhan fwyaf o'i waith, ac ar gyfrif y caneuon hyn yn unig y mae'n haeddu ei le ymhlith beirdd rnawr Cymru. Y ddwy gerdd yw Y Gwcw" ac Aros mae'r mynyddau mawr;" y gyntaf yn llawen ac ysgafn, yr ail yn gadarn a llawn, Aros mae'r mynyddau mawr, Rhuo trostynt mae. y gwynt, Clywir eto gyda'r wawr Gân bugeiliaid megis cynt; Eto tŷf y llygad dydd 0 gylch traed y graig a'r bryn, Ond bugeiliaid newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn. Ar sail ychydig o linellau fel yna y mae hawl Ceiriog fel bardd yn dibynnu- cyhoeddodd nifer fawr o farddoniaeth, llawer ohono yn boblogaidd a derbyniol iawn yn ei ddydd, ond gan y gellir dweud am lawer ohono mai i'w genhedlaeth ei hun yr ysgrif- ennwyd ef ni ellir cwyno nad yw'n dal yn ei ddiddordeb i genhedlaeth arall. Ond oher- wydd yr ychydig a ganodd o ddyfnder ei brofiad personol ei hun mae Ceiriog yn sicr o'i le ymhlith beirdd y ganrif a sgrifennodd linellau y gellir dal i'w darllen er pleser. ISLWYN. Bardd gwahanol iawn yw Islwyn (1832 — 78). Ni chawn ganddo allu telynegol Ceiriog, ond yn ei Ie cawn feddwl ac athronyddiaeth gŵr yn ceisio darganfod ystyr bywyd. Yr oedd problem swydd y bardd a phwrpas bywyd bron yn un i Islwyn, a cheisio ateb y ddau gwestiwn hyn a ofyn- nodd iddo'i hun y mae trwy y rhan fwyaf o'i waith. Efe yn unig yn y 19 ganrif a ddengys duedd athronyddol, ac fe ellir yn hawdd weled arno nodau'r cyfrinwr, a'i gymharu o ran ysbryd â Morgan Llwyd neu Williams Pantycelyn, ond fod dull Islwyn o dreiddio i'r dirgelwch yn wahanol iddynt hwy. Y nos a'r ystorm. Yn natur yr oedd yr agoriad iddo ef, effeithiai'r nos a'r ystorm ar ei enaid i roddi iddo'r weledigaeth gyfriniol honno a ddaw i lawer trwy grefydd, ac yma ac acw gwelwn ef yn teimlo'n sicr fod ei berthynas ef â natur yn agos ac yn ddigonol. Yn Islwyn, yn fwy na neb arall yn Gym- raeg, teimlir rhyw dristwch llethol-y mae undonrwydd natur wedi myned yn wasgfa, y mae bob amser yn chwilio am ryw baradwys ac yn cael cip arni, ac yna dif- lanna drachefn; fel y dywed am y blodeuyn Yn dy law Fel dôr blygiedig egyr ef i ti, A'i enaid rodia i ryw wynfa fu Fynediad athrist drwyddo; o'r tu cefn Chwyrn ddadfachluda amser, a chwyd y byd drachefn. Dro arall cawn ef yn disgrifio rhyw stâd o dawelwch pur ymhell o'r byd hwn ac yn deisyf gadael y cnawd yn hollol, Lle mae'r enaid weithiau'n cael ei hun Yn ddiarwybod iddo ac yn wylo, Ei fod o fewn atyniad marwol fyd A baich o ddefnydd fel condem.niad trwm Yn hongian wrth ei ysbryd. Fel y gwelir oddi wrth y dyfyniadau uchod nid yw Islwyn yn rhannog yn nawn delyn- egol Ceiriog, a'r argraff a ddyry yw na allai byth ennill llawn feistrolaeth ar ei weledig- aethau ei hun; ni ddaethant erioed yn ddigon clir iddo'u troi yn farddoniaeth wir fawr. Er hynny yr oedd dylanwad ei waith athronyddol yn fawr ar ddiwedd y ganrif ac y mae rhai darnau yn cynnwys llinellau a syniadau sydd yn marcio Islwyn fel gŵr o ddychymyg a gallu barddonol. Diwedd y ganrif. Gyda'r beirdd hyn daeth diwedd y ganrif yn raddol, ac yn lle gwaith trwm yr awdlau a'r pryddestau eisteddfodol cawn ddechrau canu telynegol a chanu rhydd. Ond bu raid aros hyd ddechrau'r ugeinfed ganrif cyn cael ysgwyd yn rhydd oddi wrth draddod- iad trwm a llethol yr eisteddfod a'r canu rheithegol, ac yn anffodus nid yw Cymru eto wedi llwyr gredu nad oes rhin mewn canu trystiog, diystyr.