Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENADURIAETH LERPWL EISIAU ADEILAD. Gan W. EILIAN ROBERTS. OHYN ymlaen, tennis a chriced a theithiau pnawn Sadwrn fydd hanes Cymry ieu- ainc glannau Merswy, a thu 61 i'r llen fe baratoir at waith y gaeaf nesaf. Prif atyniad y dref yn ystod y mis oedd Eisteddfod Lewis's, a deallaf i'r fenter dynnu lluoedd o Ogledd Cymru, a bod y safon yn bur uchel. Eleni trefnwyd Cymanfa Ganu'r M.C. ar nos Sadwrn, yn lle nos Lun fel y bu ers llawer blwyddyn bellach. Deallaf i'r newid ddod â chynulleidfa luosocach, ac i'r gymanfa fod yn llwydd- iannus ym mhob ystyr. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu'r Wesle- aid yng nghapel Mynydd Seion. Adeilad i'r Henaduriaeth. Diddorwyd y cylch, yn arbennig aelodau o eglwysi'r M.C., pan ddeall- wyd fod y Cyfarfod Misol yn bwriadu cael adeilad iddo'i hun yn Edmond-st., yn yr ardal sydd hyd heddiw yn cael ei galw'n Welsh Town." Mae peth gwrthwynebiad yn bod oherwydd agosrwydd cenhadaeth perthynol i'r un enwad. Bu'r rhan honno o'r dre flynyddoedd yn ôl yn gyrchfan y Cymro a ddaeth i Lerpwl am waith, ac yno hefyd y cafwyd mam eglwys y M.C. yn y ddinas, sef hen gapel Pall Mall. Y LlyfrgeUydd. Dylaswn fod wedi uodi y mis diwethaf fod Mr. W. Ll. Davies, o'r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, hefyd yn un o wahoddedigion cinio Gŵyl Ddewi'r Gymdeithas Genedlaethol, ac iddo, yn ei araith, ddatgan ei werthfawrogiad o'r Ford Gros. GWYL DDEWI YM MHATAGONIA. /^YNHALIODD adrannau Urdd Gobaith Cymru eu Gwyl Ddewi eleni yng nghapel Seion, Bryn Gwyn, pryd y daeth aelodau adrannau Seion, Bryn Gwyn; Bryn Gwyn Uchaf; adran Treorci; adran Bryn Crwn ac adran Pont yr Hendre ynghyd. Ffurfiwyd dwy orymdaith dan ar- weiniad y Br. William O. Evans a'r Br. William Williams (Prysor), a'r ddwy yn cyd-gyfarfod ym mynedfa'r capel, lle'r oedd cynulleidfa dda wedi ymgynnull ynghyd i roddi cefnogaeth a hefyd i gael gwledd lenyddol a cherdd- orol o safon pur uchel gan blant y gwa- hanol adrannau. Yr oedd yr olygfa yn wir fawreddog, a'r plant wedi eu gwisgo yng ngwisg yr Urdd, a'r newydd-deb yn ennill sylw ac edmygedd pawb. CYMRY OLDHAM. CYNHALIWYD cyfarfod olaf Cymdeithas Cymry Oldham, yn ôl rhaglen y tymor, nos Wener, Ebrill 1, pryd y cafwyd darlith gan Mr. J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython, ar Y Cymro, trwy lygad estron." Yr oedd yn noson eithriadol o aeafol. a'r cynhulliad, yn anffodus, yn gym- harol fychan. Mr. T. W. Reea oedd yn y gadair, a chafwyd noson ddifyr dros ben. Diolchwyd gan Mr. J. T. Hesketh a Mr. Wyn Hughes. SIR ARALL I GYMRU Newyddion Llundain, gan LLUDD. Y ViAE tymor arall yn dirwyn i'w derfyn. Bu cyfarfod terfyn Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol yng nghapel y Wesleaid, City-road, Ebrill 7. Yr oedd pawb yn llawn disgwyliad canys yn ystod y cyfarfod yr oedd y Llywydd, Syr Percy Watkins, i dra- ddodi ei anerchiad, a hysbysid hefyd bod y feimiadaeth i'w thraddodi ar gys- tadleuaeth y ddrama. Rhoddodd Syr Percy ffrwyth ei brofiad o'i ymweliadau â'r gwahanol gymdeithasau, a thalodd deyrnged uchel i'w gwaith. Halen y ddaear. Ei ddarganfyddiad cyntaf, meddai, oedd bod gennym amryw o Gymry yn Llundain sydd, i'w dyb ef, yn halen y ddaear-dynion a merched sydd ynglŷn â phob mudiad cyffredinol ac yr un mor selog i'w cymdeithasau lleol. Rhoddant eu gorau mewn meddwl a gwasanaeth i achos y genedl, ac nid Cyniry Llun- dain yn unig sydd yn eu dyled, eithr pob Cymro a Chymraes ym mhob rhan o Gymru. Sir. Gallem ni yu Llundain, pe baem yn gyfangorff effeithiol," meddai, gynnig i Gymru rywbeth a fyddai'n gyfwerth â sir ychwanegol." Byddai'n sir bwysig iawn, mewn ystyr ddiwylliadol a chymdeithasol, ac yn yr ystyr yma gallai ddyfod, efallai, y sir bwysicaf o'r cwbl. canys y mae'n cerdded yuddi gynrychiolaeth mor dawn o bob rhan o Gymru, — cyflawnach cryn- hoad o Gymru na dim y gellid ei ddis- gwyl mewn un sir yng Nghymru. Fe ddylid ffurfio corff unedig a fyddai'n cynrychioli'n gywir yr holl gymdeithasau presennol: corff a gyd- drefnai egnion yr holl adrannau. ych- wanegu at eu defnyddioldeb, a rhoddi iddynt symbyliad a chyfarwyddyd. Gallai'r cyngor hwn grynhoi a rhoddi mynegiant clir i lais holl Gymry Llundain fe ymdaflai'n hollol i waith cyson a defnyddiol er mwyn hyrwyddo buddiannau neilltuol y Cymcy sy'n preswylio yn Llundain, diddordeb arbennig Cymry Llundain ym mywyd Cymru, a buddiannau Cymru ymhlith Cymry Llundain." Talentau. Darganfyddiad arall a wnaeth y llywydd ar ei bererindodau ydoedd y safon eithriadol o uchel a geir ymysg talentau'r gwahanol Gymdeithasau. Awgrymai gynorthwyo'r talentau hyn drwy sefydlu llyfrgelloedd Cymraeg yngíŷn â phob Cymdeithas, a cheisio'r llyfrau diweddaraf a ddaw o wasg Cymru, a'r cylchgronau ardderchog a gyhoeddir. Nid oedd yr anerchiad yn ganmol i gyd. Dywedodd Syr Percy y gallai rhannau go helaeth o waith y Cymdeith- asau fod o gymaint gwerth i gymdeith- asau yn Swydd Efrog ag i gymdeithasau Cymraeg, a bod diffyg cyfeiriad cyson ynglýn â dewis pynciau addas i'w trafod gan gymdeithasau o Gymru. Yr iaith. Nid mater iaith ydoedd hyn. Gwell fyddai ganddo ef glywed araith Saesneg ar Owain Glyn Dŵr na chlywed araith Gymraeg ar Siarl Ail. Bydded i'n Cymdeithasau ni ddarparu rhywbeth ar gyfer eu haelodau na chai mohono mewn un lle arall yn Llundain, rhywbeth a chysylltiad agos rhyngddo â bywyd Cymru, â Hen Cymru, â hanes Cymru, â mudiadau Cymru ac â sefydliadau Cymraeg. Wrth gwrs, po fwyaf o'r iaith Gym- raeg a gawn, gorau'n y byd fydd hynny, Derbyniwyd sylwadau Syr Percy gyda chyineradwyaeth mawr. Y ddrama. Atyniad arall y cyfarfod terfyn ydoedd beirniadaethau Gwynfor. Enillwyd y wobr am gyfansoddi drama un act gan Ap Robert Griffith, Clapham Junction, brodor o Ddinbych, a'i dad, os cofiwn yn dda, ar un adeg yn olygydd Y Faner. Cystadleuodd saith cwmni ar berfformio drama fer, sef Dewi Sant, Shirlaîid Road, Clapham Junction, Ealing Green, Falmouth Road, Barrett's Grove a Hammersmith. Dyfarnwyd y Darian (rhodd Syr William Price) i gwmni Cymdeithas Eglwys Dewi Sant; a chwmni Cym- deithas Eglwys Falmouth Road yn aíl. Yn ystod y cyfarfod datganwyd yn swynol gan Miss Gwladys Williams o'r Bala, a Mr. Edern Jones o Leyn. Cyf- eilid iddynt gan Mr. Mansel Thomas, organydd Shirland Road. Llawlyfr y Parch. W. J. Jones. Rhwng ei eglurhad personol yn ei Lawlyfr ar Lyfr yr Actau (cyhoeddedig gan Foyle's Welsh Depot) a llythyr y Prifathro Howel Harris Hughes a'r Parch. D. Francis Roberts yn y newyddiadur enwadol, anodd ydyw gwybod beth i'w ddywedyd ynghylch yr anghydfod rhwng y Parch. W. J. Jones, Clapham .Tunction a Phwyllgor Llyfrau y Methodistiaid. Gail fod dwy farn ynglyn â'r llawlyfr. Argymhellir ei arfer gan y dosbarth- iadau dan 16 oed yn ysgolion Llundain, ond o'r braidd y mae'n bwrpasol at hyn, a theimlwn mai llawlyfr i athro ydyw yn hytrach na gwersi i'r dosbarthiadau. Y mae'n newydd ei ddull ac yn gyfor- iog o awgrymiadau gwerthfawr ac, o ddewis rhwng y llyfrynnau ystrydebol a gyhoeddir ar gyfer ieuenctid a'r llaw- lyfr hwn, gwell gennym ni fentro ar lyfryn Mr. Jones, yn enwedig gan ei fod yn dwyn y wers i gysylltiad byw â bywyd y dyddiau hyn a'i anawsterau. Gwelais lythyr oddi wrth y Parch. Peter Hughes Griffiths yn gofidio am y teithio mawr a wna rhai aelodau heibio i eglwysi llai er mwyn myned i'r eglwysi mwyaf, ac amlwg ydyw y carai ef weled pob aelod yn mynychu'r eglwys agosaf ato. PWY DDAW'N FUGAIL I FANCEINION? Gan HENRY ARTHUR JONES. Ç* YDA gofid cyffredinol y ffar- weliwyd â'r Parch. Thomas Jones, gweinidog Presbyteriaid Cymreig Pendleton ac Altrincham, pan ymadawodd ddiwedd y mis diwethaf, i fugeilio eglwys Llanbadarn, ger Aber- ystwyth. Bu yn y ddinas am dair blynedd a hanner. Treiddiodd yn ddwfn i serch y bobl, a gwnaeth le anrhydeddus iddo'i hun feî arweinydd yr Henadur- iaeth, ac mewn cylchoedd anenwadol. Anffawd fawr i'r enwad hwn yn y «ylch ydyw colli gwasanaeth dau wein- idog mor rhagorol ag ef a'r Parch. J. H. Lloyd Williams, o fewn deunaw mis. Golyga ymadawiad Mr. Jones na fydd gan y Methodistiaid ond un gweinidog yn aros, sef y Parch. W. J. Jones, Hey- wood Street, ac ato ef y bydd raid i bob Calfin claf o gariad, edrych am ym- wared, hyd nes llenwir y bylchau yn y weinidogaeth. Hyderwn y llwydda'r ddwy eglwys ddi-fugail i sicrhau yn fuan olynwyr teilwng i'r ddau weinidog sydd wedi mynd i Gymru. Pobl garedig, gyweithas, ydyw Cymry Manceinion, ac ni raid i unrhyw wein- idog yng Nghymru betruso derbyn galwad i'w bugeilio. Y mae yma lu o fanteision a chyfleusterau na cheir mohonynt yn unman yn yr hen wlad, a drws agored i wasanaeth ardderchog ilros y deyrnas. Dramau. Y mae'r cwmniau drama wedi bod yn ddiwyd yn ystod y mis. Caed per- fformiad campus o Nora Plas-y-Foel gan gwmni Heywood Street, ac o'r Joan Danvers gan gwmni Moss Side, a diwedd y mis cyflwynir Pobl yr Ymylon gan Gwmni'r "Ddraig Goch." Dyma gwmni newydd sbon, ac edrychir ymlaen gyda diddordeb neilltuol at ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan. Y mae gan eglwys Chorlton-road gwmni drama hefyd, dan gyfarwyddyd y gweinidog (y Parch. Gwynifor Roberts), a chyflwynwyd dwy ddrama ganddo ganol y mis, sef "Matchmaker" a Y Troseddwyr." Mr. a Mrs. Rhys J. Davies. Y mae Mr. Rhys J. Davies, A.S., a Mrs. Davies, wedi trigiannu yn y ddinas am chwarter canrif, a buont yn dathlu yr amgylchiad drwy gynnal cwrdd cym- deithasol a chyngerdd yn ysgoldy Annibynwyr Booth-street East yr eglwys y maent yn aelodau ohoni — dan lywyddiaeth y gweinidog íy Parch. Idris Gwyn Jones). DATHLU HWYLIOG YN CANADA. Gan R. W. HAMILTON, C'anada, T~)INAS u 160,000 o drigolion yw hon, ac ohonynt y mae o dair i bedair mil yn eu galw eu hunain yn Gymry. Y mae Cymdeithas Dewi Sant yn dra llewyrchus yma a chynhelir Eistedd- fod, gyda'r orau yn Canada, bob blwyddyn. Bu dros ddau gant yn mwynhau cinio GwyJ Ddewi, cinio a'i gyrsiau wedi eu hatalnodi ag areithiau melys. Yr oedd y canu emynau yn dda odiaeth a rhaid bod bron bawb yn Gymry glan gloyw. Dr. Pugh Thomas, Ancaster (Buffalo gynt) oedd y prif lefarydd, a chaed anercbiad cryf ar hanes Cymru a'i Sant