Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ganddo. Tipyn yn hen Fasiwn yn ei syniadau am darddiad y Cymry yr oeddwn i yn ei glywed— rhyw hanes mwy dibynnol ar ddyfalu a phalu nac ar hanes sad, gwyddonol yr oes hon. Ond yr oedd yn anerchiad hynod o afaelgar. Y Parch. John Samuei, V Deou, oedd yn cynnig tost yr Ymerodraeth. Dechreuodd yn Gymraeg ac yna troi i'r Saesneg. Anerchiad cryf, imperial- istic. Col.McCulloch oedd yn cynnig llwnc- destun Canada." Gwyddel pybyr. Medrodd y ffordd ar unwaith i galon- nau'r Cymry a thraddododd anerchiad goleuedig ar gysylltiad y Gwyddyl a'r Cymry gan apelio am glosiach cyfath- rach rhyngddynt. Mr. James Richards, Llywydd y Gymdeithas Gymreig oedd Meistr y seremoniau. Live wires ydyw ef a'i wraig. Canodd hi unawd ardderchog inni. BARDDONIAETH DAU DRAMP (o dudalen 155). Mae'r ddau'n awyddus iawn am i ninnau weld rhyfeddod y byd fel yr ymddengys iddynt hwy; ac oni'n synnir ni gan ei harddwch, daliant ef â'i ben i lawr inni. Oni fedrwn ryfeddu ystum brydferth creadur neu beth, tynnant ddigriflun ohono, nes cymell ein chwerthin. Pwy ni chwardd pan wêl Robin Goch fel y gwelodd Davies ef ? — That little hunchback in the snow. Ei gynffon yw rhyfeddod llwynog. Fe'i cafodd mewn modd rhyfedd, medd Dafydd. Anfonwyd saeth ar ei ôl fel y dihangai o'r buarth, a chydiodd honno! Ei wddw yw rhyfeddod alarch. "Gwna enwair dda iddo," ebe Dafydd, a'i ddal a'i ben i lawr yn llyth- rennol a ffigurol Dy enwair, ŵr dianardd, Yn wir yw'r mwnwgl hir hardd. Gwelodd Davies hefyd greaduriaid yn sefyll ar eu pennau i hel eu tamaid — and bees will stand Upon their heads in fragrant deeps. Mae eu hoen yn eu harwain i brofedigaeth ill dau ar brydiau. Rhedeg i ormod rhysedd yw pechod parod y dyfalwr, a gwyr y ddau gael cwymp oddi wrth ras droeon. Yr ydym yn ddigon bodlon i ganiatau addasrwydd eu cyffelybiaethau o fewn rheswm. Ond croeswyd y ffin gan Ddafydd pan gyffelyba'r eira i ymennydd y ddaear; a chan Davies pan wêl yn y tân ddwy fflam yn bocsio fel dau baffiwr. Addefir bellach, mi dybiaf, fod cryn debyg- rwydd rhwng deunydd a dull barddoniaeth Natur Dafydd ap Gwilym a William H. Davies. Rhyfeddod yw annelwig ddefnydd eu meddwl yn ei gyflwr statig; a phan roir y meddwl hwnnw ar waith, dychymyg yw ei gyfrwng. Ychwaneger at y mabeidd- rwydd prin hwn gelfyddyd ddieflig o glyfar mewn arddull feiddgar o noeth, a deuir i ddeall safle Mr. Davies ymhlith goreuon beirdd Lloegr. Dychymyg a gweledigaeth. Awgrymwyd bod rhywbeth od o Gymreig mewn dyfalu a dychmygu. Na rodder ystyr ddofn a chyfoethog i'r gair dychymyg, megis pan sonnir am ddychymyg a thân Y nos Sut canlynol aeth Cymry'r ddinas i wasanaeth Cymreig i eglwys fwyaf y dre, sef Centenary United Church. Canwyd gan y côr a'r orchestra gerddoriaeth cyfansoddwyr Cymreig. Yr oedd yr holl donau yn rhai Cymreig (y mae tua 25 tôn Gym- reig yn llyfr emynau newydd Eglwys Unedig Canada). Siaradodd Dr. Williams, y gweinidog (Gwyddel) ar Ddewi Sant, ac fe ganodd Mrs. Davies- Wynne yr unawd Arglwydd arwain trwy'r anialwch." CINIO BRWD CYMRY UGANDA. CYNHALIODD Cymdeithas Dewi Sant Uganda. Dwyrain Affrica, ei chmio cyntaf nos Wyl Ddewi diwethaf. Yr oedd tua 150 wrth y byrddau, ac yn eu plith lywyddion ac ysgrifenyddion y tair cymdeithas gen- edlaethol Brydeinig eraill. Dr. H. B. Owen ydyw llywydd y gymdeithas, ac ef oedd yn y gadair. Dr. Goronwy ap Griffith ydyw'r ysgrif- ennydd, a Mr. C. Lewis y trysorydd. Dywedwyd grâs gan y Parch. A. Williams. Darllenwyd negeseuon, yn dymuno'n dda i'r gymdeithas, oddi wrth Mr. Ivor L. Evans, Coleg loan, Caergrawnt; yr Henadur Wm. George (Llywydd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg); Gwili, yr Archdderwydd; Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr; Cymdeithas Geltaidd Coleg Aberystwyth, a Golygydd Y Ford Gbon. Cynigiodd y llywydd iechyd da Uganda, a chynigiwyd llwncdestun Dewi Sant gan y Parch. A. Williams; Cymru gan Mrs. Mansell Reece; "Ein Gwesteion gan Mr. Gwynne Williams. Diolchodd Mr. Hugh Mac- Donald dros y gwesteion, a dywedodd air yn Gaeleg. Siaradwyd yn olaf gan Syr Charles Griffin. Ymadawiad Arthur Mr. Gwynn Jones. Nid yw dychymyg o'r math yma, a eilw Mr. Saunders Lewis yn weledigaeth, yn elfen amlwg iawn ym marddoniaeth Cymru. Ychydig ohono a gafodd Mr. Lewis ym mhlith holl ddyfaliadau Iolo Goch, er eng- hraifft. Ffansi yw hen ystyr dychymyg, a'i wir ystyr. Ei ystyr ddiweddar hefyd o ran hynny, fel yn yr ymadrodd Dychmygion Plant Dyffryn Conwy," lIe gofynnir, "Beth sy'n mynd i fyny'n wyn, ac yn dod i lawr yn felyn?" a phosau cyffelyb. Bu amser pan ofynnid conundrums o'r math yma ar gân yn llenyddiaeth pob gwlad. Yr oedd Dafydd yn gyfarwydd iawn â Chanu y Dychymyg ei ragflaenwyr:- Dychymyg pwy yw? Creadur cadarn, Heb gig, heb asgwrn, Heb wythen, heb waed, Heb ben a heb draed. Pwy ond y Gwynt? Bydd Dafydd a William Davies yn enwi'r gwrthrych uwchben y gerdd: megis Yr Eira," Clouds." Ond yr un yw'r chwarae: chwarae rhyfeddu a dyfalu, a hynny drwy gydol oes. Y mae'n gryn gamp. Camp y Cymro. Nid camp breuddwydiwr ydyw ar gyfrif yn y byd; ond camp rhywun effro a llygadog iawn: rhywun byw iawn i gydbwysedd a chyd-darawiad; rhywun hoff iawn o gytgord lleisiau a chyfatebiaeth cydseiniaid. Mewn gair, camp y Cymro ydyw. Bydd yn wiw gan yr hen greadur senti- mental hwnnw, y Sais, sôn o bryd i'w gilydd am y Celt breuddwydiol." Ni bu erioed ei well ef am gamddarllen eneideg cenhed- loedd a orchfygodd. Nid oes dim breu- ddwydiol yn natur y Gwyddel a'r Cymro. Nid yng ngwaith W. B. Yeats a beirdd y Cyfnos Celtaidd y clywir blas awen y Gwyddyl. Nid yng ngwaith cyfrinwyr fel Herbert a Vaughan y deuir o hyd i deithi awen y Cymry ychwaith. "Ni ddaeth byd Morgan Llwyd yn rhan o fywyd ei gyd- genedl," ebe'r Athro Gruffydd. Creadur ymarferol oriau gwaith ydyw'r Cymro: un am wneud trefn a dosbarth ar ei bopeth, — ei grefydd a'i addysg, ei feirdd a'i farddoniaeth. COLLED DE AFFRICA. COLLODD Cymry Deheudir Affrica gydwladwr a chym- wynaswr fan fu farw Mr. J. Emrys Evaus, Johannesburg. Ganed ef yn Mron-y-berllan, Dinbyoh, ya 1863, yn fab i'r Pareh. Emrys Evans, Cotton Hall." Wedi prentisiaeth yn y National Prorincial Bank yn Amlwch o dan Mr. John Matthews (mab yng nghyfraith Thomas Gee) ymfudodd i Ddeheudir Affrica. Pan roddwyd hunan-lywodraeth i'r Transvaal etholwyd ef yn Aelod Seneddol, ac er nad oedd yn areithiwr o safle yr oedd yn ŵr o ddylanwad yn y Senedd. Etholwyd ef yn Islywydd y National Bank. 0 dro i dro ymwelai â Chymru, ac yn Eisteddfod Caergybi yn 1927 bu yn llywydd un o'r cyfarfodydd. Mab iddo yw Mr. Paul Emrys Evans, A.S., tros Dudley yn Senedd Prydain. Y mae ganddo gyfundrefn addysg sydd yn batrwm i'r gwledydd; ond ni chynhyrchodd nofel yn y flwyddyn a aeth heibio. Gynt yr oedd iddo gyfundrefn farddol wych, ond ni chynhyrchodd epig. Telynegwyr fu ei feirdd erioed; a dyna ydynt heddiw. Nid oes fardd llai breuddwydiol na William H. Davies yn canu yn ein hoes ni. A da y gwýr yntau hynny; I hear men say, This Davies has no depth; He sings of birds and staring cows and sheep And throws no light on deep eternal things. And would they have me talMng in my sleep'? Nid oes burach telynegwr ychwaith. A voice from a younger and lustier world y geilw y beirniaid Seisnig ei lais. A gwir y gair; canys y disgrifiad cymhwysaf o'i g.-neuon natur fyddai mai'r cerddi a adawodd hen gywyddwyr Cymru heb eu canu ydynt. Atgofion Cynan am Hedd Wyn (0 dudalen 149.) Collais olwg arno ar ôl hynny. Aethai ef i Ffrainc a minnau i Salonika. Deuai rhestr y lladdedigion allan i Salonika yn llawer cyflymach na rhestr buddugwyr yr Eisteddfod Genedlaethol. Wrth edrych i lawr colofnau hir y Swyddfa Ryfel disgyn- nodd fy llygaid gyda braw ar Rilled: Evans 61117E. (Trawsfynydd)," ac aeth fy nghalon fel plwm rhag ofn mai "Hedd" ydoedd. Ym mhen rhyw wythnos neu ddwy dyna'r papurau Cymraeg yn fy nghyrraedd gyda stori alaethus Cadair Ddu Birkenhead, a phenillion dwys Dyfed, yr Archdderwydd I gylch yr Eisteddfod o gynnwrf y byd I gwrdd â'i hawenydd daeth cenedl ynghyd, Fe ganwyd yr utgorn a chyrchwyd y cledd, Ond gwag ydyw'r gadair, a'r bardd yn ei fedd. Rhywbeth o le. Sylweddolais fod duw Rhyfel wedi mynnu einioes un arall o'm cyfeillion, a botl rhyw- beth yn ddifrifol allan o Ie gyda byd fynnai yn hytrach Hedd Wyn yn fwyd i fegnyl Ffrainc nag yn bêr ganiedydd cenedl. Nid ydoedd ef ond Rhif 61117 i'r Swyddfa Ryfel, ond i mi bardd anghyffredin ydoedd. y bardd mwyaf addawol o holl feirdd ifanc o' gyfnod.