Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL II. RHIF 9. Y FORD GRON OWASO Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Teliffôn: ŷrecsam 622. London Ageney: Thanet House, 231-2 Strand. Costau a Phrisiau. DYMA waith plwm Mynydd Helygen, yn Sir Fflint, wedi cau. Y mae yno wythïen dda, ond ni thâl y mŵn i'w godi oherwydd bod pris y farchnad mor isel. Yr un gwyn a glywir ar wyneb y tir ag oddi tanodd; amaethwyr ym mhobman yn tystio nad oes nag yd na gwair yn werth y gost o'i dyfu, na gwartheg na defaid a dâl am eu pesgi. Rhaid codi prisiau popeth, medd rhai; a chan nad yw o'ddim diben i un wlad wneud hynny ar.ei phen ei hun, rhaid cael cyd- weithrediad holl wledydd y byd. Dyna'n wir, bwrpas y gynhadledd fawr y mae Prydain a'r America am ei galw eleni. Yn anffodus, fodd bynnag, nid oes gan neb weledigaeth eglur pa fesurau y gellid eu derbyn yn gyffredinol gydag unrhyw sicr- wydd y byddent yn gwella pethau. Ni fyddai'n syndod yn y byd gweled mwy o sylw'n cael ei roddi o ganlyniad i'r ochr arall i'r cwestiwn. ,A dyna ydyw honno— y byddai'n haws yn y pen draw adael prisiau fel y maent, a gostwng pob tollau, Hogau, trethi, cyflogau, etc., i lefel 1913, ac ail- ddechrau. Yr oedd yn lled hapus ar y wlad hon cyn y rhyfel, yn ôl pob hanes; a gwaith ein dwylo ni'n hunain fu pob cyfnewid ar bethau byth er hynny. Gadael gwlad y glo. "DHODDWYD hanes cyflwr De Cymru i lawr yn deg ar ddu a gwyn bellach; ac y mae i'w gael yn llyfr Saesneg tri-ä- chwech. Y Bwrdd Masnach a alwodd am wneud y gwaith, a Choleg Caerdydd a'i gwnaeth. Ni chyfyngwyd yr ymchwil i ardaloeddy glo. Ceir hanes hefyd y gŵr a'i gi a'i ferlyn a gerdda lechweddau porfaog (fwy neu lai) Morgannwg, gwlad Myrddin, a Mynwy. Nid yw'r ymchwilwyr yn obeithiol iawn o unrhyw gynllun i ddwyn pobl anghenus y trefi i'r parthau gwledig. Mae tua 30,000 o godwyr glo nad oes fawr olwg am waith iddynt yn y diwydiant hwnnw byth eto; mae tua'r un nifer o weithwyr dur a haearn, gwyr y döciau, clercod, ac eraill, ymwŷr ac yn ferched, y caeodd drysau masnach rhag- ddynt. I ffwrdd yr aeth pawb a allodd. Ati o newydd. OHAID gwneud ymdrech o ddifrif, R medd yr adroddiad, i gael diwydian- nau newydd i'r fro. Fe wnaethpwyd gor- chestion eisoes gan wyr dyngar i roddi'r ifainc anffodus ar ben y ffordd i ennill eu byw, yn enwedig ym Mrynmawr a Dyffryn Clydach. Fe ddangoswyd fod dichon gwneud a gwerthu gwaith gwau, cwiltio, gwaith coed, gwneud dodrefn, gwau brethyn, ac felly ymlaen. Ac ar y llinellau hyn a'u tebyg y rhaid mynd os am arbed y trigain mil rhag colli eu hunan-barch am byth. Dyma gyfle i'r Cyngor Datblygu a gychwynnodd ar ei waith eisoes yn Ne Cymru. Dyma waith dros genedl yn ogystal â thros ddyn, ac yr ydym yn hyderus y bydd darllenwyr Y Ford GRON yn y Deheudir nid yn unig yn annog ac yn gwylio, ond yn ar- wain, ar air a gweithred, yr ymdrech y rhaid i rywun ei gwneud i ail-osod sylfeini byw yn y De. Wedi'r cwbl, yr ydym yn ddigon medrus wrth drefnu sasiwn ac undeb, eisteddfod a chymanfa; paham lai waith bob dydd? Pwy gafodd addysg? FE ofynnodd Dr. Thomas Jones, fu gynt yn Ysgrifennydd y Cyfrin- Gyngor«yn Downing-street, yn ddifrifol yn Abertawe y diwrnod o'r blaen pa faint ohonom yn yr ynysoedd hyn oedd wedi cael addysg." Anwir, meddai, fuasai honni bod y Cymry yn genedl wedi cael addysg. Y mae gennym athrawon coleg, darlithwyr, arben- igwyr yn gwybod mwy neu lai, ac efryd- wyr wedi cael graddau, beth bynnag am addysg. Ond beth am gorff y boblogaeth y tu allan i furiau coleg ac ysgol? Gwir bod nifer yr anllythrennog yn llai, a bod gwell iechyd gan y plant; ond a ydyw'r genedl drwyddi yn uwch ei safon addysg? Cwestiwn amserol oedd hwn, cwestiwn â mwy nag un ochr iddo. Fe geir un agwedd arno yn y ffaith amlwg fod deall a dychym- yg yn ffynny heddiw y tü allan i'r muriau lawn'bymaint ag oddi mewn. Efallai fod eisiau mesur gwerth "addysg" o'r newydd. Ofnwn ei bod yn rhy wir mai fel cyfleusterau dyrchafiad, ac nid fel agoriadau drysau diwylliant, yr edrychir ar fanteision addysg gan lawer heddiw. Y mae syniadau'r Cymry am wir amcan addysg yn debycach i eiddo'r Americanwyr nag i syniadau Ffrancwyr, Almaenwyr, a goreuon Lloegr. Ffarwel, Wesleaid. FE ddiflannodd y Wesleaid o Gymru ar un naid. Aethant yn Fethodistiaid bob copa. Ond nid yn Fethodistiaid Calfinaidd. Fel hyn y bu. Fe ymunodd y tri enwad Seisnig Wes- leyan Methodist, Primitive Methodist, a United Methodist-yn un corff Methodist- aidd heb ansoddair. Fel cangen o'r eglwys Seisnig, fe gydymffurfiodd yr enwad Wesle- aidd yng Nghymru â'r trefniant newydd, a'i enw o hyn allan fydd yr Eglwys Fethodist- aidd Gymreig. Gellir disgwyl canlyniadau diddorol. Beth fydd yr effaith ar wahaniaethau enwadol llafar gwlad, tybed? Os "capel Methodus" a fydd enw'r capel Wesla wedi hyn, pa deitl a roddir i addoldy'r Hen Gorff? Efallai, heb yn wybod, y tueddir fwy-fwy i weled yr un hen enw Methodus yn y ddau le, a'r un efengyl, ac yr hyrwydda hynny gymaint â dim yr undeb y mae amryw o arweinwyr y ddau enwad yn ei ddeisyfu eisoes. Y mudan yn siarad. COLLODD rhan helaeth o Fynwy ei hiaith oherwydd malldod y gyfun- drefn addysg, ond prin y tybiasai neb hynny tua'r Ynys Ddu a Chwm-felin-fach, ganol mis Mehefin, pan ddethlid can- mlwyddiant Islwyn. Cenid ei emynau gan dorf fawr gerÇbw yr hen dy candryll lle ganed y bardd. Daeth Miss Ellen Evans (pennaeth Coleg y Barri), John Owen y Fenni, Mr. Ifan ab Owen Edwards, ac eraill i dalu gwrogaeth ar gyhoedd. Yng nghyfarfod yr hwyr cyffelyb- odd Elfed Fynydd Islwyn i Barnasws, ac fe ddyfynnodd Esgob Llandaf yn rymus o'r Storm nes gwefreiddio'r gwrandawyr. Caf- wyd teyrnged y tô ifanc gan Mr. Evan Morgan bardd a mab i arglwydd, a chan Mr. Saunders Lewis, dehonglydd beirdd. Nid anobeithiol y rhagolygon am Gymru ddiwylliedig, yn adnabod ac yn parchu teithi ei datblygiad naturiol hi ei hun, tra ceir talu parch fel hyn i'r gallu creu a'r dar- felydd a roddodd nod mawredd ar Islwyn. Er ei bod yn fud, fe erys Mynwy hefyd dan y dylanwad, ac fe welir torri'r llyffeth- eiriau cyn bo hir.