Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron Cronfa Goffa Syr O. M. Edwards. At Olygydd Y FORD GRoN. VN ddiweddar hysbysid yn y Wasg y cyn- helid cyfarfod o'r tanysgrifwyr i Gronfa Goffa'r diweddar Syr Owen M. Edwards yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aber- afan, i benderfynu yno beth a wneid â'r Gronfa o dros £ 2,000. Fel un o'r tanysgrifwyr, carwn alw sylw fy nghyd-danysgrifwyr at Urdd Gobaith Cymru. Y mae'r Urdd ar hyn o bryd mewn gwir angen am gronfa i gario'r gwaith ym- laen yn llwyddiannus. Oni ellid tros- glwyddo arian y Gronfa neu beth ohonynt i Gwmni'r Urdd i'w alluogi i ddwyn ymlaen y gwaith mawr yr aberthodd Syr Owen gymaint erddo, sef meithrin ieuenctid Cymru yn nhraddodiadau eu gwlad a'u cenedl? Purion peth fyddai cael barn tanysgrif- wyr i'r Gronfa yng ngholofnau'r Ford Gron. H. D. JONES. Ysgol Lewis, Pengam, Morgannwg. t, Samona." At Olygydd Y FORD GRON. DIOLCHAF yn gynnes i chwi am gy- hoeddi stori Mr. Idwal C. Evans, Caer- dydd, ar Samona." Cefais i a llawer eraill flas anghyffredin ar ei darllen ac ed- rychwn ymlaen at weled rhagor o waith Mr. Evans yn ymddangos yn eich misolyn di- ddorol a gwerthfawr. Dymunaf bob llwydd i'r FoRD GRON. Aberpennar. UN O GARONDRE. Eisiau Cymdeithas Arthur. At Olygydd Y Ford Gron. A R ôl darllen yr amryw ysgrifau yn y Ford Gron yn ymwneud a'r Brenin Arthur teimlais y dylai fod gennym yng Nghymru Gymdeithas Arthur, i fod yn brif awdurdod ar y Rhamantau Cymreig ac i osod safon i'r sawl fo, ledled y byd, yn eu hastudio. Fe arweiniai hyn Gymry i sylwi a dysgu mwy ar y Wyddeleg, a mawr yw'r angen am hynny. GWENHWYFAR. Aberystwyth. Map Cymraeg. At Olygydd Y FORD GRON. NID oes dim un map o Gymru yn yr iaith Gymraeg ar gael, gydag enwau'r holl drefi, a'r afonydd a'r mynyddoedd wedi eu hargraffu. Y map bychan yn rhifyn Tachwedd Y FoRD Gbon oedd y gorau a welais hyd yn hyn. Onid yw'n bryd inni gael un mawr, da, ar gyfer ysgolion a sefydliadau eraill ? Caerfyrddin. Nodiad y Golygydd: Fe gyhoeddwyd map mawr Cymraeg o Gymru flynyddoedd yn ôl gan Bartholomew, Llundain, wedi ei gynllunio gan Mr. Timothy Lewis, ond ofnwn ei fod allan o argraff erbyn hyn. ATHRO. Yr Arianin. At Olygydd Y FORD GRON. SYLWAF eich bod yn arfer y gair Arientina fe1 rhyw gynnig ar Gymreigyddio 'r gair Argentina." Yn Sbaenaeg seinir yr g o flaen y llafar- iaid e ac i," fel y seinir yr ch yn Gymraeg, felly, yn ôl fy marn i, gwell fuasai Archentina nag Arientina; neu'n well fyth, y gair a arferir yn fynych gan Gymry'r Wladfa (Patagonia), sef yw hwnnw, Arianin (La Repubhca Argentina-Y Weriniaeth Arianin). "TWM GYMRO." Crouch End, N. Yn Ne Affrica. At Olygydd Y FoRD GRoN. YR wyf yn mwynhau'r Ford Gron yn fawr. Y mae ei newydd-deb ymysg cylch- gronau Cymreig yn apelio ataf, a byddaf ar ôl ei darllen yn ei rhoddi i Gymry eraill yma, iddynt hwythau gael y pleser o ddarllen erthyglau mor rhagorol. J. B. WILLIAMS. 94, Twist Street, Johanneshurg, De Affrica. Ffarmio Cathod. [Ysgrifenir yn ol yr orgraff seinyddoî.] At Olygydd Y FORD GRoN. TPRA dyddorol i mi, ymhlith pethau eraill, oedd darllen yr ysgrif ar ffarmio ffwr, yn Y FORD GRON. Wrth lwc, y mae llawer o fathau eraill o greaduriaid y gellir eu ffarmio guda llwydd- iant. Guda llaw, ni soniodd Mr. Roberts ddim am gynhaliaeth y llwunogod arian. A ydunt yn bethau costus ac anodd eu plesio, rywbeth yn debug i'r bobl a anwud â llwu arian yn eu cegau ? Y mae y mater yma o gynhaliaeth yn beth tra phwusig, a hawlia ystyriaeth fanwl. Meddylier am eiliad am gadno arian yn hawlio cuw iar i'w frecwast bob bore ac, os na ehaiff ef, yn mund i'w strangcs. Yn awr y mae'r fusnes y mae gennyf fi yr anrhydedd a'r fraint o'i hargymell i genedl y Cymru, yn hunan-gynhaliol ar ol y gost gyntaf, sef sefydlu y fusnes a chyfartalu y cynudd o'r ddwu ochr. Fe wêl pawb ar unwaith fod y plan yn hollol naturiol a rhesymol, ac yn gweithio ar yr un egwyddor â'r perpetual motion ar ol cael cychwun arno. Hai ati, ynte, i ffarmio CATHOD. Y mae eu blew cyn hardded â blew y llwunogod arian unrhyw ddudd o'r wythnos. Heblaw hynny, meddylier am y gwahanol liwiau deniadol y gellir eu cynyrchu trwu groes- fridio. Dychmyger am glog wedi ei gwneud o grwun y cadno arian yn ffit i ddal canwull iddi; ie, a hun oll heb gymrud i ystyriaeth y miwsig nosawl y gellid ei gael ond ei feithrin guda gofal a chelfyddud. Guda hunyna, megus mewn ffordd o rag- ymadrodd, egluraf y dull y mae'n rhaid ei fabwusiadu er mwun bod yn llwuddianus. Pryner darn o dir cyfatebol i faint pwrs y prynwr, yna rhaner ef yn ei haner, a rhodder nifer o lygod mawr yn y darn arall. Gofaler, er mwun popeth, wneud y terfun yn y fath fodd fel na all yr ysgrubliaid fund at ei giludd neu byddai'n uffern ar y ddaear ar unwaith, ac yn beth arswudus i feddwl am dano. Wedun dalier llygod i borthi'r cathod, a phan leddir y cathod, rhodder eu cig i'r llygod, ar ol hynu rhodder lot arall o lygod i'r cathod, a dalier ati yn y dull yna o hud, cyhud ag yr ystyrir yn gyfleus i ddilun ymlaen gyda'r fusnes. Rhoddir y cyfar- wuddud yn rhad ac am ddim. HUGO DAVIS (Alltud yr Andes) Casilla 5543, Gorreo 6, Santiago, Chile, S. America. Lle'r Beibl. At Olygydd Y FoRD GRON. T'R Pabyddion, y Pab yw'r awdurdod fedr ddatrys pob dyryswch. Anffaeledig- rwydd y Pab ydyw sylfaen Pabyddiaeth. Ac felly teimla'r Pabyddion yn hollol ddiogel wrth deithio'r llwybr a ddengys y Pab iddynt. Tebyg i hyn, hanner can mlynedd yn ôl, yr oedd gyda'r Cymry. Yr oedd ganddynt Bab, a'r Pab oedd y Beibl. Cof gennyf ddweud wrth ficer Cymreig flynyddoedd meithion yn ôl: Gresyn fod neb yn ceisio dinistrio ein ffydd yn y Beibl." Ebe yntau (ac y mae heddiw yn esgob): Y mae'n rhaid i ni ddilyn y goleuni yn hytrach na Beibl ffaeledig." Ac felly heddiw: y mae ieuenctid dysg- edig Cymru megis llong ar y cefnfor heb lyw. Y mae'r Beibl wedi ei daflu o'r neilltu megis rhyw lyfr ffaeledig arall. Ymdrecha adran o'r Eglwys Gymraeg roddi traddodiad yn lle'r Beibl, — daliadau'r tadau. Ac y mae rhai am arwain y genedl i gorlan y Pabyddion. Beth fydd diwedd y cyfan oll, — pwy all ddweud? Yr ydym yn byw mewn amser dyrys iawn, a llawer o niwl a tharth ar lwybr y pererin. J. ALLEN JONES. Ficer Llanyblodwel, Croesoswallt. Erthygl Mr. Eames. At Olygydd Y FoBn GRON. pROFWYD imi bellach fod peiriant teipio'n un o'r anhepgorion. Aeth fy llawysgrif yn drech na chraffter eithaf cysodydd Y FoRD. Rhaid imi ei beio hi am dri gwall yn yr ysgrif ar Lausanne y mis di- wethaf Prydain a'i chotwm. a'i haur, nid haul a fwriedais i ddweud yn y golofn gyntaf; ac yn is i lawr, yr oruchafiaeth ac nid yr oruchwyliaeth fasnachol. Ac wrth sôn am y gŵr a'r aradr, yr elfen hen, arhosol yn hanes, nid hanner," y fro oedd gennyf mewn golwg. W. W. EAMES. Prestatyn.