Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A ydyw'r DEGWM yn DEG ? Ai am fy meiau mawr Dioddefaf gosb mor drom, Neu ynte yw pechodau pawb Ar f'ysgwydd denau, lom? FEL hyn y cân yr amaethwr yng Nghymru heddiw. Cwyno yn erbyn maen melin y degwm y mae. Ac nid heb achos yn siwr. Os edrychwn yn ôl i gychwyn y degwm o tan oruchwyliaeth y Testament Newydd, fe ganfyddwn na ddaeth y degwm yn orfodol yn ystod y 400 mlynedd cyntaf, ac yn ôl hanes, gwelwn fod Cristnogaeth yn y cyfnod cyntaf hwn yn bur ac yn ddisglair fel gris- ial gloyw. Degwm gorfodol. Pan ddaeth y degwm gorfodol i rym, at achosion crefyddol y daeth. Yr oedd rhan ohono i fyned at gynnal yr offeiriad fel y byddai hwnnw yn rhoddi ei holl amser a'i fywyd i sicrhau budd a lles enaid pob Cristion drwy ei fedyddio, ei briodi, os byddai angen, gweinyddu y Sacrament iddo, a'i gladdu pan ddoi'r amser yn ei blwyf ei hun, yng nghwrr yr eglwys lIe yr ai gynt i addoli. Yn wir, ar y dechrau, gan nad oedd trefn- iadau gwahanol yn y gwledydd, yr oedd y degwm yn cael ei ddosbarthu yn bedair rhan, sef un i'r offeiriad; un at adgyweirio yr eglwysi yn yr esgobaeth; un i'r tlawd, ac un i'r esgob tuag at gyfrannu addysg, i gyn- nal ac i godi ysbytai i'r claf a chyfrannu lletygarwch i bob Cristion oedd yn ymofyn am. dano. Rhaniad teg a chyson oedd hwn. Pe tai felly heddiw, mae'n debyg na chlywsem lawer o gwyno ynghylch ei dalu. Ond nid yw yn myned at gynnal un o'r rhain. Paham fod eisiau ei godi o gwbl ynte? Wel, dyna chwi wedi dod i'r un man a'r amaethwr, ac yn gofyn yr un gofyniad. Wedi'r cwbl pechod a roddodd fodolaeth i'r degwm yn y Не cyntaf. Iawn dros bechod. Iawn dros bechod oedd taliad y degwm, pres talu'r doctor oedd, Doctor eneidiau oedd y Doctor, wrth gwrs. Yr oedd pawb pwy bynnag yn agored i dalu'r degwm. Pob dyn, o leiaf. Yr oedd degwm ar hyd yn oed y gweithiwr cyflog ar y dechrau cyntaf. Yr hyn y mae'r hen ffarmwr yn methu ei ddeall yw-y ffaith fod pechod ym mhawb heddiw llawn cymaint ag o'r blaen, ond mai efe yn unig sydd yn cael ei ddegymu. Ac onid naturiol iddo ofyn a ydyw yn gorfod talu tros bawb, ac yn cario pechodau'r wlad ar ei gefn. Chwarae teg iddo. Un amserol yw y cwestiwn yn ddios. Y rheswm fod y cwestiwn yn ei gorddi gymaint ydyw am ei fod yn methu yn ei fyw a chyrraedd pethau at ei gilydd i dalu ei holl ofynion. Oherwydd hyn y mae yn naturiol iddo edrych a chwilio i mewn i'r taliadau y mae yn eu talu. Fel hyn y sieryd ag ef ei hun Dyma fi yn cael aros ar fy fferm wrth dalu llogau yr arian a fenthycais i'w phrynu. Yr wyf yn cael pedoli fy ngheffylau a thrwsio fy aradr wrth dalu "bil y gofaint. Yr wyf yn cael blawdiau i besgi fy anifeiliaid wrth dalu i'r melinydd. Yr wyf yn sicrhau te a siwgr i'r ty wrth dalu i'r siopwr. Yr wyf yn cael "-ac yn y blaen hyd nes y daw at daliad y degwm. Y mae yn aros uwchben hwn. Metha yn lân a gweled un peth o gwbl a gaiff am dalu hwn. Gan R. F. WATKINS RHUTHIN Mwy na hynny y mae yn gweld mai hwn yw yr unig beth y mae yn ei dalu nad ydyw yn cael rhyw les oddi wrtho. Ac y mae'r taliad yn un trwm. Edrych yn ôl drwy'r gofyn- iadau degwm y blynyddoedd sy wedi pasio ac er ei fawr syndod gwel fod y taliadau yn dal yr un fath o hyd-ddim yn dod i lawr hyd yn oed un geiniog,-ac yntau o'r ochr arall yn cael llai am ei bethau o lawer. Mae yn dod i'r penderfyniad fod y taliad yma yn haeddu cael ei sylw o hyn allan. Wrth gwrs, nid yw 'tenant' yn cael papur degwm. Y 'landlord' sydd yn talu'r degwm ar hyn o bryd a'r tenant yn ei dalu yn y rhent. Mae 47,000 o bapurau degwm yn cael eu hanfon allan yng Nghymru yn unig bob han- ner blwyddyn. Talu drostynt eu hunain. Meiddiaf ddweud fod o leiaf 40,000 o'r rhain yn cael eu taflu gan rai sydd yn byw ar eu tiroedd a'u lleoedd eu hunain. Hynny yw, maent yn talu yn uniongyrchol drostynt eu hunain. Y rheswm fod cymaint o fân feddianwyr tiroedd yn y wlad yw fod y rhan fwyaf o'r ystadau mawr wedi eu torri i fyny a'u gwerthu yn ystod yr ugain mlynedd di- wethaf. Nid oedd gan denant oedd yn byw ar fferm ar un o'r ystadau hyn ddim dewis os oedd am aros ar ei fferm yn y dyfodol. Yr oedd yn rhaid iddo ei phrynu-doed a ddelo -pa uh a oedd ganddo arian i wneud hynny ai peidio. Pe bai yn gwrthod ei phrynu yr oedd yn ei cholli. Dyna'r gwir. Dyma wir arall: Y mae cannoedd o'r dosbarth yma yng Nghymru heddiw, wedi gorfod talu pris am eu ffermydd na welant mohono yn ôl byth pe taent yn eu hail werthu. Byddai hyn yn wir hefyd: pe tawn yn dweud mai rhyw hanner y pris dalwyd am danynt ar y cyntaf, yw eu gwerth heddiw. Ffaith ddigalon ydyw hon. Ond nid dyna'r cwbl. Er bod pethau mor ofnadwy o wael ym myd amaethyddiaeth heddiw fel y gellir dweud nad ydyw tir na chynnyrch tir prin gwerth yr hanner beth oeddynt flyn- yddoedd yn ol, nid yw y degwm ddim yn llai (o fewn rhyw ychydig o geiniogau yn y bunt) nag oedd yn 1920! Y mae gwir angen yng ngolau'r ffeithiau hyn, i edrych i mewn i fater y degwm yng Nghymru. Yn Nyffryn Clwyd. Nid ydym am ofyn dim oddi ar law neb ond yr hyn sy'n deg. Mae yr amaethwr yn gwingo'n arw yn erbyn y gorthrwm hwn. Y mae symudiadau ar droed mewn amryw leoedd er edrych i mewn i bethau o ddifrif. Dyffryn Clwyd sydd wedi deffro fwyaf hwyrach. Hawdd dychmygu pam. Mewn cyfarfod Undeb yr Amaethwyr yn y Dyffryn yn ddiweddar, dywedwyd fod tros ddeugain o Summonses (gwysiau) wedi eu tynnu allan yn erbyn meth-dalwyr degwm o fewn cylch o ychydig o filltiroedd o amgylch Rhuthin. 'Roedd yr hysbysiad syn yma yn y newyddiaduron lleol, ac ni ddarfu i neb ei gywiro. Felly gallwn gymryd hyn yn ffaith. Y rheswm am y gwysiaid aml hyn ydyw fod yna fethiant cyffredinol yn yr ardal yn nhaliad y degwm. Mae hyn yn siarad drosto ei hun, ac y mae mwy na chant o ffermwyr yn y Dyffryn wedi derbyn y Final Notice am eu degwm, ac yn dis- gwyl bob dydd gweled y summons yn cyr- raedd. Mae prinder ariannol yn caethiwo pawb yn gyffredinol y dyddiau hyn yn ddiamau, ond prin i'r graddau y mae yn gwasgu ar y mwyafrif mawr o ffermwyr sydd wedi prynu eu ffermydd drwy anghenraid ac nid drwy ewyllys, ac oherwydd hyn yn cael eu hun- ain "tros eu pen a'u clustiau" fel y dywedir, wrth dreio cael pethau i "ddal i fynd." Rhywbeth allan o'i le. Mae'n anodd cyfarfod â gofynion sydd mor uchel ag yr oeddynt pan oedd y ffermwr yn derbyn dros ddwbl y pris am ei gynnyrch ag y mae yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Mae un ai y degwm yn rhy uchel neu ynte pris ei anifeiliaid yn rhy isel. Mae un o'r ddau allan o'i le. Ond teimlo y mae amaethwyr yn gyffred- inol ei bod yn bryd gwneud i ffwrdd, unwaith ac am byth, â threth degwm yng Nghymru. Mae gan bob amaethwr hawl gyfreithiol i wrthod talu'r degwm. Canlyniad gwrthod talu fyddai distress sale wrth gwrs. Piti o beth fyddai gweled distress sales" ar hyd a lled Cymru. Gwell 0 lawer a fyddai edrych onid oes modd gwella'r ddeddf ynglyn â threth y degwm. A oes rheswm yn y byd i gyfiawnhau 'r ddeddf hon sydd yn gorfodi amaethwyr dalu treth ddegwm ag sydd yn ogymaint o fewn ychydig geiniogau ag yr oedd yn 1920. O leiaf fe ddylai'r degwm fod yn gyfatebol i bris cynnyrch tir -yr hwn sydd yn rhoddi bodolaeth iddo. Ond mwy o lawer na hyn, mae Cymry heddiw yn dweud nad oes ei eisiau o gwbl. Yn sicr y mae eisiau ei ddifodi. Ni ddylai erioed fod wedi dod i rym. Ni chafodd y werin erioed lais yn y mater. Pe tai yn cael rhoddi ei llais heddiw, teimlaf y byddai'r gytgan yn gorffen gyda'r geiriau Nid yw degwm na degymu yn dygymod.