Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ein Haddysg Bendramwnwgl GAN J. E. WILLIAMS Yr Ysgol Sir, Abermaw HYSBYSIR bod ein colegau athrawon o hyn allan am dderbyn llai o bobl ieuainc i'w hyfîorddi. Nid yw hyn ond gwich ein cyfundrefn addysg ar ôl brathu ei thafod ei bun. Cyfundrefn sy gennym ni yng Nghymru sy'n troi allan ugeiniau o raddedigion bob blwyddyn, a'r rhai hynny mor debyg i'w gilydd â stampiau llythyrau. Ac onid oes digon o ofyn amdanynt. yn sicr ddigon fe saif deuparth y bai ar y Gyfundrefn ei hun a'i diffyg ystwythder i gyfarfod â'r angen,- yr angen yn y lIe cyntaf am addysg gyffred- inol, ac yna am ofynion neilltuol gwahanol bersonau unigol. Y peth cyntaf y dylid ei wneuthur ydyw gwyrdroi cyfundrefn y Bwrdd Canol yn yr Ysgolion Sir, a bwrw i ddifancoll y bri gwrthun a roddir ar yr arholiad ymadael (y School Leaving Certificate) fel y mae. Peiriant y stampio. Hwn ydyw'r peiriant sy'n torri tyllau yn y deunydd i wneuthur y stamps. Rhydd yr 'Higher Certificate' luniau mewn gwahanol liwiau ar wynebau'r stamps, ac yna dyry ein colegau cenedlaethol dipyn o rym y tu ôl iddynt; ac yn awr fe gwynir nad oes digon o le i'w glydio hwy i gyd ar ôl eu gorffen Fe ganiateir bod yr arholiad ymadael. neu Matriculation, yn agor drysau eraill heblaw drysau ein colegau normal; ond y diffyg ydyw nad oes dim cynorthwy ariannol i'w gael gan unrhyw fwrdd Llywodraeth i helpu bachgen neu eneth dlawd i fynd yn feddyg neu yn dwrnai neu unrhyw alwedigaeth arall sy'n gofyn cannoedd o bunnau o arian parod i dalu'r ffordd. I fwyafrif plant ein hysgolion sir, ni egyr Matriculation unrhyw ddrws ond drws coleg athrawon. Paham na ellir cael cyfundrefn i lunio'r wadn fel bo'r troed? Nid eisiau mynd yn athrawon ac athraw- esau y mae ugeiniau sydd yn mynd y naill flwyddyn ar ôl ei gilydd; ond beth arall a allent a phethau fel y maent? A phan gwblha y rhai hyn eu cwrs colegol, boed yr hyfforddiant y gorau all fod, ni ellir athrawon ac athrawesau gwych iawn ar y gorau o rai a fethodd fynd yn ddim arall. Y mae'r gyfundrefn bresenol yn ei gwen- wyno ei hunan, a'r llygredd eisoes yn amlwg yn ein hysgolion elfennol, a barnu oddi wrth ddiffygion llaweroedd a ddaw oddi yno i'n hysgolion sir. Gyda'i holl ffrwst a chramio sydd yn orfodol fel y mae pethau, fe leddir yn y mwyafrif bob awydd am wir addysg. Pa sawl un, tybed, yn ein prifysgolion heddiw sydd heb fod yn dyheu am weled gwawrio y bore nefolaidd y daw cerdyn iddo o swyddfa'r coleg i'w hysbysu ei fod yn B.A., neu B.Sc., er mwyn iddo daflu pob text-book o'i wydd am byth, a ffarwelio â phob dysgu mwy? Nid ei feio ef nio'n hamcan, ond yn hytrach, yn wyneb gwrthuni'r drefn, hyderu lynu o ryw hedyn bach yn ei feddwl o ganol eangderau ei feysydd llafur ar wahân i'r glud diflanedig a daenodd y gyfundrefn ar ei gefn, ac y bydd i'r hedyn bach hwnnw egino rywdro a pheri iddo ryw fesur o fwyniant yn oriau ei hamdden, ddyddiau a ddaw. Y gyfundrefn bresennol. Fel athrawon dipyn yn hen ffasiwn, wedi profi'n chwerw ddiffygion diamheuol y gyfundrefn bresennol, hiraethwn am drefn a phethau gorau'r hen amser ynddi. Trefn a weithiai at drylwyredd mewn adeiladu syl- faen addysg heb or|od cruglwytho plentyn nes ei ddylu. Ar sylfaen safadwy hawdd yw adeiladu yn gadarn. A sylfaenu yn ddiamau ydyw gwaith ein hysgolion a'n colegau i raddau helaeth iawn. Y gorau y gellir ei ddisgwyl oddi wrthynt ydyw iddynt ddeffro cynhedd- fau meddwl y to sy ncodi, nid yn gymaint er paratoi neb ar gyfer unrhyw safle neill- tuol, ond yn hytrach yn gyntaf peth ei addasu o ran ei feddwl ar gyfer bywyd yn gyffredinol. Peth arall, hollol ar wahân i wir addysg ysgol. ydyw prentisiaeth ar gyfer galwedig- aeth. er bod cannoedd o rieni yng Nghymru heddiw yn ryw hanner credu mai hyffordd- iant uniongyrchol *,ar gyfer galwedigaeth ydyw addysg. Credant mai rhywbeth er hwyluso yr ymdrech am fara beunyddiol i blentyn yn y dyfodol ydyw, ac anfonant eu plant i'r ysgolion sir yn union fel pe baent yn dodi arian yn y banc. A'r aflwydd ydyw bod ein cyfundrefn bresennol yn rhoddi lIe iddynt feddwl fel yma! Fe'i cyfrifir yn wastraff noeth i fachgen fod mewn ysgol nes bod yn 16 oed, ac ar ôl dysgu elfennau Lladin a Groeg ac ymgodymu â chystrawen broddegau yr hen ieithoedd hyn, ymhlith amryfal bethau eraill, ymadael o'r ysgol a dychwelyd adref i weithio ar y tir neu i'r siop neu weithdy ei dad. Hyfforddiant i feddwl. Pe ceid cyfundrefn a roddai i fachgen hyfforddiant i'w feddwl, ac nid cyflenwad i'w gof i'w ollwng yn angof mor fuan wedyn, pleser fyddai gweled bechgyn wedi deffro eu cynheddfau meddyliol yn dychwelyd at grefft eu tadau a rhyw ddiddordeb newydd ganddynt mewn bywyd na wyddai eu tadau ddim byd amdano. Education," meddai Ruskin, sydd heddiw, ysywaeth, yn rhy hen ffasiwn, does not mean teaching people to know what they do not know" (er mai dyma amcan ein hysgolion ni heddiw) "it means teaching them to behave as they do not behave. Prysured y dydd pan gaffo gwerin Cymru gyfundrefn addysg deilwng o'i haberth er ei mwyn. NEW VOCAL MUSIC Published by the Oxford University Press and the Universitÿ of Wales Press Board. Welsh and English words throughout. FOR CHOIRS. T. Hophin Evans. PSALM TO THE Eaeth. Poem by S. T. Coleridge. Set for Tenor (or Soprano) Solo, Chorus and Orchestra. Welsh translation by the composer. Price 2/6. Sol-fa Edition of the Choruses, 1/6. J. Morgan Lloyd. Sing THE Songs OF CAMBRIA. 5d. Female Voices, three-part. D. E. Parry Wüliams. Two Welsh Folk-Songs. (Unison). 3d. 1. DYDD LLUN, DYDD MAWRTH, DYDD MERCHER. 2. RAM-CAN PENILLION. David Evans. UNTO THE Hills. 3d. Patriotic Song with descant. Do. THE BELLS OF CANTRE'R Gwaelod (S.A.T.B.). Staff Edition 6d. Sol-fa Edition 6d. N.B. — All the above were chosen for perform- ance at the Port Talbot Royal National Eisteddfod, 1932. J. S. Bach. A SHORT PASSION from St. Matthew's Gospel. Arranged and Edited by W. Gillies Whittaker. English Text by C. Sanford Terry. Welsh Text by E. T. Davies and Gwilym Williams. Staff and Tonic Sol-fa. Vocal Score, 3/6. Choruses only, 1/ Libretto with chorale melodies, 3d. Many difficulties which have hitherto stood in the way or performance have been eliminated in this edition, which aims to bring a great masterpiece within the reach of all. Its demands, both vocal and instru- mental, have been considerably reduced, its excessive length shortened, and the crucial difficulty of the high pitch of the Evangelist's part has been overcome. Above all, the lowness of the price deserves emphasis, since the vocal score contains 135 pages of music, in addition to over 20 pages of editorial notes. The time of performance of each of the two parts is 45 minutes if this edition is used complete, and 30 minutes if all cuts are made. Score and Parts on Hire. 11 SOLO SONGS. W Bradwen Jones. THE BARD'S PARADISE (Soprano or Tenor), (F#— A'). 2/ J. Morgan Lloyd. THE Song OF THE NIGHTING- ALE (Contralto Solo). 2/ Afan'Thomas. SLEEP mt PEARL (D.-G'). 2/ f Please write for new Büingual Catalogue of Welsh Music, Post Free. OXFORD UNIVERSITY PRESS ^Bolian Hall, New Bond Street London, W.I, and the UNIVERSITY OF WALBS PRESS BOARD University Registry, Cardiff. Music Representative for Wales Mr. BEN JONES, Colwyn, Llyswen Road. Cyncoed, CARDIFF.