Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pan oedd fy Nain yn M Ugain Oed ANTURIAF ysgrifen^u ychydig o'm hatgofion am ddillad a ffasiynau Sir Fôn-rhwng 1860 a 1870- sef dros 60 mlynedd yn ôl. Yr oedd Môn bob amser yn fam dda. Yr oedd bron bopeth angenrheidiol i'r cylla, i'r cefn, neu i'r alwedigaeth, yn cael ei gynhyrchu, neu ei wneuthur, yn yr hen Ynys. Felly mawr oedd nifer y crefftwyr — seiri coed, seiri cerrig, cryddion, teilwriaid, coopers, gofaint, canhwyllwyr, cwchyddion, ac yn y blaen. Gallai dyn ymwisgo o'r het i'r esgid ar gynnyrch a chrefftwaith yr ynys—yn yr un steil a mannau eraill, ond fe ddichon, dipyn mwy trwsgl neu "wladaidd." Pechod balchder dillad." Tuedd piwritaniaeth oedd mor gryf ac awdurdodol ym Môn yr amser hwn — oedd edrych yn wgus ar addurniadau, ac yn enwedig ar addurn corff, neu wisgo balch. Gwagedd oeddynt yn eu golwg rhwystr i ddilyn ar hyd "y llwybr cul," a gwnaent bob ymdrech i'w diddymu. Yr oedd "balch- der dillad" yn un o bechodau yr oes simpl hon, ac yr oedd yn aml yn destun sylw yn y Seiat. Mi glywais fy mam yn dweud y stori hon: Yr oedd geneth ieuanc unwaith yn ym- geisio am aelodaeth yn y Seiat, a thra'r oedd y blaenor yn ymddiddan â hi, sylwodd ar flodyn yn ei het, a rhuban coch yn ddolen- nog o dan ei gên, a dywedodd: Wel, fy ngeneth bach i, gan eich bod yn awr wedi ymuno â chrefydd, rhaid i chwi beidio gwisgo blodyn yn eich het o hyn allan, na'r rhuban coch yna; rhaid ichwi ddangos i'r byd eich bod wedi darfod â'r fath wagedd, a bod eich bryd ar fyd sydd well." Het y blaenor. Clywais stori am hen wreigan oedd yn byw ar ei phen ei hun. Un bore Sul, yn ei phrysurdeb wrth baratoi i fynd i'r capel mewn pryd, anghofiodd roi ei het am ei phen. Tra'r oedd yn cyrchu at ei sêt yn y capel, canfu blaenor hi. Aeth ati, ac ar ôl sibrwd yn ei chlust a derbyn ei nód gadarn- haol hithau, gosododd ei het silc ei hun ar ei phen. Efallai fod hyn wedi atal gŵg ysbryd yr Apostol. Beth bynnag am hynny achosodd chwerthin cyffredinol, ac ysgrech gan un forwynig, wrth weld yr hen wreigan yn edrych mor od yn het y blaenor. Pethau bychain fel hyn oedd dan waradwydd yn yr oes honno-rhoi oel ar y gwallt, gwneud Q.P. neu parting neu res wen. Pethau'n arwyddo gwamalrwydd oeddynt, meddent hwy, ac yn annymunol mewn proffeswyr crefydd. Yr oedd torri Pe bai'r FORD GRON yn bod yn 1862, a Mtgan Ellis yn ysgrifennu iddi, dyma un o'r darluniau ffasiynol fuasai ganddi. barf ar y Sabbath yn weithred bechadurus. ac yr oedd yn rhaid ei gwneud ar nos Sadwrn. Ond anodd yw dadwreiddio greddf a blannwyd gan law y Creawdwr, a buan y darganfuwyd y bobl ifainc, yn diystyru yn fwyfwy orchmynion hynafgwyr y 'set fawr' ac yn mynnu rhyddid i ymwisgo ac addurno eu person yn ôl eu chwaeth eu hunain ac yn null cyfrredinol yr amserau. Tsiaen aur gan bregethwr. Tua diwedd y cyfnod gwelais bregethwr yn esgyn i'r pulpud un prynhawn Sul, mewn gwisg bregethwrol briodol, ffunen wen, locsiau &c.—ond ow ar draws ei frest yr oedd tsiaen (cadwyn) aur! Wrth fynd adre clywais eiriau condemniol gan amryw. Welsoch chi, mewn difri," meddai un hen wreigen," tsiaen aur ar draws ei frest o? Yr oeddwn-i bron yn methu gwrando ar ôl ei gweld. Mi fasa' rhywun yn meddwl mai tipyn o ruban du, main, fyddai'n fwy gweddus i bregethwr." Methiant glân, felly, fu'r ymdrech i ladd balchder dillad," yn enwedig mewn merched. Cof gennyf am y sasiynau blynyddol a gynhelid yn yr ha' — un o ddigwyddiadau mwyaf pwysig y flwyddyn. Cyrchai cannoedd o ieuenctid y wlad yno pob un mewn dillad newydd. Dyma Ascot" Môn. "Y mae yma olwg ddigon o siou," meddai rhywun oedd yn edrych o'i gwmpas. 'Welsoch-chi 'rioed lodesi mor ddel, on'd ydyn' hwy'n neis? Modfedd ò bais wen. Yr oedd llawer tad piwritanaidd ei agwedd yn methu'n lân â chuddio'i falchder a chochai o'r herwydd pan welai ei ferch ieu- anc yn dyfod tuag ato yn cario'i pharasôl bychan sidanaidd uwch ei phen i ochel pelydrau'r haul, ei bonnet wedi ei drimio â blodau ac yn cael ei ddal yn sâff yn ei le gan ddau ruban go lydan a gyfarfyddent mewn cwlwm dolen dan yr ên, a'r cwbl fel ffrâm i wynepryd bochgoch, iach. Hi wisgai own sidan fflownsiog dros grinolins, ac wrth gerdded dangosai ryw fodfedd neu ddwy o bais wen. Yr oedd y bodis yn ffitio'n glós, a'r llewysau'n lledu i lawr at y dwylo. A phwy a feiai y tad wrth weld ei ferch yn edrych mor dlos, mor hapus ac mor foneddigesaidd Amser prysur oedd i'r wniadwraig, y teiliwr, y bonnet-maker, a'r crydd, ym mhob cwr a phentref cyn y Sasiwn, gan y buasai torri addewid i gael pethau newydd erbyn dydd y Sasiwn yn anfaddeuol. Yr oedd yn rhaid iddynt yn aml weithio nos a dydd, yn enwedig y wniadreg. Anodd fuasai cael gwell arddangosfa o brydferthwch gwedd a gwisg yn unlle nag yn y Sasiwn. Yr unig bobl a wisgai yn ôl dull piwritanaidd oedd y canol oed a'r oed- rannus. Dillad dynion. Fel hyn yr ymddangosai'r dynion — gwallt wedi ei dorri'n gwta, ac yn cael er frwsio i lawr y talcen, locsiau, yn gyffredin, fel fringe rownd yr wyneb, y farf wedi ei thorri o dan y trwyn, ar y bochau a'r ên; het ffelt (neu silc neu beaver) gorun uchel; côt dinfain o frethyn cartref, neu frethyn siop; trywsus neu glôs pen glin; cadach du am y gwddw, ac yn gorchuddiò'r goler liain bron yn gwbl. HEN WRAGEDD: het fawr uchel (yn gyffredin o silc) a chantal llydan fflat uwch