Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhagor o straeon am YSBRYDION A'U TEBYG Mewn hen adeilad. TJN noswaith yn y gaeaf, euthum i'r pentre gyda'm cyfeilion am dro. Cynigiodd rhywun ein bod yn chwarae ymguddio. Hynny fu, a chan nad oedd dim ond deg ohonom, fe'n rhannwyd yn gyfartal, pump i ymguddio a phump i chwilio. 'Roeddwn i yn digwydd bod yn yr ochr ymguddio. Mi wn i am le dirgel i ym- guddio," meddai un. Aethum ar ei ôl trwy'r tywyllwch i hen adeilad sigledig. Aeth pawb i gongl fechan, a dyna Ue bu dis- tawrwydd mawr. Yn sydyn, clywyd sŵn cerrig yn syrthio i lawr. Tybiodd rhai ohonom mai'r adeilad oedd yn dod i lawr, eraill mai'n cyfeillion oedd yn ceisio dod o hyd i ni. Yna bu dis- tawrwydd am ychydig wedyn. Y peth nesaf a welsom oedd mantell wen yn sefyll yn ein hymyl. Yr oedd yn debyg i ddyn a chanddo rywbeth yn ei law. Rhedodd ias oer i lawr fy nghefn, a theim- lwn wallt fy mhen yn codi. 'Roedd pawb fel pe bai wedi ei syfrdanu am beth amser. Rhoddodd pawb floedd a rhuthr am y drws, ac felllwynog i'w ffau o flaen ei elyn y rhedasom oll adre. Wedi cyrraedd 'roeddwn bron llewygu a'm hwyneb cyn wynned a'r eira. Dychryn- wyd fy rhieni yn fawr. Wedi imi adrodd fy holl helynt, dywedodd fy mam mai ysbryd rhyw ddyn a'i lladdodd ei hun yno ydoedd. Gofelais nad awn yno byth wedyn ar noson dywyll. ( — Miss Tydfil Jones, Graianfryn, Waenfawr, Arfon.) Hen wr a'i bastwn. YR oeddwn yn dod adref ar draws caeau tua hanner nos, wedi bod yn rhoi tro am hen ffrind annwyl imi a orweddai'n wael yn ei wely ers blynyddoedd. Noson olau leuad hyfryd oedd hi, ac wrth ddod tros y gamfa i'r cae nesaf at fy nghartref gwelwn rywun yn dod i'm cyfar- fod. Gan ei bod yn hwyr a minnau am beidio oedi i siarad â neb, mi giliais yn uwch i fyny i'r cae er mwyn ei osgoi. Ond er cilio a chilio a cherdded yn gyflym iawn, ymlaen tuag ataf y deuai'r gŵr o hyd, ac yr oedd yn ddigon agos erbyn hyn imi ganfod mai hen ŵr ydoedd. Pan oedd o fewn ychydig gamre i mi, safodd a'i ddwylo ar ben ei bastwn, a'i ên yn pwyso arnynt, ac edrychodd yn syth i'm hwyneb. Teimlwn chwysoer yn torri allan drosof, oblegid safwn wyneb yn wyneb â'r hen ŵr a adewais yn ei wely ychydig funudau'n gynarach. Rhedais adre bob cam, a chyrraedd y t, ar fin colli f'anadl, a'm hwyneb fel y galchen. oddi wrth ddarllenwyr Y FORD GRON Drannoeth daeth cennad ataf yn fore i ddweud fod fy hen gyfaill wedi marw'n sydyn yn ystod y nos. (-Pencerdd.) Angladd yn mynd heibio. JJAN gyrhaeddais adref o'm gwaith yn hwyr un noson, sef tua hanner nos, yr oedd fy ngwraig ar y drws yn f'aros, a gwelwn ei bod yn edrych yn wahanol iawn i'r arfer. Wedi mynd i mewn, dywedodd wrthyf: Mi welais beth rhyfedd iawn heno. Mi welais angladd. Cred di neu beidio, mi gwelais i hi yn mynd heibio'r ty, ac yr oeddwn yn adnabod y dynion oedd ynddi. 0 fewn tuag wythnos ar ôl hyn dyma angladd yn dod heibio, a dyma fy ngwraig yn galw arnaf. Dyma'r angladd welais i y noson honno, a'r un dynion sydd yn hon ag oedd yn honno." Ymhen ychydig fisoedd wedi hyn yr oedd fy ngwraig a minnau yn aros yn Aberteifi, yn ei hen gartref hi. Un noson, wedi mynd i orffwys, dyma fi yn dywed sŵn mawr, a lleisiau cas fel rhai yn llefain, yn myned heibio'r ty. Galwais ar fy ngwraig, a gofyn a glywodd hi'r sŵn. "Do," meddai hithau. 'Wyt ti'n cofio'r peth welais i'r diwrnod hwnnw y deuthost ti adref o'r gwaith yn hwyr? Wel, yr un peth yw hwn, ac ond iti aros, cei di weld yr angladd." Ac yn wir, mewn ychydig ddyddiau daeth heibio yr angladd a'r sŵn cas a'r lleisiau oerllyd, mor debyg ag oedd yn bosibl i'r peth glywais y noson honno yn Aberteifi. Felly mae'n rhaid credu bod rhai yn cael gweld pethau sydd yn rhagrfynegi digwydd- iadau sydd yn dod. ( — William Hughes, 20, Upper Regent-st., Àberdâr.) Angladd ar y ffordd. /^LYWAIS fy nhad yn dweud bod dyn o'r enw Dafydd, oedd yn byw yn yr un ardal ag ef pan oedd yn hogyn, yn credu'n gryf mewn ysbryd a thoili a golau corff. Dwedai 'nhad ei fod yn dod adre o'r pentre ryw noson yn ei gwmni. Yn sydyn, dyma Dafydd yn gafael yn ei fraich a'i dynnu'n glós i'r clawdd. Safwch yn llonydd reit fan hyn am dipyn," meddai, i'r rhain gael pasio." Pwy, yn enw dyn? ebe 'nhad, oblegid ni welai efe neb. Ust, peidiwch dweud dim, 'fyddan' hw' ddim yn hir," oedd yr unig ateb a gafodd. Felly 'doedd dim i'w wneud ond sefyll y fan honno fel delw. O'r diwedd dyma fe'n dweud, Dyna, mae'n' hw' wedi mynd i gyd 'nawr. Angladd oedd 'na. 'Welsoch chi chi ddim ohonyn'hw'? Paid â siarad dwli," meddai fy nhad, 'doedd 'na neb o gwbl." Oedd, oedd," afebai yntau'n ddifrifol, 'roedd 'na lond yr heol o bobl, ac 'rwy'n siwr fod rhywun o'r cwm yma'n mynd i farw heb fod yn hir." Ymhen ychydig ddiwrnodau bu farw gwraig o'r ardal, ac fe hebryngwyd ei gweddillion i'r llan ar hyd y ffordd honno. (-A. T.) Y Cysgwr Cudd. pAN oedd fy ngŵr a minnau ar ymweliad â De Cymru un tro digwyddem aros mewn lle a fuasai'n dý Ficer yn yr hen amser, ond a adawyd wedi hynny i fod yn ben congl i un o brif strydoedd y dref. Yr oedd ein hystafell fwyta a'n hystafell wely ar yr ail lawr, ac o'r llawr hwnnw y ceid y drws cefn, un â ffenestr fechan iddo. Pan agorais y drws hwnnw, synnais gryn dipyn o'm cael fy hun mewn mynwent. Er hyn, hoffais y ty henafol, a theimlais yn hollol gysurus ynddo. Nid oedd fy ngŵr yn dda ei iechyd ar y pryd, ac ni chawsai hwyl ar gysgu. Deffrodd fi un noson, a gofynnodd: 'Oes yma rywun arall yn cysgu yn y rŵm yma, deudwch? Be-da-chi'n i feddwl? meddwn innau. Clywch," meddai, y mae yma rywun yn anadlu, y mae i'w glywed ers meityn yn anadlu bob yn ail â chwi." Gwrandewais. Oedd, yn ddios, yr oedd yno rywun, neu rywbeth yn cysgu'n braf. Ceisiwn ddyfalu beth allai fod. Gwyddwn nad oedd yno gi yn y ty; ac ni chlywswn i erioed yr un gath yn anadlu mor debyg i fod dynol, pa mor drwm bynnag y cysgai. Oedd yno rywun wedi yfed, ac wedi gor- wedd y tu allan i'n drws, tybed? Daeth y fynwent o'r cefn ar draws fy meddwl; ond yn lle trymder, rhyw ysgafn- der a ddaeth arnaf, a chwerddais, — fyny fy llewys, wrth gwrs, rhag ofn i bobl y tŷ fy nghlywed. Teimlwn yn bur gryf, codais a cherddais ar draws yr ystafell i olau'r trydan. Edrychais dan y gwely, yna i'r cwpwrdd dillad, ac hefyd i gwpwrdd bychan cyfrin a oedd yn y pared; nid oedd yno ddim yn hwnnw chwaith namyn het merch. Daliai'r anadlu 'mlaen yn ddidor, a thyb- iwn mai yng nghyfeiriad y drws neu'r ffenestr yr oedd y cysgwr. Yr oedd gennym glo ar y drws, a rhaid imi gyfaddef nad oedd gennyf ddigon o nerf i agor hwnnw.