Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwrando'n ddyfal gylch y ffenestr. Teim- lwn un funud mai o'i chwmpas hi yr oedd y dirgelwch. Syllwn i fyny tua'r distiau rhag y gallai fod yno rigol i ryw gysgwr yn y llofft uwchben anadlu trwyddo. Methais a gweled dim a daflai oleuni imi ar y dirgel- wch. Diffoddais y golau, a cherddais drwy'r tywyllwch yn ôl i'm gwely i gysidro. Wel, meddwn, ynof fy hun, os ysbryd ydio, rhaid ei fod yn un da, neu ni fuasai'n cysgu mor esmwyth a naturiol; yr oedd yn ddymunol i wrando arno. Cysgais innau. Clywsom yr un anadlu esmwyth y nos- weithiau dilynol, a hynny tua'r un adeg. Byddai wedi tewi cyn i ni godi. Wedi cyrraedd adref adroddais hanes yr anadlu cyfrin wrth chwaer i mi a'i gŵr. Edrychai fy chwaer yn ddifrifol iawn, ond, meddai fy mrawd-yng-nghyfraith, â gwên ar ei wyneb: Mi ddweda-i i chi beth oedd-na, llygod- en fawr, a honno wedi cael annwyd. Mi 'rydw' i wedi clywed un yn cysgu felna droeon yn y stabal yma." Cefais fraw. (-A. R.) Ysbryd Coed y Gelli. ARFERIAD Thomas Bevan, hen forwr o Borth Hefin, pan ddeuai adref o'r môr, oedd myned gyda'r nos i bentref bychan, rhyw filltir o'r porthladd, i gael glasiaid. Un noson, wedi cael cwmpeini difyr yn yr Harp," daeth amser cychwyn adref. A chan nad oedd yno neb yn myned ei ffordd ef, rhaid oedd iddo gychwyn ei hunan. Yr oedd yn noson braf, ond tywyll,-di-Ieuad,-dim ond ambell seren yn ymddangos weithiau rhwng y cymylau. Wrth fyned heibio Camfa Coed y Gelli, cofiodd yr hen frawd y byddent yn arfer dweud yn yr ardal fod rhywrai wedi gweled ysbryd yn dod o'r coed yn y llecyn yma. Wrth feddwl hyn, cododd Thomas Bevan ei ben i fyny, ac er ei fraw a'i syndod, beth a welai ond rhywbeth main, du, yn sefyll o'i flaen. Yn ei ddychryn, ceisiodd roddi noled i'r Ysbryd, ond methodd a'i daro. Treiodd drachefn a thrachefn ond yr oedd yn dal o'i flaen o hyd, heb gael ei gyfîwrdd. Yn chwys i gyd penderfynodd roddi ei ben i lawr, a myned heibio'r Ysbryd." Felly y gwnaeth. Wedi cyrraedd ei gartref, ac agor y drws, gwelodd Yr Ysbryd drachefn. Yng ngoleuni y lamp, gwelodd mai rhuban ei het oedd wedi disgyn dros ei chorun, ac mai hwnnw yn chwifio o'i flaen oedd Yr Ysbryd." (—Mab y Gelli.) Y Dyn Tal, Barfog. pAN letywn ryw dro mewn tŷ ffarm, gyda theulu caredig dros ben, ar ôl swper, gosodwyd fi i gysgu mewn ystafell eang, a phopeth yn lân ac yn drefnus ynddi, yn un o'r gwelyau esmwythaf y gorweddais arno erioed. Gyda fy mod yn y gwely, ymollyngais i freichiau cwsg ar unwaith. Rywbryd, gefn trymedd y nos, deffroais, a thybiwn fod dillad y gwely yn llithro'n araf oddi arnaf i gyfeiriad y traed. Tyn- nais hwynt i fyny dros fy ys- gwydd a setlais fy hun i gysgu drachefn. Yn y man teimlwn y dillad yn llithro eil- waith. Beth yn y byd sy ar y dillad 'ma?" meddwn wrthyf fy hun, a thynnais hwynt yn sydyn i fyny dros fy ysgwydd. Ond nid cynt y tynnais y dillad i fyny nag y tynnwyd hwynt oddi arnaf y drydedd waith. Yr oedd yn noson dawel, lawn lleuad, yn yr haf. Codais ar fy eistedd yn y gwely, ac er fy syndod beth a welwn ond dyn mawr tal yn sefyll wrth draed y gwely, a barf ddu laes ganddo, a edrychai yn fwy ac yn llaesach, gan y cyferbyniad oedd rhyngddi a'r wisg wen oedd am dano. Safai'r dyn, neu'r ysbryd, fel colofn wrth draed y gwely. Edryehem i wynebau ein gilydd heb ddywed- yd gair. Yn y man torrwyd ar y distawrwydd drwy i'r ysbryd ofyn mewn llais mwyn a serchog, Wyt ti'n well, Ifan bach? Mi ddoi di eto, tae ti Wedi dod yn ddigon cry i godi a mynd allan dipyn." Erbyn hyn yr oeddwn mewn pangfeydd a dychryn, a'r chwys oer, fel chwys marwol- aeth, yn ddafnau mawr ar fy nhalcen. Symudodd yr Ysbryd oddi wrth y traed at erchwyn y gwely; ac meddai, Gad i mi dy roi i orwedd eto, Ifan bach, a rhoi'r dillad droSot ti, rhag ofn i ti gael annwyd. Rhoddodd un llaw ar fy ysgwydd, a'r llall ar fy mrest i osod fy mhen ar y gobennydd. Ar hyn rhoddais y wawch fwyaf annaearol a glywodd neb yn y t, hwnnw erioed; a rhodd- ais hergwd i'r ysbryd yn rhywle tua'i wyneb, canys ni wyddwn pa un ai yn y corff ai allan o'r corff yr oeddwn. Deffrodd y teulu, a deffrodd yr ysbryd wrth erchwyn y gwely, ac aeth ar eiliad allan o'r ystafell. Canys mab y t, ydoedd, wedi codi yn ei gwsg, ac wedi dod i fewn yn ddistaw i'r ys- tafell. Yn yr ystafell honno y bu brawd iddo farw rhyw ddwy flynedd yn ôl. A byth er hynny âi i'r ystafell honno gan sefyll wrth draed y gwely am oriau weithiau, oni ddi- gwyddai iddo ddeffro, neu i'r teulu ei glywed. (Ieuan Mai, Meifod.) Y chwiban wrth ei gefn. ADRODDAF hanes yr ysbryd fu yn achos angau o'r bron i Thomas Jones, y Miner weithiai stem y nos yn un o chwarelau Ffestiniog. Ar ei ffordd adref i Faentwrog yr oedd ar y pryd. Yr oedd yn myned trwy ffordd bur unig, yr oedd yn sych ond gwyntog iawn. Dychrynwyd ef lawer gwaith gan ddail crin yn rhedeg ar ei ôl ar y ffordd, a thybiai fod rhywbeth yn ei ymlid i lawr y ceunant sych" pan glywai ddylluanod yn hw-hwian heibio iddo. Ond pan aeth allan o'r coed, a'r gwynt yn codi, dyma rywbeth yn chwibannu yn ei ymyl. Rhyw chwibaniad hir, dolefus. Gwrandawodd, ond heb aros dim. Parhaodd y chwibannu yn ebychiadau gan ostwng a chodi. Dechreuodd redeg i foddi'r sẃn ond ni allai redeg am fwy na dwy filltir, ond y foment yr arafai dechreuai'r chwibannu drachefn, ac yr oedd y chwibannwr yn glos yn ei ochr. Rhedai ac arafai, gan chwysu a chwythu,-bron syrthio'n farw, meddai ef, hyd ei fod yn ymyl ei gartref pryd y dargan- fu'r ysbryd. Yr oedd ganddo flask dun i gario te ym mhoced ei got, a'r corcyn wedi colli ohoni, a gwnaeth y gwynt ddefnydd ohoni i ganu galarnad i ddychryn Thomas druan i feddwl mai ysbryd gerddai wrth ei ochr. (-Chwarelwr.) Yn y ty mawr. YR oeddwn yn gweinyddu ar un claf mewn tý mawr. Yng nghwr uchaf y tý yr oedd ystafell y claf. Nid oedd dim trydan yn y ty a rhaid oedd gwneud popeth wrth olau cannwyll. Llawer tro clywsom guro wrth y drws, ond pan aem i lawr i agor nid oedd neb yno. Un noson oer a gwlyb, pan oedd y claf yn wael iawn, a dwy ohonom yn gofíod rhoi heibio gorffwys, fe ddigwyddodd i un ohon- om fynd i lawr i'r seler er ceisio rhywbeth i'r claf. Cyn ei bod bron wedi cyrraedd y gwaelod fe'i clywn hi yn rhedeg i fyny yn ôl ataf, gan ddweud bod rhywun yn y gegin. Rhoddodd hynny fraw inni, gan ein bod yn sicr ein bod wedi cloi pob man. Ond mynd i lawr oedd rhaid, gyda chan- nwyll yn ein llaw. Pan oeddem ar y grisiau canol diffoddodd y gannwyll ac nid oedd gen- nym un fatsien o gwbl. Mawr oedd ein dychryn, ni wyddem beth i'w wneud, gan na fedrem symud yn ôl nac ymlaen. Ond rhaid oedd gwneud rhywbeth. O'r diwedd fe agorasom y drws oedd yn agor i'r stryd. Nid oedd ond tywyllwch mawr i'w weled a phawb wedi mynd i orffwys gan ei bod yn tynnu at un o'r gloch. O'r diwedd fe glywsom sŵn traed o bell, a dyma ddisgwyl amdano yn dod yn nes. Mawr oedd ein balchter pan ddaeth yn nes atom. Gweithiwr ar y rheilffordd oedd yn dod adre. Mentrais ofyn iddo a oedd ganddo fatsien i'w spario, ond nid oeddem yn lecio dweud wrtho beth oedd yn ein poeni. "Gyda phleser," meddai yntau, ac wedi diolch iddo a dweud "Nos-da," dyma ni yn mentro i lawr i wynebu'r ysbryd. Wedi dod at y drws yr oeddem yn bur gynhyrfus, ac wrth aros dipyn 'roedd sŵn papur i'w glywed y tu fewn. Rhaid oedd mentro gan na fedrem aros yn hir a gadael y claf. I fewn a ni, ond nid oedd neb i'w weld. Dyma ni'n rhoi'r golau ac edrych o'n cwm- pas. Nid oedd dim i'w weld. Y tu. ôl i'r drws yr oedd papur dyddiol wedi syrthio yn agored, ac wrth i'r drws gael ei agor 'roedd y papur yn cau, ac felh* yn gwneud sŵn fel pe tae rhywun yn agor a chau'r papur. (Un o Arfon.) FE gyhoeddir y gweddill y m·is nesaf. Rhoddir 2s. 6c. am bob un a gyhoeddir uchod. Mr. R. Humphreys, Clogwyn Gwin, Rhyd-ddu, 8ir Gaernarfon, oedd enill- ydd y 7s. 6c. y mis diwethaf.