Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI ΣL oedd gryn dipyn o drwst yn nwndwr 1 yr afon ar ôl glaw trwm y deuddydd cynt, tra safai Wil y Foel ar ei glan yn pysgota. Un lwcus am bysgod oedd Wil; a dywed hen ddihareb-" Meistr pob gwaith yw ymarfer." Yr oedd Wil yn hen gynefin â'r gwaith ers blynyddoedd bellach. Yn wir, ni fyddai'n gwneuthur dim arall, namyn rhoi hanner diwrnod o help ar y fferm, weithiau, i John Puw y Berth Ddu, yn gyfnewid am damaid o fwyd a lle i gysgu yn yr ysgubor. Ni bu ganddo gartre i droi iddo wedi colli ei Íam-ei unig swcwr-tuag ugain mlynedd yn 'ôl. Erbyn hyn, cartre i rywun arall ydoedd hen fwthyn y Foel. Er yn ddi- gartre, ymddangosai Wil yn bur fodlon ar ei fyd; yr oedd ar y telerau gorau â phawb oddieithr ambell geidwad afon neu blismon a fynnai ddyfod ar draws ei lwybr a thorri ar ei heddwch o. Cafodd ei garcharu droeon am bechu yn erbyn awdurdodau'r afonydd; ond nid oedd dim yn tycio trwy'r carcharu. Cyn gynted ag y câi Wil ei draed yn rhydd, cyrchai ar ei union yn ôl am yr hen fro; a chyn sicred â hynny byddai'r afon, ei ffrind gorau yn y byd," chwedl yntau, yn rhedeg i'w gyfwrdd a'i sŵn yn llawn croeso iddo. Teimlai Wil, rywfodd, mai hyhi oedd yr unig un a'i disgwyliai yn ôl bob tro. Yr oedd hyd yn oed y mieri a dyfai ar ei glan yn rhoi rhyw wedd o groeso arnynt eu hunain, ac fel pe'n drysu'n fwy nag erioed yn eu hawydd i'w gofleidio'n ôl i'r hen lwybrau. Ac yng nghanol rhyw unigrwydd oer, fe gynhesai ei galon. Oedd, yr oedd ganddo rywbeth i edrych ymlaen ato eto--pysgota. YR oedd yn agos i flwyddyn ers pan oedd Wil yn ei ôl y tro hwn. Dywedai fod y plismyn a cheidwad yr afon yn digwydd byhafio'u hunain dipyn gwell nag arfer ers tro. Nid oedd yn dywedyd ei fod ef ei hun yn byhafio'n well buasai hynny'n anwir. Yr oedd Wil mor brysur ag erioed hyd fin yr afonydd. Fel rheol, carai grwydro'r glannau yn y dydd i lygadu i'r dwr, a phan ddoi'r nos fe wyddai i'r dim ym mhle yr oedd y pysgod i'w cael. Ond y diwrnod hwn, fodd bynnag, yr oedd yn pysgota'n debyg i rywun risbectabl arall, gydag un gwahaniaeth-pe gofynnid iddo am gael gweld ei leisans, ni fuasai ganddo yr un i'w dangos. Ond nid dyn yn credu mewn achwyn ar neb ydoedd Pitar Huws y Wern; gwell ganddo geryddu yn ei ffordd ei hun. 'Wyddost-ti be, Wil," meddai, "y mae'r afon yma wedi dy rwydo di, gorff ac enaid, a 'wela'-i ddim siawns iti gael dy draed ÿn rhÿdd oddi wrthi-hi byth; ond am yr ychydig amsar y byddi-di'n treulio dy hohdcs yn y jêl. 'Welais-i erioed 'siwn beth â hyn." Wil y Foel Yrwan, faint 'rowch-chi imi am log o samon, Pitar Huws? oedd yr ateb. Samon iti'n wir, ceri i wneud rhwbath, da di," meddai Pitar yn ddi-amynedd, dan frasgamu i gyfeiriad y bent, a'r hen Brins, y ci, wrth ei sodlau. Chwarddodd Wil, a symud i le yn uwch i fyny, lIe y safai pysgotwr arall. Sut hwyl, Mistar Edwards? Helo, Wil, ti sydd 'na? Dim mymryn o hwyl, fachgen, dim mymryn o hwyl. Mae 'ma ormod o li heddiw, 'weldi." Lli neu beidio, mae gen' i lond 'y nghawell bron-be ddvliech-chi ohonyn'- hw'? Sut yr wyt-ti mor lwcus, dywad, rhagor y fi ? Dyma fi wedi bod trwy'r pnawn yma yn methu'n glir â baohu'r un." 'D ydyn'-hw' ddim yn eich 'nabod chi, Mistar Edwards.' Mi ddylen' fy nuood i bellach, yr ydw'-i yma'n ddigon amal." Ond hefo mi y maen'-hw' yn ffrindiau, 'wyddoch, ac mi brofa'-i hynny ichi 'rwan," meddai Wil, gan daflu'r bach i'r dwr; a chyn pen dau funud dyna frithyll braf arall at y pentwr oedd yn y cawell. Gafr, un da wyt-ti! Pa bluen sy gen'-ti, dywad? 'D ydyn'-hw' ddim yn flrindia hefo Mistar Edwards Tý Gwyn, dyna be ydy'r sicrad i gyd. Hefo Wil y Foel y maen'-hw'n ffrindia'; ac i brofi ichi nad oes dim yn fy ngenwair i mwy nag sy yn eich genwair chitha, mi gymera'-i fenthyg eich genwair chi, os gwelwch-chi'n dda." Wel, hwde hi." Dyna'r bach yn y dŵr. Misiar Edwards Tŷ Gwyn sy yma," meddai Wil ar dop ei lais wrth y pysgod, Gan AWENA RHUN a rhoddodd ddigon o amser iddynt i ben- derfynu p'run a ddaethent at Mistar Edwards Tŷ Gwyn ai peidio. Ofer fu disgwyl-ni ddoi'r un. Taflodd y bach drachefn. Wil y Foel sy yma 'rŵan," meddai. Ymhen ychydig eiliadau dyna eog tlws yn hongian uwch y dŵr ac yn swalpio am ei fywyd fel pe'n edifaru, wedi'r cwbl, am gymryd ei hudo gan Wil y Foel; ond 'waeth iddo heb na gwingo mwy, druan: y mae'r tryfer ar ei wàr, ac i'r cawell ag ef. Wel. Wil, rwyt-ti yn fy mhyslo i 'n lân." Mi goeliwch 'rẃan fod y pysgod yn ffrindia' hefo mi." Maen'-hw'n deud i mi, Wil, dy fod di'n dal peth wmbrath o samon." Mae pobol yn deud llawer o bethau, on'd ydyn'-hw'? Be 'wnei di ar ôl yfory, Wil? Mae drennydd yn ddiwrnod ola' o hydref, fel y gwyddost." Ydy, y mae'r tymor pysgota ar ben; hynny ydy, yn ôl yr awdurdodau." Wel, beth bynnag. mi fydd yn reit galad arnaf i­mi fydda' i 'n teimlo fy mod i'n cael iechyd wrth bysgota dipyn, wel'di; ond rhaid bodloni am rai misoedd, rywsut; ac yn wirionedd i, mae gen' i ofn y bydd rhaid imi fodloni i droi adre heddiw heb ddal yr un pysgodyn o fath yn y byd. Cebyst o beth —" 'Gymerwch-chi y rhain gen' i am bumswllt? Mi rof chweswllt iti, fachgen, os ca'-i nhw." Dyma nhw ichi." Fel yna y setlwyd yn ddiymdroi. Yr oedd y prynhawn wedi rhedeg ymhell, a throes Edwards tuag adref yn galonnog gyda'r