Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cawell llawn. Yr oedd yn falch o'r cyfle i gael siomi ei wraig o'r ochr orau am un waith, o leiaf. Y tro hwn 'chawsai-hi ddim chwerthin am ei ben a'i wfftio am sefyllian am yr holl oriau o gwmpas yr afon yna, a hynny i ddim ar wyneb y ddaear, ac felly ymlaen. Tebyg mai un go ddi-hwyl ydoedd gyda'r enwair; ond pa waeth, os oedd yn cael iechyd fel y dywedai? Dyna'r peth pwysicaf, wedi'r cwbl, i ambell ddyn a all fforddio colli amser. Câi groeso wedi cyr- raedd adref y diwrnod hwn; ond cyn cychwyn gofalodd am roddi swllt arall i Wil gan ei siarsio i gadw'r fargen yn gyfrinach hollol. ADDAWODD Wil hynny'n rhwydd, a throes yntau i gyfeiriad arall, sef i gyfeiriad y pentre oedd draw ryw filltir o ffordd. Teimlai ei fod wedi gwneud cyflog del iawn am y diwrnod hwnnw, a meddyliai mor braf y buasai arno pe cawsai saith swllt bob dydd o'i fywyd. 'Roedd y nos yn dechrau taflu ei chysgod ar y fro; ac at hynny yr oedd hi yn rhyw wlitho glawio. Syrthiai ambell ddeilen o'r coed i'r ffordd heb i Wil sylwi. Rywfodd neu'i gilydd fe sylwodd ar y mwyar duon ar y cloddiau. Heliodd lond llaw ohonynt i dorri ar y gwendid a ddaethai drosto o fod yn rhy hir heb fwyd. 'D ydyn'-hw' ddim chwarter mor felys ag y bydden'-hw' ers talwm," meddai wrtho'i hun, yn bur ddi-ddiolch. Cyrhaeddodd y pentre, a throi i mewn i'r dafarn. Gofynnodd am blatiaid o fara ymenyn a chaws a glasiaid o gwrw. Cafodd flas neilltuol ar ei fwyd, a galwodd am lasiaid arall, ac un arall. Teimlai'n hapus iawn. Yr oedd mewn tymer mor dda fel na allai beidio â thynnu sgwrs â merch y tý. Yr oedd hi wedi ymbincio mor ddeniadol fyth ag y medrai, fel arfer. Peidiwch â siarad hefo hwnna, Miss Jôs, beth bynnag 'wnewch-chi," gwaeddai Tom y Gadlas o'r pen arall i'r gegin botio. Diar mi, pam na chaf i siarad hefo Wil? Un gwnynllyd gynddeiriog ydy Tom, Miss Jôs. Peidiwch â gwrando arno fo," meddai Wil. 'Waeth iddo heb na bod yn wnynllyd, ddim." Na waeth; yr ydan ni'n dallt yn gilydd, on'd ydan ni, Miss Jôs? Ydan, Wil," Rôg heb 'i fath ydy Wil wedi bod hefo merchad erioed, cofiwch-chi 'rŵan," meddai Ifan Gruffudd, Cae Drain. Ac os wyt-ti'n meddwl sythu at Miss Jôs, rhaid iti ymorol am siafio a chael ryw siwt dipyn mwy pethma amdanat, ne 'wnaiff hi ddim byd â thi," meddai un arall. Be sy ar fy siwt i? 'Cha'-i yr un well na hi gen' ti, mi wn." Gadewch lonydd i Wil. Pan gaiff Wil siwt newydd, mi ewch chwi i gyd i'r cysgod yn 'i ymyl o." Ie, aros di, 'ngwas i, dipyn bach, ac mi gei di weld y medra' inna fod yn swel gystal â thitha-hynny ydy, os hcia' i. O, medra' siwr, os licia' i. A phaid ti â synnu os bydda'-i'n dy yrru di i'r cysgod rai o'r dyddia' nesaf yma." Ond 'waeth iti heb na thrîo dy wneud dy hun yn swel, 'wna'r merchad ddim byd â thi. Dal pysgod fedri di ora', Wil druan." Dal pywiad fedri ditha' ora'. Mae'n well gen i ddal pysgod na'r rheini. Mae 'na faeth mewn pysgodyn; ond 'd oes dim maeth i neb mewn pywedyn. Y peth gora' i ti ydy cau dy eeg, felly mi lynci lai o bywiaid." Rhywbeth tebyg i hynyna ydoedd peth o'r siarad yng nghanol dadwrdd y gyfeddach, a llithrodd y gyda'r nos heibio'n gyflym. Daeth amser cau. Llyncodd pawb ei lymaid olaf cyn mynd allan o oleuni tanbaid y gegin botio i ganol tywyllwch y nos. Yn eu dallineb, anodd ydoedd i'r un ohonynt ddeall ym mhle'r oeddynt am ysbaid. Fodd bynnag, wedi ymbalfalu yn hurt am ychydig, fe gafodd pawb o hyd i'w gilydd, a chafwyd tuag awr yn rhagor i siarad yn glyfar ac i ymdrin â'r cwestiynau dyrys a phwysig oedd heb eu setlo yn y gegin botio. Anodd iawn ydoedd ymwahanu, rywfodd; ond rhaid oedd dywedyd nos dawch yn hwyr neu'n hwyrach, ac erbyn hyn haws oedd gweled y ffordd dan draed. Nid oedd neb yn dyfod i'r un cyfeiriad â Wil. Ymlwybrodd ymlaen ar ei ben ei hun. Yr oedd yn ormod o dderyn nos i golli ei lwybr. Pan oedd gyferbyn â'r Foel-ei hen gartre—clywai'r cloc yn taro. Safodd i wrando, a chyfrodd un ar ddeg. Yna aeth ymlaen i gyfeiriad y Berth Ddu; a sŵn ei gerddediad honco yn torri ar ddistawrwydd dwfn y nos. Yn gynnar fore trannoeth fe gafodd teulu y Berth Ddu fraw. Pan aeth y mab allan i'r buarth, gwelodd fod yr ysgubor a'r beudy wedi diflannu i rywle. Rhwbiodd ei lygaid rhag ofn mai breuddwydio'r oedd. Aeth yn nes breuddwydio? Nage, 'roedd y cwbl yn un â'r llawr, a mwg araf yn dyrchafu o'r garnedd. Pan aethpwyd i chwilio achos y trychineb tryfer oedd yr unig beth o bwys a gafwyd yng nghanol y lludw. Wedyn, hawdd fu dyfalu mai yno hefyd yr oedd llwch Wil y Foel. Mi Wn y Daw. MI wn y daw fy llong i dir 0 wlad y pomgranadau pell; Hi suddodd, suddodd, medd fy ffydd, Ond medd fy ngobaith, Gobaith gwell, Mi wn y daw fy llong i dir. Ni waeth gen' i o bydd yn hwyr- Mi wn y daw yn ddigon siwr, A'r nawnos olau uwch y bae Yn syllu'n hir yn nrych y dŵr,— Ni waeth gen' i o bydd yn hwyr. Pan gaffwy'r fendith geisiais cyd Sy'n felys ran o'i chargo trwm, Carthaf freuddwydion f' oes i gyd, Mi fydda'n amgen henwr llwm Pan gaffwy'r fendith geisiais cyd. Mi wn y daw fy llong i dir Dros erwau bras y Werydd lefn; Cyrched a fynno 'i gartref clyd, Ond ni throf innau drach fy nghefn,- Mi wn y daw fy llong i dir. Cilfiriw, D. J. WILLIAMS. Castell Nedd. LLYFRAU'R FORD GRON Y Llyfrgell Gymraeg rataf erioed. Trysorau'r Iaith Gymraeg Chwe cheiniog yr un. Ugain o daitlau. ≁ L PENILLION TELYN. 2. WILLIAMS PANTYCELYN: Temtiad Theomemphus. 3. GORONWY OWEN: Detholiad o'i Fardd- oniaeth. 4. EMRYS AP IWAN: Breoddwyd Pabydd wrth eî Ewyllys, L 5. EMRYS AP IWAN: Breaddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, IL 6. DAFYDD AP GWILYM: Detholiad o'i Gywyddan. 7. SAMUEL ROBERTS: Heddwch a Rhyfel (ysgrifau). 8. THOMAS EDWARDS (Twm o'r Nant): "Anterliwt Tri Chryfion Byd." 9. Y FICER PRICHARD CannwyD y Cymry. 10. Y MABINOGION: Stori Branwen ferch Llyr, a Stori Ladd a Llefelys. 11. MORGANLLWYD: Llythyr at yCymry Cariadus, a Barddoniaeth. 12. Y CYWYDDWYR: DetnoHad o'a Barddoniaeth, 13. EUS WYNNE Gweledigaeth Cwrs y Byd (Y Bardd Cwag). 14. EBEN FARDD: Detholiad o'i Farddon- iaeth. 15. THEOPHILUS EVANS Drych Prif Oesoedd (Detholiad). 16. JOHN JONES, CLAN Y CORS: Seren Tan GwmwL 17. SYR JOHN MORRIS-JONES: Salm i Famon, a Marwnad Gray. 18.GWILYM HIRAETHOG: Bywyd Hen Deiliwr (Detholiad). 19. SYR OWEN EDWARDS Ysgrifau. 20. ISLWYN: Detholiad o'i Farddoniaeth. ≁ 6d. yr un, trwy bob Uyfrwerthwr HUGHES A'I FAB, WRECSAM.