Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan WALDO WILLIAMS GEIRIAU PETH mawr yw gair. Ond ichi feddwl amdano, y mae'n beth aruthrol. Yn y dechreuad yr oedd gair." A phwy sydd heb deimlo naws ac awyr- gylch geiriau ar wahân i'w hystyr? Cofiaf amdanaf fy hun, er enghraifft, yn cyfarfod â'r gair bwhwman am y tro cyntaf. Y noswaith cyn y Gymanfa Bwnc ydoedd, a'r dynion mewn oed ar lofft y capel yn adrodd y bennod ar dôn." Tua chanol y perfformiad, wedi i'r merched adrodd nifer o adnodau mewn Uais trebl, dyma'r gwyr yn taro i mewn, a phob un ohonynt yn rhuo fel tarw Bashan: Na byddwch mwyach fel plantos yn bwhwman ­yna atalfa a roddai gyfle i'r gair olaf ddarstain rhwng y muriau. Llawenychais yn ddirfawr yn y gair dieithr, ond yr oedd ofn arnaf chwilio neu ofyn am ei ystyr rhag cael fy siomi ynddo. Cewch ambell air felly-gair a pherson- oliaeth ganddo-mewn tafodiaith. Nid sôn yr ydwyf am y rhai sy'n ateb i'r dim oherwydd eu sŵn, megis pan ddywedir bod y drws yn climpan gyda'r gwynt, a bod y ffordd yn slabog iawn ar ôl y glaw, ond y geiriau hynny sy'n peri i ddyn deimlo eu bod yn anorfod, er na wyr pam. Beth a olygir wrth ddweud bod dyn yn ddwl gambar ond ei fod yn ddwl gambar ? Jibiders. Dyna jibidêrs wedyn. Gwn o'r gorau fod ieithwyr yn honni bod jibidêrs yn fab gordderch i geometrica, ond ymddengys hyn i mi ar yr un tir ag ymgais i esbonio athrylith Shakespeare trwy sôn am ei hen dad-cu. 'Rwy'n sicr y buasai jibidêrs lawn cystal dyn pe bai'n fab i rywun arall. Ac, wrth gwrs, ym myd geiriau, y mae dyn yn dyfeisio achau heb drwblu yn fynych iawn a ydynt yn gywir neu beidio. I mi, y mae wilibawan a wilmentan yn ddau frawd, er mai yn eu henwau bedydd ac nid yn eu steil y mae'r gyfatebiaeth. Y mae'r cyswllt y cawn air newydd ynddo yn effeithio cryn lawer yn fynych ar ein hagwedd tuag ato. Dywedodd cyfafll wrthyf iddo glywed y gair bolaheulo gyntaf erioed yn angladd dyn tew anghyffredm. Soniai'r pregethwr am ein brawd ymadawedig yn bolaheulo ar lethrau Tragwyddoldeb." Ni chlywai y gair byth wedyn heb feddwl am y sun-bath ofnadwy hwnnw. Adnabod gair. Profiad melys iawn yw dod i adnabod gair. Cas gennyf ddyn sy'n ymwthio i mewn rhyngof â dyn arall a dweud wrthyf sut un yw'r llall. Hoffaf ddod o hyd i rinweddau a gwendidau fy nghydnabod o'm rhan fy hun. Felly byddaf gyda gair. Pan af i ardal newydd a chlywed gair newydd ni ofynnaf ei ystyr nemor byth. Gwell gennyf sylwi arno, fel y mae'n ym- ddwyn, yn gyntaf yn y cyswUt hwn ac wedyn yn y cyswllt yna, nes dod i fedru proffwydo o'r diwedd fel yr ymddwg yn y cyswllt nesaf. Y pryd hynny, yr wyf yn ei adnabod. Cyfarfûm â gair felly mewn ardal ddieithr rai blynyddoedd yn ôl. Ar y cyntaf ni welwn ystyr iddo o gwbl, ond wedi peth amser gwelwn ei ystyr fel coeden yn rhodio. Ond pan oedd yr amlinelliad yn ymeglurhau o flaen fy llygaid bu rhaid imi ymadael â'r ardal. Af yn ôl ryw ddiwrnod i'w weled megis ag y mae. Siw na miw." Dyna ddau air bach yr wyf yn hoff iawn ohonynt yw siw a miw." 'Chlywais-i ddim siw na miw," meddai pobl, neu 'Doedd dim siw na miw drwy'r Ue." Sôn a sinc a ddywed rhai, ond gwell gennyf y pâr arall o efeilliaid. Y maent yn nes i'w gilydd. Gellir sôn heb sinc, ond pwy a glywodd siw heb fiw? 0 ran hynny, pwy a glywodd y ddau? Yn nacaol y sonnir o hyd amdanynt. Os ydym i goelio'r hyn a ddywedir wrthym, ni chlywodd neb na siw na miw erioed. Eto, y mae'n rhaid bod y geiriau hyn yn golygu rhyw rialiti. Ac onid rhywbeth tebyg, hefyd, yw bo a ba ym myd llefaru ? Clywir beirniadu dyn weithiau am ei fod yn rhy yswil neu sych-syber i ddweud na bo na ba wrth neb." Carreg a thwll. Gan adael bo a ba, deuwn yn rhwydd bach at air hynod arall, sef carreg-a- thwU." Yn awr, nid oes a wnelo'r gair hwn â'r sylwedd a elwir yn garreg, nac â'r diffyg sylwedd a elwir yn dwll. Peth dychmygol hollol ydyw, fel bo a ba, ond nid yw'n eithaf mor negyddol. Ni ddywed na bo na ba yw'r ymadrodd; ond pe dywedai garreg-a-tnwU. Y dydd o'r blaen daeth un o gewri'r byd gwleidyddol i lawr i dderbyn rhyddid bwrdeisdref gyfagos. Twt," meddai hen gyfaill i mi a berthyn i'r Blaid Lafur, fe dyrrai dynion i wrando arno fe,;pe na ddywedai ddim wrthynt ond carreg-a-thwll.' Ond byddai'n amheuthun gweld y gwleid- yddwr enwog yn codi i fyny ar y llwyfan, a'r cynghorwyr pwysig yn eu hurddwisg o'i gylch, a'r dyrfa fawr ddisgwylgar o'i flaen, ac, wedi distewi o'r banllefau, lefaru ohono fel hyn: F' Anrhydeddus Faer a bwrdeiswyr rhydd ac annibynnol y fan-a'r-fan carreg-a-thwlll Yna eistedd drachefn. Gwnawn, mi gerddwn bymtheng milltir ar hugain yn llawen er mwyn clywed Mr. Lloyd George yn dweud carreg-a-thwll." Ond dyna un o fân siomedigaethau bywyd, na ddywed neb garreg-a-thwll heb roddi'r pe pryfoclyd yna o'i flaen. Ond, heblaw'r geiriau heb ystyr a'r rhai ag ystyr dychmygol iddynt, ceir y rhai sy'n medru newid eu hystyr er mwyn cadw eu hunaniaeth. Fe ddichon mai wrth newid iaith yr aeth abal i olygu cyfoethog, a dishmwl (disyml) i olygu ysmala. Felly, dal mewn ffordd neilltuol a olygir wrth gatsho," ac arddu mewn ffordd neill- tuol wrth blowo." Ond beth a barodd i fynydd, o'i ynganu'n fwni," olygu tir coch? I ba beth y manylaf ar rai geiriau fel hyn ? Onid yw pob gair, o'i weld yn y golau iawn, mor hynod â'i gilydd? Onid yw pob gair, o olrhain ei ach, gyn hyned â'r gair nesaf? Hiraeth. Daw pang o hiraeth dros ddyn weithiau wrth gofio llu mawr geiriau anghofiedig y byd-geiriau coll yr ieithoedd byw, a holl eiriau'r hen ieithoedd diflanedig. Buont yn eu dydd yn hoyw yng ngenau dynion, a da oedd gan hen wragedd crychlyd glywed plant bach yn eu parablu. Ond erbyn hyn ni eilw tafod arnynt ac ni wyr Cof am- danynt, cans geiriau newydd a aeth i mewn i'w hystyron hwy. Dychmygaf am lawer ohonynt, hen eiriau prydferth fel clŷn a chelli a chlegyr," yn ein plith ni heddiw, wedi eu hymlid o gyd-ymddiddan dynion, yn llochesu dros dro mewn enwau ffermdai a phentrefi hyd nes darfod amdanynt yn deg, ïe, hyd nes darfod yn grwn o'r diwedd am yr iaith y perthynent iddi. Dychmygaf weld dynion mwyn meddylgar a theimladwy yn ymladd yn gyndyn i'w cadw rhag eu tranc anorfod. Ond yn ofer. Pa beth, wedi'r cyfan, yw hyn? Beth a dâl cynildeb dyn yn erbyn afradlonedd Natur pryd y bo'n well ganddi godi'r newydd na chadw'r hen? Beth a dâl gofal dyn yn erbyn arfaeth Duw? Oblegid nid ar gyfer tragwyddoldeb y lluniwyd geiriau, a rhyfyg dweud oes y byd i unrhyw iaith. Gan hynny dychmygaf weld yr hen eiriau, trwy gydol yr oesoedd, yn syrthio oddi ar bren eu hiaith fel ffigys ir i'r llawr; hyd nes o'r diwedd daw gwanwyn pan na wisga'r pren ddail a blodau megis cynt, a hydref pan na ddwg ffrwyth yn ôl ei arfer. Tristâ llawer pan fyddo'r pren yn dechrau methu, ond wedi iddo hen grino, â dynion allan i'w gwaith yn llawen, a thorrant ef i lawr am ei fod yn diffrwytho'r tir.