Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GLAW EISTEDDFOD YR URDD DYDDIAU COFIADWY ER HYNNY. EIDIWÍ' i a mynd heb sea cyngor a gewch gan bawb os dywedwch eich bod am fynd i Eistedd- fod yr Urdd. Y mae uchel wyliau'r Urdd wedi dyfod yn enwog am eu glaw. Ac y oedd Eisteddfod Genedlaothol yr ieuenc- tid ym Machynlleth yn ddiguro an ddŵr a mwd. Y ddaear yn sopian, baiy dicn y babell yn pistyllian, a'r baneri'n benisel ddigalon. "Piti am y glaw yma," meddwn i with Mr. Ifan ab Owen Edwards. Ie, on dyma dywydd yr Urdd, 'wyddoch, meddai yntau. Dewis tywydd. PAHAM y mae'r Urdd mor anlwcus am dywydd? Rhaid i eisteddfodau'r dyddiau a ddaw fynd i fwy o drafferth i gael gafael ar ddiwrnodau braf. Pan fydd y Royal Air Force yn mynd trwy eu campau yn Hendon neu gatrodau'r fyddin yn gwneud siou fawr yn Aldershot. bydd yn dywydd braf yn ddi-eithriad. Y rheswm yw eu bod yn cael gan wŷr hyfedr y Meteorological Office i ddethol diwrnodau sy bron yn sicr o fod yn deg. Sut bynnag, 'gawn-ni obeithio y bydd diwrnodau Eisteddfod yr I'rdd yng Nghaer- ffili, y flwyddyn nesaf, yn ddigon o ryfeddod ymhob ystyr,—tywydd a phopeth? Y mae Caerffili'n lle hyfryd ar dywydd teg yn nechrau haf. Iwan Davies yn canu. OND er y glaw i gyd, fe gafwyd llawer iawn o hwyl ym Machynlleth. Hyfrydwch heb ei ddisgwyl i bron bawb yn y babell, y prynhawn yr oedd Mr. Lloyd George yno, oedd clywed Iwan Davies yn canu cân yr eisteddfod. Yr oeddwn i wedi ei glywed yn mynd dros y gân yn y bore ym Mryn Elwydd. cartre'r Parch. Cunllo Davies, a Miss Alwena Roberts y delynores, yn cyfeilio iddo ar y piano. Fe'i canodd hi'n hyfryd yn y bore, fe'i canodd hi'n hyfrytach yn y prynhawn, a'r delyn yn gyfeiliant iddo, ar y Uwyfan. Cymru Fach oedd y gân-" os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon i lenwi, i lenwi fy nghalon." Y geiriau gan Elfed. Gyda llaw Elfed a Dr. J. C. Ashton oedd yr unig ddau o Lundain a welais i yn yr Eis- teddfod. Bachgen naturiol. 'DOES dim rhaid imi ddweud wrth ddarllenwyr 1 FORD GRON mai Iwan Davies ydyw'r bachgen 17 oed o odre Sir Aberteití. ger Rhydlewis, a wahoddwyd i Iwan Davies. ganu ger bron y Brenin a'r Frenhines am awr ddydd Gŵyl Ddewi djwethaf. Bu wedyn yn gwneud recordiau grama- ffôn ac yn canu yn y Troc. (y Trocadero Res- taurant). Y mae'n unawdydd yn Eglwys All Souls. Langham Place, Llundain. Dywedodd wrthyf iddo gyfarfod amryw bobl ddiddorol yn Llundain—iddo gael cinio gydag Arglwydd Beaverbrook, gyda Syr Austen a Lady Chamberlain, gyda chapten pêl droed yr Arsenal, a rhywun o ryw dîrn enwog arall hefyd. Bachgen naturiol a dirodres iawn ydyw Iwan, ac nid oedd tipyn o boblogrwydd fel hyn yn troi dim ar ei ben. Da oedd ei gael i ganu ym Machynlleth, oherwydd cynnyrch yr Eisteddfod ydyw Iwan. Gyda'r Brenin. MI ofynnais i Iwan Davies beth a ddy- wedodd y Brenin a'r Erenhines wrtho. "0, 'roedden' hw'n hyfryd iawn," meddai, yn gwneud imi deimlo'n gartref- ol ar unwaith. Fe wnaeth y ddau ysgwyd llaw â mi a diolch imi wedi imi orffen, a rhoi pensil arian hardd imi gyda'r llythren- nau G. ac M. ac R. arni. Wnes i ddim canu fy holl ganeuon ar unwaith. Fe siaradai'r Brenin a'r Frenhines â mi rhwng y caneuon. Fe ddywedodd y Brenin y carai pe bawn yn datblygu'n denor, a'i fod yn gobeithio y deuwn yn ganwr mawr. Yna dyma'r Frenhines yn gofyn imi pa un fyddai orau gennyf fod. tenor ynte baes. Fe ddwedes innau mai tenor. Ymhlith y pethau a ganodd Iwan yr oedd, Jesu, Lover of my Soul ar Aberystwyth;" Oh, had I Jubal's Lyre (Mendelssohn); Daddy (Behrend), a Dafydd y Garreg Wen. Pan oeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gorffen," meddai Iwan, "dyma'r Frenhines yn gofyn am Hen Wlad fy Nhadau, ac yr oeddwn i'n falch iawn pan ofynnodd imi ei chanu yn Gymraeg iddi." Brenin Cymru. FE gytunai pawb ym Machynlleth fod golwg gryf ar Mr. Lloyd George. Cafodd ef a Miss Megan Lloyd George dderbyniad brwd y bore pan ddaethant allan ar falcni yr Wynnstay Hotel i weled rheng- oedd yr Urdd yn gorymdaith heibio. Ond yr oedd y croeso a gafodd yn y Babell yn y prynhawn yn ogoneddus, yn enwedig ac ystyried i'r holl dyrfa fawr ganu Hen Wlad fy Nhadau, dan arweiniad Dr. David Evans. Sôn am Dywysog Cymru! Dyma, i bob golwg, frenin di-goron Cymru. Drama Plant. TTOEFAIS yn fawr y cystadleuaethau drama. yn Neuadd y Dref. Yr oedd peth o'r actio yn rhyfedd o dda. Hoffais yn arbennig weld plant Morfa Nefyn yn actio rhannau pobl mewn oed, ac mi syl- weddolais un peth yn glir yr awr honno—ein bod ni yn rhy barod i gredu bod rhaid wrth ddramâu arbennig i blant, wedi eu hysgrif- ennu'n blentynnaidd a chail amlaf yn llipa a gwirion. Paham na roddwn ni ddramâu da pobl mewn oed i blant? Fe wneir hynny yn Saesneg. Nid yw plant ysgol sir yn meddwl dim o berfîormio darnau o hyd yn oed Shakespeare. Yn y gwesty. MI gwrddais ag amryw gyfeillion yng ngwesty'r Wynnstay. Yno yr oedd nifer da o Gymry diddorol yn ciniawa.