Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Yr Haf yn galw Hetiau newydd: Diodydd Gan MEGAN ELLIS. Y MAE'R haf yn galw'n groyw y dyddiau hyn, ac y mae popeth a ellir ei awgrymu i'n cynorthwyo i fwynhau ei heulwen a'i hyfrydwch yn sicr o gael croeso. Pan fo awyrgylch yr ystafell yn frwd a phan fo cyfyngder y muriau yn peri i ni ddyheu am awyr iach ac awelon per y misoedd hyn dymunol yw canfod modd i rwyddhau'r ffordd i feddu manteision felly. Un ffordd dda i rai sy'n byw mewn fflats, ac y maent hwy yn gyfyngach eu cylch na'r rhai a drig mewn tai, yw gwneuthur defn- ydd o'r balcni. Gyda rhai fflats y mae modd mynd ar y balcni sy uwchben porth yr annedd. Dymunol odiaeth ar rai o'r boreau neu'r prynhawnau hyn, pan fo'r haul yn gynnes, yw cael camu allan yn syth o'r tŷ i'r balcni i fwynhau yr awyr agored. PRYDFERTHU'R BALCNI. Yr wyf newydd ddarganfod cynllun hapus i wneud y balcni yn fwy deniadol fyth. Gosoder ystyllenod yn erbyn y gwaith maen i sicrhau lle mwy preifat, yna coder y gwaith coed hwn ddwy neu dair troedfedd uwchlaw mur y balcni a phaentier ef yn wyrdd. Gwna hynny gefndir dymunol i flychau coed wedi eu llanw â phlanhigion hirion. Y mae "geraniums," mar- guerites," a petunias yn dda i flychau balcni, a gellir cael blodau sy'n dringo neu clematis mewn tybiau bychain yn y corneli. Gellir gosod delwau o bobl bach boch-goch mewn capiau cochion a gwisgoedd amryliw rhwng y geraniums a'r blodau llo mawr, ac os metha'r blodau a bodloni bydd lliwiau'r rhain yn help i wneud y Ue'n ddeniadol. PRYDFERTHU'R BALGNI," Dichon nad oes yng Nghymru gynifer o fflats ag a geir mewn gwledydd eraill. Ond mantais fawr i'r neb a drigo mewn fflat fod balcni yn ymyl modd y caffer mwynhau pryd bwyd neu orffwyso yn yr awyr agored. Dengys y darlun hwn mor dden- iadol y gellir gwneuthur balcni felly. Gorchuddier llawr y balcni â linoliwm llwyd, a phaentier arno lineUau igam- ogam i ddynwared llwybr toredig yma ac acw. Bydd yr "ardd" felly yn edrych yn rhagorol, yn enwedig os gellwch osod haul- lenni hefyd. Gwnaiff cwpwrdd coed yn erbyn un mur y tro fel sedd, a ddeil glustogau, s e d d a u gwersyllu, a phethau cyffelyb. GeUir dèfh- yddio bwrdd ag arno estyll i'w codi a'u gos- twng fel bo'r angen i gael prydiau bwyd arno. Pe digwydd fod yn fore siriol a heulog, beth well a geid i gychwyn diwrnod hafaidd na chael borebryd yng ngardd fach y balcni? FFASIWN YR HETIAU. Fel yr aiff y tymor ymlaen, y mae'r flas- iwn yn setlo i lawr, á daw steil yr hetiau yn fwy pendant. Dechreuodd y tymor gyda bygythion am hetiau o steil Watteau, ac yna o gynllun hetiau morwyr Llydaw, a daethpwyd i gredu y gellid gwisgo berets bryd y mynnem. Ond profodd y tri syniad yn ang- hywir. Nid yw y dulliau Watteau na Llydaw allan o le o gwbl. Ni ddefnyddir y berets namyn i deithio ac i chwarae. Mae digon o siapiau i ddewis ohonynt, yr amlycaf o'r rhai yw dynwarediad o'r "cloche. Y mae gan het felly gorun yn ffitio i'r dim, a'i gogwydd i'r ochr, peth na allesid ei gael pe bae'r corun wedi ei drefnu'n syth. Gall y cantal fod o'r math culaf, fel corongylch gam, ac yn troi oddi ar y talcen ac i lawr un ochr. Neu, gall fod o lun a chantal mushroom," un ai'n troi i fyny i'r corun neu yn berffaith wastad a chul. Y mae'r corun sgwâr yn boblogaidd gyda'r ddynes ieuanc, ond rhaid fod ganddi wyneb bach a gwallt trefnus iawn, onide ni fydd yr effaith yn atyniadol. HOSANAU AC ESGIDIAU. Hosanau o rwydwaith tenau sy fwyaf poblogaidd ar hyn o bryd. Y mae rhai o wneuthuriad a defnydd mor denau fel nad ymddangosant namyn megis cysgodion, ond y mae eraill o sidan rhesymol dew a edrych- ant yn dda iawn gyda'r esgidiau priodol. QGARFFIAU A HETIAU. Ffrog wlanen o liw glas siriol yn meddu yn unig yn drimin sgarff o liw maize wedi ei thynnu drwy ffelt o groen mynn o'r un lliw. Gwisgir hi gyda het o wellt bras glas ac arni fand o crepe yr un lliw a'r sgarff. Y mae gan y siaced fer o crepe gwlanen goch sgarff sidan ag arni ysmotiau coch a gwyn. Gellir tynnu'r sgarff drwy agennau yn y lapedi, ac i gwblhau'r wisg gwisger het wen o ffelt wedi ei thrimio 8 sidan cyffelyb. Nid yw'r wawr binc mewn lliwiau hosanau bellach yn y ffasiwn. Lliwiau gwinau gwan yw'r dewisiad gorau yn awr, a gorau oU os oes iddynt orffeniad tebyg i crepe pwl. Defnyddir tussore, lliain naturiol neu liain lliw yn awr yng ngwneuthuriad esgidiau ar gyfer y gwyliau haf. Y mae'r rhai o liain naturiol yn neilltuol o ddefnyddiol a gwelir esgidiau o liain bras yn cydfynd yn gampus â gwisgoedd o gotwm llinellog, gwlan neu sidan. I'w gwisgo yn orau wrth gwrs, rhoir y Ue cyntaf i'r esgid ysgafn, gyda blaen troed canolig. Gwneir esgidiau i'w gwisgo yn y prynhawn o ledr disglair a'r croen mynn gorau. Parha'r sodlau eto yn uchel iawn ar gyfer amgylchiadau arbennig. Y mae'n syn- dod pa fodd y medr lodesi a merched prif- ddinas Ffrainc, prif lys y ffasiynau, gerdded cystal ag y gwnant gyda sodlau mor uchel i'w hesgidiau. Ond llwyddant i edrych fel pe o dras bonheddig a gosgeiddig. Efallai mai'r rheswm am hynny yw na phoenir hwy byth gan ofidiau'r traed, gan yr ymwelant yn gyson â gwŷr cyfarwydd a thrin y traed. Y mae Paris yn llawn ó feddygon anhwyl- derau'r traed—a'r rheini gan amlaf yn Chineaid. GWERTH SUDD LEMON. Y mae sudd lemon yn elyn i hadau afiechyd. Dyma gyngor meddyg enwog: Wedi dod i'r tŷ o'r heol lychlyd, neu wedi bod yn ymgymysgu a'r torfeydd, torrwch slisen 0 lemon a rhwbiwch eich wyneb ag ef. Yna golchwch y genau a'r gwddf â sudd lemon. Bydd j cyfryw ofal yn foddion i gadw ymhell amryw afiechydon.