Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR DAFYDD HUWS MEHEFIN. MERCHER, 1 Chwilio am forwyn, dim lwc. Darllen yn y papur am ryw eneth wedi ymprydio am ddau fis. Anfon ati, a chynnig lle fel morwyn iddi. IAU, 2 Pawb yn Llanarfon yn brysur yn spring cleanio." Cael llu o orders am baent stripes a marble." GwENER 3: Canmol Isaac y gwas am ei ddiwydrwydd, a dweud wrtho fy mod yn gwerthfawrogi ei wasanaeth, ac fy mod yn gadael iddo gael ei wyliau tra mae'r dyddiau yn hir. Sadwrn, 4: Gwr dieithr yn galw yn y siop ac yn holi pwrpas y felin wynt yn y cae cyfagos. Egluro mai i gadw'r gwartheg yn cool ydoedd. SüL, 5: Seion dair gwaith. Dim casgliad. Helynt ticedi y trip." Rhai yn cynnig rhoddi ticedi i'r plant dan bymtheg oed. Rhywun yn cynnig fod yr hen bobl yn cael tocyn yn rhad ac am ddim. Cynnig gwelliant, sef tocyn rhad i bawb dros bedwar ugain os yng ngofal eu rhieni. LLUN, 6: Pwyllgor y band." Yr ysgrifennydd yn hysbysu fod y cyrn wedi cyrraedd. Dewis arwein- ydd. Amryw yn datgan eu cymwyster i'r swydd. Egluro fy mod yn feistr ar chwarae mouth organ," sturmant," a dominoes." Fod fy nhaid wedi ennill ei colours am chwarae musical chairs." Dim lwc. MAWRTH, 7: Pwyllgor Gwelliannau Lleol. Aelod yn cynnig cael Gondola ar lyn y Wern. Cynnig gwelliant, sef ein bod yn pwrcasu pâr, er mwyn iddynt fagn. Gwrthod y gwelliant yn ddigon gwawdlyd. Mercher, 8: Trip yr Ysgol Sul i Lanfihangel-is-y- cymylau. Hwyl ardderchog. Hin ddymunol. Mynd a Catrin mewn speedboat." Troi yn rhy sydyn, a'r cwch yn llenwi. Bhwymo'r angor am wddf Catrin yn lle'r lifebelt." Cymgymeriad bychan di-fwriad. IAU. 9: Cael order am mangle." Dweud wrth y cwsmer am alw ymhen pedwar mis. Siarsio Isaac i fy adgoffa fod yn rhaid plannu hadau "mangels." Practis y band. GWENER, 10: Myned i Lerpwl gyda'r tren. Gofyn i'r guard am compartment i mi fy hunan, fy mod heb gysgu y noson flaenorol Atebodd y byddai popeth yn A.I. Cael llonydd, a chyrraedd Lerpwl. Bhoddi dwy geiniog i wr y flag," a'i holi sut y bu iddo lwyddo. Yntau yn egluro ddarfod iddo siarsio pawb a ddaeth yn agos. mai dyn wedi colli ei synnwyr cyffredin oeddwn. Diolch yn garedig iddo am fod mor feddylgar. Sadwrn, 11: Diwrnod poeth eithriadol. Llawer o ddieithriaid o gwmpas, a'r buses yn llawn o hikers.' Gŵr dieithr yn galw ac yn holi y ffordd i Gaerhwyaid. Dweud wrtho nad oeddwn yn gwybod. Holi amryw gwsmeriaid. Chwibannu ar y teithiwr; yntau yn dod yn ôl tua hanner milltir. Egluro fy mod wedi holi amryw o'r cwsmeriaid, ond nid oedd un ohonynt yn gwybod y ffordd. Dymnno pnawn da iddo. Dim atebiad. SUL. 12: Mari y ferch yn gwneud cinio y Sul. Catrin a minnau yn Seion y bore. Mari yn canmol ei hunan fel cogyddes, iddi ennill "medal" pan oedd yn yr ysgol. Cinio rhyfedd. Pechu yn anfaddeuo) pan ddywedais fy mod bron yn sicr fy mod wedi llyncu y fedal." LLUN, 13: Cinio y Maer. Arlwy ragorol, ond dod oddi yno heb gael saig i'w fwyta. Dyn llygaid croes SIOP NEWYDD, LLANARFON yn eistedd wrth fy ochr, ac yn bwyta oddi ar fy mhlât. Gadael iddo, a tywallt llonaid plât o fwstard iddo, a dweud wrtho mai cwstard ydoedd. MAWRTH, 14 Trafaeliwr nutmegs yn galw. Talu iddo o'r cash box." Yntau yn gweled rhes o ddannedd gosod yno, a holi pwy oedd eu perchen- nog. Egluro mai rhai Catrin oeddynt. Fy mod yn eu cadw dan glo, rhag iddi fwyta rhwng prydiau. Mercher, 15: Helpu gŵr y Pandy hefo'r gwair. Y geifr yn dod i Iawr o'r mynydd, ac yn arwyddo glaw. Eu hannos yn ôl i'r copaon er cael tywydd braf i orffen y cynhaeaf. Iac, 16: Claddu Guto'r potsiar. Y Curad oedd yu gwasanaethu yn ei ganmol fel cymeriad unplyg, gonest a diwyd, a llawn daioni. Sibrwd yn ei glust a oedd perygl ein bod yn claddu y dyn arall mewn camgymeriad. GwENER, 17: Dathlu ein priodas arian, a diolch fod chwarter canrif o fywyd wedi mynd heibio. Practis y band. Dewis y trombone." Dysgu Screch, udo. sŵn. SADWRN, 18: Anghofio'r siop. Dysgu'r "trom- bone." Dim llawer o hwyl. Baglu ar ei draws weithiau, a malu omament neu ddau dro arall. Methu bwyta nac yfed, fy ngenau a fy nhafod wedi chwyddo. SUL, 19: Dysgu'r trombone." Tolciau ynddo, ac yn gwrthod sleidio ôl a blaen. Ei felldithio. Ci y drws nesaf yn fy ngwatwar. LLUN, 20: Talu yn ôl i'r ci. Ei daro hefo fforch wair. Ei berchennog yn bygwth y gyfraith arnaf. Practis v band. Newid y "trombone" am "cornet." Ceisio dysgu Hela'r Geifr," a Cyfri'r Gwair." Dim hwyl. Y nodau bach duon fel byddin o forgrug yn rhedeg tros y papur. Bron llyncu'r "cornet." Mawrth, 21: Cael summons am greulondeb at y ci. Practis y band. Newid y cornet," a bodloni ar y triangle." Llai o forgrug i'w gwylio. Dim ond ambell semi quaver," ac ambell alli- gator a tomato." Dysgu Bedyddio'r Milgi Chwim yn drwyadl. Mercher, 22: 0 flaen fy ngwell. Digwydd dweud wrth gyfaill fod yno griw rough yma heddiw. Yntau yn fy argyhoeddi mai yr Ustusiaid oeddynt, ac nid carcharorion. Y barnwr yn gofyn oedd y ci wedi ymyrryd a mi. Ateb yn gadarnhaol fod iddo fy mrathu. Gofyn eilwaith paham na fuaswn wedi defnyddio pen arall i'r fforch at y ci. Buaswn wedi gwneud hynny pe buasai y ci wedi gwneud yr un peth," meddwn. Saith bunt a'r costau," meddai'r barnwr. Gofyn iddo a fyddai mewn trefn i mi dynnu y saith bunt o fil y gŵr drws nesaf. Dim lwc. IAU, 23: Pen blwydd Tywysog Cymru. Y band yn troi allan am y tro cyntaf. Cychwyn o neuadd y pentref. Cannoedd o bobl yno, a miloedd o gŵn o bob brid, sef Plymouth Bocks, Coch-y-bonddu, Blue Bottles, Artichokes. ac ymlaen. Chwarae Mwsog Gwlad y Bryniau yn Saesneg o flaen plas y Cad- fridog Gouty, a chwarae "Ymddiheurad y Gwenyn" ger ty y Maer. Y cwn weithiau yn ein boddi. Y triangle yn eirias, a'i oeri dan y pwmp. GWENER, 25: Y band yn cael ei alw i'r plas. Chwarae yn anfarwol am ddwy awr. Y drwm fawr yn burstio," a valves rhai o'r cyrn yn chwythu i ffwrdd. Gwr y plas yn anfon un o'i weision i ddweud wrthym am fyned i'r seler lle cedwid y gwîn, a llenwi ein hofferynnau hefo'r gwîn gorau. Dim lwc i Dafydd Huws. Meddwl am ŵr y drwm fawr, a gŵr y dwbl B. Sadwrn, 25: Gwahodd y band i'r Betws. Hwyl fawr. Amryw jn taflu bouquets atom. Y blodau yn ein cyrraedd yn ddianaf, ond y potiau oedd yn eu dal yn torri bob tro; er hynny, teimlo'n wresog at drigolion y Betws am eu brwdfrydedd. Sul, 26: Y gymanfa bregethu flynyddol. Pregeth ragorol y nos, canmol The Village Blacksmith fel Cristion cywir. Annog Wil y Gôf i fyned at y pregethwr ar derfyn y gwasanaeth a diolch iddo, ac erfyn arno pan fyddai yn y cyffiniau eto ac yn pregethu yr un bregeth, iddo roi pwt bach ar y diwedd ei fod wedi dechrau trwsio beics. Llun, 27: Prynu ci ffyrnig i gadw trefn ar y ci drws nesaf. German hound." Ci isel, ond un hir iawn. Os bydd ei ben yn y parlwr, rhaid myned trwodd i'r gegin i edrych a fydd yn ysgwyd ei gynffon. MAwRTH, 28: Mari yn clywed fod ei chariad yn y carchar am ddwyn motor car." Ceisio ei pher- swadio mai un dwl ydoedd. Paham na fuasai yn prynu car a pheidio talu am dano. MERCHER, 29: Ffermwr yn galw. Y ci wedi lladd amryw o'i ddefaid. Gofyn beth oeddwn yn fwriadu ei wneud. Gofyn a fuasai yn hoffi cael ci da yn rhad. Cynnig bargen iddo. Iau, 30: Mynd a'r ci i shou gŵn yn Llundain. Trafaelio trwy'r nos, a lle pwrpasol i gysgu yn y tren. Rhoi cap nos Catrin am fy mhen, a gwisgo coban yn perthyn iddi. Rhywun yn gofyn paham y gwisgwn ddiwyg nos merch. Rhag ofn i ryw- beth ddigwydd i'r tren yn y nos. Merched a phlant yn gyntaf yw'r rheol," atebais. Y Gorlan. YMSUDDA'E haul ar fron yr eigion llaith, A pher yw murmur cornant ar ei gro; Ac yn ei swn mae'r bugail wrth ei waith Ar lethrau grugog moelydd hen ei fro: O hedd y bannau dwg ei braidd vnghyd. A gwrendy'r ŵyn a'r defaid ar ei lef Cyn'dod o'r gwyll dros lain y gorlan glyd. Ni chlywir namyn adlais ambell fref. I'w fwthyn bychan dan y bryn gerllaw Y cilia'r bugail tirion gyda'r nos; Gŵyr na ddaw'r cerbyd chwim, na'r dorf ddi-daw I ymlid tangref erwau gwaun a rhos; Ar doriad gwawr, i'r gorlan eto try. Yn sŵn y garol gynnar oddi fry. EOSSERONIAN. Bow Strcet, Ceredigion. Cymodiad Serch. AR ôl dy ganlyn flwyddi maith Fy meinir hoff, dy golli di. Ai methiant dry o'r felys daith Ar ôl dy ganlyn flwyddi maith? Rhy fyr yw dawn, a chul yw iaith I ddatgan craith fy nghalon i, Ar ôl dy ganlyn flwyddi maith— Fy meinir hoff, dyl golli di. U, moes dy law a'th galon lân I droi fy alaeth chwerw yn wledd, Fy serch sydd effro megis tân, 0, moes dy law a'th galon lân: í A gawn ni uno eto, Siân, Mewn cariad glân o ddwyfol hedd? O, moes dy law a'th galon Iân I I droi fy alaeth chwerw yn wledd. IDRIS AP HARBI. Abergynolwyn, Meirion.