Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"YN Nhre-fîn YM MIN Y MOR." g^gn; Gan EDGAR PHILLIPS Pontllanfraith, Mynwy. Nid yw'r felin heno'n malu Yn Nhre-fin ym min y mor. CANWYD didlawd folawd i'r felin gan Grwys, ond hyd y gwn i, ni chanodd neb gerdd i bentref Trefîn ac eithrio rhyw hen fardd gwlad pan wnaeth y cwpled,- Trefîn fwyn, fain, galed, Cant o dai ar un carreg. Rhaid cyfaddef bod y geiriau'n ddisgrif- iadol, a dweud y lleiaf, oblegid adeiladwyd y pentref yn gyfangwbl ar graig noeth ysgêr," yw gair y trigolion amdani, enw a sawyr Gwyddelig arno. Saif Trefn, fel y &ẁyr poi, ymv'elydd å hen ddinas Tyddewi, hanner ffordd rl.wng y ddinas honno a thref Abcrgwaun — hen dref Gwragedd y Clogau Cochion adeg Glaniad y Ffrancod yn 1799. Wrth deithio o'r lIe hwn, ychydig fíordd cyn y down at bentref Mesur y Dorth ger- llaw'r Groesgoch, rhaid troi ar y ddeau ac i lawr hyd y goriwaered, a down iddo mewn ychydig funudau. Mesur y Dorth. Cafodd Mesur y Dorth ei enw oddi wrth y garreg enwog a geir yno, a llun croes o fewn cylch arni. Yn ôl traddodiad y fro, hyhi oedd mesur torthau esgobaeth Ty- ddewi yn yr hen amser, ond tybia ysgolheig- ion nad yw ddim amgen na chroes i gyfar- wyddo pererinion ar eu ffordd i ddinas Dewi. Gwelir rhai tebyg ym mur mynwent Mathri (prébend aur Gerallt Gymro) yn uwch i fyny, ac eraill yn Nanhyfer (hen eglwys Ioan Tegid), rhwng Abergwaun ac Aberteifi, ar y ffordd o'r Gogledd i Dyddewi. Hon felly yw'r ffordd a gerddwyd gan Ieuan ap Rhydderch, a ganodd,- Cystal o'm hardal i mi Fyned ddwywaith at Ddewi, A phed elwn, cystlwn cain, 0 rif unwaith i Bufain. Myned deirgwaith, aerwaith yw Am enaid hyd ym Mynyw. Yn ôl Fenton, bu Trefîn un adeg yn faenor esgobol i esgobion Tyddewi, a gwelir yno olion yr hafod esgobol, a adweinir hyd heddiw fel Plas yr Esgob Martin. Nid oes yn aros ond gweddillion bwäu Gothig ym mur gardd y ffermdy presennol, y rhai, a Cromlech Longhouse. barnu oddi wrth eu ffurf, a berthynant i gyf- nod yr Early English. Os ydym yn gywir yn hyn, hwyrach mai'r Esgob Martin hynaf (tua 1293) ac nid yr Esgob Martin (1482- 83) a roes ei enw i'r plas. Gwyddys bod yr Esgob Tully (1460-82) yn hoff iawn o'r líe, a'i fod yn byw yno am gryn amser. Mewn cae cyfagos gwelir hen chwaraele (fives court) a awgryma fod gan esgobion feddwl am y corff yn ogystal a'r enaid. Gwyllt a rhamantus. Nid yw arfordir rhamantus yr ardal yn amddifad o swyn i'r hynafiaethydd; tystia llawer twmpath a chylch am waith y dydd- iau a fu. Ar dir Longhouse, ffermdy hyn- afol a berthynai i'r mynaich gynt, saif cromlech ardderchog tua 17 troedfedd o hyd, yn cael ei chynnal gan chwe cholofn drwchus. Crogwyd mwy nag un darlun o'r olygfa o'r fan hon ar fur yr Academi; y mae yn odiaeth o wyllt a rhamantus. Gwelir olion y Paganiaid Duon ar ben- rhyn yn perthyn i'r un fferm; yno y saif eu gwersyllfa a'r gwrthgloddiau yn amlwg hyd y dydd 'heddiw. Yn is i lawr, saif Pwll Whitan (enw awgrymiadol) lIe, mwy na thebyg, yr angorai'r llongau hirion yn y dyddiau gwaedlyd a fu. Yn y pentref ei hun saif tri maen diddorol, un ar lun cadair, ac od ydym i gredu'r traddodiad lleol, yno gynt gorseddid maer y pentref. Maer y Cwmin. Etholir y maer o hyd, ond nis gwelir yn ei gadair swyddogol yn awr. Maer y Cwmin yw ei enw swyddogol a'i lys a ofala nad oes adeiladu ar y tir cyffredin o amgylch y pen- tre. Ar fferm Caerhafod gerllaw, tybia Fenton eto, iddo ganfod gweddillion Rhufeinig (cas- trum aestivium) neu wersyll haf, ac yn ei ymyl y mae hen gladdfa lle ceir eirch cerrig o dro i dro. Y mae enwau diddorol i'r caeau sydd oddi amgylch y pentref-pwy a rydd inni ystyr Y Grasen, Y Grapli, Y Bidogydd, a Phenlac ? Heb fod ymhell o'r pentref hefyd ceir Cae'r Sebadau, ac awgryma un awdur- dod mai Field of the Gibbets a olyga'r enw. Heb na gwrych na chlawdd. Ychydig o dir heb ei amgau a welir yng Nghymru heddiw, ond ar Y Grapli nid oes na gwrych na chlawdd i'w weled yn unman, a chyn dydd y weiar bigog safai'n faes agored, heb ddim ond cerrig yma a thraw i nodi'r lleiniau. Rhaid, bryd hynny, oedd clymu pob anifail wrth ystacen (chwedl y pentref) pan yrrid hwy yno i bori, a'i symud o dro i dro yn ystod y dydd. Ar fin y môr islaw i'r maes hwn saif rhewin hen beiriandy chwarel Trwyn Llwyd, lle a roddodd waith i [I dudalen 218. Croes Mesur-y-Dorth.