Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffarmio Ffwr yn Dechrau GAN HYWEL D. ROBERTS NID yw rhai o'r llythyrau ysmala a ysgrifennwyd i'r FoRD GRON yng- hylch anwareiddiad ffarmio anifeiliaid ffwr wedi difetha diddordeb eraill yn y peth. Ni allwn ddisgwyl i Gymru wrthod diwydiant addawol ac ariannog er plesio syniadau ambell i vegetarian rhonc. Ymysg Uythyrau personol a dderbyniais, y mae rhai o ddiddordeb mwy na'i gilydd. Rhoddaf eu cynnwys yn fras, ac ateb iddynt rhag ofn eu bod o ddiddordeb cyffredinol. Ysgrifenna gwraig o Lundain yn Saesneg:- Darllenais erthyglau newydd a diddorol gen- nych yn Y FORD Gron ar ffarmio llwynogod arian. 'Rwyf eisiau dechrau ffarm o'r fath, ond hoffwn wybod sut i ddechrau, faint o amser sydd eisiau i astudio'r pwnc, p'le gaf gwrs i'm dysgu, faint fydd y costau cyntaf, ac a oes tir ffafriol i'r gwaith yn rhywle o gwmpas 'Bermo, Aberdyfi, neu Aberystwyth? Athro mewn cerddoriaeth yw fy ngŵr, ond y mae'r bywyd awyr iach a ddis- grifiwch chwi yn apelio'n llawer mwy atom ein dau, a bwriadwn ail-ddechrau yn y gwaith hwn. Prentisiaeth. Wrth reswm, fe ddylid gwybod rhywbeth am y ffarmio yn gyntaf (a gellir cael digon o lenyddiaeth ar hyn fel ar unrhyw gangen o'r stoc orau), gofalu am lanweithdra ac iechyd, a'r bwyd priodol (cig, iau, pysgod, ffrwythau a Uysiau). Y mae'r amser a'r fenter yn llai, os rhywbeth, nag mewn ffarmio arall. GeUir astudio'r pwnc yn fanwl mewn pamffledi a Uyfrau, neu gael prentisiaeth ar ffarm Syr Erik Hutchinson, Monk Soham, Suffolk, Ue megir llwynogod arian y Prairie Star. Gellir prynu'r stoc yma a'u magu ar y ffarm hon, nes bydd y ffarm yn barod yng Nghymru, ac nes dysgu elfennau'r ffarmio yn iawn. Nid oes tâl am y dysgu, dim ond am eich bwyd ar y ffarm, a gellwch aros yno nes tybiwch eich bod wedi dysgu'r ffarmio'n iawn. Costau cyntaf. Y costau cyntaf fydd y costau mwyaf, oblegid bydd yn rhaid prynu stoc. Y mae Spratts newydd ddod yn agents rhai o'r Uwynogod gorau o Canada yn y wlad hon, a gellir cael manylion ganddynt. Cyst pâr o'r rhai gorau unrhyw bris rhwng £ 100 a £ 175, a chyst cwt da i bâr a'u teulu £ 8 — £ 9 i'w adeiladu, a thua £ 10 y flwyddyn am eu bwydo a'u gofal. Efallai fod hyn yn ymddangos yn llawer. Ond pan gofiwn y ceir pedwar ifanc i bob pâr fel arfer, ac y gellir cymryd eu crwyn pan fônt yn 8 mis oed, neu baru'r ieuanc drachefn pan fônt yn 9 mis oed, bod pris eu crwyn o £ 25 i fyny, a phroffid blynyddol oddi wrth bâr tua £ 85, yna, y mae'n werth cydsynio. Soniais mewn erthyglau cynt fod digon o dir yng Nghymru nad yw'n cynyrchu bron ddim ar hyn o bryd. Buasai hanner acer o dir o'r fath yn ddigon i ddechrau ffarm, a gellid ei brynu'n rhatach na thir da. Buasai'r tir sal a chorsiog o gwmpas Tregaron, Borth, Talybont, etc., yn Sir Aberteifi, er enghraifft, yn rhagorol i fagu mushrats hefyd, a gwelais yng nghatalog Harrods fod côt o'r ffwr yn costio 140 gini. Oni fedrai Cymru wneuthur â thipyn o'r arian hwn, yn arbennig os ei chorsydd a ddeuai a hwnnw iddi? Ysgrifenna ffermwr o Sir Dref aldwyn Ffarmio llwynogod a minnau wedi bod wrthi bob amser yn ceisio'u cadw oddi ar fy ffarm 1 Eto, hoffwn dreio fy llaw ar y gwaith. Ond pa brawf sydd y buasent yn bridio yn y wlad hon? Y mae ef ei hun yn rhoi'r prawf trwy ddywedyd bod llwynogod cyffredin yn ei boeni. Y mae'r Saith bod llwynogod melyn yn byw yng Nghymru yn profi y gwna'r llwynogod arian hefyd gan nad ydyw'r ddau ond gwahanol deip o'r un teulu. 175 wrthi ym Mhrydain. Prawf araU ydyw fod eisoes 175 o fferm- wyr llwynogod ym Mhrydain, fod fferm lwyddiannus ger Llanrwst, fferm mushrats yn Llyn, ac arddangosfa flynyddol o lwyn- ogod arian Prydeinig yn Rhydychen, yn dangos fod hinsawdd ac achosion naturiol ein gwlad yn ffafriol at fagu llwynogod arian o'r math gorau. Ond nifer fach iawn yw 175 pan gofiwn fod 6,500 o ffermwyr yng Nghanada, a thros 78,000 0 lwynogod, a bron gymaint yn y Taleithiau Unedig, ac eto bod y farchnad yn methu cael digon o ffwriau. Daeth llythyr arall oddi wrth ffermwr yn Sir Gaerfyrddin: Hoffwn ddechrau'r ffarmio newydd hwn ar un- waith ar radd fechan ar fy ffarm, ond sut y medrwn werthu'r ffwr? Nid yw'n rhy hawdd gwerthu gwlân y dyddiau hyn. P'le felly y cawn farchnad i'r cynnyrch newydd? Cymru yn agos i'r farchnad. Un o'r prif resymau paham y dylai Cymru gymryd i fyny ffarmio ffwr yw ei hagosrwydd at y brif farchnad ffwr, Llundain. Yn y gwledydd ffwriau, cynhelir arwerth- iannau poblogaidd a chyson fel y sales cyffredin ymysg ffermwyr Cymru. Ond bernir mai ystafelloedd gwerthu College Hill, Llundain, ydyw canolfan y diwydiant ffwr. Cynhelir y sales cyhoeddus yn Ion- awr, Ebrill a Hydref bob blwyddyn, a phob un yn parhau ani'tua thair wythnos. Yr amser hynny, daw gwerthwyr a phrynwyr, marsiandwyr a gwneuthurwyr düladau ffwr i Lundain o bob rhan o'r byd. Ni chawsai Cymru unrhyw drwbwl i werthu ei chynnyrch-dim ond .pacio'r ffwriau yn swp bychan a'u hanfon i'r Fur Auction Mart," Llundain, a daw*r arian yn ôl amdanynt ymhen mis. Y maent mor barod i werthu un ffwr ag ydynt i werthu mil -ffaith bwysig i ffarmwr yh dechrau. Neu, gallesid trosglwyddo'r cynnyrch i unrhyw Gymdeithas Ffwr i'w werthu trosoch. Unig anfantais hyn fuasai dyfod y dyn canol," sydd eisoes yn difetha cymaint ar rai o ddiwydiannau Cymru. Marw di-boen. A gair i esmwytho meddwl Canwy! Po fwyaf o anifeiliaid a fegir mewn cytiau ar fferm, leiaf o ddioddef a fydd, oblegid dioddefa'r anifeiliaid ffwr gwylltion yn fawr wrth eu dal mewn trapiau, a byddant yn hanner marw am rai dyddiau yn aml, cyn i'r trapiwr ddod i'w casglu. Ond y mae marw anifeiliaid y ffermydd mor ddi-boen â marw ci neu gath yn siop fferyllydd. Nid oes a wnelo bwyta cig â dim a ysgrif- ennais, ond ofnaf y buasai'n fenter rhy fawr i Canwy a'i ganlynwyr fegetaraidd alw pob cigydd, pob gwisgwr esgidiau Uedr a botymau corn, pob bwytawr Oxo a sardinod, a phob ffermwr ffwr, neu wraig yn gwisgo ffwr, yn anwaraidd, am fod yn rhaid lladd yr anifeiliaid i sicrhau'r rhain. Eisteddfod Yr Urdd, 1933 CAERFFILI, MAI 2J, 26 27. RHAGLEN TESTUNAU PRIS 6d. Trwy lyfrwerthwyr neu oddi wrth Hnghes a'i Fab, Cyhoeddwyr, Wrecsam