Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mawredd Syr Owen Edwards GAN S. J. EVANS Prifathro Ysgol Ramadeg Llangefni. SYR OWEN M. EDWARDS: DETHOLIAD o'i YSGRIFAU. Llyfrau'r Ford Gron, 19. Pris, 6c. (1S nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog (tud. 39). Dyna dystiolaeth O. M. Edwards, a gyfleir yn y llyfryn hwn o dan y pennawd Enaid Cenedl." Beth bynnag am gywirdeb ei farn, anodd meddwl am gasgliad mwy hudolus na hwn, na iaith mwy swynol i ddenu plant Cymru i ymhyfrydu yn llenyddiaeth eu gwlad. Nid penodau o un llyfr ydynt, ond darnau an- nibynnol allan o Clych Atgof, Yn y Wlad, Tro yn Llydaw, Tro yn yr Eidal, O'r Bala i Geneva, Llynnoedd Llonydd, ac Er Mwyn Gymru. Eto y mae personoliaeth yr awdur a'i gariad angerddol at Gymru yn rhedeg fel cadwyn arian drwy'r cyfan ac yn eu cydio i gyd wrth ei gilydd. Dewisodd y golygydd yn ddoeth ac yn dda, a theimlwn fod y darn diwethaf — Enaid Cenedl-wedi dringo i uchelfannau'r maes a'n gadael yn fwy na bodlon ar ei waith. Proffwyd. Y mae llyfrau 0. M. Edwards yn ddelw o'r dyn ei hun. Clywn guriadau ei galon gynnes a gwres tanbaid ei argyhoeddiadau ar bob llaw. Nid gŵr o ddeaU yn unig, heb arlliw teimlad, yn pwyso a mesur fel peir- iant gwyddonol, ydoedd. Addefaf nad wyf fi yn feirniad di- duedd," eb efe, yn ei lyfr O'r Bala i Geneva, y dyfynnwyd ohono yma dan y pennawd Hen Gapel Llwyd. Proffwyd sydd yma wedi cael gweledigaeth ar neges ei genedl i'r byd, ac argyhoeddiad digon dwfn i gysegru ei fywyd a'i athrylith er gwneud ei chenhadaeth yn hanfod bywyd ei bobl. Campwr ar ysgrifennu. Dringodd yn uchel fel ysgolhaig ac athro yn Rhydychen. Ystyrrid ef yn gampwr ar ysgrifennu Saesneg, a gallasai ennill enwog- rwydd iddo ei hun drwy gyfrwng yr iaith honno, ond ysgrifennu Cymraeg ar gyfer gwerin Cymru a fynnai efe. Yng ngeiriau golygydd y gyfrol hon Yr oedd ei Gymraeg mor naturiol a swynol â thincial afonig dros ei cherrig gwynion mân. Ni bu ei hafal fel ysgrifen- nwr rhyddiaith ers Elis Wynne." Yn laslanc yn y coleg. Ym mhennod gyntaf y Uyfr dyry gipolwg arno'i hun yn Aberystwyth, glaslanc o Lan- uwchllyn yn dechrau ei yrfa yn y Coleg. Credai y pryd hynny fod pob rhinwedd a daioni dan glo mewn capel Methodist, ac nad oedd hafal i Ogleddwr yn un- man. Cafodd agoriad llygaid pan gyfarfu yno â Deheuwr a Sosin ac Albanwr ac Almaen- wr. Eangodd y gorwelion. Sonia am ei ddyled i'r diwedd- ar Silvan Evans, gwr a wnaeth waith mawr i hyr- wyddo'r Gymraeg, ond un y bu rhai beirniaid yn bur llaw- drwm arno. Dyn a blodeuyn. Ymdaflodd O.M. i enniU addysg drwy bob cyfrwng o fewn ei gyrraedd. Yr oedd yn sylwedydd craff a gwelai brydferthwch â llygad arlun- ydd yn nant y llew. Wedi dar- llen Plu'r Gweunydd yn y detholiad hwn nid oes dichon i neb fethu gweled tlysni yng Nghors Goch Glan Teifi. Ni chododd Cymru neb yn ei amser gyda meddwl a fed- rai dreiddio'n well i fyd dyn a blodeuyn. Myfyriodd yn ddyfal ym meysydd hanes, a daeth teithi ei genedl a chen- hadaeth yn gliriach gliriach iddo. Cawn ffrwyth ei fyfyr- dod a'i ddysg yn y penodau hyn. Daw'r neb a'u darlleno dan gyfaredd ei bersonoliaeth a swyn ei arddull. Nid hawdd i neb gau'r llyfr heb ei orffen. Dyma yn ddiau un peth mawr a wna'r gyfrol: bydd yn sicr o godi syched yn ieuenctid Cymru am ddarllen y cyfanwaith y tynnwyd pob pennod ohono. Y pris. Rhaid sôn am bris y gyfrol. Gall ysgolion Cymru fforddio chwe cheiniog am lyfr fel hwn, a diolch i'r Golygydd a'r Cyhoeddwyr am ddwyn o fewn cyrraedd pawb lenydd- iaeth a ddeil ei chymharu â'r pethau gorau a gynhyrchir yn Saesneg. Orgraff. Sylwais ar ambell acen anghywir, ond carwn ofyn onid oes modd gwneud heb- ddynt? Ar y gorau nid ydynt yn ddigonol 'Rwy'n Paentio'r Cwmwl yn Wyn gan Heulwen. (Rhydd-gyfieithiad o I'm Painting the Clouds with Sunshine.") PAN fwyf yn canu'n llon, Lliwio y byd A phigyn dan fy mron, Liw aur yr ŷd, 'Rwy'n paentio'r cwmwl Euraid aJiw rhosyn rhudd; yn wyn gan heulwen. Chwerthin yn llon, Wrth atal deigryn prudd 0fid a Uudd A rhoddi gwên i'm grudd, Os nad yw'r hin yn braf, 'Rwy'n paentio'r cwmwl Fe ddaw awelon haf yn wyn gan heulwen. Wrth baentio'r cwmwl Gorseinon, yn wyn gan heulwen. Abertaẁe. ANEURIN DAVIES. Syr O. M. Edwards. i'r gwaith a roddir iddynt, a defnyddir hwynt yn ôl dwy egwyddor sy'n torri ar draws ei gilydd. Maent yn faen tram- gwydd i laweroedd. GWyr y cyfarwydd hefyd nad yw'r rheolau yn Orgrafî yr Iaith Gymraeg a'r "Welsh Orthography" yn union yr un fath, ac amheuaf weithiau wrth ddarllen eu hysgrifau a ydyw pawb o'r athrawon galluog sy'n gyfrifol am "Orgraff yr Iaith Gymraeg yn parchu pob rheol a geir yn y llawlyfr gwerthfawr hwnnw. Wrth gwrs, ni thâl i blant ysgol gymryd eu rhyddid yn hyn heb ganiatâd awdurdodau'r Brifysgol, ond nid oes rwystr i ysgrifenwyr eraill roddi'r gorau i'r acenion os barnant hynny yn ddoeth. Mae'r gyfrol fechan hon yn deilwng o groeso cynnes ar bob aelwyd yng Nghymru. Gyrru o m bron