Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Islwyn a'i Gyfundrefn Gan Dr. R. I. AARON Sy newydd ei benodi'n Athro Athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Islwyjt: DETHOLIAD o'i FARDDoNIAETH. Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 20. Pris, 6c. RHAI blynyddoedd yn ôl clywyd llawer o sôn am yr athronydd Eidalaidd Croce, ond erbyn hyn ni bydd braidd neb yn ei enwi. Daethpwyd i deimlo bod ei gyfundrefn yn hollol amhosibl a bod ei brif syniadau'n amheus iawn. Hefyd, bu'n ymweled â'r wlad hon yn ddiweddar a siomwyd llawer ohonom yn ddirfawr ynddo. Rhyw ddyn byr, corffog, gwyllt, fflamllyd oedd, annhebyg iawn i ath- ronydd. Efallai na ddylai ymddangosiad allanol gyfrif gydag athronwyr, o bawb, ond wedi'r cyfan bodau meidrol ydynt hwythau. A hwyrach y byddai Croce yn fwy ei ddylan- wad heddiw pe bai wedi ceisio dylanwadu arnom yn unig drwy ei lyfrau. Gweled a gwneuthur. Ond fe ddaeth un o'i ddamcaniaethau i'r meddwl wrth imi ddarllen rhagair y golygydd i'r detholiad yma o weithiau Islwyn, sef y ddamcaniaeth honno bod dychmygu'n gelf- ol, ar y naill law, a datganu ar y llaw arall, yn un. Credir yn gyffredin fod pob artist yn fwy na'i gampwaith gorau. Y camp- waith yw'r datganiad uchaf o rywbeth sydd eto'n uwch, sef dychymyg yr artist. Nid yw'r offeryn sydd ganddo i ddatgan ei weledigaeth byth yn ddigon i'w ddatgan yn llawn. Ond yn ôl Croce, ffol- ineb yw dweud hyn. Y datganu yw'r dychmygu, a dyma'r weledigaeth. Fe gred rhai," meddai Croce. "y gall unrhyw un ddychmygu Madonna Raffael, ond mai Raffael oedd Raffael o achos ei fed- rusrwydd cywrain wrth baentio'r Madonna. Ni allai'r un gosodiad fod yn fwy anghywir. Wrth ei phaentio hi yn unig y cafodd Raffael ei weledigaeth ef o'r Forwyn. Y paentio, y datganu. yw'r gweled. Y mae dwy ochr i'r ddadl, wrth gwrs. ond meddyliais am y ddamcaniaeth wrth ddar- llen geiriau agoriadol y Golygydd yn ei ragair, — Bu bron i Gymru gael un o feirdd mwya'r byd pan aned William Thomas (Islwyn). Yr oedd ei allu amgyffred yn deilwng o'r mwyaf. Cafodd olwg ar ddrama'r tragwyddolfyd. Cerddai'r Anfeidrol ei hun ar draws ei lwyfan. Ond methodd eu dangos a'u dehongli i'w gyd-ddyn gyda grym gorffenedig celfyddyd fawr. Nid oedd yn ddigon o feistr ar ei glai. Yr oedd yn ysig gan ei anallu i dynnu o'i offeryn gwael y seiniau dwyfol a glywai. A glywodd Islwyn? Os cywir damcaniaeth Croce, llwyddodd Islwyn, a phob bardd arall, i ddatgan yn llawn bob sain dwyfol a glywodd er- ioed, ac i'r graddau y methodd yr offeryn, i'r graddau hynny y methodd y dychymyg a'r weledigaeth. Os methodd Islwyn ddat- gan y seiniau dwyfol methodd oherwydd nas clywodd ef hwynt erioed, canys eu clywed yw eu datganu. Byddwn i fy hun, wedi darllen gweithiau Islwyn, yn barod i gredu na chlywodd Is- lwyn lawer o seiniau dwyfol barddon- iaeth. Yr oedd gweledigaeth ganddo, ond nid gweledigaeth bardd oedd honno. Y mae rhyw faint o'rbardd ynom i gyd, ac yr oedd llawer oliono yn Islwyn. Ond nid ei artistri yw ei nodyn amlycaf. Yn y pen draw offeryn gwael oedd eiddo Islwyn am fod ei chwaeth a'i ddychymyg barddonol yn wael. Wrth gwrs, ceir darnau gwych yn ei waith sydd yn gaboledig a gorffenedig. Darn felly yw'r darn yma o'r Storm,- Cred, a bydd Duw drosot, ynot, ac o'th amgylch mwy, Dy faner a dy darian a dy gledd, Dy wregys o anfeidrol bethau byth, Dy haul a'th fywyd y ddau tu i'r bedd, Dy graig yng ngjj^nol holl lifeiriant barn. Dy fugail ar fynyadòedd tywyll angau, Dy uchelderau yn yr olaf ddiluw, Yn unig ered- Dyma linellau cryf gan fardd a ddysg- odd ei grefft yn dda. Ond eto crefft -sflüdi ei dysgu oedd eíddo Islwyn 0 hyd. Ni farddonai'n naturiol. Ar ei waethaf daw ei ddiffyg artistri i'r golwg dro ar ôl tro. Darllener y llinellau bostfawr, ffôl hynny, am y Reform Bill ar ddiwedd y Storm os am enghraifft. Ni or- ffennodd neb brydd- est yn waelach. Neu cymerwn enghreifft- iau o'r detholiad sydd ger ein bron: Mae'r 011 yn gysegredig. mae barddoniaeth Nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn. Gweld y cyfan yn un. Dwy linell brydferth iawn. Ond yna,- A bu-goddefer y wlatgarol nwyf- Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi. Goddefer y wlatgarol nwyf," yn wir! Goddefer, yn hytrach, ddiffyg awen Islwyn! Na, nid gweledigaeth bardd oedd gan Islwyn. Rhaid edrych arno o safbwynt gwahanol os mynnir sylweddoli ei wir faint. Seistemwr oedd. Ceisiodd weled y cyfan yn un. Ac o'r safbwynt hwn y bydd beirniaid y dyfodol yn ei farnu. Seistemwr cyfriniol naturiol oedd, a dylanwadau'r Blatoniaeth Newydd a fu'n gweithio ar Forgan Llwyd, ar Wordsworth, ac ar eraill, yn gweithio arno yntau hefyd. Eithr nid dyma'r lIe i ddatblygu'r sistem honno. Paham felly y trafferthodd Islwyn i ys- grifennu mewn barddoniaeth? Y mae'r ateb yn syml. Dyna ffasiwn y dydd. Anaml y ceid rhyddiaith dda hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Barddoniaeth yn unig a ddar- llenid. Bod yn llenor oedd bod yn fardd. Os oedd gan neb unrhyw beth i'w ddweud fel llenor gorfodid ef i ddysgu barddoni. Yn yr un modd, os oedd gan neb air i'w ddweud ar dafod, y pulpud oedd ei le, bydded y gair hwnnw'n grefyddol neu beidio. (Yn amser Islwyn yr oedd gẃr yma, yng Nghwm Tawe, a thalent neilltuol at ddar- lithio'n ddoniol, at daflu'r Uais, ac at gon- surio. Heddiw, byddai yn y chwaraedy. Ond yn y dyddiau hynny bernid yn wahan- ol. Gwnaethpwyd pregethwr ohono. Yr oedd dawn siarad ganddo, a dawn diddori. Beth arall a ellid ei wneud â'r dyn ond ei roi yn y pulpud?) A gorfodwyd Islwyn, i lunio llinellau pert ac i bentyrru gair ar ben gair yn ôl dull y dydd, yn Ue rhoi ei amser i feddwl ac astud- io, i ddatgan y gwirionedd a welai mewn rhyddiaith eglur lân, a thrwy hynny fyw'n unol â'i wir natur ei hun. Y Glyn,-Cartref Islwyn. Y detholiad. Ond ofnaf imi anghofio fy ngwaith. Ad- olygu'r detholiad yma yr ydwyf. Yn ffodus, nid oes eisiau dweud dim ond bod y dethol- iad yn un hapus iawn, ac yn cyflwyno i sylw'r darllenydd ddarnau gorau gweithiau Islwyn. Yr wyf fi fy hun yn hoff iawn o'r delyneg "Ceisio gloywach nen" a thebyg y bydd eraill yn flin ei fod allan. I ddeall athroniaeth Islwyn hefyd dylai'r darn o'i Storm sydd yn dechrau ` A fu medd dyn," fod i mewn. Ond gwnaethpwyd detholiad da iawn, ac ni all neb achwyn am yr hyn a roddir yma am chwe cheiniog Dyma'r ugeinfed o'r gyfres allan bellach, a charwn longyfarch y golygydd a'r cwmni ar yr antur. Prin y rhoddwyd gwell gwerth chweigen i'r genedl o'r blaen.