Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymçu, XIV. Dawn Daniel Owen Hanes nofelydd mawr Cynfu, a'r damweiniau a barodd iddo droi ati i ysgrifennur disgrifikd dyfnaf o fywyd y ganrif o'r blaen DAMWAIN ydoedd digwydd Daniel Owen y nofelydd yn y 19 ganrif. Ar un adeg, pan oedd yn y Bala, yr oedd pob golwg na fyddai yntau ond un arall at nifer gweinidogion Bethel," ac y byddai, ar ôl gorffen ei yrfa golegol, yn fugail prysur a chydwybodol ar ddefaid yr Hen Gorff. Ond nid oedd hynny i fod; rhoddodd amgylchiadau ariannol ei deulu, a'i deimlad yntau o'i ddyletswydd bersonol tuag at ei fam a'i chwaer, ddiwedd ar yrfa addysg nad oedd ddisglair na nodedig; rhoddodd ddiwedd hefyd ar unrhyw obaith oedd gan Daniel Owen y byddai'n weinidog ordeiniedig. Trwy ddamwain ffodus, cafodd ei gadw y tu allan i gylch offeiriadaeth, yn rhydd i syllu arni a'i dadansoddi fel sylwedydd a beirniad. Pes derbyniesid ef i'r cylch ni chawsai na'r seibiant na'r hawl i'w ddisgrifio. Ond nid oedd y ddamwain gyntaf hon eto'n ddigon i'w droi'n nofelydd. Rhaid oedd wrth un arall, canys pe na buasai am ei afiechyd yn 1876, ac yntau'n ŵr deugain oed, cawsem ef ar ddiwedd ei oes yn fasnachydd yn nhref yr Wyddgrug yn diwallu'i ddyhead artistig trwy ddarlithio a phregethu ac ambell draethawd eisteddfodol. Er gwaethaf ei amgylchiadau y daeth ef yn nofelydd, rhyw feddyginiaeth iddo ar ôl colli, trwy afiechyd, ddiddordebau mwy cymdeithasol oedd y gwaith a roddodd iddo ef enw a lle fb llên Cymru ac i ninnau'r disgrifiad dyfnaf o fywyd y ganrif. Y NOFEL GYMRAEG. TYTID yw'r nofel fel yr adnabyddwn hi heddiw wedi gwreiddio'n ddwfn iawn yng Nghymru. Ar ôl gogoniant bore'r Mabinogion a'r Rhamantau, fe dywyllodd yr wybren ac ni ellir cael dim trwy bum canrif heblaw Elis Wynne, sydd yn eeisio darlunio yn gelfydd mewn rhyddiaith fywyd ac arferion gwlad. Cawrdaf a Gwilym Hiraethog. Nid yw hynny, efallai, i'w ryfeddu ato. Yr oedd Lloegr hyd y ddeunawfed ganrif heb ei nofel ddiweddar, ac ar y Cyfandir nid oedd datblygiad y nofel lawer cynt heblaw, efallai, yn Sbaen, a fu'n ddigon call neu ffortunus i garcharu Cervantes ddigon hir i roddi iddo hamdden i sgrifennu ei lyfr "Don Quixote." Yng Nghymru yr oedd bron chwarter y 19 ganrif wedi mynd eyn cael y nofel gyntaf- os nofel y gelwir hi hefyd. Yn Y Meudwy Cymreig," ceisiodd Cawrdäf, bardd ac arlunydd, greu gwaith rhamantus ac fe lwyddodd mewn rhan, er mai gwaith anodd yw darllen Cawrdaf fel nofel heddiw. Y mae'r gwaith, er.hynny, o fawr werth a diddordeb fel arwydd o'r gwahanol fudiadau a ffurfiau .llenyddol a fu'n dylanwadu ar Gawrdaf ei hun ac yn ddiamau ar lenorion eraill ddechrau'r ganrif. Y mae'r nofel Gymraeg gyntaf yn dangos yr un nodau ] Daniel Owen. rhamaatus ag a wna Awdl yr Haf mewn cyfnod rhamantus arall, ond fod y nofel heb ddim o'r gwerth cynhenid sydd yn yr awdl, ar wahàn i'r rhamantiaeth. Ar ól dechreuad fel a gafodd, rhyfedd i'r nofel Gymraeg fyw o gwbl. Yn wir, hyd nes y laeth Daniel Owen i'w hatgyfodi, prin y geUir dweud iddi ddangos ond yr arwydd- ion prinnaf o fywyd. Ceisiodd Gwilym Hiraethog roddi ychydig nerth iddi gyda'i Helyntion Bywyd Hen Deiliwr," ond er mor c.diddorol yw'r llyfr hwn fel darlun o fywyd cymdeithas Gymreig, gwaith economÿdcl o ddychymyg cryf yw, ac nid ffrwyth creadigaeth lenyddol fawr. Felly hefyd am Roger Edwards yr Wydd- grug. Anghofiwn mai Y Drysorfa a gyn- hyjrchodd ei stori ef, "Y Tri Brawd," ac nid anjgen ei awdur i ddatguddio'i brofiad arben- ni ef o fywyd. (FeUy, er bod nifer lawer o gyfieithiadau o straeon Saesneg i'w cael, nid oedd gan Gỳmru hyd amser Daniel Owen neb a roddai idfli waith newydd o werth llenyddol, a tli-wy ddamwain garedig neu gyfres ohonynt y cafodd hi ef. Newydd-deb Daniel Owen. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng gwaith Daniel Owen a'i ragflaenwyr; gwahaniaeth nid yn gymaint yn ei ddull llenyddol, er bod hynny, ond yn ei welediad am ystyr nofel. Gan EDWARD FRANCIS. O'i flaen ef, helynt unigolyn yn y wlad oedd deunydd y stori. Symudodd Daniel Owen i'r dref, a chawn nid yr unigolyn bellach ond helyntion cymdeithas. Ef oedd y cyntaf yn holl hanes llên Cymru i ganfod bod bywyd tref (er ei lleied) yn llawn o ddeunydd llenyddiaeth fawr, fod gwrth- darawiad personau mewn cymdeithas yn destun mor werthfawr i'r artist â gwrth- darawiad yr unigolyn â Natur neu Dduw, yr hyn oedd prif destunau ci ragflaenwyr mewn rhyddiaith a barddoniaeth. A'r newydd-deb hwn oedd achos llawer o'r clod a gafodd gan ei gydoeswyr, canys fe ddatguddiodd iddynt hwy yr hyn a anghof- iasant yn eu hymchwil am ddelfrydau a syniadau, sef fod bywyd distadlaf cym- deithas o ddynion yn llawn o harddwch a mawredd y delfrydau ideol hynny y tybient hwy eu cael y tu allan a thu draw i gyffred- inedd beunyddiol dyn. Efallai nad annheg dywedyd am y ganrif, iddi anghofio daioni dyn wrth bregethu daioni Duw, a mawredd dyn yn swn mawredd syniadau. Helyntion ei fywyd. Nid yw'n hawdd deall gwaith Daniel Owen na'i bwysigrwydd heb wybod hanes bywyd y nofelydd. Fel llawer o waith di- weddar y mae, i raddau helaeth, yn ddarlun o'i helyntion personol ef ei hun. Hunan- gofiant ydyw, yng ngwir ystyr y gair. Ganwyd ef yn 1836 mewn un o res bythynnod Alaes-y-dre, Wyddgrug, yn fab ieuengaf i Robert a Sarah Owen, deuwr a ddaeth i'r Wyddgrug o rannau eraill o Gymru, y tad o Ddolgellau a'r fam o Sir Ddinbych. Gweithiwr yn y gwaith mwn oedd y tad, ac yno mewn damwain y lladdwyd ef a dau o'i feibion, un ohonynt yn ddeuddeg a'r llall yn ddeg oed. Yr oedd Daniel Owen bryd hynny yn seithmis oed, ac nid oes eisiau edrych ymhell yn ei waith i weled ôl y trychineb cynnar hwn. Heblaw Daniel, yr oedd gan y weddw ddwy ferch a mab arall hyn nag ef, a bortreadwyd yn ddiweddarach yng nghymer- iad Bob yn Rhys Lewis." Prentis teiliwr. Wedi ychydig ysgol yn yr Ysgol Eglwys a'r Ysgol Frutanaidd yn y Wyddgrug, rhoddwyd ef yn brentis teiliwr i un o fas- nachwyr y dre, lle y daeth i adnabod bywyd bob dydd pob un o'i gyd-drefwyr, fel na all ond llanc mewn siop neu weithdy ei wneud, trwy glywed straeon ei gyd-weithwyr am danynt, eu gweld yn myned yma a thraw ar brysurdeb pethau bychain ac o hyd yn ceisio cadw'r llygaid ar y geiniog ac ar eu henw