Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O AWSTRALIA BELL. Gan BALDWYN M. DAVIES. rE pan ysgrifennais ddiwethaf i'r FORD GRON, bûm yn Sydney, a chefais amser da "yda'r Cymry sydd yn byw yn y ddinas fawr honno. Mae yno achos Cymreig, y cyf- arfodydd yn cael eu cynnal yn yr Empire House, Castlereagh St. Digwyddaise fod yno pan oedd lliaws o blant wedi dod ynghyd i'r te blynyddol. Gwelais fod y Parch. D. Davies, Hurlston Park, yn brysur iawn gyda'r plant a'u chwaraeon. 'Roedd hefyd yno ar yr un pryd y Parch. Hugh Jones, a Mr. E. A. Rawson, Llywydd Cymdeithas Dewi Sant, Brisbane. Cymdeithas Blackstone. Yng nghyfarfod blynyddol Cym- deithas Dewi Sant, Blackstone, a gyn- haliwyd ym mis Ebrill, gwelwyd yn yr adroddiad ar waith y flwyddyn fod gwaith da iawn wedi cael ei wneud. Swyddogion newydd. Etholwyd swyddogion newydd, fel hyn: Llywydd Mr. R. H. Lewis. Noddwyr: yr Henadur T. J. Humphreys, y Cynghorydd R. T. Mor- gan a Dr. Luther Morris, Gympil. Is-lywyddion Mae 17 yn y rhestr hon. Ysgrifennydd a Thrysorydd: Mr. Baldwyn M. Davies. Pwyllgor Gweithredu: Mrs. J. L. Edwards ;Mrs. Richard Jones; Mrs. E. M. Jones; Mrs. T. Hediey; Mrs. J. Townshend; Mrs. W. D. Evans, a Miss Nellie Evans; Mr. T. Morgan; Mr. Alf. Wathan; Mr. Geoff. Edmunds. Cyfrif-olygwyr: Mri. Alf. Wathan a Geoff. Edmunds. Arweinydd y gân Mr. W. D. Jones*. Arweinydd cynorthwyol: Mr. Robert Jenkins. Cyfeilydd: Mrs. Geoff. Edmunds. 'Nid ydyw'r gymdeithas yn gofyn am danysgrifiadau oddi wrth yr aelodau am y flwyddyn sy'n dyfod, oherwydd y dirwasgiad. Mae Mr. R. H. Lewis wedi cael ei ethol yn Is-Iywydd Cyngor Eisteddfod flynyddol Queensland. 0 FANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. PEL hyn y canodd Mr. J. Ceinionydd Roberts pan dderbyniodd Manion Mr. T. Gwynn Jones drwy'r post: Tywysog llên, a'r urddas yn ei drem Yn hud-wefreiddio'r glust i wrando'n syn, Ac yntau'n fflachio inni geinder gem, A gwau o'n cylch gyfaredd cyfrin, tynn. 0 gof dihysbydd codai llawer cân Gartrefodd yn ei grebwyll cnydiog, chwim; A ninnau'n gwrando arno wrth y tân A chlust a llygaid ofnai golli dim. Yn fore heddiw cnoc fu ar y drws; A chyrraedd llyfr o Fanion ar ei hynt; Mwyach cawn ddarllen rhwng ei gloriau tlws Yr hudol gerddi glywsom ganddo gynt. Llywydd Newydd Cymdeithasau Llundain. TAWEL iawn a difywyd ydyw pethau ymhlith Cymry Llundain, canys daeth haf a thywydd teg, a manteisiodd amryw ar hynny i fyned ar wyliau. Mis Awst, wrth gwrs, ydyw mis gwyliau y mwyafrif-mis yr ysgolion a'r plant-ond y mae'r duedd i fyned i'r hen wlad ym Mai a Mehefin yn cynyddu, ac y mae'r tywydd yn eithaf caredig yn y misoedd hyn. Hwyl ar y lawnt glas. Dyma fis y blodau a chyrchu i'r gerddi, ac nid rhyfedd felly i Gym- deithas y Cymry leuainc drefnu garden party yn nechrau Mehefin a'i gynnal yng ngerddi prydferth eu cyn-lywydd (Mr. 0. Picton Davies) yn Clapham. Daeth llu mawr yno, a'r llywydd (Mr. J. T. Lewis) gyda hwy, a bu hwyl anghyffredin am oriau ar yfed te ac ym- gomio, cadw cyngerdd a chyd-ganu a chwarae campau a dawnsio ar y lawnt glas. Yr oedd y tywydd yn deg, a dillad amryliw y chwiorydd yn cymhlethu'n hardd â'r blodau a dail y coed nes gwneuthur yr olygfa yn un swynol dros ben. Miri yn y wlad. Yr oedd plant yr Ysgolion Sut wedi bod ychydig cyn hyn yn treulio diwrnod yn y wlad. Dyma'r hen arferiad ynglýn â'r mwyafrif o'r ysgolion. Cludir y plant mewn moduron neu gyda'r rheilffordd i leoedd hawdd eu cyrraedd o'r ddinas ond eto ynghanol gwlad, a mwynhânt bob math ar chwarae am oriau, a'u dilyn yn y pryn- hawn gan y rhieni ac eraill, a mawr y miri a geir ganddynt hwythau hefyd- yn rhedeg rasus, chwarae coets a chriced a thynnu rhaffau. Yr hen lord barfog. Arferid hefyd flynyddoedd yn ôl i'r holl ysgolion fyned ar wibdaith gyffred- inol ar Wyl y Banc ym mis Awst, a mynych y cyrchwyd i barc enfawr yr Ardalydd Salesbury yn Hutfield yn y cyfnod hwnnw pan oedd yr hen lord barfog, y cyn-brifweinidog, yn fyw. Am ryw reswm neu'i gilydd syrthiodd y wibdaith hon i'r llawr, a diau mai'r rheswm am hynny ydoedd bod cymaint o gyrchu i'r hen wlad a'r Eisteddfod yn ystod yr wythnos gyntaf yn Awst. Cor i'r genedlaethol. A chan sôn am yr Eisteddfod, atgofir fi fod côr Eglwys Annibynnol y Borough a'i fryd ar gystadlu yn Aber- afan, ac ni allaf beidio dymuno'n dda iddynt a gobeithio y bydd llu o'r dinas- yddion yn y babell fawr i'w cefnogi. Gan LLUDD. Y tymor nesaf. Er bod tymor gwaith y Cymdeithasau Llenyddol wedi terfynu ers deufis, y mae'r pwyl gorau wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer y gaeaf nesaf, a'r Undeb, o dan ysbrydiaeth yr araith a gafwyd yn y cyfarfod terfyn gan Syr Percy Watkins, yn ceisio rhoddi ar- weiniad a thynnu cynllun y bydd yn werth i'r Cymdeithasau ei ddilyn. Yng nghyfarfod blynyddol yr Undeb a wneir i fyny o aelodau pwyllgorau yr holl Gymdeithasau, bu ethol swyddog- ion' a gwneuthur trefniadau rhag- arweiniol. Llywydd newydd yr Undeb. Y llywydd newydd ydyw Mr. J. R. Thomas, a llongyfarchaf yr Undeb yn galonnog ar y dewisiad, canys ni bu ffyddlonach cefnogydd i'r Undeb na dycnach gweithiwr yn y Cym- deithasau. Brodor o Benmaenmawr ydyw Mr. Thomas, ac y mae'n un o ddiaconiaid Elfed yn y Tabernacl. Deil swydd fawr ynglýn ag un o'r masnachdai mwyaf, a theithia lawer ar y cyfandir ynglŷn â'i waith ond nid oera hynny ei sêl wladgarol, eithr yn hytrach ei gyn- hesu. Efe ydyw trysorydd y mudiad i greu mwy o ddiddordeb yn Urdd Gobaith Cymru ymhlith Cymry Llundain. Credwn ei fod hefyd yn un o is- lywyddion yr Urdd, a bu'n llywydd Cymdeithas Sir Gaernarfon yn Llun- dain. Bu eisoes yn gadeirydd pwyllgor yr Undeb, a diau y ceir ganddo fel llywydd arweiniad doeth a medrus i'r Cymdeithasau. Trafodion y Cymmrodorion. Cefais gip ar drafodion (transactions) Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmro- dorion, ac amheuthun ydoedd canfod bod mwy o Gymraeg nag arfer yn y gyfrol. Y brif erthygl ydyw eiddo'r Prifathro J. F. Rees, Caerdydd, ar "Yr Ail Ryfel Gartrefol yng Nghymru," a bydd hon yn ychwanegiad pwysig at lyfr gwerthfawr Mr. Roland Phillips Civil War in Wales and the Marches." Traetha'r Athro Henry Lewis ar Perlau Benthyg," a cheir hefyd ad- roddiad o gyfarfodydd y Gymdeithas yn ystod wythnos yr Eisteddfod ym Mangor, a chrynhodeb o areithiau vr Athro J. E. Lloyd a'r Mri. J. C. Davies, Ellis W. Davies, Edmund D. Jones, Robert Richards, a W. Gilbert Williams. Chwilio am Gymru. Llyfr arall a gyhoeddwyd yn ystod y mis ydyw In Search of Wales, gan H. V. Morton, awdur llyfrau cyffelyb ar Loegr, Iwerddon, yr Alban, a Llun- dain, ac y mae hwn yn hafal i'r un LERPWL. Gan W. EILIAN ROBERTS. Y" MAE gwahanol bwyllgorau Cymry Lerpwl yn brysur yn gwneuthur trefniadau at y gaeaf. Deallir fod yr Athro T. Gwynn Jones, Mr. Iorwerth Peate, a Mr. R. T. Jones wedi eu henwi i fod yn ym- welwyr â Chymdeithas Genedlaethol Lerpwl eleni. Ceisia'r Blaid Genedlaethol eangu ei therfynau ym Manceinion ac y mae Mr. Gwilym R. Jones, fel cynrych- iolydd Cangen Lerpwl o'r Blaid Genedlaethol i annerch cyfarfod ym Manceinion cyn bo hir. Y mae cymdeithas newydd Cylch y Pump ar Hugain wedi ei sefydlu yn Lerpwl. Cynhyddu yn eu rhif a'u bias a wna'r cyfarfodydd a threfnir i drafod gwahanol faterion yng nghyfar- fodydd y Cylch." Dau wr diarth sy wedi eu henwi ar y rhaglen y tro hwn, sef Mr. Percy Ogwen Jones, Oldham, a Mr. J. T. Jones, golygydd Y FORD GRON. YSGOL WYLIAU YN SWYDD DERBY. Gan MEGAN HUMPHREYS. AR ôl darllen yr hysbysiadau, ynglyn ag Ysgolion Haf yng Nghymru, yn Y FoRD GRoN, meddyliais yr hoffai'r darllenwyr wvbod am Ysgol Haf a dreul- iwyd yn Youlgrave, Derbyshire, o bnawn Sadwrn hyd nos Sul. Cynhaliwyd yr Ysgol hon dan nawdd y Miners' Welfare Adult Education Joint Committee (Notts and Derbyshire). Y testun dan sylw oedd Economeg- rhai tueddiadau ym Mhrydain ar ôl y Ehyfel Mawr. Glowyr Derbyshire oedd y mwyafrif o'r myfyrwyr; yn nesaf atynt hwy athrawon ysgol ieuenctid brwd yn dechrau ar eu gyrfa, y canol oed ag ôl y Rhyfel Mawr yn amlwg ar eu gwel- èdiad" yn ogystal a henafgwyr a phrofiad mawr o'u hôl, pawb mewn cydgord hapus a'i gilydd. Profiad pob un wrth ymadael i ddychwel i'r pwll glo, yr ysgol neu y gweithdy, yn ôl y galw, oedd mai da oedd inni gyfarfod dychwelyd gyda gwelediad eangach, hadau cyfeill- garwch a brawdgarwch wedi eu plannu, a gwell amgyffred am duedd- iadau ac anawsterau economeg Prydain heddiw. Gyda llaw, aethpwyd i le o ddiddor- deb hanesyddol, o'r enw Arbor Low- llecyn anghysbell ar fryn y tu allan i Goulgrave. Yma yr oedd eromleeh. Pan yn dwyn i'n sylw y llafur a'r egni angenrheidiol er cludo y cerrig enfawr hyn a'u gosod mewn eylch, dywedodd yr arweinydd mai ein cyndadau ni y Cymry a'u gosododd yno. Onid dyma funud bapus i Gymraes ynghanol Saeson. ohonynt. Nid wyf yn gwybod am un a deithiodd trwy Gymru ac a ddangos- odd gymaint cydymdeimlad â'r wlad a'i phobl, a mentraf ddweud y bydd gwerthu da ar lyfr Mr. Morton yng Nghymru. Trwy farw Mr. Donald MacLean, A.S., Gweinidog Addysg, collwyd gŵr fu'n byw yng Nghymru am flynydd- oedd, a garai ei phobl ac a gydymdeim- lai â'u dyheadau. Meddai argyhoedd- iadau dwfn, a danghosodd fedr a dewrder trwy ystod ei fywyd politicaidd.