Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Nhre-fîn ym Mîn y Môr—o dud. 211. gannoedd yn ei ddydd ac a dynnodd i'r pen- tref ugeiniau o wyr y North." Ceir hyd heddiw lawer chwedl am Owen Llan a'i delyn a llawer pennill swynol a ganai, a ys- tyrrid yn faswedd hollol gan wŷr y capel. Erbyn heddiw y mae'r olaf o'r hen gâd wedi diflannu ac nid oes ond ambell enw teuluol a awgryma gysylltiad a'r Gogledd. Am y pentref ei hun. ni ellir ei ddisgrrfio'n well na dwy res o dai ar ffurf croes ar y ffordd sydd yn arwain o Abercastell i Lanrhian. lle saif eglwys y plwyf. Collodd lawer o'i swyn pan aeth yr hen dai tô; y mae'r rhai presen- nol yn rhy fodern o lawer i'w galw'n bryd- ferth nid doeth bob amser asio mur a siment." Er hynny o gyfeiriad Porth- gain nid yw'r lle'n amddifad o swyn. Dafydd Philip a'r offeiriad. Y mae yno ddau gapel, un yn perthyn i'r Methodistiaid a'r llall i'r Bedyddwyr- cangen o eglwys y Groesgoch. Yn y blaenaf cedwir y Plygain o hyd bob bore Nadolig, ac yn yr olaf llafuriai'r enwog ac annwyl Ddafydd Philip, gŵr hynod am ei ddawn ac arabedd. Adroddir stori amdano'n cyfarfod ag ofîeiriad y plwy fore'r Cyrddau Mawr. a hwnnw yn ei gyfarch fel hyn,— "Wel, Dafydd bach, byw ar y plât casglu 'rwyt ti o hyd. mi welaf." Ie, ond ymhell o fod ar y plwy', fel ti." oedd yr ateb parod. Dethlir Gŵyl Fabsant (Gŵyl Fartin 22ain o Dachwedd) yn Nhrefîn o hyd. trwy wneuthur pasteiod mins o fath neilltuol- pasteiod cig cathod y gelwid hwy gynt, a chyn belled ag y gwelwn, ni chaniata'r plant i'r arfer dda ddiflannu fel Ffair Fawr Gŵyl Fartin, a drengodd ers tro. Magodd Trefin o leiaf ddau o gewri'r pulpud sydd yn adnabyddus i Gymru gyfan. Daniel Owen, o dud. 216 wedi gwella'n fawr. Y mae mwy o ymgais ymwybodol at greu ffurf arbennig o lenydd- iaeth. Y mae llai o ymdroi a gwastraff deunydd, ond nid yw holl fywyd "Rhys Lewis wedi ei roddi iddynt. Nid oedd wedi deffro i wybodaeth pan ysgrifennodd Y Dreflan." Pan ysgrifennodd Gwen Thomas ac "Enoc Huws yr oedd peth o'r weledigaeth gyntaf ar goll. Er hynny y mae cymeriadau a chynllun y ddwy nofel yn dda. ac yn Gwen Thomas cawn beth o'r bywyd atgof sydd mor llawn yn Rhys Lewis." Hapus a doniol. A chymryd nofelau Daniel Owen fel cyf- anwaith, gellir dweud mai eu prif nodwedd yw hiwmor caredig. Pan oedd Cymru yn edrych ar bob agwedd ar fywyd fel rhyw- beth anodd. dyrys a phwysig. yr oedd un gwr nad anghofiodd ei hapusrwydd a'i ddoniolwch. Ac wrth gofio hynny ni allodd beidio â gweled ei dristwch hefyd. ond cof- iodd ef heb sentimentaleiddiwch llawer o'i gyfoeswyr. Ac wrth fynd heibio ni allodd beidio â gwenu wrth weled cynifer o bobl yn -Ebeneser a Thomas Richards, dau o hoelion wyth y Corff. Nid oedd y blaenaf ond llencyn pan laniodd y Ffrancod, a bu yn un o'r dorf a safai yno yn gwylio'r gelyn. Canodd gerdd o ddiolchgarwch am yr ym- wared a fu pan drechwyd hwy gan ddewrion Penfro. Nid yw bywyd Thomas ei frawd heb ei ramant, oblegid cawn iddo briodi Miss Gwyn, nith i wraig yr enwog Jones, Llan- gan. a drigai ar y pryd yn Marnawen, plas gerllaw Abergwaun (a thrigfan yr hynaf- iaethydd John Lewis, cyfaill Edward Llwyd yn ei ddydd). Yn ôl yr hanes a gawn Yr oedd Mrs. Jones a theulu Miss Gwyn yn wrthwynebol iddo'i chael yn wraig gan nad oeddynt yn ei ystyried yn ddigon da iddi. gan ei bod hi o deulu urddasol ac yn meddu ar gyfoeth, ond diangodd Miss Gwyn drwy'r ffenestr ar noson y 29ain o Ebrill, a phriodwyd hwy drannoeth." Nid pob pre- gethwr Methodistaidd a gaiff ei wraig trwy'r ffenestr Dewrder y trigolion. Hwyrach na ddylid gadael y pentref heb dalu teyrnged i ddewrder ei drigolion pan gollwyd y Ragna. llong o Lychlyn. yno ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Y dydd hwnnw achubwyd naw o griw o ddeuddeg mewn ystorm fythgotiadwy, heb offer ond ychydig raffau a breichiau cyhyrrog. Y dydd hwnnw gwelwyd gwýr a gwragedd hyd eu gyddfau yn y dwr, ac nid eu bai hwy oedd i dri truan golli eu bywyd yn ymyl y lan. Talwyd teyrn- ged olaf iddynt ar ffurf cofadail ym mynwent y plwy, Ue'r hunant. Maent yn awr Fel yntau'r melinydd yn gorwedd yn dawèl Mewn mynwent yn rhywle o fewn i'r hen blwy', A minnau gaf gerdded tan helltni yr awel Mewn hiraeth am ddyddiau na welaf byth niwy. ceisio eu twyllo eu hunain a'u cymdogion, a rhoi anrl bigiad i'w parchusrwydd trwy enau Wil Bryan. genau oedd yn Uefaru'n ami farn Daniel Owen ei hun. Pan oedd Nain yn Ugain Oed (0 dudalen 200.) fel y dywedir yn awr. Cariai feddwl uchel am ei gelfyddyd. Bron nad addefai mai ef oedd y teiliwr gorau ym Môn, os nad yr unig deiliwr gwerth yr enw. Hefyd yr oedd ganddo lygaid craff i weled gwallau yng ngwaith teilwriaid eraill. Yr oedd ganddo ei farn ar bopeth, a hoff oedd ganddo adrodd ei anturiaethau a phethau felly—ac anodd oedd eu coelio heb binsiad go fawr 0 halen. Ond yn wir, yr oedd o yn. eitha' teiliwr, er y dangosai ei waith, ym mhlith trigolion tref, mai o'r wlad y daeth y sawla'i gwisgai. Yr oedd hefyd yn bur ddiwyd,' ac er ei fod yn barablus 'doedd hynny yn altro dim ar gyflymder ei nodwydd ddur. Am ei ddau fab-yn annhebyg iddo ef, bechgyn tawel a dirodres oeddynt. Nid oedd yr hen deiliwr yn fyr o hiwmor a byddai ef a minnau yn cael aml sbort. Ffrindiau go sownd oeddym ar ÿ cyfan. YN "Y FORD GRON" NESAF Dyma rai o'r pethau fydd yn rhifyn Awst: SAITH MLYNEDD YN YNYS ENLLI. Gan OLWEN ERYRI. Bu Olwen Eryri yn cadw ysgol yn yr ynys unig. Yma dywed hanes y bywyd yno, haf a gaeaf. RHAI O REBELS CYMRU. Gan ITHEL DAVIES. Hanes cenhedlaeth o ddynion nertholf di-ofn, fu'n herio'r llywodraethau. EIN HENWADAETH FFOL. Gan y Parch. J. T. JONES, Southport. Rhesymau cryfion dros i'r Methodistiaid, y Wesleaid a'r Annibynwyr yng Nghymru ymuno'n un eglwys. SHAKESPEARE YN DOD ADRE. Gan J. C. GRIFFITH JONES. Myfyrdodau un o'n hysgrifenwyr gorau, ynghanol teyrnged mawrion y byd i'r bardd yn Stratford, ac wrth weld agor theatr berffeithiaf y byd. TRIP I RUFAIN. Gan y Parch. J. ALLEN Jones. DECHRAU TREFI YNG NGHYMRU. Gan E. G. BOWEN. Ysgrif sy'n agoriad llygad, gan un o'r prif awdurdodau ar ddaearyddiaeth Cymru ac ar hanes dyn yng Nghymru. HEN YSGOL RHUTHIN. Gan Major HAMLET BOBERTS. TU HWNT I'R LLEN GYDA'R BARDD CWSG. Gan DR. HARTWELL JONES. CAMP GWILYM HIRAETHOG. Gan J. D. POWELL. Stori, Eisteddfod y Ddylluan, etc., etc., a Uu o. ddarluniau. PEIDIWCH A BODLONI AR ALW YN Y SIOP I EDRYCH A YDYW'R FORD GRON YNO. ORDRWCH EICH COPI. Ei^eddfod GadeiríolMon Porthaethwy. LLUNGWYN a MAWRTH, 1933. Corau Cymysg (agored) GWobrau f90. Corau Meibion (agored) Gwobrau £ 70. £500 mewn gwobrau. Rhestr Testunau, 4Jc. drwy'r post. Anfoner at: TREFOR Jones; Ysg. Cyffredinol, Business Training College, Porthàethwy.