Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL II. RHIF 10. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Teliffôn Wrecsam 622. London Ageney: Thanet House, 231-2 Strand. Cymod. "R HAID setlo yn Lausanne" oedd neges erthygl Mr. W. Eames yn Y FoRD GRON fis Mehefin. Bu ofni mynych yn ystod y mis diwethaf mai methiant fyddai'r gynhadledd, ond-mawr fyddo'n diolch-ystyr Lausanne o hyn ymlaen fydd Gollyngdod. 'Chaifî rwbel y deyrnged ryfel ddim tagu olwynion gwaith a masnach y byd byth eto. Fe arwyddwyd Cytundeb newydd rhwng y gwledydd oedd yn y Rhyfel Mawr, Cytundeb Cymod, yn lIe hen Gytundeb Dial Versailles. Fe wnaethpwyd hynny trwy gadw'r gwahaniaeth yn glir rhwng y syniad gwleidyddol, sef mantais neu anfantais un genedl rhagor na'r llall, a'r syniad economig, sef lles Ewrob gyfan. Rhaid cydnabod camp y gwladweinwyr wrth lwyddo i wneuthur hynny a lliaws y bobl, yn enwedig yn Ffrainc, yn gaeth wrth yr hen syniadau gwleidyddol. Bu rhaid cydnabod tipyn ar y brodyr gwein- iaid hyn, trwy ddweud yn y Cytundeb fod yr Almaen i dalu swm terfynol pan all, ond nid i'w hen elynion rhyfel eithr i gronfa neillduol er budd Ewrob oll. Pan all," sylwer. Yr hyn a sicrhawyd unwaith ac am byth ydyw cydnabod na ddeillia dim budd i neb o dalu iawn neu ddyled rhyfel, a'i fod, yn wir, yn fwy o golled nag o ennill i'r sawl a'i derbyn. Y cam nesaf. PEIDIER â thybio y daw trefn a rheol ar bethau trwy'r byd ar unwaith oherwydd Cytundeb Lausanne. Y cam cyntaf ydyw. Yr ail gam ydyw argyhoeddi America mai dyna ffordd iachawdwriaeth iddi hithau hefyd. Ar hyn o bryd y mae toreth y bobl yno, yn enwedig trigolion peithiau mawr y berfeddwlad, yn disgwyl i wledydd Ewrob dalu eu dyledion rhyfel yn ôl yn llawn. Y maent yn dioddef dan gyni masnachol pur arw, ac y mae'n naturiol iddynt edrych ym- laen at yr arian a roddasant ar fenthyg yn hytrach na dioddef y trethu trwm a fygythir arnynt Ni fyn lliaws yr Americanwyr ar hyn o bryd ddim credu'r hyn sy'h eglur ddigon i'w gwyr llygadog: sef, yn gyntaf, fod rhwym- au arian a bwyd yn anwybyddu gwahan- iaethau gwleidyddol, a bod America dan ddirwasgiad am fod gwledydd eraill yn dlawd; ac yn ail, pa mor ewyllysgar byn- nag y gall Prydain, er engraifft, fod i dalu ei dyled, na all hi ddim gwneuthur hynny tra fo mur tollau America yn gwahardd talu â nwyddau, a thra fo swm yr aur sy ganddi yn llai na digon i'r diben. Ond nid gwiw gwyntyllio'r pwnc ar hyn o bryd rhag dyrysu'r etholwyr a'u cythruddo. Mae etholiad yr Arlywydd ar droed, a mater gwahardd y ddiod a phynciau gwladol eraill i'w setlo. Fodd bynnag, prun ai Mr. Hoover a ail-etholir ym mis Tachwedd ynteu Mr. Franklin Roosevelt, mae'n debyg mai'r un fydd yr agwedd swyddogol tuagat y trybini masnachol y mae'r America a'r byd ynddo. Ac yn hynny y mae'r gobaith. Safbwynt newydd. FE ddaw pobl o wledydd y byd, mae'n debyg, i gynhadledd (yn Llun- dain neu Geneva) tua mis Rhagfyr i geisio edrych, am y tro cyntaf erioed, ar berthynas gwledydd â'i gilydd o safbwynt bwyd ac arian yn He o'r safbwvnt gwleid- yddol. Nid y pethau gwahanol ond y pethau tebyg fydd gerbron: nid y manteisio a'r cystadlu traddodiadol ond y cyd-weithredu newydd er lles pawb. (Ond, megis yn Lausanne, fe fydd yn rhaid i'r cynrychiol- wyr amlygu eu gwlatgarwch ar brydiau er mwyn y brodyr gweiniaid gartref, oher- wydd mae pleidlais y brawd gwan o'r un gwerth mewn etholiad ag eiddo'r gŵr doethaf.) Gobaith. Y GWIR yw fod y cyni diwydiant a masnach yn bygwth seiliau'r gwar- eiddiad presennol drwy'r byd. Dyna chwyldro yn Siam yn y Dwyrain y mis diwethaf, ac un arall yn Chile yn y Gor- llewin, y ddau o achos bod peirianwaith di- wydiant ac arian wedi dyrysu. Mae swm nwyddau'r byd-o ran cynnyrch a chyf- newid wedi gostwng i'r hanner yn ystod tair blynedd, a'r cwbl am fod perthynas arian a phrisiau wedi mynd yn gwlwm na all un wlad ar ei phen ei hun mo'i ddadrys. Mae'r byd mewn llyfîetheiriau, tlodi'n cynyddu, ac eto ddigonedd ar gael ond cael iawn drefniant. Fe ddanghosodd Lausanne fod gwledydd Ewrob wedi sylweddoli mai trwy undeb a chydweithredu yn unig y gweithir ffordd allan o'r drysni. Bydd dyfod yr America i gynhadledd y byd yn addefiad ei bod hithau'n sylwedd- oli'r un peth, ac yn ewyllysio cyd-dynnu. Mae'r gynhadledd sydd ar droed yn Ottawa yn dyst fod yr Ymerodraeth Bryd- einig hithau yn trefnu ei thŷ ar yr un egwyddor. Mae'r rhagolwg yn fwy gobeithlon nag y bu ers talm. Codi costau addysg. Y MAE'R awdurdodau am bwyso ar i bawb fod yn fforddiol, yn arbennig ynglŷn â gwario arian y wlad. Fe fu gweision y Llywodraeth eisoes yn ymgynghori ag awdurdodau addysg lleol Cymru. Fe gynigir cau ysgolion bychain, cyfyngu ar addysg rad yn yr ysgolion sir, ac atal taliadau am gynnal neu gludo plant i'r ysgol. Dywedir y bydd rhaid i addysg ganolradd Cymru gostio jE40,000 yn rhagor. Cyn cydsynio, y mae eisiau sicrhau bod gwir angen am fesurau fel hyn, a bod man- teision addysg Lloegr a'r Alban yn cael eu mesur â'r un llathen. Y mae eisiau gweled hefyd fod yr aberth, os oes aberth i fod, yn gyfartal. Anghyfiawnder fyddai taflu athrawon allan o waith, neu ostwng eu cyflogau ym- hellach, a swyddogion gwladol eraill, megis gweision niferus y cynghorau a'r pwyllgor- au ar hyd a lled y wlad, yn cael parhau i bori tir bras. Ac os oes rhaid i blant y bobl aberthu, ni byddai ond cyfiawn i ofyn am gyffelyb aberth ar ran teuluoedd y dosbarth gwell eu byd sy'n derbyn rhenti a llogau da. Ar yr un pryd, fe fyddai'r achlysur yn gyfle da i chwilio ansawdd yr addysg a gyf- rennir, a holi a ydyw yn werth y gôst.