Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y FORD GRON "ANGHOFIO Syr O.M. YN EI FRO EI HUN" At Olygydd y FORD GRON. YR oedd yn falch calon gennyf weld llythyr Mr. H. D. Jones o Bengam yn eich rhifyn diwethaf, yn awgrymu defnyddio llog, neu ran o log, Cronfa Goffa'r diweddar Syr O. M. Edwards i hyrwyddo Urdd Gobaith Cymru. Yn ôl a ddeallaf i, diben Pwyllgor y Gronfa yw sefydlu ysgoloriaethau. Y mae rhesymau cryf yn erbyn hynny. Osgoi dyletswydd. 1. Canlyniad rhoi ysgoloriaethau yw rhoi cyfle i ychydig iawn o ieuenctid ein gwlad godi i safleoedd ariannol uwch na'u cyfoed- ion. Nid yw cyfundrefn ysgoloriaethau yn ychwanegu dim at ddiwylliant gwlad yn gyffredinol, — yn wir i'r gwrthwyneb y mae'r effaith. Nid eisiau rhoi cyfle i ychydig sydd arnom, eithr cael addysg rad i bawb. Y mae'r gyfundrefn ysgoloriaethau yn helpu cymdeithas i osgoi ei dyletswydd i'w hieu- enctid, sef rhoi cyfle diwylliant yn rhad yn nwylo pawb fel ei gilydd. Syr O. M. a Tom Ellis. 2. Ni wna ysgoloriaethau ddim i goffáu Syr Owen M. Edwards, a dyna un o'r amcanion, mi gredaf. Y mae ysgoloriaeth a chofgolofn i'r di- weddar Tom EUis. Pa un o'r ddau a wnaeth fwyaf i ysbrydoli ieuenctid Cymru? Gwelir y gofgolofn yn y Bala gan genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ac ymwelwyr. Ond am ysgoloriaeth, ni wyr neb ond yr un a'i der- byn bob blwyddyn ei bod i'w chael; gwn na wyr hanner y. rhelyw o'r rhai hynny ddim am Dom EUis, cyn na chwedi ei derbyn; ac yna ânt ymlaen ar unwaith i ddefnyddio pres yr ysgoloriaeth i godi eu sefyllfa arian- nol hwy eu hunain trwy ymgiprys am raddau a'r cyffelyb i gael gwell swyddi. Diwylliant neu goffa am Dom Ellis? Nid oes dim. Rhoddwch i mi'r gofgolofn yn y Bala gan mil o weithiau o flaen ysgoloriaeth. A chofier mai Syr O. M. Edwards oedd fwyaf brwd am y gof-golofn i Dom Ellis. Cywilydd. 3. Deallaf y bydd 1:100 y flwyddyn, fwy neu lai, 0 log o'r Gronfa. Er mwyn rhedeg y gyfundrefn ysgoloriaeth, dodir 25 y cant bob blwyddyn o'r neilldu at y treuliau. Fellv daw'r swm blynyddol i lawr i lai na £ 75. Y mae hyn yn gywilydd o beth. Yn awr, pa beth arall a ellid ei gael? Ni hofFwn weld suddo'r holl arian mewn pres neu farmor a chymaint o alw, fel sydd heddiw, am fara beunyddiol a bara enaid. Cyflwr y fynwent. Ac eto, pan oeddwn i yn Llanuwchllyn yn ddiweddar, mi synnais cyn lleied a wyddai plant y Ue am Syr O. M. Y mae'r fyn- went y gorffwys ynddi mewn cyflwr gresyn- us. a'r unig ddarlun ohono y deuthum ar ei draws yn adeiladau cyhoeddus y pentref oedd un yn yr Ysgol Ddyddiol. I bob pwr- pas, y mae eu gwron eu hunain yn angof ym mhentref Llanuwchllyn. Hoffwn weld tabled ar fur-neu unrhyw beth-yn Llanuwchllyn i atgofio'r oesoedd sy'n codi o aberth Syr O. M. Edwards tros ei Gymru. Nid rhywbeth o werth econom- aidd i'r ychydig a fuasai hyn ond ysbryd- iaeth i bawb a'i gwelai am genedlaethau i ddod; a rhywbeth a goffâi Syr O. M. Edwards. I'r Urdd. Yna rhoddwn weddill y llog, neu'r cyfalaf, fel yr awgryma Mr. H. D. Jones, i ofal Cwmni Urdd Gobaith Cymru, Corfforedig. Fel rhesymau tros y cwrs hwn rhoddwn,- i. Buasai'r arian yn nwylo Cwmni Cyhoeddus Corfforedig, ac felly yn ber- ffaith ddiogel. ii. Ni buasai dim costau gweinyddu'r Gronfa o gwbl. Gwerid pob dimai o'r llog yn ddi-gost. iii. Gan fod Urdd Gobaith Cymru yn fudiad gwlad gyfan, a deugain mil yn perthyn iddo, teg dywedyd y buasai holl ieuenctid Cyrruru yn deilliaw budd o'r Gronfa. iv. Dwg yr Urdd ymlaen ddelfrydau Syr Owen M. Edwards. Y budd. Pwysleisiwn, felly, pe dilynid yr awgrym o roi rhan o'r pres tuagat gerflun a'r rhan arall i'r Urdd,- i. Y coffheid -Sfr'O. M. Edwards i oes- oedd i ddod. ii. Yr aethai'r pres i gyrraedd dymuniad- au uchaf y cyfranwyr yn y modd rhataf a sicraf, ac iii. Y buasai budd y Gronfa yn disgyn i ddwylo holl ieuenctid Cymru yn unol â'r delfrydau y bu Syr O. M. Edwards fyw ei fywyd er eu mwyn. CYFRANNWR TUAG AT Y GRONFA. Beirniadu Gwynfor. At Olygydd y FORD Gbon. DIDDOROL oedd darllen amddiffyniad Gwynfor ohono'i hun, a hynny am y tro cyntaf yn ei hanes a chan ddweud yn ben- dant na wnaiff hynny eto. Y mae ef yn feirniad profiadol ar actio, ac yn actiwr da ei hun, ond rhaid Iddo gofio na syfl ei farn ef o gwbl er i amryw feddwl i'r cyfryw fod yn annheg. Felly ni raid iddo ffromi pan ddaw beirniad arno yntau fel actor. Tybed a ydyw yn meddwl wrth y llinell- ac ni fwriadaf wneuthur hynny eto "-na wiw i neb fentro ei feirniadu eilwaith, ynteu, pe digwydd hynny, na fydd iddo ei ystyried o gwbl? Os nad ydwyf yn camgymryd yn fawr. credaf mai ar eu perfformiad o Feddau'r Proffwydi," yn Eisteddfod Bangor yn 1915, y daeth Cwmni'r Ddraig Goch i frl. ac er bod y cwmni wedi newid cryn dipyn er hynny; y mae dau neu dri o'r hen gwmni yn aros i dystio, mi obeithiaf, na fu iddynt gystal hwyl ar bron ddim ag ar y perfformiad gwych hwnnw. Yr amser hynny, os yw fy nghof yn gywir, dywedodd Gwynfor na chafodd ddim gwaith ar neb o'r cwmni-am fod pob un yn medru ei waith ei hun heb ddim cynorthwy ganddo ef. Efallai mai dyna'r rheswm am y fath berfformiad; er inni gredu, pe bai angen am hynny, y byddai medr Gwynfor yn ddigon i ateb i hynny. Ond dywed Gwynfor yn llinellau olaf ei amddiffyniad fod y disgyblion yn rhagori ar eu hathro a bod ei lafur yn ffrwytho. A ydyw hynyna yn deg? Ynteu a ydyw'r cwmni wedi cyfnewid cymaint nes bod yn rhaid cael athro i'w hyfforddi sut i bortreadu cymeriad? Os felly, nid actors mohonynt ac nid dichon iddynt ddod i'r byw â drama fel Hywel Harris na'r un ddrama arall. CHWARAE TEG. Dim ffydd mewn Ffwr. At Olygydd y FORD GRON. DYWED Mr. Hywel D. Roberts yn Y FoRD GRoN fod ffermwyr ffwr yng Nghymru, eto metha ddodi ei fys onid ar un yn Llanrwst. Dywed fod pobl y sales yn Llundain mor barod i werthu un ffwr ag ydynt i werthu mil, ond teimlaf nad yw Mr. Roberts yn barod i fynegi ond am un, a honno yn Llanrwst, canys buasai yr un cyn hawsed iddo enwi rhagor os gwyddai amdanynt. Ni chawsom gan Mr. Roberts ond un ochr i'r testun-yr ochr ogoneddus. Cofier bod ffwr y llwynog yn mynd i wneud cotiau i foneddigesau ariannog, fynychaf. Beth pe bai'r ffasiwn fîwr yn darfod, a ninnau a stoc gwerth tua dwyfil ar ein dwylo, am ein bod yn gweld y fath ragolygon euraid? O'm rhan fy hun nid oes gennyf ffydd mewn bridio ffwr i'r ffasiwn yma, oblegid nid pawb fedr dalu £ 100 am gôt, a chyda cwymp llog y War Loan, a gwasgfa diwydiant, ni phery golud dyn yn dragywydd. MABEDRYD. Llanllwni, Sir Gaerfyrddin. Ysgol Haf. At Olygydd y FORD GRON. ]\J^ID oes prinder Ysgolion Haf yng Nghymru. Daw'r Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol i oed eleni, pan gynhelir hi yn Llandrindod, Awst 7-12. Ymysg enwau'r siaradwyr fe geir y Prifathro J. F. Rees, y Parch. George Davies, y Parch. Malcolm Spencer, Syr Percy Watkins, Mr. Peter Scott, Mr. V. A. Demat, Miss Kitty Lewis, Syr George Paish, Dr. Brinley Thomas, y Parch. Gwilym Davies, a Mr. D. W. Roberts. Anerchir yr unig ddau gyfarfod Cymraeg gan Mr. Will John, A.S., ar Y Sefyllfa Bresennol-Cyfrífoldeb yr Eglwysi," a'r Parch. Herbert Morgan ar Gyflwr Cym- deithasol Cymru, 1911 — 1932." AELOD