Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Parch. J. T. JONES, Southport, yn gofidio am Ein henwadaeth ffôl ac yn dangos paham y dylai'r Methodistiaid a'r Wesleaid a'r Annibynwyr yng Nghymru uno'n un eglwys Tueddu at ddyfod yn nes at ei gilydd y mae arweinwyr effro'r eglwysi Pro- testannaidd. Bu sefydlu Cyngor Eglwysi Rhyddion, yn Lloegr a Chymru, yn help i hyn. Y mae'r Presbyteriaid, y Methodistiaid Wesleaidd, a'r Annibynwyr wedi uno'n un eglwys yng Nghanada; a dwy adran yr Eglwys Bresbyteraidd yn Sgotland wedi gwneuthur yr un modd. Eleni fe ymuna'r Wesleaid; y Methodistiaid Cyntefig a'r Methodistiaid Unedig yn Lloegr yn un eglwys. Fe sonnir hefyd am fwy o gyd-ddeall a chyd-weithio rhwng yr Eglwys Gynull- eidfaol a'r Presbyteriaid yn Lloegr, a rhwng yr Eglwys Esgobol yn Lloegr a'r Eglwys Bresbyteraidd yn Sgotland, Ac y mae symud cryf o blaid undeb ar y meysydd cenhadol. PA le y saif Cymru ar y mater hwn ? A oes rhyw wlad mewn mwy o angen undeb crefyddol helaethach na hi? Diolch am y cydweithio rhwng y pedwar enwad ar feysydd llafur yr Ysgol Sul am un Llyfr Emynau a Thonau i'r Methodist- iaid Wesleaidd a'r Methodistiaid Calfin- aidd; ac am y pwyllgor cyd-enwad rhwng yr Annibynwyr, y Wesleaid a'r Methodistiaid i ddeall ei gilydd ynglyn â chychwyn achosion newyddion mewn mannau lIe nid oes angen mwy nag un. Ond nid da lIe gellir gwell." Onid yw'r amser wedi dyfod i ystyried yn onest ac yn eofn bosibilrwydd undeb ffurfiol rhwng y Methodistiaid, y Wesleaid a'r Annibynwyr ? Dinistr o'n blaenau." Gwyddom na ellir peri hyn yn sydyn, ond tybed nad yw'n bryd penodi pwyllgor tri- enwad i ystyried y mater yn Ysbryd Crist a daioni crefyddol uchaf ein cenedl? Fe ysgrifennodd "Celt" yn Y Daily Post (Lerpwl) beth amser yn ôl: No fairly impartial observer of Wales to-day can fail to see the devastating effect of denomina- tionalism upon many aspects of the national life. Something will have to be done about it, or disaster will come. Ofnaf fod y geiriau hyn yn rhy wir, ac am hynny nodaf y rhesymau hyn dros undeb llawn rhwng y Methodistiaid, y Wesleaid a'r Annibynwyr yng Nghymru. Pwy a arwain? 1. Ni ellir heddiw ddadlau bod gwir wahaniaeth rhwng y tri enwad ar fater athrawiaeth, nac ychwaith yn eu ffurf lywodraeth eglwysig. Bu'r gwahaniaeth athrawiaeth yn eglur a phwysig rhwng jy Methodistiaid a'r Y Parch. J. T. Jones. Wesleaid, ond ni ellir honni hynny heddiw. Gellid yn hawdd hefyd oresgyn mân wahan- iaethau yn ffurf-lywodraeth y tri enwad, ac am ddull eu gwasanaeth cyhoeddus y mae bron yr un ffunud. Os gallodd y Presbyt- eriaid, y Wesleaid a'r Annibynwyr ym- doddi yn un eglwys yng Nghanada, paham na allant yng Nghymru, ond cael yr ewyllys a'r dyhead am hynny Mynych y gofynnir pa wlad a rydd arwein- iad eofn a gwir i geisio dwyn y byd o'i ddryswch a'i gyfyngder. Gofynnwn ninnau -pa un o'r tri enwad a sicrha'r clod o ar- wain yn amlwg tuag undeb crefyddol helaethach yng Nghymru? Y gwastraff. 2. Y mae ein henwadaeth yn wastraffus o ran arian, adeiladau a dynion. Yn sicr ni ellir hawlio bod crefydd Crist yn gofyn am bedwar capel ac eglwys mewn llawer pentref bychan, Ue y buasai un neu ddau heb fod yn helaeth, yn llawn digon i gynnwys yr addolwyr oll. Y mae llywodraeth ein gwlad a'r byd yn galw am gynildeb yn yr argyfwng yr ydym ynddo, ac fe ymuna cwmnïau masnach ymhob cylch â'i gilydd i geisio arbed costau di-alw-amdanynt. Ond pa beth a wneir ym myd crefydd ond cyhoeddi a chwyno bod casgliadau'r eglwysi ac i'r cronfeydd yn syrthio islaw'r galwadau arnynt. Onid oes galwad uchel am i'r enwadau agosáu at ei gilydd i drefnu eu ty, er mwyn cyfarfod yn well anghenion heddiw yn ein gwlad ? Y mae eglwysi bychain yn edwino 0 angen cymorth ac ymgeledd helaethach yn y wlad a thros Glawdd Offa, ac nid oes fawr obaith i gadw amryw rhag tranc crefyddol os na ellir uno ymdrechion yr enwadau o'u plaid. Culni a chyd-ymgais. 3. Pwy a wâd na feithrina ein henwad- aeth gulni, drwgdybiaeth ac atgasedd yn ein plith fel cenedl ? Yn lle cyd-weithio iach a rhwydd yn ein hardaloedd gwledig a'n trefi er mwyn ceisio sicrhau manteision a sefydliadau i hyr- wyddo bywyd llawnaf ac uchaf ein pobl ieu- ainc yn arbennig, fe geir culni, eiddigedd a chyd-ymgais sectol, nes parlysu pob awydd ymdrechu'n gytûn. Methir edrych ar ddim ond o safle enwad, a phair hynny golled amlwg i fywyd gorau ein cenedl. Ffafrau. 4. Ni ellir gwadu ychwaith na roir ffafrau a swyddi i ddynion ar bwys enwadaeth yn fwy nag oherwydd cymhwyster a theilyng- dod. Ni chredwn fod un enwad yn fwy yn y camwedd hwn nag eraill; ond y mae'n amlwg y dylid ceisio gochel hyn, oblegid ei fod yn creu drwg-deimlad ac anhawster crefyddol a diffyg undeb ym mywyd ein cenedl. Ni welwn obaith buan am sicrhau'r dynion na'r merched cymhwysaf i bob swydd nes y datodir llawer ar ganolfur en- wadaeth yn ein gwlad. Andwyo grym Cristnogaeth. 5. Ni raid ymhelaethu i geisio profi y tuedda'n henwadaeth i andwyo apêl yr efengyl atom fel cenedl a byd. Y mae perygl amlwg i ni bwysleisio ffydd- londeb i enwad yn fwy nag i Grist. Ym- drechu gwneuthur pobl yn Fethodistiaid, Wesleaid, Annibynwyr, etc., yn fwy nag yn Gristnogion da. Fe weddïodd y Meistr am i'w ganlynwyr ddyfod yn un fel y credo y byd mai Tydi a'm hanfonodd i." Cynnydd y Catholigion. 6. Y mae angen mwy o undeb hefyd er mwyn gallu cyfarfod a gwrthsefyll yn well ddylanwad yr Eglwys Babaidd yn ein gwlad. (1 dudalen 237.