Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STRAEON AM YSBRYDION Dychryn Bechgyn y Coleg DYCHWELWN o'r Amwythig gyda rhai o chwaraewyr Coleg Aberystwyth. Ni chychwynasom oddi yno hyd ddeg o'r gloch-y nos, ac yr oedd rhwng hanner nos ac un arnorn yn croesi mynydd Pum- lumon. Aeth rhywbeth o'i Ie ym mheiriant y bws a bu raid aros rhyw ddeng munud ar y ffordd. Yr oedd "mynd" ar ganu caneuon y Coleg yn oriau'r bore, ond daeth Sosban Fach' i ben cyn ei diwedd pan waeddodd rhywun, — Dacw ysbryd, bois! Yng ngolau'r bws, rhyw ugain llath ym- laen. yr oedd ffigwr tal, gwyn, yn symud yn araf ar draws y ffordd at y wal. Edrychai pymtheg o wynebau ar ei gilydd yn syn. Taflodd y dreifar garreg ato, a'r eiliad nesaf yr oedd wedi symud i'r ochr arall i'r ffordd- Bu am funud neu ddau wedyn yn cerdded o un ochr i'r ffordd i'r'llall, a phawb wedi ei syfrdanu. Ni fentrai neb ato, a phan oleuwyd flash- lamp arno, diflannodd i'r tywyllwch. Pan gychwynnodd y bws, gwelsom yr un ffigwr tal gwyn yn symud yn gyflymach i'r un cyfeiriad â ni ar hyd y ffordd. A phan dybiem ein bod yn myned i'w basio cerddodd un ai trwy giat haearn ar ochr y ffordd, neu drosti, a diflannu yn nhywyll- wch mynydd Pumlumon. Wel, dyna lwfr yw bechgyn Coleg," fe glywaf rhywun yn dweud. Efallai yn wir. Ond ni welais erioed y fath effaith ar nifer gyda'i gilydd ag a gafodd yr ysbryd hwn; ni chanwyd yr un gân ychwaith oddi yno ymlaen; ac ym- ddanghosai pawb fel pe bai ofn ei gysgod wrth gerdded.am ei lety tua dau o'r gloch y bore hwnnw. Arferwn innau wfftio at rai a feiddiai sôn am ysbryd unwaith ­ond nid mwyach. (-H. D. R.). Y Dwylo. "RAI blynyddoedd yn ôl yr oeddwn yn aros mewn plas yn y wlad gerllaw Caernar- fon, ac yr oedd pedwar cyfaill i fab y tŷ yn digwydd bod yn aros yno hefyd. Un noswaith, wrth sôn am ysbrydion dy- wedodd un gŵr nad oedd yn credu ynddynt, ac i brofi hynny dywedodd y byddai yn treulio nos yn yr ystafell oedd ag ysbryd ynddi. Yr oedd llofft yn y ty a oedd yn hynod am y ffaith fod dyn wedi ei ladd ynddi a bod ei ysbryd yn ymddangos weithiau. Ar ôl swper aethom i'n gwelyau a benthyciodd John Griffith (canys dyna oedd ei enw) law- ddryll oddi ar y mab; yr oedd gan hwnnw un oedd wedi ei gael, neu yn hytrach gym- ryd oddi ar swyddog o Almaenwr a gymer- wyd yn garcharor yn ystod y Rhyfel. Oddeutu dau o'r gloch yn y bore cynhyr- fwyd pawb gan swn ergyd a gwnaethom ar frys am yr ystafell. Dywedodd John Griffith ei fod wedi deffro a chanfod dwy law agored yn ei wynebu ar waelod y gwely. Symudwch y dwylaw yna," meddai, ond ni symudwyd hwynt. Os na symudwch y dwylaw yna cyn y byddaf wedi cyfrif tri taniaf arnynt," meddai, un, dau, tri, — bang. Y mae pymtheag mlynedd er hyn, a mae John Griffith yn cerdded yn gloff hyd y dydd heddiw. Afraid esbonio mai wedi gwthio ei draed trwy y dillad gwely ydoedd, a'i droed chwith dderbyniodd yr ergyd. (-John Richards, Caerdydd.) Troedigaeth Dic. DAETH Dic, fy nghyfaill, o'r dref gyda mi i dreulio gwyliau'r Nadolig, mewn ffermdy unig yng Nghymru. Aeth allan ei hun un noson, i weled y ty- wyllwch. Oedodd yn hir cyn troi yn ôl at ffordd y drol, a arweiniai i'r buarth. Yn sydyn, clywodd siffrwd yng nghrin- ddail y coed oedd yn agos; a gwaedd dreidd- iol, yna Wylo¾-cyffelyb i wylo baban mewn poen. Safodd Dic mewn dychryn. Ysbryd," meddai wrtho ei hun. Cyn hyn diysty*edd bob hanes ysbryd, a gwawdiodd ofergoeledd. Y funud hon llanwyd ei atgof a darluniau ysbrydion y storïau. Daeth gwaedd arteithiol arall i aredig tangnefedd y nos. Yna wylo ingol dra- chefn. A distawrwydd sydyn. Glynodd traed Dic yn yr unfan. Rhydodd ei anadl yn ei wddf. Ac yn sŵn gwaedd arall, am- gaewyd ef gan niwl dall. Cefaist ddihangfa gyfyng rhag rhewi i farwolaeth," oedd geiriau mwyn gwraig y ffermdy uwch ei ben, pan ddechreuodd ef ymbwyllo ar ôl cael ei gludo o drofa'r coed. Ni wiw i neb yn awr ddweud wrth Die nad oes ysbryd. Druan ohono! Ac ofer i minnau sôn bod ysgyfarnog mewn dalfa yn medru crio. -(E. R.) Swn yn y Fynwent. ADRODDODD y diweddar Vicar Rhos- ygwaliau, ger y Bala, y tro doniol hwn. Aeth yn ddadl rhwng tri ohonynt un noson, wrth ddychwelyd o'r Bala, am fan neilltuol bedd un o'r hen ardalwyr. Pender- fynwyd myned i'r fynwent i setlo'r cwestiwn. Yr oedd wedi dechrau nosi, ac nid oedd dim i'w glywed ond su yr afon gerllaw. Yn y tawelwch deuwyd o hyd i'r bedd, ac er mwyn bod yn siwr ohono plygodd y tri gyda'i gilydd, a dyma'r swn rhyfeddaf i'w glywed-rhyw sh-sh-sh. Cododd y tri eu golygon i fyny heb yngan gair. Drachefn plygasant, a thrachefn dyma'r swn fel pe bai'n dod o'r bedd: s-Bh. 'Doedd dim i'w wneud ond myned mor wyliadwrus ag y gallasent allan. Methu yn lân â dirnad dirgelwch y swn. Wedi cael eu hanadl atynt, safasant i ddad- rys y dirgelwch, a dyma oedd: Anghofiodd un o'r cyfeillion fod ganddo syphon soda- water yn ei boced, a phob tro yr oedd yn plygu cadwai hithau swn. (-Jack Bala). FY OLWEN I (Gydag ymddiheuriad i Grwys). 'RWY'N fodlon cydnabod bod Olwen Yr eneth brydferthaf-ond un, Ni synnaf un mymryn bod beirdd pob oes Yn hanner addoli ei llun; Ond rhaid i mi addef, er hynny, Fod un sy'n anwylach i mi; Mae'n smocio 'rôl cinio'n y parlwr yn awr, Hon yw fy Olwen i. Oni all ei dychymyg hi esgyn Uwchlaw crêpe-de-chine a georgette, Ac os bydd hi'n dwyn fy matshis yn slei, A mynd â'm bocs sigarét; Ac os bydd y tonnau gwneud yn ei gwallt Yn eostio'n bur ddrud i mi, Ni waeth gennyf ddim byd am hynny, Hon yw fy Olwen i. Oni all hi na gwnio na golchi, Na rhoi clwtyn ar grys pan fo raid, Ac oni all hi drafod y babi, Pan fo hwnnw'n crio'n ddi-baid; Ac os bydd rhaid rhoi ei chacennau Yn aml i'r gath ac i'r ei, Ni waeth gennyf ddim byd am hynny, Hon yw fy Olwen i. Hi garia ei bag bach cosmetig, Yn bwff a libstig a phaent, A sawr gwrid gosod ei gruddiau Yn agor ffroenau'r hen saint; Ac os digwydd, ar ôl im gael cusan, Fod fy ngwefus 'run lliw â'i hun hi, Ni waeth gennyf ddim byd am hynny, Hon yw fy Olwen i. Hi gerdd ar draethell y Sianel Mewn peijamas sidanaidd eu lliw, Hi heicia mewn trowsus bach fflannel, A hedeg tua Ffrainc a Pheriw; Mae'n enwog drwy'r byd am ei champau, Yn nofio drwy donnau'r lli­ Un ddewr ei chalon, a chaled ei chroen, Hon yw fy Olwen i. CULHWCH II. MYNNWCH RESTR TESTUNAU EISTEDDFOD MEIRION A GYNHELIR YN NOLGELLAU DYDD SADWRN, ION. 7. 1933 Pryddest, heb fod dros 200 llinell "Cilfach a glan iddi." Gwobr £ 2 2s. a CHADAIR MEIRION. B eirniad-WIL IFAN. Rhestr gyflawn o'r Testunau, 2ic. drwy'r post, oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyffredinol,- W. WILLIAMS, BRYNGWYN, Trawsfynydd, MEIRION.