Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Shakespeare yn dod Adre Fe welodd Mr. J. C. Griffith Jones y byd yn anrhydeddu Shakesptare yn ei hen gartref y mis o'r blaen. Gwelodd ryfeddodau'r theatr a godwyd er cof amdano. éMeddyliodd am Gymru. FE ddaeth William Shakespeare yn ôl i dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn nistawrwydd Stratford, wedi'r holl grwydro. Mae rhywbeth yn brydferth yn y ffaith syml fod hiraeth am fynd adre ar fardd y byd. Plymiodd ddyfnderoedd profiad, myn- nodd yr holl ddaear yn blwy iddo'i hun, dysgodd gyfrinach drama dynoliaeth. Mae'n bryd mynd adre," meddai. Cofiais y dyn wrth weled rhwysg seremoni agor y theatr newydd er cof am y bardd yn Stratford, ar lannau Avon, yn ddiweddar. Yr oedd Tywysog Cymru yno, a llys-gen- hadon a chynrychiolwyr bron bob cenedl dan haul. Ni ofynnai neb pwy oedd Shakespeare. Teimlai pawb gyfaredd y peth hwnnw ni ellir ei ddisgrifio gallu athrylith a diwylliant i ddwyn dynion o bob cenedl yn nes at ei gilydd. Y wyrth. Bu rhaid cael tân i ddangos gwir ddylan- wad Shakespeare ar feddwl y cenhedloedd. Y Theatr Goffa. Gan J. C. GRIFFITH JONES Pan oedd yr hen theatr yn goelcerth yn 1926, a llafur cariad y blynyddoedd yn lludw, fe aned ysbryd newydd yn Stratford, ysbryd a dreiddiodd i gyrrau'r ddaear. Casglwyd chwarter miliwn o bunnau i adeiladu'r allor newydd i'r prif-fardd. Daeth £ 180,000 o'r Taleithiau Unedig. Pan ddod- wyd pob priddfaen yn ei le, a chodi'r cyrten ar y llwyfan mwyaf deniadol yn y byd, yr oedd mwy na chan mil o bunnau yn aros i hyrwyddo'r ddrama. Ac yr oedd gan bob cenedl law yn y wyrth. Fel y canodd Mr. John Masefield,- Yn awr T newydd gododd. Rhoddwyd ef Nid gan un gwr na gwlad, ond saif y Tŷ Yn rhodd i ni gan eiddgar ddwylo lu, Amerig a Phrydeinig; na, 'r byd crwn A roes ei help i greu'r adeilad hwn. A boed i'r Tý hwn fawr-fri; bydded ef Yn dref chwaraewyr gwymp, yn llwyfan gwaith I arwain ieuainc feirdd ar ffrwythlon daith. Dechrau yr ŷm ni thraethwyd eto'n stori Ffrindiau, boed heddiw'n ddechrau euroes inni. Y mae'n amheus a hoffir yr adeilad gan bob dyn. O'r tu allan, nid ydyw'n edrych yn ddigon rhamantus, ebe rhai. O'i gym- haru â theatrau ac adeiladau cynefin ein hoes ni, sy'n dibynnu cymaint ar allanolion, yn sicr nid yw ei ddull yn boblogaidd. Mynegiad plaen ydyw mewn priddfaen (brics) a choed a metel. Y mae'n apelio at y deall yn hytrach na'r teimlad, fel pe bai'n herio dynion i feddwl. Y mae'n ymarferol bob cynnig. Fe'i cyn- llunlwyd ef i'r pwrpas a fwriadwyd iddo. Rhy ychydig o'n hadeiladau diweddar sy'n gwneud hynny heb rhyw wendid difrifol, bônt balasau neu fythynnod. Tu fewn i'r theatr fe roddir taw ar hyd yn oed y beirniaid. Os na allant anghofio'r ffrynt, fe ildiant yma o leiaf. yng ngwlad hud a lledrith, i gyfaredd yr awr a'r canrif- oedd, er mai symlrwydd effeithiol ydyw cyweirnod y tu mewn hefyd. Rhyfeddod o Iwyfan. Nid oes na gwastraff na gwagedd yn un- man. Y mae'r seddau'n esmwyth ac yn eang. Fe all mil o bobl weld a chlywed popeth ar y llwyfan o unrhyw ran o'r ad- eilad. Y mae'r addurniadau ar y muriau yn syml ac eto'n llon. [Trosodd.