Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saith Mlynedd yn Ynys Enlli Hen ynys y saint ydyw Enlli, yng- hanol môr peryglus, dwfn, wrth ben pellaf pentir Lleyn. Ychydig ydyw ei thrigolion, ac unig ydyw ei bywyd. Bu Olwen Eryri yn cadw ysgol yno am saith mlynedd, ac yma y mae'n dweud hanes bywyd yr ynys, y caledi a'r diddanwch, aeaf a haf. r Rhagfyr, 1917, yr euthum i Enlli 1 am y tro cynta' eríoed, níd fel ym- welydd, ond i fod yn un o'r ynyswyr. Yr oedd hyn yn adeg y "cychod rhwyfo," pan gymerid o awr a hanner i ddwyawr i wneud y daith. Profiad dieithr iawn i mi y pryd hwnnw oedd bod ar y môr mewn cwch agored ynghanol gaeaf, a da oedd gennyf gael tir o dan fy nhraed wedi'r daith. Pur gymysg- lyd oedd fy nheimladau ar ôl glanio ar yr ynys yng ngwyll Rhagfyr. Ond wedi edrych o'm cwmpas, a chym- ryd stoc o'r lIe a'r bobl, deuthum i'r pender- fyniad y gallwn fod yn hapus a chartrefol yno, ond imi ymdaflu orau y gallwn i fywyd yr ynys a dysgu bod yn fodlon. Pobl fwyn, ddiddan. Pobl syml, ddi-rodres a charedig oedd yr ynyswyr, a llawer o wreiddioldeb yn per- thyn iddynt. Drwy ffermio a physgota y gwnaent eu bywoliaeth. Tueddent at fod yn gul a cheidwadol o ran eu syniadau, a'u hymlyn- iad yn gryf wrth draddodiadau ac arferion eu hynafiaid. Yr oeddynt yn ymgomwyr diddan dros ben, a chanddynt ystôr o ystraeon ac at- gofion. Dysgasent hwy'r wers oedd heb ei dysgu eto gennyf i, sef ymfodloni ac edrych ar yr ochr olau i fywyd. Yr ynys yn y pellter. Nid peth bychan yn y dyddiau hynny oedd cychwyn o Enlli, weithiau ar doriad dydd, rhwyfo'n galed am awr neu ddwy nes cyr- raedd Aberdaron, a rhwyfo'n ôl drachefn gyda llwythi trymion. Er hynny, ni chlywais mohonynt yn grwgnach nac yn cwyno. Yn y gaeaf. Ym misoedd y gaeaf yr oedd hi waethaf arnom yno. Wedi ystormydd o wynt a drycinoedd, byddai'r môr yn gythryblus am wythnosau ac ni ellid croesi i'r "tir mawr." Dyma'r pryd yr aem yn brin o ymborth. Bu raid inni fwy nag unwaith fyw heb fara, te, na siwgr, heb sôn am bethau eraill. Dywedir bod merched yn rhy hoff o de. Hwyrach hynny. Gorfu i mi, fodd bynnag, Y Cafn,-y man glanio yn yr ynys. Gan OLWEN ERYRI ddysgu gwneud y tro hebddo am wythnos neu ragor un gaeaf. Ond beth oedd hynny o'i gymharu â chaledi'r meibion? Meddylier amdanynt heb flewyn o faco am wythnos neu bythefnos gyfan, ac yn gorfod troi allan i gasglu dail carn yr ebol, sychu'r rhai hynny, a'u hysmygu yn lle tybaco. Gwir yw'r gair mai angen yw mam pob dyfais." Y bwyd. Byddai cyflawnder o bytatws yn yr ynys bob amser. a phan fyddai pethau eraill yn brin caem fwy na digon o bytatws — weithiau dri phryd ohonynt yr un dydd. Yr oedd yno hefyd ddigonedd o lefrith, wyau, cwningod, heblaw pysgod wedi eu halltu. Rhannem bawb â'n gilydd o'r pethau fyddai gennym, a gwnaem y gorau o'r gwaethaf gan gysuro'n gilydd y deuai eto haul ar fryn. A phan dawelai'r môr ddigon i'r cwch allu croesi i Aberdaron, anghofiem ein caledi yn y gobaith am gwpwrdd llawn, cwpanaid o de, a stoc o dybaco unwaith yn rhagor. Disgwyl am newyddion. Diddorol iawn fyddai disgwyl am ein llythyrau a'n papurau newydd bentwr ohonynt weithiau, a rhai ohonynt yn fis oed. Ond yr oeddynt yn newydd i ni. Ym misoedd yr haf byddai'r amgylchiad- au'n dra gwahanol. Rhedai cychod yn ôl a blaen rhwng Enlli ac Aberdaron unwaith neu ddwy bob wythnos i gludo'r pysgod a ddelid o gylch y glannau, i gyrraedd marchnad. [Trosodd.