Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAITH BRENIN, yn ôl "Glan-y-Gors" GAN PERCY OGWEN JONES DHANNU rhubanau a gwneuthur arglwyddi, a rhyw chwarae plant yn y pistyll o'r fath hynny, "-dyna waith brenin y mae ei gadw ef a'i deulu yn costio cymaint i'r wlad. Fel yna yr edrychai John Jones, Glan y Gors, ar swydd yr hawl- iai offeiriaid ac y credai gwerin fod iddi urddas arbennig. Ysgrifennodd y gelyn anghymodlon hwn i bob gorthrwm ei Scren Tan Gwmwl yn 1795, ond petae'n fyw heddiw go brin y cawsai achos i newid llawer ar ei sylwadau ar frenhinoedd, esgobion ac arglwyddi. Aiff y rhannu rhubannau ymlaen, gwneir arglwyddi newydd, ac ni chollodd y chwarae plant yn y pistyll ond ychydig o'i bwys. Ffoi rhag y milwyr. Da oedd cyhoeddi Sercn Tan Gwmwl yn un o Lyfrau'r Ford Gron, canys yn sicr y mae'n drysor a ddylai fod ym meddiant pob darllenydd Cymraeg (SEREN TAN GwMWL, gan JOHN JONES, GLAN y Gors. Llyfrau'r Ford Gron. Rhif 16. Pris 6c.) Fel y sylwa'r golygydd yn ei ragair, ar ffarm yng Ngherrig y Drudion y treuliodd John Jones, Glan y Gors, 23 mlynedd cyn- taf ei oes, ac am ei fod yn rebel y gorfu arno gyntaf gefnu ar ei fro ei hun a myned i dorri ei lwybr ei hun yn y brifddinas. Fe dynnodd arno'i hun wg person ei blwy, a chan fod y cennad hedd hwnnw ac awdurdodau'r milisia yn deall ei gilydd yn bur dda, bu raid i'r bardd ifanc gymryd y goes rhag syrthio i afael y milwyr. Ofer fu i'r milwyr chwilio'r ffermydd amdano ef a dau arall, gan wthio'u cleddyfau trwy'r cistiau blawd a'r gwelyau pluf, rhag ofn bod y pechaduriaid ynghudd ynddynt. Yn erbyn gorthrwm. Ond nid am gadw'i groen ei hun yn iach yr oedd Jac Glan y Gors yn poeni. Yr oedd yn casáu rhyfel a milwriaeth, ac ystyriai mai brenhinoedd oedd yn gyrru pobl y gwledydd i dywallt gwaed ei gilydd. Dyledus ar bob dyn lefaru ac ysgrifennu yn erbyn gorthrym- der, meddai. Ac nid ysgrifennodd neb yn gryfach yn erbyn brenhinoedd a gorthrym- der llywodraeth nag y gwnaeth Glan v Gors." Onid oedd Samuel wedi mynegi wrth yr hen Israeliaid ddull Brenin? (I Samuel, viii, 10.) Ac yr oedd y dynion ffol-falch, unwaith y caffent le uchel tan y brenin yn myned yn fwy gorthrymwyr na'r brenin ei hun. Nid am orthrymder brenhinoedd mewn gwledydd tramor yn unig yr oedd hanes er- chyll, ond mae hanes pennau coronog Lloegr yn drwstan a gwaedlyd a phuteinllyd agos drwyddo." Yn hytrach na pharchu'r goron ni phetrusai Glan y Gors ei galw'n degan a'i chyplysu â chap ffŵl mewn anterliwd. Pwrpas y naill a'r Uall yw "synnu pobl gyffredin ac i'w hudo i ymadael â'u harian." Ac er bod dros ganrif a chwarter er pan ys- grifennodd John Jones ei lyfr, y mae'r tegan yn dal i synnu a swyno pobl gyffredin o hyd. Mi goeliaf na buasai Glan y Gors yn llawenhau dim oherwydd brwydr y faner ar Dŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon, lle bellach y codir yDdraig Goch i ddathlu pen blwydd y brenin. Dynion gwellt." Ysgrifenwyd Seren Tan Gwmwl cyn estyn yr etholfraint i'r bobl, ac felly y mae rhai o'r pethau a ddywed ynghylch dewis aelodau'r ty mwyaf llygredig a halogedig a adeiladwyd mewn gwlad erioed wedi colli eu grym. Ond er hynny erys y min ar aml i sylw, megis: Methais erioed ddeall i ba beth mae bloeddio a chrugleisio da mew.0 etholiad. Dyna lle byddant yn bloeddio yng nghlustiau ei gilydd, na wyr rao'j hanner hwy ddim am ba beth y maent yn bloeddio, onid ydynt yn bloeddio 0 lawenydd gael rhyw sucan o ddiod heb dalu am dani. Aelodau o'r Senedd heb ddywedyd gair, drwg na da, na gwneuthur dim arall ond codi eu dwylo i foddio pobl eraill, ni byddai waeth i'r bobl sy'n eu dangos nhw ddanfon yr un nifer o wyr gwellt. A allwn ymffrostio llawer yn y cynnydd a wnaed mewn gwleidyddiaeth o hynny hyd heddiw? Onid dynion gwellt a llinyn wrth fraich pob un yw aelodau seneddol o hyn dan drefn y pleidiau? Ffrainc ddoe, Rwsia heddiw. Nid o ran cadw pobl Ffrainc tan or- thrymder brenin, oedd yr unig achos i'r brenhinoedd godi yn eu herbyn, ond rhag ofn i'w deiliaid eu hunain gael golwg ar seren rhyddid oedd yr achos iddynt fod mor filain yn erbyn y Ffrancod." Doder enw Rwsia yn lIe Ffrainc, a dyna eiriau Glan y Gors yn berffaith gymwys am y safle ganrif a chwarter yn ddiweddarach. Clasur gwrthryfel. Ymddengys i Glan y Gors fod ar ffô fwy nag unwaith, ond pe bai ef yn byw yn ein dyddiau ni fe'i cawsai ei hun dan glo am lefaru ac ysgrifennu yn erbyn twyll ac er- chyllter rhyfel ac anghyfiawnder gorthrym- wyr a fu, yn enw gweriniaeth, yn ? cymryd eich meibion yn wyr meirch ac i wneuthur arfau ei ryfel." Nid Glanygors a fedrai orfoleddu am fod miloedd o'n cyd-greadur- iaid gwedi lladd a damio'i gilydd "i foddio rhyw ychydig nifer o bobl ffroenuchel. Ydyw, y mae Seren Tan Gwmwl yn un o drysorau'r iaith Gymraeg, ac yn glasur llenyddiaeth gwrthryfel. Iechyd i galon un yw darllen gwaith un a digon o asgwrn cefn ynddo i'w fynegi ei hun mor groyw ag y gwnaeth Glan y Gors." Saith Mlynedd yn Ynys Enlli (Parhâd o dudalen 225.) Hawdd fyddai ychwanegu llawer am y cyfnod diddorol hwnnw, ond fe'i gadawn ar hynyna. Cefais y fraint o agor ysgol o dan nawdd y Bwrdd Addysg yn y flwyddyn 1919. Hon ydoedd yr ysgol gyntaf a fu yn Ynys Enlli. Wedi treulio pedair blynedd eithaf ded- wydd, ymadewais ag Enlli yn haf, 1921. Ddiwedd haf 1927, daeth galwad arnom i fyned i Enlli drachefn. Yn ystod y blynyddoedd 1923 hyd 25 ymadawodd yr hen drigolion gan sefydlu yng nghyffiniau Aberdaron. Bu'r ynys am beth amser heb ddim ond tri theulu'n byw ami. Ond cyn hir fe ymfudodd amryw deulu- oedd eraill yno, a theimlwyd angen am ysgol i'r plant a bugail i'r eglwys. Ac yn nechrau lonawr, 1928 dyma ni eto ar draeth Aberdaron yn disgwyl cwch Enlli," — cwch modur y tro hwn. Rhyw dri chwarter awr o forio a gawsom, ac nid oedd yn ddrwg gennyf am hynny. Wynebau newyddion a'n croesawai i Enlli'r tro yma, ond yr oedd y croeso lawn mor gynnes â'r tro cynt. Y trigolion yn unig oedd wedi newid. Yr oedd popeth arall ar yr ynys fel o'r blaen-y Cafn (Ue y glaniem), y mynydd, yr ysgoldy, y capel, a beddau'r hen saint-hen ffrindiau bob un. Tebyg iawn ydoedd bywyd ar yr ynys i'r hyn ydoedd o'r blaen. Er bod yn awr gwch modur cryf yn perthyn i Enlli, ni ellir croesi'r swnt (neu Ffrydlif Caswen- nan ") oni bydd y môr yn weddol dawel a'r gwynt yn ffafriol. Ac ar adegau felly y teimlem ein bod allan o'r byd. Diwrnod croesi i'r tir mawr." Diwrnod pwysig fyddai'r diwrnod yr âi cwch Enlli drosodd i Aberdaron. Byddai prysurdeb anarferol ar yr ynys. Rhaid oedd pacio'r ymenyn a'r wyau, gwneud ein llythyrau'n barod, gwneud rhestr o'n angenrheidiau, a hwyrach lwytho moch neu wartheg. Ac nid rhyw lawer o hwyl gweithio a fyddai arnom hyd nes y dychwelai'r cwch. Edrych drwy ffenestr yr ysgol, heb yn wybod megis, y byddai'r plant a'u hathrawes, a gollwng ochenaid o ryddhâd pan gaem gip ar y cwch yn cyrraedd y "Cafn." A phwy a'n beia? Yr oedd clywed oddi wrth gyfeillion a pherthynasau, a chael newyddion y dydd, yn adloniant gwirion- eddol inni, am ei fod yn foddion i dorri rhyw gymaint ar undonedd ac unffurfiaeth ein bywyd unig. Tair blynedd a hanner fu fy nhymor yn Enlli'r tro hwn. Er teimlo'n unig lawer tro, a dioddef peth caledi, nid edifar gennyf fyned yno. Teimlais gyfaredd y tawelwch cyfrin, a dysgais wersi nas dysgaswn yn unlle arall- Byw'n ddiddig mewn hedd-haddef A dal cymundeb a'r don; Byd ail, o wydd bydolion, Heb dyrfâu byd, heb derfyn, Ond y gwyrddfor, gefnfor gwyn.