Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFAN ~\TR oedd Amlwch, 1 yng ngogledd ynys Môn, yn borth- ladd bach bywiog tua chan mlynedd yn ôl. Rhyw ddwy filltir oddi wrtho y mae Mynydd Parys, a'r adeg honno yr oedd gweithfeydd copr y mynydd hwnnw yn brysur, brysur. Pan ddigwyddai i gyn- nyrch M y n y d d Parys fod yn isel, fe godai pris copr trwy gydol y byd. Ddydd ar ôl dydd deuai llwythi o'r metel gwerthfawr i lawr yr hen ffyrdd tolciog o'r mynydd i gei Amlwch. Ddydd ar ôl dydd fe âi llongau i mewn ac allan o'r cei, rhai ohonynt yn mynd i wledydd pell, a maith fyddai'r trwst beunydd ar y lan. Pa rvfedd fod gan bob t, ŵr neu fab yn llongwr? A pha ryfedd mai am y môr ac am y rhai sy'n mynd i'r môr mewn llongau y byddai'r siarad ar bennau'r strydoedd ac wrth y byrddau bwyta yn y tai bach clyd? Rhyw ddiwrnod ynghanol y cyfnod hwn­ cyfnod llawnder yn y fro-pe baech ar un o strydoedd Amlwch fe glywsech yr ym- ddiddan yma: Wel, John, ydach chi'n dwad i'w gweld nhw'n lansio'r llong?" Ydw, syr." Ac fe welech y ddau yn cymysgu â'r dorf oedd yn mynd fel gorymdaith annhrefnus tua'r porthladd bychan. Pa enw a roddir i'r sgwner, John? Jane Grey, syr." Hynod y modd y dewisir enwau i'r sgwners yma. Pwy sy i fod yn gapten arni? Yr hogyn ifanc yna-Bob Lloyd, syr. Mae'n ddyrchafiad iddo fo. Morwr da. 'Dydy o ddim yn ddeg ar hugain oed eto." Onid y fo sy'n canlyn Pegi? Wel, mae yna ryw sibrwd o'r fath. John Hughes, y meinar, oedd yn ateb, a Dafydd Kerrymore, rheolwr y pyllau copr yn gofyn y cwestiynau. Er bod tipyn o wahaniaeth rhwng oed y ddau, a rhwng eu safleoedd, yr oeddynt yn ffrindiau mawr. Gweddwon oedd y ddau- Kerrymore gyda mab pedair oed o'r enw Jack, a'r hen ŵr John Hughes gyda merch, Pegi. Clebran Cei Amlwch fel y mae heddiw. 'Roedd merch y meinar yn eneth dal, o bryd tywyll. Nid oedd yn eithriadol o brydferth, ond yr oedd ganddi swyn rhyfeddol. Carai ei thad â thynerwch di- dor, ac nid oedd dim pall ar ei gofal am dano. Fe darawodd unigrwydd mab bychan Kerrymore ryw dant yn ei chalon gynnes, ac yr oedd hi fel mam iddo. Ond am Bob Lloyd, ei morwr llygatlas- roedd llinynnau ei chalon wedi eu rhwymo yn dynn amdano ef. Un unplyg oedd hi, heb rith o ddichell yn perthyn iddi. Ychydig o ysgol a gafodd. ond yr oedd ganddi fwy na chrap ar y llythrenne' Gwisgai ddillad digon syml, a'r rheini gan amlaf o waith cartref, ac yr oedd ôl gwaith ar ei dwylo. Yr oedd gollwng llong i'r môr am y tro cyntaf yn ddigwyddiad pwysig yn Amlwch. Byddai hen ac ifanc, yn wyr a gwragedd, wedi ymgynnull ar y cei. Yn eu plith fe welid morwynion bochgoch a gweision hamddenol o ffermdai cyfagos. Tueddai'r gwyr i dyrru at ei gilydd, yr ifanc i siarad am ferched gan amlaf, a'r hen i roi'r byd yn ei le. Clywid hefyd ddadlau am ddat- blygiad agerlongau ac am bethau newydd eraill ym myd y môr. 'Roedd y gwragedd hwythau fel haid ddidrefn o wyddau yn trin gwyr (a gwragedd eraill), a gwisgoedd, yn eu tro. Tueddu at fod yn angharedig, os nad yn faleisus yr oedd y rhan fwyaf o ymgom yr haid hon. 'Welwch-chi Pegi yha gyda'r capten? On'd oes golwg falch arni Gan T. G. WALKER Mae'n cerdded fel pe bai hi biau'r llong a'r cei hefyd." 'Rydach chi yn llygad eich lle, Ann Jôs," meddai Mrs. M a r i a Roberts, 'fedra i mo'i diodde' hi. Ac mae'r hen goegen falch yn twyllo Bob Lloyd hefyd. Mi glywais i lawer stori gas am- dani hi a'r rheolwr yna. Un ffals ydyw hi! "Ie wir, ac mae bai mawr ar Mr. Kerrymore hefyd. Deudwch, Mrs. Roberts," e b e chwaer garedig arall, "on'd oedd eich Sali chi wedi llygadu ar ^ob Lloyd? 'Roedden' hw'n llawia' garw ddwy flynedd yn ôl," ateb- odd Mrs. Roberts. "A dyna Pegi Hughes wedi ei ddwyn o oddi arni," meddai Mrs. Jôs, "Druan o Sali, — mi gollodd ei chyfle i fod yn wraig i gapten. Efallai y bydd hi eto. Wyr neb be sy'. .Powns! Dowch — dyna'r rocet. Hwrê, mae'n mynd! Hwrê." Cyfododd banllef ar ôl banllef o'r dyrfa wrth weld y llong osgeiddig yn llithro, yn araf i ddechrau, ac yna'n gynt, gynt o hyd, nes i'r môr ei derbyn. Gyda hynny, clymwyd y llestr â rhaffau a chadwvnau, a thra 'roedd y morwyr wrth y gwaith hwn. ymwthiai'r dorf-a Pegi Hughes a Dafydd Kerrymore yn y rhes flaenaf-yn nes at y sgwner. Gwelodd Bob Pegi yn fuan iawn, a, gwaeddodd arni,- Dowch, Pegi, gafaelwch neidiwch 'rwan A dyna Bob yn rhyw hanner godi'r eneth dros ochr y llong. Aethant ar hyd ac ar draws bwrdd y llong, a Bob yn dangos iddi gyda hwyl y naill beth diddorol ar ôl y llall, ac yn ymffrostio yn y llu o daclau newydd- ion oedd gan y sgwner. Buan yr aeth yr amser heibio, ond nid cyn i Bob gael cyfle i awgrymu'n gynnil i Pegi y cai hi ddyfod am fordaith ar ôl y diwrnod pwysig hwnnw yr oeddynt ill dau yn disgwyl gymaint am dano! AR ôl hyn, fe gafodd y ddau gariad fis go dda o ddedwyddwch di-dor bron. Ym mrig yr hwyr, ar ôí gorffen ei orchwylion ar y sgwner fe âi Bob i gartref Pegi. Fe'u gwelid